1Hear the word of Jehovah, ye children of Israel; for Jehovah hath a controversy with the inhabitants of the land; for there is no truth, nor goodness, nor knowledge of God in the land.
1 Clywch air yr ARGLWYDD, blant Israel. Y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn trigolion y tir, am nad oes ffyddlondeb, cariad na gwybodaeth o Dduw yn y tir,
2Swearing, and lying, and killing, and stealing, and committing adultery, -- they break out; and blood toucheth blood.
2 ond tyngu a chelwydda, lladd a lladrata, godinebu a threisio, a lladd yn dilyn lladd.
3For this shall the land mourn, and every one that dwelleth therein shall languish, with the beasts of the field, and with the fowl of the heavens, yea, the fishes of the sea also shall be taken away.
3 Am hynny, galara'r wlad, nycha'i holl drigolion; dygir ymaith anifeiliaid y maes, adar yr awyr hefyd a physgod y m�r.
4Yet let no man strive, and let no man reprove; for thy people are as they that strive with the priest.
4 "Peidied neb ag ymryson, ac na chyhudded neb; y mae fy achos yn dy erbyn di, offeiriad.
5And thou shalt stumble by day; and the prophet also shall stumble with thee by night: and I will destroy thy mother.
5 Yr wyt yn baglu liw dydd, a syrth y proffwyd hefyd gyda thi yn y nos. Dinistriaf dy fam;
6My people are destroyed for lack of knowledge; for thou hast rejected knowledge, and I will reject thee, that thou shalt be no priest to me; seeing thou hast forgotten the law of thy God, I also will forget thy children.
6 difethir fy mhobl o eisiau gwybodaeth; am i ti wrthod gwybodaeth y gwrthodaf di yn offeiriad imi; am i ti anghofio cyfraith dy Dduw yr anghofiaf finnau dy blant.
7As they were multiplied, so they sinned against me: I will change their glory into shame.
7 "Fel yr amlh�nt, mwy y pechant yn f'erbyn; trof eu gogoniant yn warth.
8They eat the sin of my people, and their soul longeth for their iniquity.
8 Bwyt�nt bechod fy mhobl, ac estyn eu safn at eu drygioni.
9And it shall be as the people so the priest; and I will visit their ways upon them, and recompense to them their doings;
9 Bydd y bobl fel yr offeiriad; fe'u cosbaf am eu ffyrdd a dial arnynt am eu gweithredoedd.
10and they shall eat, and not have enough; they shall commit whoredom, and shall not increase: for they have left off taking heed to Jehovah.
10 Bwyt�nt, ond heb eu digoni, puteiniant, ond heb amlhau, am iddynt ddiystyru yr ARGLWYDD.
11Fornication, and wine, and new wine take away the heart.
11 "Y mae puteindra, gwin a gwin newydd yn dwyn ymaith y deall.
12My people ask counsel of their stock, and their staff declareth unto them; for the spirit of whoredoms causeth [them] to err, and they have gone a whoring from under their God:
12 Y mae fy mhobl yn ymofyn � phren, a'u gwialen sy'n eu cyfarwyddo; oherwydd ysbryd puteindra a'u camarweiniodd, troesant mewn puteindra oddi wrth eu Duw.
13they sacrifice upon the tops of the mountains, and burn incense upon the hills, under oak and poplar and terebinth, because the shade thereof is good; therefore your daughters play the harlot and your daughters-in-law commit adultery.
13 Y maent yn aberthu ar bennau'r mynyddoedd, ac yn offrymu ar y bryniau, o dan y dderwen, y boplysen a'r terebinth am fod eu cysgod yn dda. "Am hynny, y mae eich merched yn puteinio a'ch merched-yng-nghyfraith yn godinebu.
14I will not punish your daughters when they play the harlot, nor your daughters-in-law for their committing adultery; for they themselves go aside with harlots, and they sacrifice with prostitutes: and the people that doth not understand shall come to ruin.
14 Ni chosbaf eich merched pan buteiniant, na'ch merched-yng-nghyfraith pan odinebant, oherwydd y mae'r dynion yn troi at buteiniaid ac yn aberthu gyda'r puteiniaid y cysegr. Pobl heb ddeall, fe'u difethir.
15Though thou, Israel, play the harlot, let not Judah trespass; and come ye not unto Gilgal, neither go up to Beth-aven, nor swear [As] Jehovah liveth!
15 "Er i ti buteinio, Israel, na fydded Jwda'n euog. Peidiwch � mynd i Gilgal, nac i fyny i Beth-afen, a pheidiwch � thyngu, 'Cyn wired � bod yr ARGLWYDD yn fyw.'
16For Israel is refractory as an untractable heifer; now will Jehovah feed them as a lamb in a wide [pasture].
16 Fel heffer anhydrin y mae Israel yn anodd ei thrin; a all yr ARGLWYDD yn awr eu bwydo fel oen mewn porfa?
17-- Ephraim is joined to idols: leave him alone.
17 "Glynodd Effraim wrth eilunod; gadawer iddo.
18Their drink is sour; they give themselves up to whoredom; her great men passionately love [their] shame.
18 Cwmni o feddwon wedi ymollwng i buteindra! Syrthiodd ei arweinwyr mewn cariad � gwarth.
19The wind hath wrapped her up in its wings, and they shall be ashamed because of their sacrifices.
19 Clymodd y gwynt hwy yn ei adenydd, a chywilyddiant oherwydd eu haberthau.