1The word that came to Jeremiah concerning all the Jews who dwelt in the land of Egypt, who dwelt at Migdol, and at Tahpanhes, and at Noph, and in the country of Pathros, saying,
1 Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia am yr holl Iddewon oedd yn byw yng ngwlad yr Aifft, sef yn Migdol, Tahpanhes a Noff, ac ym mro Pathros:
2Thus saith Jehovah of hosts, the God of Israel: Ye have seen all the evil that I have brought upon Jerusalem, and upon all the cities of Judah; and behold they are, this day, a waste, and no man dwelleth therein,
2 "Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Gwelsoch yr holl ddinistr a ddygais ar Jerwsalem ac ar holl ddinasoedd Jwda; y maent heddiw yn anghyfannedd, heb neb yn byw ynddynt,
3because of their wickedness which they have committed to provoke me to anger, in that they went to burn incense to serve other gods which they knew not, they, [nor] ye, nor your fathers.
3 o achos y drygioni a wnaethant i'm digio, gan losgi arogldarth ac addoli duwiau eraill nad oeddent hwy na chwithau na'ch hynafiaid yn eu hadnabod.
4And I sent unto you all my servants the prophets, rising early and sending, saying, Oh, do not this abominable thing which I hate!
4 Anfonais atoch fy holl weision y proffwydi, a'u hanfon yn gyson i ddweud, "Yn wir, peidiwch � chyflawni'r ffieidd-beth hwn sydd yn gas gennyf."
5But they hearkened not, nor inclined their ear to turn from their wickedness, to burn no incense unto other gods.
5 Ond ni wrandawsant, nac estyn clust i droi oddi wrth eu drygioni ac i beidio ag arogldarthu i dduwiau eraill.
6And my fury and mine anger was poured forth, and was kindled in the cities of Judah and in the streets of Jerusalem; and they are become a waste, a desolation, as at this day.
6 Felly tywalltwyd fy llid a'm digofaint, a llosgi yn ninasoedd Jwda ac yn heolydd Jerwsalem, a'u gwneud yn anghyfannedd a diffaith, fel y maent heddiw.'
7And now thus saith Jehovah the God of hosts, the God of Israel: Wherefore commit ye great evil against your souls, to cut off from you man and woman, infant and suckling, out of the midst of Judah, to leave you no remnant;
7 Yn awr, fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, Duw Israel: 'Pam yr ydych yn gwneud y drwg mawr hwn yn eich erbyn eich hunain, a thorri ymaith o Jwda u373?r a gwraig, plentyn a baban, fel nad oes gennych weddill yn aros?
8provoking me to anger with the works of your hands, burning incense unto other gods in the land of Egypt, whither ye are come to sojourn, that ye should be cut off, and that ye should be a curse and a reproach among all the nations of the earth?
8 Pam yr ydych yn fy nigio i � gwaith eich dwylo, ac yn arogldarthu i dduwiau eraill yng ngwlad yr Aifft, lle y daethoch i fyw, gan eich difetha eich hunain, a bod yn felltith ac yn warth ymysg holl genhedloedd y ddaear?
9Have ye forgotten the wickedness of your fathers, and the wickedness of the kings of Judah, and the wickedness of their wives, and your own wickedness, and the wickedness of your wives, which they have committed in the land of Judah and in the streets of Jerusalem?
9 A ydych wedi anghofio drygioni eich hynafiaid a drygioni brenhinoedd Jwda a drygioni eu gwragedd, a'ch drygioni chwi eich hunain a'ch gwragedd, a wnaed yn nhir Jwda ac yn heolydd Jerwsalem?
10They are not humbled unto this day, neither have they feared, nor walked in my law, nor in my statutes which I set before you and before your fathers.
10 Hyd heddiw nid ydych wedi ymostwng, nac ofni, na rhodio yn fy nghyfraith a'm deddfau, a roddais o'ch blaen ac o flaen eich hynafiaid.'
11Therefore thus saith Jehovah of hosts, the God of Israel: Behold, I will set my face against you for evil, and to cut off all Judah.
11 "Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Yr wyf yn gosod fy wyneb yn eich erbyn er niwed, i ddifetha holl Jwda.
12And I will take the remnant of Judah, that have set their faces to enter into the land of Egypt to sojourn there, and they shall all be consumed: in the land of Egypt shall they fall; they shall be consumed by the sword [and] by the famine, from the least even unto the greatest; they shall die by the sword and by the famine, and they shall be an execration, an astonishment, and a curse, and a reproach.
12 Cymeraf weddill Jwda, a ddewisodd fynd i wlad yr Aifft i aros yno, a difethir hwy oll. Yng ngwlad yr Aifft y syrthiant; trwy gleddyf a newyn y difethir hwy; yn fach a mawr, byddant farw trwy gleddyf a newyn, a byddant yn destun melltith ac arswyd, gwawd a gwarth.
13And I will punish them that dwell in the land of Egypt as I have punished Jerusalem, by the sword, by the famine, and by the pestilence;
13 Cosbaf y rhai sy'n byw yng ngwlad yr Aifft, fel y cosbais Jerwsalem drwy gleddyf a newyn a haint.
14and none of the remnant of Judah, that have come into the land of Egypt to sojourn there, shall escape or remain, so as to return into the land of Judah, whither they have a desire to return to dwell there; for none shall return but such as shall escape.
14 Ymysg gweddill Jwda, a ddaeth i aros yng ngwlad yr Aifft, ni fydd un yn dianc nac wedi ei adael i ddychwelyd i wlad Jwda, er iddynt ddyheu am gael dychwelyd i fyw yno. Ni ddychwelant yno, ar wah�n i ffoaduriaid.'"
15Then all the men who knew that their wives burned incense to other gods, and all the women who stood by, a great assemblage, even all the people that dwelt in the land of Egypt, in Pathros, answered Jeremiah, saying,
15 Yna atebwyd Jeremeia gan y gwu375?r a wyddai fod eu gwragedd yn arogldarthu i dduwiau eraill, a chan yr holl wragedd oedd yn sefyll gerllaw yn gynulleidfa fawr, a'r holl bobl oedd yn trigo yn Pathros yn yr Aifft.
16[As for] the word that thou hast spoken unto us in the name of Jehovah, we will not hearken unto thee,
16 "Nid ydym am wrando arnat," meddent, "yn y mater y lleferaist amdano wrthym yn enw'r ARGLWYDD.
17but we will certainly do every word that is gone forth out of our mouth, to burn incense to the queen of the heavens, and to pour out drink-offerings to her, as we have done, we and our fathers, our kings and our princes, in the cities of Judah and in the streets of Jerusalem; and we had plenty of bread, and were well, and saw no evil.
17 Yn hytrach, yr ydym am fynnu gwneud yn �l pob addewid a wnaethom i ni ein hunain; yr ydym am arogldarthu i frenhines y nefoedd, a thywallt iddi ddiodoffrwm, fel y gwnaethom o'r blaen yn ninasoedd Jwda ac yn heolydd Jerwsalem, ni a'n hynafiaid, ein brenhinoedd a'n tywysogion. Yr oeddem yn cael digon o fara, a bu'n dda arnom, ac ni welsom ddrwg.
18But since we left off burning incense to the queen of the heavens, and pouring out drink-offerings to her, we have wanted everything, and have been consumed by the sword and by the famine.
18 Byth er yr adeg y peidiasom ag arogldarthu i frenhines y nefoedd a thywallt diodoffrwm iddi, bu arnom eisiau pob dim, ac fe'n dinistriwyd �'r cleddyf ac � newyn.
19And when we burned incense to the queen of the heavens and poured out drink-offerings to her, did we make for her cakes to portray her, and pour out drink-offerings to her, without our husbands?
19 Pan oeddem yn arogldarthu i frenhines y nefoedd ac yn tywallt diodoffrwm iddi, ai heb i'n gwu375?r hefyd gymeradwyo y gwnaethom iddi deisennau ar ei llun, neu dywallt diodoffrwm iddi?"
20And Jeremiah said unto all the people, to the men, and to the women, and to all the people that had given him that answer, saying,
20 A dywedodd Jeremeia wrth yr holl bobl, yn wu375?r ac yn wragedd, a oedd wedi rhoi iddo yr ateb hwn,
21Is it not the incense that ye burned in the cities of Judah and in the streets of Jerusalem, ye and your fathers, your kings and your princes and the people of the land, that Jehovah remembered, and that came into his mind?
21 "Onid yr arogldarthu a wnaethoch chwi a'ch hynafiaid, eich brenhinoedd a'ch tywysogion, a phobl y wlad yn ninasoedd Jwda a heolydd Jerwsalem yw'r peth a gofiodd yr ARGLWYDD? Oni ddaeth hyn i'w feddwl?
22And Jehovah could no longer bear, because of the evil of your doings, [and] because of the abominations that ye had committed; and your land is become a waste, and an astonishment, and a curse, without inhabitant, as at this day.
22 Ni allai'r ARGLWYDD oddef yn hwy eich gweithredoedd drwg, a'r ffieiddbeth a wnaethoch; a gwnaeth eich gwlad yn anghyfannedd, ac yn syndod ac yn felltith, heb breswylydd, fel y mae heddiw.
23Because ye have burned incense, and because ye have sinned against Jehovah, and have not hearkened unto the voice of Jehovah, nor walked in his law, nor in his statutes, nor in his testimonies; therefore this evil hath come upon you, as at this day.
23 Oherwydd ichwi arogldarthu, a phechu felly yn erbyn yr ARGLWYDD, ac am na wrandawsoch ar lais yr ARGLWYDD, na rhodio yn ei gyfraith ef, nac yn ei ddeddfau na'i dystiolaethau, oherwydd hynny y digwyddodd yr aflwydd hwn i chwi, fel y gwelir heddiw."
24And Jeremiah said unto all the people, and to all the women, Hear ye the word of Jehovah, all Judah that are in the land of Egypt.
24 Dywedodd Jeremeia wrth yr holl bobl a'r holl wragedd, "Clywch air yr ARGLWYDD, chwi holl bobl Jwda sydd yng ngwlad yr Aifft.
25Thus saith Jehovah of hosts, the God of Israel, saying, Ye and your wives have both spoken with your mouths, and fulfilled with your hands, saying, We will certainly perform our vows which we have vowed, to burn incense to the queen of the heavens, and to pour out drink-offerings unto her. Ye will certainly establish your vows, and entirely perform your vows.
25 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Gwnaethoch chwi a'ch gwragedd addewid �'ch genau, a'i chyflawni �'ch dwylo, gan ddweud, "Yr ydym am gyflawni'r addunedau a addunedwyd gennym i arogldarthu i frenhines y nef a thywallt diodoffrwm iddi." Cyflawnwch, ynteu, eich addunedau, a thalwch hwy.'
26Therefore hear ye the word of Jehovah, all Judah that dwell in the land of Egypt: Behold, I have sworn by my great name, saith Jehovah, that my name shall no more be named in the mouth of any man of Judah in all the land of Egypt, saying, [As] the Lord Jehovah liveth.
26 Ond gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi holl bobl Jwda sy'n byw yng ngwlad yr Aifft. 'Tyngais innau i'm henw mawr,' medd yr ARGLWYDD, 'na fydd f'enw mwyach ar wefus neb o bobl Jwda yn holl wlad yr Aifft, i ddweud, "Byw fyddo'r Arglwydd DDUW".
27Behold, I will watch over them for evil, and not for good; and all the men of Judah that are in the land of Egypt shall be consumed by the sword and by the famine, until there be an end of them.
27 Dyma fi'n effro i ddwyn drygioni arnynt, ac nid daioni; difethir �'r cleddyf ac � newyn holl bobl Jwda sydd yng ngwlad yr Aifft, nes y bydd diwedd arnynt.
28And they that escape the sword shall return out of the land of Egypt into the land of Judah, a very small company; and all the remnant of Judah, that have come into the land of Egypt to sojourn there, shall know whose word shall stand, mine or theirs.
28 A'r rhai a ddihanga rhag y cleddyf, dychwelant o wlad yr Aifft i dir Jwda yn ychydig o nifer; a chaiff holl weddill Jwda, a ddaeth i wlad yr Aifft i aros yno, ystyried gair pwy a saif, fy ngair i ynteu eu gair hwy.'
29And this shall be the sign unto you, saith Jehovah, that I will punish you in this place, that ye may know that my words shall certainly stand against you for evil:
29 "'Dyma'r arwydd i chwi,' medd yr ARGLWYDD: 'Cosbaf chwi yn y lle hwn er mwyn i chwi wybod fod fy ngeiriau'n sefyll yn gadarn yn eich erbyn er drwg.'
30thus saith Jehovah: Behold, I will give Pharaoh-Hophra king of Egypt into the hand of his enemies, and into the hand of them that seek his life; as I gave Zedekiah king of Judah into the hand of Nebuchadrezzar king of Babylon, his enemy, and that sought his life.
30 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Yr wyf fi'n rhoi Pharo Hoffra brenin yr Aifft yn llaw ei elynion, a'r rhai sy'n ceisio'i einioes, fel y rhoddais Sedeceia brenin Jwda yn llaw Nebuchadnesar brenin Babilon, ei elyn a oedd yn ceisio'i einioes.'"