1It pleased Darius to set over the kingdom a hundred and twenty satraps, who should be in all the kingdom;
1 Penderfynodd Dareius benodi cant ac ugain o lywodraethwyr, un i fod dros bob rhan o'r deyrnas,
2and over these, three presidents -- of whom Daniel was one -- to whom these satraps should render account, and that the king should suffer no loss.
2 a throstynt hwy dri rhaglaw, gan gynnwys Daniel; ac iddynt hwy yr oedd y llywodraethwyr yn gyfrifol, i warchod buddiannau'r brenin.
3Now this Daniel surpassed the presidents and the satraps, because an excellent spirit was in him; and the king thought to appoint him over the whole realm.
3 Yr oedd Daniel yn rhagori ar y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr am fod ganddo ddawn arbennig, a bwriadai'r brenin ei osod dros yr holl deyrnas.
4Then the presidents and the satraps sought to find a pretext against Daniel with respect to the kingdom; but they could not find any pretext or fault; inasmuch as he was faithful, neither was there any error or fault found in him.
4 Yna chwiliodd y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr am ryw achos ynglu375?n �'r deyrnas y gallent ei ddwyn yn erbyn Daniel, ond ni fedrent gael achos na bai ynddo; am ei fod mor ddidwyll, ni chawsant unrhyw amryfusedd na bai ynddo.
5Then said these men, We shall not find any pretext against this Daniel, unless we find [it] against him touching the law of his God.
5 Yna dywedodd y dynion hyn, "Ni fedrwn gael unrhyw achos yn erbyn y Daniel hwn os na chawn rywbeth ynglu375?n � chyfraith ei Dduw."
6Then these presidents and satraps came in a body to the king, and said thus unto him: King Darius, live for ever!
6 Felly aeth y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr gyda'i gilydd at y brenin a dweud wrtho, "O Frenin Dareius, bydd fyw byth!
7All the presidents of the kingdom, the prefects, and the satraps, the counsellors, and the governors have consulted together to establish a royal statute, and to make a firm decree, that whosoever shall ask a petition of any god or man for thirty days, except of thee, O king, he shall be cast into the den of lions.
7 Y mae holl swyddogion y deyrnas, yn benaethiaid a llywodraethwyr, yn gynghorwyr a rhaglawiaid, yn unfryd �'i gilydd y dylai'r brenin wneud deddf a gorchymyn pendant fod pob un sydd, o fewn deg diwrnod ar hugain, yn ymbil ar unrhyw dduw neu ddyn, ar wah�n i ti, O frenin, i'w daflu i ffau'r llewod.
8Now, O king, establish the decree, and sign the writing, that it be not changed, according to the law of the Medes and Persians, which may not be revoked.
8 Yn awr, O frenin, cadarnha'r gorchymyn ac arwydda'r ddogfen, fel na chaiff ei newid, yn �l cyfraith ddigyfnewid y Mediaid a'r Persiaid."
9Therefore king Darius signed the writing and the decree.
9 Felly arwyddodd y Brenin Dareius y ddogfen a'r gorchymyn.
10And when Daniel knew that the writing was signed, he went into his house; and, his windows being open in his upper chamber toward Jerusalem, he kneeled on his knees three times a day, and prayed and gave thanks before his God, as he did aforetime.
10 Pan glywodd Daniel fod y ddogfen wedi ei harwyddo, aeth i'w du375?. Yr oedd ffenestri ei lofft yn agor i gyfeiriad Jerwsalem, ac yntau'n parhau i benlinio deirgwaith y dydd, a gwedd�o a thalu diolch i'w Dduw, yn �l ei arfer.
11But those men came in a body, and found Daniel praying and making supplication before his God.
11 Daeth y bobl hyn gyda'i gilydd a dal Daniel yn ymbil ac yn erfyn ar ei Dduw.
12Then they came near, and spoke before the king concerning the king's decree: Hast thou not signed a decree, that every man that shall ask [anything] of any god or man within thirty days, except of thee, O king, shall be cast into the den of lions? The king answered and said, The thing is true, according to the law of the Medes and Persians, which may not be revoked.
12 Yna aethant at y brenin a'i atgoffa am ei orchymyn: "Onid wyt wedi arwyddo gorchymyn fod pob un sydd, o fewn deg diwrnod ar hugain, yn gwedd�o ar unrhyw dduw neu ddyn ar wah�n i ti, O frenin, i'w daflu i ffau'r llewod?" Atebodd y brenin, "Dyna'r gorchymyn, yn unol � chyfraith ddigyfnewid y Mediaid a'r Persiaid."
13Then they answered and said before the king, That Daniel, who is of the children of the captivity of Judah, regardeth not thee, O king, nor the decree that thou hast signed, but maketh his petition three times a day.
13 Dywedasant hwythau wrth y brenin, "Nid yw'r Daniel yma, o gaethglud Jwda, yn cymryd unrhyw sylw ohonot ti na'r gorchymyn a arwyddaist, O frenin, ond y mae'n gwedd�o deirgwaith y dydd."
14Then the king, when he heard these words, was sore distressed thereby, and set his heart on Daniel to save him; and he laboured till the going down of the sun to deliver him.
14 Pan glywodd y brenin hyn yr oedd yn drist iawn, a cheisiodd ffordd i achub Daniel, ac ymdrechu hyd fachlud haul i'w arbed.
15Then these men came in a body unto the king, and said unto the king, Know, O king, that the law of the Medes and Persians is, That no decree nor statute which the king establisheth may be changed.
15 Ond daeth y rhain gyda'i gilydd at y brenin a dweud wrtho, "Gwyddost, O frenin, fod pob gorchymyn a deddf o eiddo'r brenin yn ddigyfnewid yn �l cyfraith y Mediaid a'r Persiaid."
16Then the king commanded, and they brought Daniel, and cast [him] into the den of lions. The king spoke and said unto Daniel, Thy God whom thou servest continually, he will save thee.
16 Felly gorchmynnodd y brenin iddynt ddod � Daniel, a'i daflu i ffau'r llewod; ond dywedodd wrth Daniel, "Bydded i'th Dduw, yr wyt yn ei wasanaethu'n barhaus, dy achub."
17And a stone was brought, and laid upon the mouth of the den; and the king sealed it with his own signet, and with the signet of his nobles, that the purpose might not be changed concerning Daniel.
17 Yna daethant � maen, a'i osod ar geg y ffau, a seliodd y brenin ef �'i s�l ei hun a s�l ei bendefigion, rhag bod unrhyw newid ar y dyfarniad yn erbyn Daniel.
18Then the king went to his palace, and passed the night fasting; neither were concubines brought before him; and his sleep fled from him.
18 Dychwelodd y brenin i'w balas a threulio'r noson mewn ympryd; ni ddaethpwyd � merched ato, ac ni allai gysgu.
19Then the king arose with the light at break of day, and went in haste unto the den of lions.
19 Yn y bore, ar doriad gwawr, cododd y brenin a mynd ar frys at ffau'r llewod.
20And when he came near unto the den, he cried with a mournful voice unto Daniel: the king spoke and said unto Daniel, O Daniel, servant of the living God, hath thy God whom thou servest continually been able to save thee from the lions?
20 Wedi iddo gyrraedd y ffau, galwodd ar Daniel mewn llais pryderus a dweud, "Daniel, gwas y Duw byw, a fedrodd dy Dduw, yr wyt yn ei wasanaethu'n barhaus, dy achub rhag y llewod?"
21Then Daniel spoke unto the king, O king, live for ever!
21 Atebodd Daniel y brenin, "O frenin, bydd fyw byth!
22My God hath sent his angel, and hath shut the lions' mouths, that they have not hurt me; forasmuch as before him innocence was found in me; and also before thee, O king, have I done no hurt.
22 Anfonodd fy Nuw ei angel, a chau safn y llewod fel na wnaethant niwed i mi, am fy mod yn ddieuog yn ei olwg; ni wneuthum niwed i tithau chwaith, O frenin."
23Thereupon was the king exceeding glad, and commanded that they should take Daniel up out of the den. So Daniel was taken up out of the den, and no manner of hurt was found upon him, because he believed in his God.
23 Gorfoleddodd y brenin, a gorchymyn rhyddhau Daniel o'r ffau. A phan gafodd ei ryddhau, nid oedd unrhyw niwed i'w weld arno, am iddo ymddiried yn ei Dduw.
24And the king commanded, and they brought those men who had accused Daniel, and cast them into the den of lions, them, their children, and their wives; and the lions had the mastery of them, and broke all their bones in pieces ere they came to the bottom of the den.
24 Ac ar orchymyn y brenin, daethant �'r rhai oedd wedi cyhuddo Daniel, a'u taflu i ffau'r llewod, hwy a'u plant a'u gwragedd, a chyn iddynt gyrraedd gwaelod y ffau yr oedd y llewod wedi eu llarpio ac wedi malu eu hesgyrn yn chwilfriw.
25Then king Darius wrote unto all peoples, nations, and languages, that dwell in all the earth: Peace be multiplied unto you.
25 Yna ysgrifennodd y Brenin Dareius at yr holl bobloedd, o bob cenedl ac iaith trwy'r byd i gyd, "Heddwch fo i chwi!
26I make a decree, That in every dominion of my kingdom men tremble and fear before the God of Daniel; for he is the living God, and steadfast for ever, and his kingdom [that] which shall not be destroyed, and his dominion shall be even unto the end.
26 Yr wyf yn gorchymyn fod pawb ym mhob talaith o'm teyrnas i ofni a pharchu Duw Daniel. Ef yw'r Duw byw, y tragwyddol; ni ddinistrir ei frenhiniaeth, a phery ei arglwyddiaeth byth.
27He saveth and delivereth, and he worketh signs and wonders in the heavens and on the earth: who hath saved Daniel from the power of the lions.
27 Y mae'n achub ac yn gwaredu, yn gwneud arwyddion a rhyfeddodau yn y nefoedd ac ar y ddaear; ef a achubodd Daniel o afael y llewod."
28And this Daniel prospered in the reign of Darius, and in the reign of Cyrus the Persian.
28 A llwyddodd y Daniel hwn yn ystod teyrnasiad Dareius a theyrnasiad Cyrus y Persiad.