Darby's Translation

Welsh

Ezekiel

21

1And the word of Jehovah came unto me, saying,
1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2Son of man, set thy face against Jerusalem, and drop [words] against the holy places, and prophesy against the land of Israel,
2 "Fab dyn, tro dy wyneb tua Jerwsalem, a llefara yn erbyn ei chysegr a phroffwyda yn erbyn tir Israel.
3and say to the land of Israel, Thus saith Jehovah: Behold, I am against thee, and I will draw forth my sword out of its sheath, and will cut off from thee the righteous and the wicked.
3 Dywed wrth dir Israel, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf fi yn dy erbyn; tynnaf fy nghleddyf o'i wain a thorri ymaith ohonot y cyfiawn a'r drygionus.
4Seeing that I will cut off from thee the righteous and the wicked, therefore shall my sword go forth out of its sheath against all flesh, from the south to the north;
4 Oherwydd fy mod am dorri ymaith ohonot y cyfiawn a'r drygionus y tynnir fy nghleddyf o'i wain yn erbyn pawb o'r de i'r gogledd.
5and all flesh shall know that I Jehovah have drawn forth my sword out of its sheath: it shall not return any more.
5 Yna bydd pob un yn gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi tynnu fy nghleddyf o'i wain; ni fydd yn dychwelyd yno byth eto.'
6Sigh then, thou son of man; with breaking of the loins, and with bitterness sigh before their eyes.
6 Ac yn awr, fab dyn, griddfan; griddfan yn chwerw o'u blaenau � chalon ddrylliedig.
7And it shall be, when they say unto thee, Wherefore dost thou sigh? that thou shalt say, Because of the tidings, for it cometh; and every heart shall melt, and all hands shall be feeble, and every spirit shall languish, and all knees shall melt into water: behold, it cometh; it is here, saith the Lord Jehovah.
7 A phan ofynnant iti pam dy fod yn griddfan, fe ddywedi, 'Oherwydd y newyddion; pan ddaw, bydd pob calon yn toddi, pob llaw yn llipa, pob ysbryd yn pallu a phob glin yn ddu373?r. Fe ddigwydd, ac y mae ar ddyfod, medd yr Arglwydd DDUW.'"
8And the word of Jehovah came unto me, saying,
8 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
9Son of man, prophesy, and say, Thus saith Jehovah: Say, A sword, a sword is sharpened, and also furbished.
9 "Fab dyn, proffwyda a dweud, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Cleddyf! Cleddyf wedi ei hogi, a hefyd wedi ei loywi �
10It is sharpened for sore slaughter, it is furbished that it may glitter. Shall we then make mirth, [saying,] The sceptre of my son contemneth all wood?
10 wedi ei hogi er mwyn lladd, a'i loywi i fflachio fel mellten! O fy mab, fe chwifir gwialen i ddilorni pob eilun pren!
11And he hath given it to be furbished that it may be handled. The sword, -- it is sharpened, and it is furbished to give it into the hand of the slayer.
11 Rhoddwyd y cleddyf i'w loywi, yn barod i law ymaflyd ynddo; y mae'r cleddyf wedi ei hogi a'i loywi, yn barod i'w roi yn llaw y lladdwr.'
12Cry and howl, son of man; for it shall be against my people, it shall be against all the princes of Israel: they are given up to the sword along with my people: smite therefore upon the thigh.
12 Gwaedda ac uda, fab dyn, oherwydd y mae yn erbyn fy mhobl, yn erbyn holl dywysogion Israel � fe'u bwrir hwythau i'r cleddyf gyda'm pobl; felly trawa dy glun.
13For the trial [is made]; and what if even the contemning sceptre shall be no [more]? saith the Lord Jehovah.
13 Oherwydd bydd profi. Pam yr ydych yn dilorni'r wialen? Ni lwydda, medd yr Arglwydd DDUW.
14And thou, son of man, prophesy, and smite thy hands together; for [the strokes of] the sword shall be doubled the third time: it is the sword of the slain, the sword that hath slain the great one, which encompasseth them privily.
14 "Ac yn awr, fab dyn, proffwyda, a thrawa dy ddwylo yn erbyn ei gilydd; chwifier y cleddyf ddwywaith a thair � cleddyf i ladd ydyw, cleddyf i wneud lladdfa fawr, ac y mae'n chwyrl�o o'u hamgylch.
15In order that the heart may melt, and the stumbling-blocks be multiplied, I have set the threatening sword against all their gates: ah! it is made glittering, it is whetted for the slaughter.
15 Er mwyn i'w calon doddi, ac i lawer ohonynt syrthio, yr wyf wedi gosod cleddyf dinistr wrth eu holl byrth. Och! Fe'i gwnaed i ddisgleirio fel mellten, ac fe'i tynnir i ladd.
16Gather up [strength], go to the right hand, turn thee, go to the left, whithersoever thy face is appointed.
16 Tro'n finiog i'r dde ac i'r chwith, i ble bynnag y pwyntia dy flaen.
17And I myself will smite my hands together, and I will satisfy my fury: I Jehovah have spoken [it].
17 Byddaf finnau hefyd yn taro fy nwylo, ac yna'n tawelu fy llid. Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd."
18And the word of Jehovah came unto me, saying,
18 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
19And thou, son of man, set thee two ways, by which the sword of the king of Babylon may come -- out of one land shall they both come -- and make thee a signpost, make it at the head of the way to the city.
19 "Yn awr, fab dyn, noda ddwy ffordd i gleddyf brenin Babilon ddod, a'r ddwy yn arwain o'r un wlad, a gosod fynegbost ar ben y ffordd sy'n dod i'r ddinas.
20Appoint a way for the coming of the sword to Rabbah of the children of Ammon, and to Judah at the fenced [city] of Jerusalem.
20 Noda un ffordd i'r cleddyf ddod yn erbyn Rabba'r Ammoniaid, a'r llall yn erbyn Jwda a Jerwsalem gaerog.
21For the king of Babylon standeth at the parting of the way, at the head of the two ways, to use divination: he shaketh [his] arrows, he inquireth of the teraphim, he looketh in the liver.
21 Oherwydd fe oeda brenin Babilon ar y groesffordd lle mae'r ddwy ffordd yn fforchi, i geisio argoel; bydd yn bwrw coelbren � saethau, yn ymofyn �'i eilunod ac yn edrych ar yr afu.
22In his right hand is the lot of Jerusalem to appoint battering-rams, to open the mouth for bloodshed, to lift up the voice with shouting, to appoint battering-rams against the gates, to cast mounds, to build siege-towers.
22 Yn ei law dde bydd coelbren Jerwsalem, iddo roi gorchymyn i ladd, codi bonllef rhyfel, gosod peiriannau hyrddio yn erbyn y pyrth, codi esgynfa ac adeiladu gwarchglawdd.
23And this shall be a false divination in their sight, for them that have sworn oaths; but he will call to remembrance the iniquity, that they may be taken.
23 Bydd yn ymddangos yn argoel twyllodrus i'r rhai sy'n deyrngar iddo, ond bydd ef yn dwyn eu trosedd i gof ac yn eu caethiwo.
24Therefore thus saith the Lord Jehovah: Because ye make your iniquity to be remembered in that your transgressions are discovered, so that in all your doings your sins appear; because ye are come to remembrance, ye shall be taken with the hand.
24 Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd ichwi ddwyn eich trosedd i gof trwy eich gwrthryfel agored, ac amlygu eich pechodau yn y cyfan a wnewch, oherwydd i chwi wneud hyn, fe'ch caethiwir.
25And thou, profane, wicked prince of Israel, whose day is come, at the time of the iniquity of the end,
25 "A thithau, dywysog annuwiol a drygionus Israel, yr un y daeth ei ddydd yn amser y gosb derfynol,
26-- thus saith the Lord Jehovah: Remove the mitre and take off the crown; what is shall be no [more]. Exalt that which is low, and abase that which is high.
26 fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Diosg y benwisg a thyn y goron; nid fel y bu y bydd; dyrchefir yr isel a darostyngir yr uchel.
27I will overturn, overturn, overturn it! This also shall be no [more], until he come whose right it is; and I will give it [to him].
27 Adfail! Adfail! Yn adfail na fu ei bath y gwnaf hi, nes i'r hwn a'i piau trwy deg ddod, ac imi ei rhoi iddo ef.
28And thou, son of man, prophesy and say, Thus speaketh the Lord Jehovah concerning the children of Ammon, and concerning their reproach; and thou shalt say, A sword, a sword is drawn; for the slaughter is it furbished, that it may consume, that it may glitter:
28 "Yn awr, fab dyn, proffwyda a dywed, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth yr Ammoniaid a'u heilun: Cleddyf! Cleddyf wedi ei dynnu i ladd, wedi ei loywi i ddifa ac i ddisgleirio fel mellten!
29whilst they see vanity for thee, whilst they divine a lie unto thee, to lay thee upon the necks of the wicked that are slain, whose day is come at the time of the iniquity of the end.
29 Er bod gweledigaethau gau amdanat ac argoelion twyllodrus ynglu375?n � thi, fe'th osodir ar yddfau'r drygionus sydd i'w lladd, sef y rhai y daeth eu dydd yn amser y gosb derfynol.
30Restore [it] to its sheath. I will judge thee in the place where thou wast created, in the land of thy birth.
30 Yna, dychweler ef i'w wain. Yn y lle y cr�wyd di, yng ngwlad dy gynefin, y barnaf di.
31And I will pour out mine indignation upon thee, I will blow upon thee the fire of my wrath, and give thee into the hand of brutish men, skilful to destroy.
31 Tywalltaf fy llid arnat a chwythu fy nig tanllyd drosot; rhoddaf di yn nwylo dynion creulon, dynion medrus i ddinistrio.
32Thou shalt be for fuel to the fire; thy blood shall be in the midst of the land; thou shalt not be remembered: for I Jehovah have spoken.
32 Byddi'n gynnud i d�n, bydd dy waed trwy'r tir, ac ni chofir amdanat. Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd.'"