1La seconde année de Joas, fils de Joachaz, roi d'Israël, Amatsia, fils de Joas, roi de Juda, régna.
1 Yn ail flwyddyn Joas fab Jehoahas brenin Israel, daeth Amaseia fab Jehoas yn frenin ar Jwda.
2Il avait vingt-cinq ans lorsqu'il devint roi, et il régna vingt-neuf ans à Jérusalem. Sa mère s'appelait Joaddan, de Jérusalem.
2 Pump ar hugain oedd ei oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am naw mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Jehoadan o Jerwsalem oedd enw ei fam.
3Il fit ce qui est droit aux yeux de l'Eternel, non pas toutefois comme David, son père; il agit entièrement comme avait agi Joas, son père.
3 Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, er nad fel ei dad Dafydd; gwnaeth yn union fel ei dad Jehoas.
4Seulement, les hauts lieux ne disparurent point; le peuple offrait encore des sacrifices et des parfums sur les hauts lieux.
4 Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; yr oedd y bobl yn parhau i aberthu ac arogldarthu ynddynt.
5Lorsque la royauté fut affermie entre ses mains, il frappa ses serviteurs qui avaient tué le roi, son père.
5 Wedi iddo sicrhau ei afael ar y deyrnas, lladdodd y gweision oedd wedi lladd y brenin ei dad,
6Mais il ne fit pas mourir les fils des meurtriers, selon ce qui est écrit dans le livre de la loi de Moïse, où l'Eternel donne ce commandement: On ne fera point mourir les pères pour les enfants, et l'on ne fera point mourir les enfants pour les pères; mais on fera mourir chacun pour son péché.
6 ond ni roddodd blant y lleiddiaid i farwolaeth, yn unol �'r hyn sy'n ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, lle mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn, "Na rodder rhieni i farwolaeth o achos eu plant, na phlant o achos eu rhieni; am ei bechod ei hun y rhoddir un i farwolaeth."
7Il battit dix mille Edomites dans la vallée du sel; et durant la guerre, il prit Séla, et l'appela Joktheel, nom qu'elle a conservé jusqu'à ce jour.
7 Trawodd Amaseia ddeng mil o filwyr Edom yn Nyffryn yr Halen, a chymryd Sela mewn brwydr a'i enwi'n Joctheel hyd heddiw.
8Alors Amatsia envoya des messagers à Joas, fils de Joachaz, fils de Jéhu, roi d'Israël, pour lui dire: Viens, voyons-nous en face!
8 Yna anfonodd genhadau at Joas fab Jehoahas, fab Jehu, brenin Israel, a dweud, "Tyrd, gad inni ddod wyneb yn wyneb."
9Et Joas, roi d'Israël, fit dire à Amatsia, roi de Juda: L'épine du Liban envoya dire au cèdre du Liban: Donne ta fille pour femme à mon fils! Et les bêtes sauvages qui sont au Liban passèrent et foulèrent l'épine.
9 Anfonodd Joas brenin Israel yn �l at Amaseia brenin Jwda, a dweud, "Gyrrodd ysgellyn oedd yn Lebanon at gedrwydden Lebanon yn dweud, 'Rho dy ferch yn wraig i'm mab.' Ond daeth rhyw fwystfil oedd yn Lebanon heibio a mathru'r ysgellyn.
10Tu as battu les Edomites, et ton coeur s'élève. Jouis de ta gloire, et reste chez toi. Pourquoi t'engager dans une malheureuse entreprise, qui amènerait ta ruine et celle de Juda?
10 Gorchfygaist Edom ac aethost yn ffroenuchel. Mwynha d'ogoniant, ac aros gartref; pam y codi helynt, ac yna cwympo a thynnu Jwda i lawr i'th ganlyn?"
11Mais Amatsia ne l'écouta pas. Et Joas, roi d'Israël, monta; et ils se virent en face, lui et Amatsia, roi de Juda, à Beth-Schémesch, qui est à Juda.
11 Ond ni fynnai Amaseia wrando; felly daeth Joas brenin Israel ac Amaseia brenin Jwda wyneb yn wyneb ger Beth-semes yn Jwda.
12Juda fut battu par Israël, et chacun s'enfuit dans sa tente.
12 Gorchfygwyd Jwda gan Israel, a ffodd pawb adref.
13Joas, roi d'Israël, prit à Beth-Schémesch Amatsia, roi de Juda, fils de Joas, fils d'Achazia. Il vint à Jérusalem, et fit une brèche de quatre cents coudées dans la muraille de Jérusalem, depuis la porte d'Ephraïm jusqu'à la porte de l'angle.
13 Wedi i Joas brenin Israel ddal Amaseia fab Jehoas, fab Ahaseia, brenin Jwda, yn Beth-semes, aeth yn ei flaen i Jerwsalem a thorri i lawr fur Jerwsalem o borth Effraim hyd borth y gongl, sef pedwar can cufydd.
14Il prit tout l'or et l'argent et tous les vases qui se trouvaient dans la maison de l'Eternel et dans les trésors de la maison du roi; il prit aussi des otages, et il retourna à Samarie.
14 Hefyd aeth �'r holl aur, arian a chelfi a gafwyd yn y deml ac yng nghoffrau'r palas; yna cymerodd wystlon, a dychwelodd i Samaria.
15Le reste des actions de Joas, ce qu'il a fait, ses exploits, et la guerre qu'il eut avec Amatsia, roi de Juda, cela n'est-il pas écrit dans le livre des Chroniques des rois d'Israël?
15 Am weddill hanes Joas, a'i wrhydri a'i frwydr yn erbyn Amaseia brenin Jwda, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
16Joas se coucha avec ses pères, et il fut enterré à Samarie avec les rois d'Israël. Et Jéroboam, son fils, régna à sa place.
16 Bu farw Joas, a chladdwyd ef yn Samaria gyda brenhinoedd Israel, a daeth ei fab Jeroboam yn frenin yn ei le.
17Amatsia, fils de Joas, roi de Juda, vécut quinze ans après la mort de Joas, fils de Joachaz, roi d'Israël.
17 Bu Amaseia fab Jehoas, brenin Jwda, fyw am bymtheng mlynedd wedi i Jehoas fab Jehoahas, brenin Israel, farw.
18Le reste des actions d'Amatsia, cela n'est-il pas écrit dans le livre des Chroniques des rois de Juda?
18 Am weddill hanes Amaseia, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?
19On forma contre lui une conspiration à Jérusalem, et il s'enfuit à Lakis; mais on le poursuivit à Lakis, où on le fit mourir.
19 Pan gynlluniwyd brad yn ei erbyn yn Jerwsalem, ffodd i Lachis, ond anfonwyd ar ei �l i Lachis a'i ladd yno,
20On le transporta sur des chevaux, et il fut enterré à Jérusalem avec ses pères, dans la ville de David.
20 a chludwyd ef ar feirch i Jerwsalem, a'i gladdu gyda'i ragflaenwyr yn Ninas Dafydd.
21Et tout le peuple de Juda prit Azaria, âgé de seize ans, et l'établit roi à la place de son père Amatsia.
21 Yna cymerodd holl bobl Jwda Asareia, a oedd yn un ar bymtheg oed, a'i wneud yn frenin yn lle ei dad Amaseia.
22Azaria rebâtit Elath et la fit rentrer sous la puissance de Juda, après que le roi fut couché avec ses pères.
22 Ef a ailadeiladodd Elath a'i hadfer i Jwda wedi i'r brenin orwedd gyda'i dadau.
23La quinzième année d'Amatsia, fils de Joas, roi de Juda, Jéroboam, fils de Joas, roi d'Israël, régna à Samarie. Il régna quarante et un ans.
23 Yn y bymthegfed flwyddyn i Amaseia fab Jehoas brenin Jwda, daeth Jeroboam fab Jehoahas brenin Israel yn frenin yn Samaria am un mlynedd a deugain.
24Il fit ce qui est mal aux yeux de l'Eternel; il ne se détourna d'aucun des péchés de Jéroboam, fils de Nebath, qui avait fait pécher Israël.
24 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD; ni throdd oddi wrth holl bechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu.
25Il rétablit les limites d'Israël depuis l'entrée de Hamath jusqu'à la mer de la plaine, selon la parole que l'Eternel, le Dieu d'Israël, avait prononcée par son serviteur Jonas, le prophète, fils d'Amitthaï, de Gath-Hépher.
25 Adferodd oror Israel o Lebo-hamath hyd F�r yr Araba, yn unol �'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD, Duw Israel, drwy ei was Jona fab Amittai y proffwyd o Gath-heffer.
26Car l'Eternel vit l'affliction d'Israël à son comble et l'extrémité à laquelle se trouvaient réduits esclaves et hommes libres, sans qu'il y eût personne pour venir au secours d'Israël.
26 Gwelodd yr ARGLWYDD fod cystudd Israel yn flin iawn i gaeth a rhydd fel ei gilydd, ac nid oedd neb i gynorthwyo Israel.
27Or l'Eternel n'avait point résolu d'effacer le nom d'Israël de dessous les cieux, et il les délivra par Jéroboam, fils de Joas.
27 Ond nid oedd yr ARGLWYDD wedi dweud y dileai enw Israel yn llwyr, a gwaredodd hwy drwy Jeroboam fab Jehoahas.
28Le reste des actions de Jéroboam, tout ce qu'il a fait, ses exploits à la guerre, et comment il fit rentrer sous la puissance d'Israël Damas et Hamath qui avaient appartenu à Juda, cela n'est-il pas écrit dans le livre des Chroniques des rois d'Israël?
28 Am weddill hanes Jeroboam, a'r cwbl a wnaeth, a'i wrhydri wrth ymladd ac wrth adfer Damascus a Hamath-iawdi i Israel, onid yw wedi ei ysgrif-ennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
29Jéroboam se coucha avec ses pères, avec les rois d'Israël. Et Zacharie, son fils, régna à sa place.
29 Bu farw Jeroboam, a'i gladdu gyda brenhinoedd Israel, a daeth ei fab Sechareia yn frenin yn ei le.