1 Paul a Timotheus, gweision Crist Iesu, at yr holl saint yng Nghrist Iesu sydd yn Philipi, ynghyd �'r arolygwyr a'r diaconiaid.
1Paul and Timothy, servants of Jesus Christ; To all the saints in Christ Jesus who are at Philippi, with the overseers or, superintendents, or bishops and servants Or, deacons :
2 Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist.
2Grace to you, and peace from God, our Father, and the Lord Jesus Christ.
3 Byddaf yn diolch i'm Duw bob tro y byddaf yn cofio amdanoch,
3I thank my God whenever I remember you,
4 a phob amser ym mhob un o'm gwedd�au dros bob un ohonoch, yr wyf yn gwedd�o gyda llawenydd.
4always in every request of mine on behalf of you all making my requests with joy,
5 Diolch y byddaf am eich partneriaeth yn yr Efengyl o'r dydd cyntaf hyd yn awr;
5for your partnership The word translated “partnership” (koinonia) also means “fellowship” and “sharing.” in furtherance of the Good News from the first day until now;
6 ac yr wyf yn sicr o hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd waith da ynoch ei gwblhau erbyn Dydd Crist Iesu.
6being confident of this very thing, that he who began a good work in you will complete it until the day of Jesus Christ.
7 Felly y mae'n iawn imi deimlo hyn amdanoch i gyd, am fy mod mor hoff ohonoch, ac am eich bod i gyd yn cyfranogi o'r fraint sy'n dod i'm rhan, pan fyddaf yng ngharchar yn ogystal � phan fyddaf yn amddiffyn yr Efengyl neu yn ei chadarnhau.
7It is even right for me to think this way on behalf of all of you, because I have you in my heart, because, both in my bonds and in the defense and confirmation of the Good News, you all are partakers with me of grace.
8 Oblegid y mae Duw'n dyst i mi, gymaint yr wyf yn hiraethu, � dyhead Crist Iesu ei hun, am bawb ohonoch.
8For God is my witness, how I long after all of you in the tender mercies of Christ Jesus.
9 Dyma fy ngweddi, ar i'ch cariad gynyddu fwyfwy eto mewn gwybodaeth a phob dirnadaeth,
9This I pray, that your love may abound yet more and more in knowledge and all discernment;
10 er mwyn ichwi allu cymeradwyo'r hyn sy'n rhagori, a bod yn ddidwyll a didram-gwydd erbyn Dydd Crist,
10so that you may approve the things that are excellent; that you may be sincere and without offense to the day of Christ;
11 yn gyflawn o ffrwyth y cyfiawnder sy'n dod trwy Iesu Grist, er gogoniant a mawl i Dduw.
11being filled with the fruits of righteousness, which are through Jesus Christ, to the glory and praise of God.
12 Yr wyf am i chwi wybod, gyfeillion, fod y pethau a ddigwyddodd i mi wedi troi, yn hytrach, yn foddion i hyrwyddo'r Efengyl,
12Now I desire to have you know, brothers, The word for “brothers” here and where context allows may also be correctly translated “brothers and sisters” or “siblings.” that the things which happened to me have turned out rather to the progress of the Good News;
13 yn gymaint �'i bod wedi dod yn hysbys, trwy'r holl Praetoriwm ac i bawb arall, mai er mwyn Crist yr wyf yng ngharchar,
13so that it became evident to the whole palace or, praetorian guard, and to all the rest, that my bonds are in Christ;
14 a bod y mwyafrif o'r cyd-gredinwyr, oherwydd i mi gael fy ngharcharu, wedi dod yn hyderus yn yr Arglwydd, ac yn fwy hy o lawer i lefaru'r gair yn ddi-ofn.
14and that most of the brothers in the Lord, being confident through my bonds, are more abundantly bold to speak the word of God without fear.
15 Y mae'n wir fod rhai yn pregethu Crist o genfigen a chynnen, ac eraill o ewyllys da.
15Some indeed preach Christ even out of envy and strife, and some also out of good will.
16 O gariad y mae'r rhain yn cyhoeddi Crist, gan wybod mai i amddiffyn yr Efengyl y gosodwyd fi yma,
16The former insincerely preach Christ from selfish ambition, thinking that they add affliction to my chains;
17 ond y mae'r lleill yn gwneud hynny o gymhellion hunanol ac amhur, gan feddwl peri gofid imi yng ngharchar.
17but the latter out of love, knowing that I am appointed for the defense of the Good News.
18 Ond pa waeth? Y naill ffordd neu'r llall, prun ai mewn rhith ynteu mewn gwirionedd, y mae Crist yn cael ei gyhoeddi, ac yr wyf yn gorfoleddu yn hyn. Ie, a gorfoleddu a wnaf hefyd,
18What does it matter? Only that in every way, whether in pretense or in truth, Christ is proclaimed. I rejoice in this, yes, and will rejoice.
19 oherwydd mi wn mai canlyniad hyn, ar bwys eich gweddi chwi a chymorth Ysbryd Iesu Grist, fydd fy ngwaredigaeth.
19For I know that this will turn out to my salvation, through your supplication and the supply of the Spirit of Jesus Christ,
20 Am hyn yr wyf yn disgwyl yn eiddgar, gan obeithio na chaf fy nghywilyddio mewn dim, ond y bydd Crist, yn awr fel erioed, trwy fy ngwroldeb i, yn cael ei fawrygu yn fy nghorff i, prun bynnag ai trwy fy mywyd ai trwy fy marwolaeth.
20according to my earnest expectation and hope, that I will in no way be disappointed, but with all boldness, as always, now also Christ will be magnified in my body, whether by life, or by death.
21 Oherwydd, i mi, Crist yw byw, ac elw yw marw.
21For to me to live is Christ, and to die is gain.
22 Ond os wyf i barhau i fyw yn y cnawd, bydd hynny'n golygu y caf ffrwyth o'm llafur. Eto, ni wn beth i'w ddewis.
22But if I live on in the flesh, this will bring fruit from my work; yet I don’t know what I will choose.
23 Y mae'n gyfyng arnaf o'r ddeutu; y mae arnaf awydd ymadael a bod gyda Christ, gan fod hynny'n llawer iawn gwell;
23But I am in a dilemma between the two, having the desire to depart and be with Christ, which is far better.
24 ond y mae aros yn fy nghnawd yn fwy angenrheidiol er eich mwyn chwi.
24Yet, to remain in the flesh is more needful for your sake.
25 Rwy'n gwybod hyn i sicrwydd: aros a wnaf, a phara i aros gyda chwi oll, i hyrwyddo eich cynnydd a'ch llawenydd yn y ffydd,
25Having this confidence, I know that I will remain, yes, and remain with you all, for your progress and joy in the faith,
26 er mwyn ichwi ymffrostio fwyfwy, yng Nghrist Iesu, o'm hachos i pan ddof yn �l atoch.
26that your rejoicing may abound in Christ Jesus in me through my presence with you again.
27 Yn anad dim, bydded eich buchedd yn deilwng o Efengyl Crist, er mwyn imi weld, os dof atoch, neu glywed amdanoch, os byddaf yn absennol, eich bod yn sefyll yn gadarn, yn un o ran ysbryd, gan gydymdrechu yn unfryd dros ffydd yr Efengyl,
27Only let your way of life be worthy of the Good News of Christ, that, whether I come and see you or am absent, I may hear of your state, that you stand firm in one spirit, with one soul striving for the faith of the Good News;
28 heb eich dychrynu mewn un dim gan y gwrthwynebwyr. Bydd hyn yn arwydd eglur i'r rheini o'u distryw hwy, ond o'ch iachawdwriaeth chwi, a hynny oddi wrth Dduw.
28and in nothing frightened by the adversaries, which is for them a proof of destruction, but to you of salvation, and that from God.
29 Oherwydd rhoddwyd i chwi y fraint, nid yn unig o gredu yng Nghrist ond hefyd o ddioddef drosto,
29Because it has been granted to you on behalf of Christ, not only to believe in him, but also to suffer on his behalf,
30 gan ymdaflu i'r frwydr honno y gwelsoch fi ynddi, ac yr ydych yn awr yn clywed fy mod ynddi o hyd.
30having the same conflict which you saw in me, and now hear is in me.