1ויעמד שטן על ישראל ויסת את דויד למנות את ישראל׃
1 Cododd Satan yn erbyn Israel ac annog Dafydd i gyfrif yr Israeliaid.
2ויאמר דויד אל יואב ואל שרי העם לכו ספרו את ישראל מבאר שבע ועד דן והביאו אלי ואדעה את מספרם׃
2 Felly dywedodd Dafydd wrth Joab a swyddogion y fyddin, "Ewch a chyf-rifwch Israel o Beerseba i Dan; yna dychwelwch ataf er mwyn i mi wybod eu nifer."
3ויאמר יואב יוסף יהוה על עמו כהם מאה פעמים הלא אדני המלך כלם לאדני לעבדים למה יבקש זאת אדני למה יהיה לאשמה לישראל׃
3 Dywedodd Joab, "Bydded i'r ARGLWYDD luosogi ei bobl ganwaith yr hyn ydynt. F'arglwydd frenin, onid gweision f'arglwydd ydynt i gyd? Pam y mae f'arglwydd yn gwneud ymholiad fel hyn? Pam y dylai camwedd ddod ar Israel?"
4ודבר המלך חזק על יואב ויצא יואב ויתהלך בכל ישראל ויבא ירושלם׃
4 Ond yr oedd gair y brenin yn drech na Joab, ac fe aeth Joab allan a thramwyo trwy holl Israel, a dychwelodd i Jerwsalem. Yna rhodd-odd swm y cyfrifiad o'r bobl i Ddafydd:
5ויתן יואב את מספר מפקד העם אל דויד ויהי כל ישראל אלף אלפים ומאה אלף איש שלף חרב ויהודה ארבע מאות ושבעים אלף איש שלף חרב׃
5 yr oedd yn Israel filiwn a chan mil o wu375?r a fedrai drin y cleddyf, ac yn Jwda bedwar cant saith deg o filoedd.
6ולוי ובנימן לא פקד בתוכם כי נתעב דבר המלך את יואב׃
6 Ond nid oedd Joab wedi cynnwys Lefi a Benjamin yn eu mysg am ei fod yn ffieiddio gorchymyn y brenin.
7וירע בעיני האלהים על הדבר הזה ויך את ישראל׃
7 Yr oedd hyn yn ddrwg yng ngolwg Duw, ac felly trawodd Israel.
8ויאמר דויד אל האלהים חטאתי מאד אשר עשיתי את הדבר הזה ועתה העבר נא את עוון עבדך כי נסכלתי מאד׃
8 A dywedodd Dafydd wrth Dduw, "Pechais yn fawr trwy wneud hyn; am hynny maddau i'th was, oherwydd b�m yn ff�l iawn."
9וידבר יהוה אל גד חזה דויד לאמר׃
9 Daeth gair yr ARGLWYDD at Gad, gweledydd Dafydd, gan ddweud,
10לך ודברת אל דויד לאמר כה אמר יהוה שלוש אני נטה עליך בחר לך אחת מהנה ואעשה לך׃
10 "Dos a dywed wrth Ddafydd, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf yn cynnig tri pheth iti; dewis di un ohonynt, ac fe'i gwnaf iti.'"
11ויבא גד אל דויד ויאמר לו כה אמר יהוה קבל לך׃
11 Daeth Gad at Ddafydd ac meddai wrtho, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
12אם שלוש שנים רעב ואם שלשה חדשים נספה מפני צריך וחרב אויבך למשגת ואם שלשת ימים חרב יהוה ודבר בארץ ומלאך יהוה משחית בכל גבול ישראל ועתה ראה מה אשיב את שלחי דבר׃
12 Dewis naill ai tair blynedd o newyn, neu dri mis o ffoi o flaen dy wrth-wynebwyr a chleddyf dy elynion yn dy oddiweddyd, neu dridiau o haint yn y wlad, sef cleddyf yr ARGLWYDD, ac angel yr ARGLWYDD yn dinistrio trwy holl derfynau Israel. Ystyria pa ateb a roddaf i'r un a'm hanfonodd."
13ויאמר דויד אל גד צר לי מאד אפלה נא ביד יהוה כי רבים רחמיו מאד וביד אדם אל אפל׃
13 Dywedodd Dafydd wrth Gad, "Y mae'n gyfyng iawn arnaf, ond bydded imi syrthio i law'r ARGLWYDD, am fod ei drugareddau'n aml, yn hytrach nag imi syrthio i law dynion."
14ויתן יהוה דבר בישראל ויפל מישראל שבעים אלף איש׃
14 Felly anfonodd yr ARGLWYDD haint ar Israel, a bu farw deng mil a thrigain o'r bobl.
15וישלח האלהים מלאך לירושלם להשחיתה וכהשחית ראה יהוה וינחם על הרעה ויאמר למלאך המשחית רב עתה הרף ידך ומלאך יהוה עמד עם גרן ארנן היבוסי׃
15 Anfonodd Duw hefyd angel i Jerwsalem i'w dinistrio, ond fel yr oedd ar fin ei dinistrio edrychodd yr ARGLWYDD ac edifarhaodd am y niwed, a dywedodd wrth yr angel oedd yn gyfrifol am y dinistr, "Digon bellach! Atal dy law." Yr oedd angel yr ARGLWYDD yn ymyl llawr dyrnu Ornan y Jebusiad.
16וישא דויד את עיניו וירא את מלאך יהוה עמד בין הארץ ובין השמים וחרבו שלופה בידו נטויה על ירושלם ויפל דויד והזקנים מכסים בשקים על פניהם׃
16 Yna edrychodd Dafydd a gweld angel yr ARGLWYDD yn sefyll rhwng daear a nefoedd, �'i gleddyf noeth yn ei law wedi ei estyn dros Jerwsalem; ac fe syrthiodd Dafydd a'r henuriaid, a oedd wedi eu gwisgo mewn sachliain, ar eu hwynebau.
17ויאמר דויד אל האלהים הלא אני אמרתי למנות בעם ואני הוא אשר חטאתי והרע הרעותי ואלה הצאן מה עשו יהוה אלהי תהי נא ידך בי ובבית אבי ובעמך לא למגפה׃
17 Dywedodd Dafydd wrth Dduw, "Onid myfi a orchmynnodd rifo'r bobl? Onid myfi sydd wedi pechu a gwneud drwg? Am y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? O ARGLWYDD fy Nuw, bydded dy law yn f'erbyn i a'm teulu, ond paid ag anfon pla ar dy bobl."
18ומלאך יהוה אמר אל גד לאמר לדויד כי יעלה דויד להקים מזבח ליהוה בגרן ארנן היבסי׃
18 Yna dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Gad am orchymyn i Ddafydd fynd i fyny a chodi allor i'r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Ornan y Jebusiad.
19ויעל דויד בדבר גד אשר דבר בשם יהוה׃
19 Felly fe aeth Dafydd, ar air Gad, fel y gorchmynnodd yn enw'r ARGLWYDD.
20וישב ארנן וירא את המלאך וארבעת בניו עמו מתחבאים וארנן דש חטים׃
20 Yr oedd Ornan yn dyrnu gwenith; trodd a gweld yr angel, ac aeth ei bedwar mab oedd gydag ef i ymguddio.
21ויבא דויד עד ארנן ויבט ארנן וירא את דויד ויצא מן הגרן וישתחו לדויד אפים ארצה׃
21 Daeth Dafydd at Ornan, a phan welodd Ornan ef aeth allan o'r llawr dyrnu ac ymgrymu iddo hyd lawr.
22ויאמר דויד אל ארנן תנה לי מקום הגרן ואבנה בו מזבח ליהוה בכסף מלא תנהו לי ותעצר המגפה מעל העם׃
22 Dywedodd Dafydd wrtho, "Rho i mi'r llawr dyrnu, er mwyn i mi godi allor yno i'r ARGLWYDD; rho ef i mi am ei lawn bris, er mwyn atal y pla rhag y bobl."
23ויאמר ארנן אל דויד קח לך ויעש אדני המלך הטוב בעיניו ראה נתתי הבקר לעלות והמורגים לעצים והחטים למנחה הכל נתתי׃
23 Meddai Ornan wrth Ddafydd, "Cymered f'arglwydd frenin ef a gwneud yr hyn a fyn; edrych, yr wyf yn rhoi'r ychen ar gyfer y poethoffrymau, a'r offer dyrnu yn danwydd a'r gwenith yn fwydoffrwm. Fe gei'r cwbl gennyf."
24ויאמר המלך דויד לארנן לא כי קנה אקנה בכסף מלא כי לא אשא אשר לך ליהוה והעלות עולה חנם׃
24 Ond dywedodd y brenin wrth Ornan, "Na, rhaid i mi ei brynu am ei lawn werth. Ni chymeraf yr hyn sydd eiddot ti ac aberthu i'r ARGLWYDD boethoffrwm di-gost."
25ויתן דויד לארנן במקום שקלי זהב משקל שש מאות׃
25 Felly talodd Dafydd chwe chan sicl o aur wrth eu pwysau i Ornan am y lle;
26ויבן שם דויד מזבח ליהוה ויעל עלות ושלמים ויקרא אל יהוה ויענהו באש מן השמים על מזבח העלה׃
26 a chododd yno allor i'r ARGLWYDD, ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau. Galwodd ar yr ARGLWYDD, ac atebodd yntau ef trwy anfon t�n o'r nefoedd ar allor y poethoffrwm.
27ויאמר יהוה למלאך וישב חרבו אל נדנה׃
27 A gorchmynnodd yr ARGLWYDD i'r angel roi ei gleddyf yn �l yn ei wain.
28בעת ההיא בראות דויד כי ענהו יהוה בגרן ארנן היבוסי ויזבח שם׃
28 Y pryd hwnnw, pan welodd Dafydd fod yr ARGLWYDD wedi ei ateb yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad, fe aberthodd yno.
29ומשכן יהוה אשר עשה משה במדבר ומזבח העולה בעת ההיא בבמה בגבעון׃
29 Yr oedd tabernacl yr ARGLWYDD, a wnaeth Moses yn yr anialwch, ac allor y poethoffrwm, yn yr uchelfa yn Gibeon y pryd hwnnw;
30ולא יכל דויד ללכת לפניו לדרש אלהים כי נבעת מפני חרב מלאך יהוה׃
30 ond ni allai Dafydd fynd o'i flaen i ymofyn � Duw am ei fod yn ofni cleddyf angel yr ARGLWYDD.