Hebrew: Modern

Welsh

1 Kings

14

1בעת ההיא חלה אביה בן ירבעם׃
1 Yr adeg honno clafychodd Abeia, mab Jeroboam.
2ויאמר ירבעם לאשתו קומי נא והשתנית ולא ידעו כי אתי אשת ירבעם והלכת שלה הנה שם אחיה הנביא הוא דבר עלי למלך על העם הזה׃
2 A dywedodd Jeroboam wrth ei wraig, "Newid dy ddiwyg rhag i neb wybod mai gwraig Jeroboam ydwyt; yna dos i Seilo, lle mae'r proffwyd Aheia, a ddywedodd wrthyf y byddwn yn frenin ar y bobl hyn.
3ולקחת בידך עשרה לחם ונקדים ובקבק דבש ובאת אליו הוא יגיד לך מה יהיה לנער׃
3 Cymer yn dy law ddeg torth, teisennau a phot o f�l, a dos ato; ac fe ddywed wrthyt sut y bydd hi ar y llanc."
4ותעש כן אשת ירבעם ותקם ותלך שלה ותבא בית אחיה ואחיהו לא יכל לראות כי קמו עיניו משיבו׃
4 Gwnaeth gwraig Jeroboam felly; aeth draw i Seilo a dod i du375? Aheia. Yr oedd Aheia'n methu gweld, am fod ei lygaid wedi pylu gan henaint.
5ויהוה אמר אל אחיהו הנה אשת ירבעם באה לדרש דבר מעמך אל בנה כי חלה הוא כזה וכזה תדבר אליה ויהי כבאה והיא מתנכרה׃
5 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aheia, "Y mae gwraig Jeroboam yn dod atat i geisio gair gennyt ynglu375?n �'i mab sy'n glaf; y peth a'r peth a ddywedi wrthi. Ond pan ddaw, bydd yn cymryd arni fod yn rhywun arall."
6ויהי כשמע אחיהו את קול רגליה באה בפתח ויאמר באי אשת ירבעם למה זה את מתנכרה ואנכי שלוח אליך קשה׃
6 Pan glywodd Aheia su373?n ei thraed yn cyrraedd y drws, dywedodd, "Tyrd i mewn, wraig Jeroboam; pam yr wyt ti'n cymryd arnat fod yn rhywun arall? Newydd drwg sydd gennyf i ti.
7לכי אמרי לירבעם כה אמר יהוה אלהי ישראל יען אשר הרימתיך מתוך העם ואתנך נגיד על עמי ישראל׃
7 Dywed wrth Jeroboam, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: Dyrchefais di o blith y bobl a'th osod yn dywysog ar fy mhobl Israel,
8ואקרע את הממלכה מבית דוד ואתנה לך ולא היית כעבדי דוד אשר שמר מצותי ואשר הלך אחרי בכל לבבו לעשות רק הישר בעיני׃
8 a rhwygais y deyrnas oddi ar linach Dafydd a'i rhoi i ti. Ond ni fuost fel fy ngwas Dafydd, yn cadw fy ngorchmynion ac yn fy nghanlyn �'i holl galon, i wneud yn unig yr hyn oedd yn uniawn yn fy ngolwg.
9ותרע לעשות מכל אשר היו לפניך ותלך ותעשה לך אלהים אחרים ומסכות להכעיסני ואתי השלכת אחרי גוך׃
9 Yn hytrach gwnaethost fwy o ddrygioni na phawb o'th flaen. Buost yn gwneud duwiau estron a delwau tawdd er mwyn fy nghythruddo, a bwriaist fi heibio.
10לכן הנני מביא רעה אל בית ירבעם והכרתי לירבעם משתין בקיר עצור ועזוב בישראל ובערתי אחרי בית ירבעם כאשר יבער הגלל עד תמו׃
10 Felly dygaf ddrwg ar deulu Jeroboam, a difa pob gwryw, caeth neu rydd, sy'n perthyn iddo yn Israel; ysaf yn llwyr deulu Jeroboam, fel un yn llosgi gleuad, nes y bydd wedi llwyr ddarfod.
11המת לירבעם בעיר יאכלו הכלבים והמת בשדה יאכלו עוף השמים כי יהוה דבר׃
11 Bydd cu373?n yn bwyta'r rhai o deulu Jeroboam a fydd farw yn y ddinas, ac adar rheibus yn bwyta'r rhai a fydd farw yn y wlad. Yr ARGLWYDD a'i dywedodd.'
12ואת קומי לכי לביתך בבאה רגליך העירה ומת הילד׃
12 "Dos dithau adref. Pan fyddi'n cyrraedd y dref, bydd farw'r bachgen.
13וספדו לו כל ישראל וקברו אתו כי זה לבדו יבא לירבעם אל קבר יען נמצא בו דבר טוב אל יהוה אלהי ישראל בבית ירבעם׃
13 Bydd holl Israel yn galaru amdano ac yn dod i'w angladd, oherwydd hwn yn unig o deulu Jeroboam a gaiff feddrod, gan mai ynddo ef o blith teulu Jeroboam y cafodd ARGLWYDD Dduw Israel ryw gymaint o ddaioni.
14והקים יהוה לו מלך על ישראל אשר יכרית את בית ירבעם זה היום ומה גם עתה׃
14 Fe gyfyd yr ARGLWYDD iddo'i hun frenin ar Israel a fydd yn difodi tylwyth Jeroboam y dydd hwn � yr awr hon, ond odid.
15והכה יהוה את ישראל כאשר ינוד הקנה במים ונתש את ישראל מעל האדמה הטובה הזאת אשר נתן לאבותיהם וזרם מעבר לנהר יען אשר עשו את אשריהם מכעיסים את יהוה׃
15 A bydd yr ARGLWYDD yn taro Israel nes y bydd yn siglo fel brwynen mewn llif, ac yn diwreiddio Israel o'r tir da hwn a roddodd i'w hynafiaid, a'u gwasgaru y tu hwnt i'r Ewffrates, am iddynt lunio'u delwau o Asera a chythruddo'r ARGLWYDD.
16ויתן את ישראל בגלל חטאות ירבעם אשר חטא ואשר החטיא את ישראל׃
16 Bydd yn gwrthod Israel, o achos y pechod a wnaeth Jeroboam, a barodd i Israel bechu."
17ותקם אשת ירבעם ותלך ותבא תרצתה היא באה בסף הבית והנער מת׃
17 Aeth gwraig Jeroboam yn �l i Tirsa, ac fel yr oedd hi'n cyrraedd trothwy'r tu375?, bu farw'r llanc.
18ויקברו אתו ויספדו לו כל ישראל כדבר יהוה אשר דבר ביד עבדו אחיהו הנביא׃
18 Daeth holl Israel i'w gladdu ac i alaru ar ei �l, fel y llefarodd yr ARGLWYDD drwy ei was, y proffwyd Aheia.
19ויתר דברי ירבעם אשר נלחם ואשר מלך הנם כתובים על ספר דברי הימים למלכי ישראל׃
19 Y mae gweddill hanes Jeroboam, ei ryfeloedd a'i deyrnasiad, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel.
20והימים אשר מלך ירבעם עשרים ושתים שנה וישכב עם אבתיו וימלך נדב בנו תחתיו׃
20 Dwy flynedd ar hugain oedd hyd y cyfnod y bu Jeroboam yn frenin; yna bu farw, a daeth ei fab Nadab yn frenin yn ei le.
21ורחבעם בן שלמה מלך ביהודה בן ארבעים ואחת שנה רחבעם במלכו ושבע עשרה שנה מלך בירושלם העיר אשר בחר יהוה לשום את שמו שם מכל שבטי ישראל ושם אמו נעמה העמנית׃
21 Daeth Rehoboam fab Solomon yn frenin ar Jwda; un a deugain oed oedd ef pan ddechreuodd deyrnasu, a bu'n frenin am ddwy flynedd ar bymtheg yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisodd yr ARGLWYDD allan o holl lwythau Israel i osod ei enw yno. Naama yr Ammones oedd enw mam Rehoboam.
22ויעש יהודה הרע בעיני יהוה ויקנאו אתו מכל אשר עשו אבתם בחטאתם אשר חטאו׃
22 Gwnaeth Jwda ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'i ddigio'n fwy �'u pechodau nag a wnaeth eu hynafiaid.
23ויבנו גם המה להם במות ומצבות ואשרים על כל גבעה גבהה ותחת כל עץ רענן׃
23 Buont hefyd yn codi uchelfeydd a cholofnau i Baal ac Asera ar bob bryn uchel a than bob pren gwyrddlas;
24וגם קדש היה בארץ עשו ככל התועבת הגוים אשר הוריש יהוה מפני בני ישראל׃
24 ac yr oedd puteinwyr y cysegr drwy'r wlad. Gwnaethant ffieidd-dra, yn hollol fel y cenhedloedd a ddisodlodd yr ARGLWYDD o flaen yr Israeliaid.
25ויהי בשנה החמישית למלך רחבעם עלה שושק מלך מצרים על ירושלם׃
25 Ym mhumed flwyddyn y Brenin Rehoboam, daeth Sisac brenin yr Aifft i fyny yn erbyn Jerwsalem,
26ויקח את אצרות בית יהוה ואת אוצרות בית המלך ואת הכל לקח ויקח את כל מגני הזהב אשר עשה שלמה׃
26 a dwyn holl drysorau tu375?'r ARGLWYDD a thu375?'r brenin, a dwyn hefyd yr holl darianau aur a wnaeth Solomon.
27ויעש המלך רחבעם תחתם מגני נחשת והפקיד על יד שרי הרצים השמרים פתח בית המלך׃
27 Yn eu lle gwnaeth y Brenin Rehoboam darianau pres, a'u rhoi yng ngofal swyddogion y gwarchodlu oedd yn gwylio porth tu375?'r brenin.
28ויהי מדי בא המלך בית יהוה ישאום הרצים והשיבום אל תא הרצים׃
28 Bob tro yr �i'r brenin i du375?'r ARGLWYDD, gwisgai'r gwarchodlu hwy ac yna'u dychwelyd i'r wardws.
29ויתר דברי רחבעם וכל אשר עשה הלא המה כתובים על ספר דברי הימים למלכי יהודה׃
29 Ac onid yw gweddill hanes Rehoboam, a'r cwbl a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion bren-hinoedd Jwda?
30ומלחמה היתה בין רחבעם ובין ירבעם כל הימים׃
30 Bu rhyfel rhwng Rehoboam a Jeroboam trwy gydol yr amser.
31וישכב רחבעם עם אבתיו ויקבר עם אבתיו בעיר דוד ושם אמו נעמה העמנית וימלך אבים בנו תחתיו׃
31 Pan fu farw Rehoboam, claddwyd ef gyda hwy yn Ninas Dafydd. Naama yr Ammones oedd enw ei fam, a'i fab Abeiam a ddaeth yn frenin yn ei le.