Welsh

World English Bible

Judges

13

1 Unwaith eto gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a rhoddodd yr ARGLWYDD hwy yn llaw'r Philistiaid am ddeugain mlynedd.
1The children of Israel again did that which was evil in the sight of Yahweh; and Yahweh delivered them into the hand of the Philistines forty years.
2 Yr oedd rhyw ddyn o'r enw Manoa o Sora, o lwyth Dan, ac yr oedd ei wraig yn ddi-blant, heb eni yr un plentyn.
2There was a certain man of Zorah, of the family of the Danites, whose name was Manoah; and his wife was barren, and didn’t bear.
3 Ymddangosodd angel yr ARGLWYDD i'r wraig a dweud wrthi, "Dyma ti yn ddi-blant, heb eni plentyn, ond byddi'n beichiogi ac yn geni mab.
3The angel of Yahweh appeared to the woman, and said to her, “See now, you are barren, and don’t bear; but you shall conceive, and bear a son.
4 Felly, gwylia rhag yfed gwin na diod gadarn, a phaid � bwyta dim aflan,
4Now therefore please beware and drink no wine nor strong drink, and don’t eat any unclean thing:
5 gan dy fod yn mynd i feichiogi a geni mab; ac nid yw ellyn i gyffwrdd �'i ben, oherwydd y mae'r bachgen i fod yn Nasaread i Dduw o'r groth. Ef fydd yn dechrau gwaredu Israel o law'r Philistiaid."
5for, behold, you shall conceive, and bear a son; and no razor shall come on his head; for the child shall be a Nazirite to God from the womb: and he shall begin to save Israel out of the hand of the Philistines.”
6 Aeth y wraig at ei gu373?r a dweud, "Daeth gu373?r Duw ataf, a'i wedd fel angel Duw, yn frawychus iawn; ni ofynnais iddo o ble'r oedd, ac ni ddywedodd ei enw wrthyf.
6Then the woman came and told her husband, saying, “A man of God came to me, and his face was like the face of the angel of God, very awesome; and I didn’t ask him where he was from, neither did he tell me his name:
7 Fe ddywedodd wrthyf, 'Byddi'n beichiogi ac yn geni mab; felly paid ag yfed na gwin na diod gadarn, na bwyta dim aflan, oherwydd bydd y bachgen yn Nasaread i Dduw o'r groth hyd ddydd ei farw.'"
7but he said to me, ‘Behold, you shall conceive, and bear a son; and now drink no wine nor strong drink, and eat not any unclean thing; for the child shall be a Nazirite to God from the womb to the day of his death.’”
8 Gwedd�odd Manoa ar yr ARGLWYDD a dweud, "O Arglwydd, os gweli'n dda, gad i'r gu373?r Duw a anfonaist ddod yn �l atom i'n cyfarwyddo beth i'w wneud i'r bachgen a enir."
8Then Manoah entreated Yahweh, and said, “Oh, Lord, please let the man of God whom you did send come again to us, and teach us what we shall do to the child who shall be born.”
9 Gwrandawodd Duw ar gais Manoa, a daeth angel Duw eto at y wraig, pan oedd hi'n eistedd allan yn y maes, a'i gu373?r Manoa heb fod gyda hi.
9God listened to the voice of Manoah; and the angel of God came again to the woman as she sat in the field: but Manoah, her husband, wasn’t with her.
10 Rhedodd hithau ar unwaith a dweud wrth ei gu373?r, "Y mae'r dyn a ddaeth ataf y diwrnod hwnnw wedi ymddangos eto."
10The woman made haste, and ran, and told her husband, and said to him, “Behold, the man has appeared to me, who came to me that day.”
11 Cododd Manoa a dilynodd ei wraig at y dyn a gofyn iddo, "Ai ti yw'r gu373?r a fu'n siarad gyda'm gwraig?" Ac meddai yntau, "Ie."
11Manoah arose, and went after his wife, and came to the man, and said to him, “Are you the man who spoke to the woman?” He said, “I am.”
12 Gofynnodd Manoa iddo, "Pan wireddir dy air, sut fachgen fydd ef, a beth fydd ei waith?"
12Manoah said, “Now let your words happen. What shall the child’s way of life and mission be?”
13 Dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Manoa, "Rhaid i'th wraig ofalu am bopeth a ddywedais wrthi;
13The angel of Yahweh said to Manoah, “Of all that I said to the woman let her beware.
14 nid yw hi i fwyta dim a ddaw o'r winwydden, nac i yfed na gwin na diod gadarn, na bwyta dim aflan.
14She may not eat of anything that comes of the vine, neither let her drink wine or strong drink, nor eat any unclean thing; all that I commanded her let her observe.”
15 Y mae i gadw'r cwbl a orchmynnais iddi." Yna dywedodd Manoa wrth angel yr ARGLWYDD, "Yr ydym am dy gadw yma nes y byddwn wedi paratoi myn gafr ar dy gyfer."
15Manoah said to the angel of Yahweh, “Please, let us detain you, that we may make a young goat ready for you.”
16 Ond atebodd angel yr ARGLWYDD ef, "Pe bait yn fy nghadw yma, ni fyddwn yn bwyta dy fwyd, ond os wyt am offrymu poethoffrwm, offryma ef i'r ARGLWYDD." Ni wyddai Manoa mai angel yr ARGLWYDD ydoedd,
16The angel of Yahweh said to Manoah, “Though you detain me, I won’t eat of your bread; and if you will prepare a burnt offering, you must offer it to Yahweh.” For Manoah didn’t know that he was the angel of Yahweh.
17 a gofynnodd iddo, "Beth yw d'enw, inni gael dy anrhydeddu pan wireddir dy air?"
17Manoah said to the angel of Yahweh, “What is your name, that when your words happen, we may honor you?”
18 Atebodd angel yr ARGLWYDD, "Pam yr wyt ti'n holi fel hyn ynghylch fy enw? Y mae'n rhyfeddol!"
18The angel of Yahweh said to him, “Why do you ask about my name, since it is wonderful?”
19 Yna cymerodd Manoa'r myn gafr a'r bwydoffrwm, a'u hoffrymu i'r ARGLWYDD ar y graig, a digwyddodd rhyfeddod tra oedd Manoa a'i wraig yn edrych.
19So Manoah took the young goat with the meal offering, and offered it on the rock to Yahweh. Then the angel did a wonderful thing as Manoah and his wife looked on.
20 Fel yr oedd y fflam yn codi oddi ar yr allor i'r awyr, esgynnodd angel yr ARGLWYDD yn fflam yr allor. Yr oedd Manoa a'i wraig yn edrych, a syrthiasant ar eu hwynebau ar lawr.
20For it happened, when the flame went up toward the sky from off the altar, that the angel of Yahweh ascended in the flame of the altar: and Manoah and his wife looked on; and they fell on their faces to the ground.
21 Nid ymddangosodd angel yr ARGLWYDD iddynt mwyach, a sylweddolodd Manoa mai angel yr ARGLWYDD oedd.
21But the angel of Yahweh didn’t appear to Manoah or to his wife any more. Then Manoah knew that he was the angel of Yahweh.
22 Yna dywedodd Manoa wrth ei wraig, "Yr ydym yn sicr o farw am inni weld Duw."
22Manoah said to his wife, “We shall surely die, because we have seen God.”
23 Ond meddai hi wrtho, "Pe byddai'r ARGLWYDD wedi dymuno ein lladd, ni fyddai wedi derbyn poethoffrwm a bwydoffrwm o'n llaw, na dangos yr holl bethau hyn i ni, na pheri inni glywed pethau fel hyn yn awr."
23But his wife said to him, “If Yahweh were pleased to kill us, he wouldn’t have received a burnt offering and a meal offering at our hand, neither would he have shown us all these things, nor would at this time have told such things as these.”
24 Wedi i'r wraig eni mab, galwodd ef Samson; tyfodd y bachgen dan fendith yr ARGLWYDD,
24The woman bore a son, and named him Samson: and the child grew, and Yahweh blessed him.
25 a dechreuodd ysbryd yr ARGLWYDD ei gynhyrfu yn Mahane-dan, rhwng Sora ac Estaol.
25The Spirit of Yahweh began to move him in Mahaneh Dan, between Zorah and Eshtaol.