Welsh

World English Bible

Luke

15

1 Yr oedd yr holl gasglwyr trethi a'r pechaduriaid yn nes�u ato i wrando arno.
1Now all the tax collectors and sinners were coming close to him to hear him.
2 Ond yr oedd y Phariseaid a'r ysgrifenyddion yn grwgnach ymhlith ei gilydd, gan ddweud, "Y mae hwn yn croesawu pechaduriaid ac yn cydfwyta gyda hwy."
2The Pharisees and the scribes murmured, saying, “This man welcomes sinners, and eats with them.”
3 A dywedodd ef y ddameg hon wrthynt:
3He told them this parable.
4 "Bwriwch fod gan un ohonoch chwi gant o ddefaid, a digwydd iddo golli un ohonynt; onid yw'n gadael y naw deg a naw yn yr anialdir ac yn mynd ar �l y ddafad golledig nes dod o hyd iddi?
4 “Which of you men, if you had one hundred sheep, and lost one of them, wouldn’t leave the ninety-nine in the wilderness, and go after the one that was lost, until he found it?
5 Wedi dod o hyd iddi y mae'n ei gosod ar ei ysgwyddau yn llawen,
5 When he has found it, he carries it on his shoulders, rejoicing.
6 yn mynd adref, ac yn gwahodd ei gyfeillion a'i gymdogion ynghyd, gan ddweud wrthynt, 'Llawenhewch gyda mi, oherwydd yr wyf wedi cael hyd i'm dafad golledig.'
6 When he comes home, he calls together his friends and his neighbors, saying to them, ‘Rejoice with me, for I have found my sheep which was lost!’
7 Rwy'n dweud wrthych, yr un modd bydd mwy o lawenydd yn y nef am un pechadur sy'n edifarhau nag am naw deg a naw o rai cyfiawn nad oes arnynt angen edifeirwch.
7 I tell you that even so there will be more joy in heaven over one sinner who repents, than over ninety-nine righteous people who need no repentance.
8 "Neu bwriwch fod gan wraig ddeg darn arian, a digwydd iddi golli un darn; onid yw hi'n cynnau cannwyll ac yn ysgubo'r tu375? ac yn chwilio'n ddyfal nes dod o hyd iddo?
8 Or what woman, if she had ten drachma coins, if she lost one drachma coin, wouldn’t light a lamp, sweep the house, and seek diligently until she found it?
9 Ac wedi dod o hyd iddo, y mae'n gwahodd ei chyfeillesau a'i chymdogion ynghyd, gan ddweud, 'Llawenhewch gyda mi, oherwydd yr wyf wedi cael hyd i'r darn arian a gollais.'
9 When she has found it, she calls together her friends and neighbors, saying, ‘Rejoice with me, for I have found the drachma which I had lost.’
10 Yr un modd, rwy'n dweud wrthych, y mae llawenydd ymhlith angylion Duw am un pechadur sy'n edifarhau."
10 Even so, I tell you, there is joy in the presence of the angels of God over one sinner repenting.”
11 Ac meddai, "Yr oedd dyn a chanddo ddau fab.
11He said, “A certain man had two sons.
12 Dywedodd yr ieuengaf ohonynt wrth ei dad, 'Fy nhad, dyro imi'r gyfran o'th ystad sydd i ddod imi.' A rhannodd yntau ei eiddo rhyngddynt.
12 The younger of them said to his father, ‘Father, give me my share of your property.’ He divided his livelihood between them.
13 Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, wedi newid y cwbl am arian, ymfudodd y mab ieuengaf i wlad bell, ac yno gwastraffodd ei eiddo ar fyw'n afradlon.
13 Not many days after, the younger son gathered all of this together and traveled into a far country. There he wasted his property with riotous living.
14 Pan oedd wedi gwario'r cyfan, daeth newyn enbyd ar y wlad honno, a dechreuodd yntau fod mewn eisiau.
14 When he had spent all of it, there arose a severe famine in that country, and he began to be in need.
15 Aeth ac ymlynu wrth un o ddinasyddion y wlad, ac anfonodd hwnnw ef i'w gaeau i ofalu am y moch.
15 He went and joined himself to one of the citizens of that country, and he sent him into his fields to feed pigs.
16 Buasai'n falch o wneud pryd o'r plisg yr oedd y moch yn eu bwyta; ond nid oedd neb yn cynnig dim iddo.
16 He wanted to fill his belly with the husks that the pigs ate, but no one gave him any.
17 Yna daeth ato'i hun a dweud, 'Faint o weision cyflog sydd gan fy nhad, a phob un ohonynt yn cael mwy na digon o fara, a minnau yma yn marw o newyn?
17 But when he came to himself he said, ‘How many hired servants of my father’s have bread enough to spare, and I’m dying with hunger!
18 Fe godaf, ac fe af at fy nhad a dweud wrtho, "Fy nhad, pechais yn erbyn y nef ac yn dy erbyn di.
18 I will get up and go to my father, and will tell him, “Father, I have sinned against heaven, and in your sight.
19 Nid wyf mwyach yn haeddu fy ngalw'n fab iti; cymer fi fel un o'th weision cyflog."'
19 I am no more worthy to be called your son. Make me as one of your hired servants.”’
20 Yna cododd a mynd at ei dad. A phan oedd eto ymhell i ffwrdd, gwelodd ei dad ef. Tosturiodd wrtho, rhedodd ato, a rhoes ei freichiau am ei wddf a'i gusanu.
20 “He arose, and came to his father. But while he was still far off, his father saw him, and was moved with compassion, and ran, and fell on his neck, and kissed him.
21 Ac meddai ei fab wrtho, 'Fy nhad, pechais yn erbyn y nef ac yn dy erbyn di. Nid wyf mwyach yn haeddu fy ngalw'n fab iti.'
21 The son said to him, ‘Father, I have sinned against heaven, and in your sight. I am no longer worthy to be called your son.’
22 Ond meddai ei dad wrth ei weision, 'Brysiwch! Dewch � gwisg allan, yr orau, a'i gosod amdano. Rhowch fodrwy ar ei fys a sandalau am ei draed.
22 “But the father said to his servants, ‘Bring out the best robe, and put it on him. Put a ring on his hand, and shoes on his feet.
23 Dewch �'r llo sydd wedi ei besgi, a lladdwch ef. Gadewch inni wledda a llawenhau,
23 Bring the fattened calf, kill it, and let us eat, and celebrate;
24 oherwydd yr oedd hwn, fy mab, wedi marw, a daeth yn fyw eto; yr oedd ar goll, a chafwyd hyd iddo.' Yna dechreusant wledda yn llawen.
24 for this, my son, was dead, and is alive again. He was lost, and is found.’ They began to celebrate.
25 "Yr oedd ei fab hynaf yn y caeau. Pan nesaodd at y tu375? ar ei ffordd adref, clywodd su373?n cerddoriaeth a dawnsio.
25 “Now his elder son was in the field. As he came near to the house, he heard music and dancing.
26 Galwodd un o'r gweision ato a gofyn beth oedd ystyr hyn.
26 He called one of the servants to him, and asked what was going on.
27 'Dy frawd sydd wedi dychwelyd,' meddai ef wrtho, 'ac am iddo ei gael yn �l yn holliach, y mae dy dad wedi lladd y llo oedd wedi ei besgi.'
27 He said to him, ‘Your brother has come, and your father has killed the fattened calf, because he has received him back safe and healthy.’
28 Digiodd ef, a gwrthod mynd i mewn. Daeth ei dad allan a'i gymell yn daer i'r tu375?,
28 But he was angry, and would not go in. Therefore his father came out, and begged him.
29 ond atebodd ef, 'Yr holl flynyddoedd hyn b�m yn was bach iti, heb anufuddhau erioed i'th orchymyn. Ni roddaist erioed i mi gymaint � myn gafr, imi gael gwledda gyda'm cyfeillion.
29 But he answered his father, ‘Behold, these many years I have served you, and I never disobeyed a commandment of yours, but you never gave me a goat, that I might celebrate with my friends.
30 Ond pan ddychwelodd hwn, dy fab sydd wedi difa dy eiddo gyda phuteiniaid, lleddaist iddo ef y llo oedd wedi ei besgi.'
30 But when this, your son, came, who has devoured your living with prostitutes, you killed the fattened calf for him.’
31 'Fy mhlentyn,' meddai'r tad wrtho, 'yr wyt ti bob amser gyda mi, ac y mae'r cwbl sydd gennyf yn eiddo i ti.
31 “He said to him, ‘Son, you are always with me, and all that is mine is yours.
32 Yr oedd yn rhaid gwledda a llawenhau, oherwydd yr oedd hwn, dy frawd, wedi marw, a daeth yn fyw; yr oedd ar goll, a chafwyd hyd iddo.'"
32 But it was appropriate to celebrate and be glad, for this, your brother, was dead, and is alive again. He was lost, and is found.’”