1Darum sollen wir desto mehr auf das achten, was wir gehört haben, damit wir nicht etwa daran vorbeigleiten.
1 Am hynny, rhaid i ni ddal yn fwy gofalus ar y pethau a glywyd, rhag inni fynd gyda'r llif.
2Denn wenn das durch Engel gesprochene Wort zuverlässig war und jede Übertretung und jeder Ungehorsam den gerechten Lohn empfing,
2 Oherwydd os oedd y gair a lefarwyd drwy angylion yn sicr, ac os derbyniodd pob trosedd ac anufudd-dod ei gyfiawn d�l,
3wie wollen wir entfliehen, wenn wir ein so großes Heil versäumen, welches zuerst durch den Herrn gepredigt wurde und dann von denen, die ihn gehört hatten, uns bestätigt worden ist?
3 pa fodd y dihangwn ni, os esgeuluswn iachawdwriaeth mor fawr�iachawdwriaeth a gafodd ei chyhoeddi gyntaf drwy enau'r Arglwydd, a'i chadarnhau wedyn i ni gan y rhai oedd wedi ei glywed,
4Und Gott gab sein Zeugnis dazu mit Zeichen und Wundern und mancherlei Kraftwirkungen und Austeilungen des heiligen Geistes nach seinem Willen.
4 a Duw yn cyd-dystio drwy arwyddion a rhyfeddodau, a gwyrthiau amrywiol, a thrwy gyfraniadau'r Ysbryd Gl�n, yn �l ei ewyllys ei hun?
5Denn nicht Engeln hat er die zukünftige Welt, von der wir reden, unterstellt.
5 Oherwydd nid i angylion y darostyngodd ef y byd a ddaw, y byd yr ydym yn s�n amdano.
6Es bezeugt aber einer irgendwo und spricht: «Was ist der Mensch, daß du seiner gedenkst, oder des Menschen Sohn, daß du zu ihm siehst?
6 Tystiolaethodd rhywun yn rhywle yn y geiriau hyn: "Beth yw dyn, iti ei gofio, a mab dyn, iti ofalu amdano?
7Du hast ihn ein wenig niedriger gemacht als die Engel, mit Herrlichkeit und Ehre hast du ihn gekrönt; alles hast du unter seine Füße getan.»
7 Gwnaethost ef am ryw ychydig yn is na'r angylion; coronaist ef � gogoniant ac anrhydedd.
8Indem er ihm aber alles unterwarf, ließ er ihm nichts ununterworfen; jetzt aber sehen wir, daß ihm noch nicht alles unterworfen ist;
8 Darostyngaist bob peth dan ei draed ef." Wrth ddarostwng pob peth iddo, ni adawodd ddim heb ei ddarostwng iddo. Ond yn awr nid ydym hyd yma yn gweld pob peth wedi ei ddarostwng iddo;
9den aber, der ein wenig unter die Engel erniedrigt worden ist, Jesus, sehen wir wegen des Todesleidens mit Herrlichkeit und Ehre gekrönt, damit er durch Gottes Gnade für jedermann den Tod schmeckte.
9 eithr yr ydym yn gweld Iesu, yr un a wnaed am ryw ychydig yn is na'r angylion, wedi ei goroni � gogoniant ac anrhydedd oherwydd iddo ddioddef marwolaeth, er mwyn iddo, trwy ras Duw, brofi marwolaeth dros bob dyn.
10Denn es ziemte dem, um dessentwillen alles und durch den alles ist, als er viele Kinder zur Herrlichkeit führte, den Anführer ihres Heils durch Leiden zu vollenden.
10 Oherwydd yr oedd yn gweddu i Dduw, yr hwn y mae popeth yn bod er ei fwyn a phopeth yn bod drwyddo, wrth ddwyn pobl lawer i ogoniant, wneud tywysog eu hiachawdwriaeth yn berffaith trwy ddioddefiadau.
11Denn sowohl der, welcher heiligt, als auch die, welche geheiligt werden, stammen alle von einem ab.
11 Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a'r rhai sy'n cael eu sancteiddio, o'r un cyff y maent oll. Dyna pam nad oes arno gywilydd eu galw hwy'n berthnasau iddo'i hun.
12Aus diesem Grunde schämt er sich auch nicht, sie Brüder zu nennen, sondern spricht: «Ich will deinen Namen meinen Brüdern verkündigen; inmitten der Gemeinde will ich dir lobsingen!»
12 Y mae'n dweud: "Fe gyhoeddaf dy enw i'm perthnasau, a chanu mawl iti yng nghanol y gynulleidfa";
13Und wiederum: «Ich will mein Vertrauen auf ihn setzen»; und wiederum: «Siehe, ich und die Kinder, die mir Gott gegeben hat.»
13 ac eto: "Ynddo ef y byddaf fi'n ymddiried"; ac eto fyth: "Wele fi a'r plant a roes Duw imi."
14Da nun die Kinder Fleisch und Blut gemeinsam haben, ist er in ähnlicher Weise dessen teilhaftig geworden, damit er durch den Tod den außer Wirksamkeit setzte, der des Todes Gewalt hat, nämlich den Teufel,
14 Felly, gan fod y plant yn cydgyfranogi o'r un cig a gwaed, y mae yntau, yr un modd, wedi cyfranogi o'r cig a gwaed hwnnw, er mwyn iddo, trwy farwolaeth, ddiddymu'r hwn sydd � grym dros farwolaeth, sef y diafol,
15und alle diejenigen befreite, welche durch Todesfurcht ihr ganzes Leben hindurch in Knechtschaft gehalten wurden.
15 a rhyddhau'r rheini oll oedd, trwy ofn marwolaeth, wedi eu dal mewn caethiwed ar hyd eu hoes.
16Denn er nimmt sich ja nicht der Engel an, sondern des Samens Abrahams nimmt er sich an.
16 Yn sicr, gafael y mae yn nisgynyddion Abraham ac nid mewn angylion.
17Daher mußte er in allem den Brüdern ähnlich werden, damit er barmherzig würde und ein treuer Hoherpriester vor Gott, um die Sünden des Volkes zu sühnen;
17 Am hynny, yr oedd yn rhaid iddo, ym mhob peth, gael ei wneud yn debyg i'w berthnasau, er mwyn iddo fod yn archoffeiriad tosturiol a ffyddlon, gerbron Duw, i fod yn aberth cymod dros bechodau'r bobl.
18denn worin er selbst gelitten hat, als er versucht wurde, kann er denen helfen, die versucht werden.
18 Oherwydd, am iddo ef ei hun ddioddef a chael ei demtio, y mae'n gallu cynorthwyo'r rhai sydd yn cael eu temtio.