1 Yn y nawfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda, yn y degfed mis, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon a'i holl lu yn erbyn Jerwsalem a gwarchae arni;
1It happened when Jerusalem was taken, (in the ninth year of Zedekiah king of Judah, in the tenth month, came Nebuchadnezzar king of Babylon and all his army against Jerusalem, and besieged it;
2 ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Sedeceia, yn y pedwerydd mis, ar y nawfed dydd torrwyd bwlch ym mur y ddinas.
2in the eleventh year of Zedekiah, in the fourth month, the ninth day of the month, a breach was made in the city),
3 Daeth holl swyddogion brenin Babilon i mewn a sefyll yn y Porth Canol, sef Nergal-sareser, Samgar-nebo, Sarsechim, Rabsaris, Nergal-sareser, Rabmag, a holl swyddogion eraill brenin Babilon.
3that all the princes of the king of Babylon came in, and sat in the middle gate, Nergal Sharezer, Samgarnebo, Sarsechim, Rabsaris, Nergal Sharezer, Rabmag, with all the rest of the princes of the king of Babylon.
4 Pan welodd Sedeceia brenin Jwda a'i holl filwyr hwy, ffoesant a gadael y ddinas liw nos, gan ddilyn ffordd gardd y brenin i'r porth rhwng y ddau fur, ac allan i ffordd Araba.
4It happened that, when Zedekiah the king of Judah and all the men of war saw them, then they fled, and went forth out of the city by night, by the way of the king’s garden, through the gate between the two walls; and he went out toward the Arabah.
5 Ond canlynodd llu'r Caldeaid hwy, a goddiweddyd Sedeceia yn rhosydd Jericho a'i ddal, a'i ddwyn at Nebuchadnesar brenin Babilon yn Ribla yng ngwlad Hamath; yno y dyfarnwyd arno.
5But the army of the Chaldeans pursued after them, and overtook Zedekiah in the plains of Jericho: and when they had taken him, they brought him up to Nebuchadnezzar king of Babylon to Riblah in the land of Hamath; and he gave judgment on him.
6 A lladdodd brenin Babilon feibion Sedeceia o flaen ei lygaid yn Ribla; a lladdodd brenin Babilon hefyd holl uchelwyr Jwda.
6Then the king of Babylon killed the sons of Zedekiah in Riblah before his eyes: also the king of Babylon killed all the nobles of Judah.
7 Yna fe dynnodd lygaid Sedeceia, a'i rwymo mewn cadwynau pres i'w ddwyn i Fabilon.
7Moreover he put out Zedekiah’s eyes, and bound him in fetters, to carry him to Babylon.
8 Llosgodd y Caldeaid � th�n blasty'r brenin a thai'r bobl, a dryllio muriau Jerwsalem.
8The Chaldeans burned the king’s house, and the houses of the people, with fire, and broke down the walls of Jerusalem.
9 Yna caethgludodd Nebusaradan, pennaeth y milwyr, weddill y bobl i Fabilon, sef y rhai oedd wedi eu gadael yn y ddinas, a'r rhai oedd wedi troi ato ef;
9Then Nebuzaradan the captain of the guard carried away captive into Babylon the residue of the people who remained in the city, the deserters also who fell away to him, and the residue of the people who remained.
10 a gadawodd yng ngwlad Jwda rai pobl dlawd nad oedd ganddynt ddim, a rhoi iddynt yr adeg honno winllannoedd a meysydd.
10But Nebuzaradan the captain of the guard left of the poor of the people, who had nothing, in the land of Judah, and gave them vineyards and fields at the same time.
11 Rhoddodd Nebuchadnesar brenin Babilon orchymyn ynghylch Jeremeia trwy law Nebusaradan, pennaeth y milwyr, a dweud,
11Now Nebuchadnezzar king of Babylon commanded Nebuzaradan the captain of the guard concerning Jeremiah, saying,
12 "Cymer ef a gofala amdano; paid � gwneud dim niwed iddo, ond gwneud fel y dywed wrthyt."
12Take him, and look well to him, and do him no harm; but do to him even as he shall tell you.
13 Yna anfonodd Nebusaradan, pennaeth y milwyr, a Nebusasban, Rabsaris, Nergal-sareser, Rabmag a holl benaethiaid brenin Babilon,
13So Nebuzaradan the captain of the guard sent, and Nebushazban, Rabsaris, and Nergal Sharezer, Rabmag, and all the chief officers of the king of Babylon;
14 a chymryd Jeremeia o gyntedd y gwylwyr, a'i roi i Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan, i'w gyrchu adref; a thrigodd ymhlith y bobl.
14they sent, and took Jeremiah out of the court of the guard, and committed him to Gedaliah the son of Ahikam, the son of Shaphan, that he should carry him home: so he lived among the people.
15 Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia pan oedd yn garcharor yng nghyntedd y gwylwyr, a dweud,
15Now the word of Yahweh came to Jeremiah, while he was shut up in the court of the guard, saying,
16 "Dos a dywed wrth Ebed-melech yr Ethiopiad, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Yr wyf yn dwyn fy ngeiriau yn erbyn y ddinas hon er drwg ac nid er lles, a chyflawnir hwy yn dy u373?ydd y dydd hwnnw.
16Go, and speak to Ebedmelech the Ethiopian, saying, Thus says Yahweh of Armies, the God of Israel: Behold, I will bring my words on this city for evil, and not for good; and they shall be accomplished before you in that day.
17 Ond gwaredaf di y dydd hwnnw,' medd yr ARGLWYDD, 'ac ni'th roddir yng ngafael y dynion y mae arnat eu hofn.
17But I will deliver you in that day, says Yahweh; and you shall not be given into the hand of the men of whom you are afraid.
18 Oherwydd rwy'n sicr o'th waredu, ac ni syrthi trwy'r cleddyf; byddi'n arbed dy fywyd am dy fod wedi ymddiried ynof fi,' medd yr ARGLWYDD."
18For I will surely save you, and you shall not fall by the sword, but your life shall be for a prey to you; because you have put your trust in me, says Yahweh.