1 Yn y drydedd flwyddyn i Cyrus brenin Persia rhoddwyd datguddiad i Daniel, a elwid Beltesassar. Yr oedd yn ddatguddiad gwir, er ei bod yn ymdrech fawr ei ddeall; ond rhoddwyd iddo ddeall trwy'r weledigaeth.
1In the third year of Cyrus king of Persia a thing was revealed to Daniel, whose name was called Belteshazzar; and the thing was true, even a great warfare: and he understood the thing, and had understanding of the vision.
2 Yn y dyddiau hynny, yr oeddwn i, Daniel, mewn galar am dair wythnos.
2In those days I, Daniel, was mourning three whole weeks.
3 Ni fwyteais ddanteithion ac ni chyffyrddais � chig na gwin, ac nid irais fy hun am y tair wythnos gyfan.
3I ate no pleasant bread, neither came flesh nor wine into my mouth, neither did I anoint myself at all, until three whole weeks were fulfilled.
4 Ar y pedwerydd ar hugain o'r mis cyntaf, a minnau'n eistedd ar lan yr afon fawr, afon Tigris,
4In the four and twentieth day of the first month, as I was by the side of the great river, which is Hiddekel,
5 codais fy ngolwg a gwelais ddyn wedi ei wisgo mewn lliain, a gwregys o aur Offir am ei ganol.
5I lifted up my eyes, and looked, and behold, a man clothed in linen, whose thighs were adorned with pure gold of Uphaz:
6 Yr oedd ei gorff fel maen beryl a'i wyneb fel mellt; yr oedd ei lygaid fel ffaglau t�n, ei freichiau a'i draed fel pres gloyw, a'i lais fel su373?n tyrfa.
6his body also was like the beryl, and his face as the appearance of lightning, and his eyes as flaming torches, and his arms and his feet like burnished brass, and the voice of his words like the voice of a multitude.
7 Myfi, Daniel, yn unig a welodd y weledigaeth; ni welodd y rhai oedd gyda mi mohoni, ond daeth arnynt ddychryn mawr a ffoesant i ymguddio.
7I, Daniel, alone saw the vision; for the men who were with me didn’t see the vision; but a great quaking fell on them, and they fled to hide themselves.
8 Gadawyd fi ar fy mhen fy hun i edrych ar y weledigaeth fawr hon; pallodd fy nerth, newidiodd fy ngwedd yn arswydus, ac euthum yn wan.
8So I was left alone, and saw this great vision, and there remained no strength in me; for my comeliness was turned in me into corruption, and I retained no strength.
9 Fe'i clywais yn siarad, ac wrth wrando ar su373?n ei eiriau syrthiais ar fy hyd ar lawr mewn llewyg.
9Yet heard I the voice of his words; and when I heard the voice of his words, then was I fallen into a deep sleep on my face, with my face toward the ground.
10 Yna cyffyrddodd llaw � mi, a'm gosod yn sigledig ar fy ngliniau a'm dwylo,
10Behold, a hand touched me, which set me on my knees and on the palms of my hands.
11 a dywedodd wrthyf, "Daniel, cefaist ffafr; ystyria'r geiriau a lefaraf wrthyt, a saf ar dy draed, oherwydd anfonwyd fi atat." Pan lefarodd wrthyf, codais yn grynedig.
11He said to me, Daniel, you man greatly beloved, understand the words that I speak to you, and stand upright; for am I now sent to you. When he had spoken this word to me, I stood trembling.
12 Yna dywedodd wrthyf, "Paid ag ofni, Daniel, oherwydd o'r dydd cyntaf y penderfynaist geisio deall ac ymostwng o flaen dy Dduw, clywyd dy eiriau; ac oherwydd hynny y deuthum i.
12Then he said to me, Don’t be afraid, Daniel; for from the first day that you set your heart to understand, and to humble yourself before your God, your words were heard: and I have come for your words’ sake.
13 Am un diwrnod ar hugain bu tywysog teyrnas Persia yn sefyll yn f'erbyn; yna daeth Mihangel, un o'r prif dywysogion, i'm helpu, pan adawyd fi yno gyda thywysog brenhinoedd Persia.
13But the prince of the kingdom of Persia withstood me twenty-one days; but, behold, Michael, one of the chief princes, came to help me: and I remained there with the kings of Persia.
14 Deuthum i roi gwybod i ti beth a ddigwydd i'th bobl yn niwedd y dyddiau, oherwydd gweledigaeth am y dyfodol yw hon hefyd."
14Now I have come to make you understand what shall happen to your people in the latter days; for the vision is yet for many days:
15 Wedi iddo ddweud hyn wrthyf, ymgrymais hyd lawr heb ddweud dim.
15and when he had spoken to me according to these words, I set my face toward the ground, and was mute.
16 Yna cyffyrddodd un tebyg i fod dynol �'m gwefusau, ac agorais fy ngenau i siarad, a dywedais wrth yr un oedd yn sefyll o'm blaen, "F'arglwydd, y mae fy ngofid yn fawr oherwydd y weledigaeth, a phallodd fy nerth.
16Behold, one in the likeness of the sons of men touched my lips: then I opened my mouth, and spoke and said to him who stood before me, my lord, by reason of the vision my sorrows are turned on me, and I retain no strength.
17 Sut y gall gwas f'arglwydd ddweud dim wrth f'arglwydd, a minnau yn awr heb nerth nac anadl ynof?"
17For how can the servant of this my lord talk with this my lord? for as for me, immediately there remained no strength in me, neither was there breath left in me.
18 Unwaith eto cyffyrddodd yr un tebyg i fod dynol � mi a'm cryfhau,
18Then there touched me again one like the appearance of a man, and he strengthened me.
19 a dweud, "Paid ag ofni, cefaist ffafr; heddwch i ti. Bydd wrol, bydd gryf." Ac fel yr oedd yn siarad � mi cefais nerth, a dywedais, "Llefara, f'arglwydd, oblegid rhoddaist nerth i mi."
19He said, “Greatly beloved man, don’t be afraid: peace be to you, be strong, yes, be strong.” When he spoke to me, I was strengthened, and said, “Let my lord speak; for you have strengthened me.”
20 Yna dywedodd, "A wyddost pam y deuthum atat? Dywedaf wrthyt beth sy'n ysgrifenedig yn llyfr y gwirionedd. Rwy'n dychwelyd yn awr i ymladd � thywysog Persia, ac wedyn fe ddaw tywysog Groeg.
20Then he said, “Do you know why I have come to you? Now I will return to fight with the prince of Persia. When I go forth, behold, the prince of Greece shall come.
21 Ac nid oes neb yn fy nghynorthwyo yn erbyn y rhai hyn ar wah�n i'ch tywysog Mihangel.
21But I will tell you that which is inscribed in the writing of truth: and there is none who holds with me against these, but Michael your prince.”