1ויביאו את ארון האלהים ויציגו אתו בתוך האהל אשר נטה לו דויד ויקריבו עלות ושלמים לפני האלהים׃
1 Daethant ag arch Duw a'i gosod yng nghanol y babell a gododd Dafydd iddi, ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau o flaen Duw.
2ויכל דויד מהעלות העלה והשלמים ויברך את העם בשם יהוה׃
2 Wedi iddo orffen aberthu'r poethoffrwm a'r heddoffrymau, bendithiodd Dafydd y bobl yn enw'r ARGLWYDD,
3ויחלק לכל איש ישראל מאיש ועד אשה לאיש ככר לחם ואשפר ואשישה׃
3 a rhannodd i bob un o'r Israeliaid, yn wu375?r a gwragedd, dorth o fara, darn o gig a swp o rawnwin.
4ויתן לפני ארון יהוה מן הלוים משרתים ולהזכיר ולהודות ולהלל ליהוה אלהי ישראל׃
4 Penododd rai o'r Lefiaid i wasanaethu o flaen arch yr ARGLWYDD, i goff�u a moliannu a chlodfori ARGLWYDD Dduw Israel:
5אסף הראש ומשנהו זכריה יעיאל ושמירמות ויחיאל ומתתיה ואליאב ובניהו ועבד אדם ויעיאל בכלי נבלים ובכנרות ואסף במצלתים משמיע׃
5 Asaff yn gyntaf, ac ar ei �l ef Sechareia, Jeiel, Semiramoth, Jehiel, Matitheia, Eliab, Benaia ac Obed-edom. Yr oedd gan Jeiel nablau a thelynau, ac yr oedd Asaff yn canu'r symbalau.
6ובניהו ויחזיאל הכהנים בחצצרות תמיד לפני ארון ברית האלהים׃
6 Yr oedd yr offeiriaid Benaia a Jahasiel i chwythu trwmpedau yn barhaus o flaen arch cyfamod Duw.
7ביום ההוא אז נתן דויד בראש להדות ליהוה ביד אסף ואחיו׃
7 Y pryd hwnnw y rhoddodd Dafydd am y tro cyntaf i Asaff a'i frodyr y moliant hwn i'r ARGLWYDD:
8הודו ליהוה קראו בשמו הודיעו בעמים עלילתיו׃
8 Diolchwch i'r ARGLWYDD! Galwch ar ei enw, gwnewch yn hysbys ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
9שירו לו זמרו לו שיחו בכל נפלאתיו׃
9 Canwch iddo, moliannwch ef, dywedwch am ei holl ryfeddodau.
10התהללו בשם קדשו ישמח לב מבקשי יהוה׃
10 Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd, llawenhaed calon y rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD.
11דרשו יהוה ועזו בקשו פניו תמיד׃
11 Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth, ceisiwch ei wyneb bob amser.
12זכרו נפלאתיו אשר עשה מפתיו ומשפטי פיהו׃
12 Cofiwch y rhyfeddodau a wnaeth, ei wyrthiau a'r barnedigaethau a gyhoeddodd,
13זרע ישראל עבדו בני יעקב בחיריו׃
13 chwi ddisgynyddion Israel, ei was, chwi blant Jacob, ei etholedig.
14הוא יהוה אלהינו בכל הארץ משפטיו׃
14 Ef yw'r ARGLWYDD ein Duw, ac y mae ei farnedigaethau dros yr holl ddaear.
15זכרו לעולם בריתו דבר צוה לאלף דור׃
15 Cofiwch ei gyfamod dros byth, gair ei orchymyn hyd fil o genedlaethau,
16אשר כרת את אברהם ושבועתו ליצחק׃
16 sef y cyfamod a wnaeth ag Abraham, a'i lw i Isaac,
17ויעמידה ליעקב לחק לישראל ברית עולם׃
17 yr hyn a osododd yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel,
18לאמר לך אתן ארץ כנען חבל נחלתכם׃
18 a dweud, "I chwi y rhoddaf wlad Canaan yn gyfran eich etifeddiaeth."
19בהיותכם מתי מספר כמעט וגרים בה׃
19 Pan oeddech yn fychan o rif, yn ychydig, ac yn grwydriaid yn y wlad,
20ויתהלכו מגוי אל גוי ומממלכה אל עם אחר׃
20 yn crwydro o genedl i genedl, ac o un deyrnas at bobl eraill,
21לא הניח לאיש לעשקם ויוכח עליהם מלכים׃
21 ni adawodd i neb eich darostwng, ond ceryddodd frenhinoedd o'ch achos,
22אל תגעו במשיחי ובנביאי אל תרעו׃
22 a dweud, "Peidiwch � chyffwrdd �'m heneiniog, na gwneud niwed i'm proffwydi."
23שירו ליהוה כל הארץ בשרו מיום אל יום ישועתו׃
23 Canwch i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear, cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth.
24ספרו בגוים את כבודו בכל העמים נפלאתיו׃
24 Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd, ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd.
25כי גדול יהוה ומהלל מאד ונורא הוא על כל אלהים׃
25 Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl; y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau.
26כי כל אלהי העמים אלילים ויהוה שמים עשה׃
26 Eilunod yw holl dduwiau'r bobloedd, ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.
27הוד והדר לפניו עז וחדוה במקמו׃
27 Y mae anrhydedd a mawredd o'i flaen, nerth a llawenydd yn ei fangre ef.
28הבו ליהוה משפחות עמים הבו ליהוה כבוד ועז׃
28 Rhowch i'r ARGLWYDD, dylwythau'r cenhedloedd, rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd a nerth;
29הבו ליהוה כבוד שמו שאו מנחה ובאו לפניו השתחוו ליהוה בהדרת קדש׃
29 rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd ei enw, dygwch offrwm a dewch o'i flaen. Ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd.
30חילו מלפניו כל הארץ אף תכון תבל בל תמוט׃
30 Crynwch o'i flaen, yr holl ddaear; yn awr y mae'r byd yn sicr, ac nis symudir.
31ישמחו השמים ותגל הארץ ויאמרו בגוים יהוה מלך׃
31 Bydded y nefoedd yn llawen a gorfoledded y ddaear, a dywedent ymhlith y cenhedloedd, "Y mae'r ARGLWYDD yn frenin."
32ירעם הים ומלואו יעלץ השדה וכל אשר בו׃
32 Rhued y m�r a'r cyfan sydd ynddo, llawenyched y maes a phopeth sydd ynddo.
33אז ירננו עצי היער מלפני יהוה כי בא לשפוט את הארץ׃
33 Yna bydd prennau'r goedwig yn canu'n llawen o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n dod i farnu'r ddaear.
34הודו ליהוה כי טוב כי לעולם חסדו׃
34 Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw, ac y mae ei gariad hyd byth.
35ואמרו הושיענו אלהי ישענו וקבצנו והצילנו מן הגוים להדות לשם קדשך להשתבח בתהלתך׃
35 Dywedwch, "Achub ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth; cynnull ni ac arbed ni o blith y cenhedloedd, inni gael rhoi diolch i'th enw sanctaidd ac ymhyfrydu yn dy fawl."
36ברוך יהוה אלהי ישראל מן העולם ועד העלם ויאמרו כל העם אמן והלל ליהוה׃
36 Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. A dywedodd yr holl bobl, "Amen", a moli'r ARGLWYDD.
37ויעזב שם לפני ארון ברית יהוה לאסף ולאחיו לשרת לפני הארון תמיד לדבר יום ביומו׃
37 A gadawodd Dafydd Asaff a'i frodyr o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD i wasanaethu yno'n barhaol yn �l gofynion pob dydd.
38ועבד אדם ואחיהם ששים ושמונה ועבד אדם בן ידיתון וחסה לשערים׃
38 Gadawodd yno hefyd Obed-edom gyda'i wyth brawd a thrigain; Obed-edom fab Jeduthun, a Hosa, oedd i fod yn borthorion.
39ואת צדוק הכהן ואחיו הכהנים לפני משכן יהוה בבמה אשר בגבעון׃
39 Ond gadawodd ef Sadoc yr offeiriad, a'i frodyr yr offeiriaid, o flaen tabernacl yr ARGLWYDD yn yr uchelfa yn Gibeon,
40להעלות עלות ליהוה על מזבח העלה תמיד לבקר ולערב ולכל הכתוב בתורת יהוה אשר צוה על ישראל׃
40 i aberthu poethoffrymau i'r ARGLWYDD ar allor y poethoffrwm yn gyson fore a hwyr fel sy'n ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD, a orchmynnodd ef i Israel.
41ועמהם הימן וידותון ושאר הברורים אשר נקבו בשמות להדות ליהוה כי לעולם חסדו׃
41 Gyda hwy yr oedd Heman, Jeduthun a'r rhai eraill oedd wedi eu hethol a'u henwi i foliannu'r ARGLWYDD am fod ei gariad hyd byth.
42ועמהם הימן וידותון חצצרות ומצלתים למשמיעים וכלי שיר האלהים ובני ידותון לשער׃
42 Heman a Jeduthun oedd yn gofalu am yr trwmpedau a'r symbalau a'r offerynnau cerdd cysegredig ar gyfer y cantorion. A meibion Jeduthun oedd yn gofalu am y porth.
43וילכו כל העם איש לביתו ויסב דויד לברך את ביתו׃
43 Yna aeth pawb adref a dychwelodd Dafydd i gyfarch ei deulu.