1ויהי אחרי כן ויך דויד את פלשתים ויכניעם ויקח את גת ובנתיה מיד פלשתים׃
1 Wedi hyn gorchfygodd Dafydd y Philistiaid a'u darostwng, a chipiodd Gath a'i phentrefi oddi arnynt.
2ויך את מואב ויהיו מואב עבדים לדויד נשאי מנחה׃
2 Yna gorchfygodd y Moabiaid, a daethant hwy yn ddeiliaid iddo gan dalu treth.
3ויך דויד את הדדעזר מלך צובה חמתה בלכתו להציב ידו בנהר פרת׃
3 Gorchfygodd Dafydd hefyd Hadadeser brenin Soba hyd Hamath, pan oedd hwnnw ar ei ffordd i sefydlu ei awdurdod ar lan afon Ewffrates.
4וילכד דויד ממנו אלף רכב ושבעת אלפים פרשים ועשרים אלף איש רגלי ויעקר דויד את כל הרכב ויותר ממנו מאה רכב׃
4 Cipiodd Dafydd oddi arno fil o gerbydau, saith mil o farchogion ac ugain mil o wu375?r traed. Cadwodd Dafydd gant o feirch cerbyd, ond torrodd linynnau gar y lleill i gyd.
5ויבא ארם דרמשק לעזור להדדעזר מלך צובה ויך דויד בארם עשרים ושנים אלף איש׃
5 Pan ddaeth Syriaid Damascus i helpu Hadadeser brenin Soba, trawodd Dafydd ddwy fil ar hugain ohonynt.
6וישם דויד בארם דרמשק ויהי ארם לדויד עבדים נשאי מנחה ויושע יהוה לדויד בכל אשר הלך׃
6 Yna fe osododd Dafydd garsiynau ymhlith Syriaid Damascus, a daeth y Syriaid yn weision i Ddafydd a thalu treth iddo. Yr oedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Ddafydd ple bynnag yr �i.
7ויקח דויד את שלטי הזהב אשר היו על עבדי הדדעזר ויביאם ירושלם׃
7 Cymerodd Dafydd y tarianau aur oedd gan weision Hadadeser, a dygodd hwy i Jerwsalem.
8ומטבחת ומכון ערי הדדעזר לקח דויד נחשת רבה מאד בה עשה שלמה את ים הנחשת ואת העמודים ואת כלי הנחשת׃
8 Hefyd, o Tibhath a Chun, trefi Hadadeser, fe gymerodd Dafydd lawer iawn o bres a ddefnyddiwyd gan Solomon i wneud y m�r pres a'r colofnau a'r llestri pres.
9וישמע תעו מלך חמת כי הכה דויד את כל חיל הדדעזר מלך צובה׃
9 Pan glywodd Toi brenin Hamath fod Dafydd wedi gorchfygu holl fyddin Hadadeser brenin Soba,
10וישלח את הדורם בנו אל המלך דויד לשאול לו לשלום ולברכו על אשר נלחם בהדדעזר ויכהו כי איש מלחמות תעו היה הדדעזר וכל כלי זהב וכסף ונחשת׃
10 fe anfonodd ei fab Hadoram i ddymuno'n dda i'r Brenin Dafydd a'i longyfarch am iddo ymladd yn erbyn Hadadeser a'i orchfygu; oherwydd bu Hadadeser yn rhyfela'n gyson yn erbyn Toi. Anfonodd hefyd lestri o arian ac o aur ac o bres,
11גם אתם הקדיש המלך דויד ליהוה עם הכסף והזהב אשר נשא מכל הגוים מאדום וממואב ומבני עמון ומפלשתים ומעמלק׃
11 a chysegrodd y Brenin Dafydd hwy i'r ARGLWYDD, yn ogystal �'r arian a'r aur a gymerodd oddi ar yr holl genhedloedd, sef Edom, Moab, yr Ammoniaid, y Philistiaid a'r Amaleciaid.
12ואבשי בן צרויה הכה את אדום בגיא המלח שמונה עשר אלף׃
12 Lladdodd Abisai fab Serfia ddeunaw mil o Edomiaid yn Nyffryn yr Halen;
13וישם באדום נציבים ויהיו כל אדום עבדים לדויד ויושע יהוה את דויד בכל אשר הלך׃
13 yna gosododd garsiynau yn Edom, a daeth yr Edomiaid i gyd yn ddeiliaid i Ddafydd. Yr oedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Ddafydd ple bynnag yr �i.
14וימלך דויד על כל ישראל ויהי עשה משפט וצדקה לכל עמו׃
14 Yr oedd Dafydd yn teyrnasu dros Israel gyfan, ac yn gweinyddu barn a chyfiawnder i'w holl bobl.
15ויואב בן צרויה על הצבא ויהושפט בן אחילוד מזכיר׃
15 Joab fab Serfia oedd dros y fyddin; Jehosaffat fab Ahilud yn gofiadur;
16וצדוק בן אחיטוב ואבימלך בן אביתר כהנים ושושא סופר׃
16 Sadoc fab Ahitub, ac Abimelech fab Abiathar yn offeiriaid; Safsa yn ysgrifennydd;
17ובניהו בן יהוידע על הכרתי והפלתי ובני דויד הראשנים ליד המלך׃
17 Benaia fab Jehoiada dros y Cerethiaid a'r Pelethiaid; a meibion Dafydd yn brif swyddogion yng ngwasanaeth y brenin.