Hebrew: Modern

Welsh

1 Kings

20

1ובן הדד מלך ארם קבץ את כל חילו ושלשים ושנים מלך אתו וסוס ורכב ויעל ויצר על שמרון וילחם בה׃
1 Casglodd Ben-hadad brenin Syria ei holl lu, gyda meirch a cherbydau, a deuddeg ar hugain o frenhinoedd gydag ef, ac aeth i warchae ar Samaria a brwydro yn ei herbyn.
2וישלח מלאכים אל אחאב מלך ישראל העירה׃
2 Anfonodd negesyddion i'r ddinas at Ahab brenin Israel,
3ויאמר לו כה אמר בן הדד כספך וזהבך לי הוא ונשיך ובניך הטובים לי הם׃
3 a dweud wrtho, "Fel hyn y dywed Ben-hadad: 'Fi piau dy arian a'th aur, a hefyd dy wragedd a'th blant tecaf.'"
4ויען מלך ישראל ויאמר כדברך אדני המלך לך אני וכל אשר לי׃
4 Atebodd brenin Israel, "Fel y dywedi, f'arglwydd frenin; ti piau fi a phopeth a feddaf."
5וישבו המלאכים ויאמרו כה אמר בן הדד לאמר כי שלחתי אליך לאמר כספך וזהבך ונשיך ובניך לי תתן׃
5 Ond daeth y negesyddion yn �l drachefn a dweud, "Fel hyn y dywed Ben-hadad: 'Anfonais atat a dweud, "Dy arian a'th aur, a hefyd dy wragedd a'th blant a roddi imi";
6כי אם כעת מחר אשלח את עבדי אליך וחפשו את ביתך ואת בתי עבדיך והיה כל מחמד עיניך ישימו בידם ולקחו׃
6 ond yr adeg yma yfory byddaf yn anfon fy ngweision atat i chwilio dy du375? a thai dy weision, a chipio popeth dymunol yn dy olwg a'i ddwyn ymaith.'"
7ויקרא מלך ישראל לכל זקני הארץ ויאמר דעו נא וראו כי רעה זה מבקש כי שלח אלי לנשי ולבני ולכספי ולזהבי ולא מנעתי ממנו׃
7 Yna galwodd brenin Israel holl henuriaid y wlad a dweud, "Sylwch fel y mae hwn am fynnu helynt. Oherwydd pan anfonodd ataf am fy ngwragedd a'm plant, a'm harian a'm haur, nid oeddwn yn eu gomedd iddo."
8ויאמרו אליו כל הזקנים וכל העם אל תשמע ולוא תאבה׃
8 Dywedodd yr henuriaid i gyd a'r holl bobl wrtho, "Paid � gwrando, a phaid � chytuno."
9ויאמר למלאכי בן הדד אמרו לאדני המלך כל אשר שלחת אל עבדך בראשנה אעשה והדבר הזה לא אוכל לעשות וילכו המלאכים וישבהו דבר׃
9 Yna dywedodd y brenin wrth negesyddion Ben-hadad, "Dywedwch wrth f'arglwydd frenin, 'Gwnaf bopeth a hawliaist gan dy was y tro cyntaf, ond ni allaf wneud y peth hwn.'" Ymadawodd y negesyddion a mynd �'r ateb i Ben-hadad.
10וישלח אליו בן הדד ויאמר כה יעשון לי אלהים וכה יוספו אם ישפק עפר שמרון לשעלים לכל העם אשר ברגלי׃
10 Anfonodd hwnnw'n �l a dweud, "Fel hyn y gwnelo'r duwiau i mi, a rhagor, os bydd llwch Samaria yn ddigon i wneud dyrnaid bob un i'r bobl sy'n fy nilyn."
11ויען מלך ישראל ויאמר דברו אל יתהלל חגר כמפתח׃
11 Ond ateb brenin Israel oedd, "Dywedwch wrtho, 'Peidied yr un sy'n codi arfau ag ymffrostio fel yr un sy'n eu rhoi i lawr.'"
12ויהי כשמע את הדבר הזה והוא שתה הוא והמלכים בסכות ויאמר אל עבדיו שימו וישימו על העיר׃
12 A phan glywodd Ben-hadad y dywediad hwn, ac yntau'n diota gyda'r brenhinoedd eraill yn y pebyll, dywedodd wrth ei weision, "Ymosodwch." Ac ymosodasant ar y ddinas.
13והנה נביא אחד נגש אל אחאב מלך ישראל ויאמר כה אמר יהוה הראית את כל ההמון הגדול הזה הנני נתנו בידך היום וידעת כי אני יהוה׃
13 Daeth rhyw broffwyd at Ahab brenin Israel a dweud wrtho, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'A weli di'r holl dyrfa fawr hon? Rhoddaf hi yn dy law heddiw, a chei wybod mai fi yw'r ARGLWYDD.'"
14ויאמר אחאב במי ויאמר כה אמר יהוה בנערי שרי המדינות ויאמר מי יאסר המלחמה ויאמר אתה׃
14 Gofynnodd Ahab, "Trwy bwy?" Ac atebodd, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Trwy filwyr ifainc llywodraethwyr y taleithiau.'" Yna gofynnodd, "Pwy sydd i gychwyn y frwydr?" Ac meddai'r proffwyd, "Tydi."
15ויפקד את נערי שרי המדינות ויהיו מאתים שנים ושלשים ואחריהם פקד את כל העם כל בני ישראל שבעת אלפים׃
15 Pan rifodd filwyr ifainc llywod-raethwyr y taleithiau, yr oedd dau gant tri deg a dau ohonynt, ac yna rhifodd holl bobl Israel, ac yr oedd saith mil.
16ויצאו בצהרים ובן הדד שתה שכור בסכות הוא והמלכים שלשים ושנים מלך עזר אתו׃
16 Ac aethant allan ganol dydd, pan oedd Ben-hadad yn meddwi yn y pebyll gyda'r deuddeg brenin ar hugain oedd yn ei gynorthwyo.
17ויצאו נערי שרי המדינות בראשנה וישלח בן הדד ויגידו לו לאמר אנשים יצאו משמרון׃
17 Daeth milwyr ifainc llywodraethwyr y taleithiau allan i ddechrau; ac anfonwyd neges at Ben-hadad fod dynion yn dod allan o Samaria.
18ויאמר אם לשלום יצאו תפשום חיים ואם למלחמה יצאו חיים תפשום׃
18 Dywedodd, "Prun bynnag ai ceisio heddwch ai ceisio rhyfel y maent, daliwch hwy yn fyw."
19ואלה יצאו מן העיר נערי שרי המדינות והחיל אשר אחריהם׃
19 Parhau i ddod allan o'r ddinas a wnaeth milwyr ifainc llywodraethwyr y taleithiau, gyda'r fyddin i'w canlyn.
20ויכו איש אישו וינסו ארם וירדפם ישראל וימלט בן הדד מלך ארם על סוס ופרשים׃
20 Ac ymosododd pob un ar ei wrthwynebwr, nes i'r Syriaid ffoi, gyda'r Israeliaid ar eu gwarthaf; ond dihangodd Ben-hadad brenin Syria ar farch gyda gwu375?r meirch.
21ויצא מלך ישראל ויך את הסוס ואת הרכב והכה בארם מכה גדולה׃
21 Aeth brenin Israel allan a tharo'r meirch a'r cerbydau, a gwneud lladdfa fawr ymhlith y Syriaid.
22ויגש הנביא אל מלך ישראל ויאמר לו לך התחזק ודע וראה את אשר תעשה כי לתשובת השנה מלך ארם עלה עליך׃
22 Yna daeth y proffwyd at frenin Israel a dweud wrtho, "Dos i geisio ymgryfhau a phenderfynu'n ofalus beth a wnei, oherwydd gyda'r gwanwyn fe ddaw brenin Syria yn dy erbyn."
23ועבדי מלך ארם אמרו אליו אלהי הרים אלהיהם על כן חזקו ממנו ואולם נלחם אתם במישור אם לא נחזק מהם׃
23 Dywedodd gweision brenin Syria wrtho, "Duwiau'r mynyddoedd yw eu duwiau hwy; dyna pam y buont yn drech na ni. Ond pe baem ni'n ymladd � hwy ar y gwastadedd, yn sicr fe'u trechem.
24ואת הדבר הזה עשה הסר המלכים איש ממקמו ושים פחות תחתיהם׃
24 Dyma a wnei: diswydda bob un o'r brenhinoedd hyn, gosod raglawiaid yn eu lle,
25ואתה תמנה לך חיל כחיל הנפל מאותך וסוס כסוס ורכב כרכב ונלחמה אותם במישור אם לא נחזק מהם וישמע לקלם ויעש כן׃
25 a chasgl ynghyd fyddin debyg i'r un a gollaist, gyda march am farch a cherbyd am gerbyd. Gad inni ymladd � hwy ar y gwastadedd, ac yn sicr fe'u trechwn." Cytunodd y brenin i wneud hynny.
26ויהי לתשובת השנה ויפקד בן הדד את ארם ויעל אפקה למלחמה עם ישראל׃
26 Yn y gwanwyn casglodd Ben-hadad y Syriaid i ryfela ag Israel, ac aeth i Affec.
27ובני ישראל התפקדו וכלכלו וילכו לקראתם ויחנו בני ישראל נגדם כשני חשפי עזים וארם מלאו את הארץ׃
27 Yna galwyd yr Israeliaid i fyny, a darparu bwyd ar eu cyfer, ac aethant i'w gwrthsefyll. Yr oedd yr Israeliaid yn eu gwersyll gyferbyn � hwy fel dwy ddiadell fach o eifr, a'r Syriaid yn llenwi'r wlad.
28ויגש איש האלהים ויאמר אל מלך ישראל ויאמר כה אמר יהוה יען אשר אמרו ארם אלהי הרים יהוה ולא אלהי עמקים הוא ונתתי את כל ההמון הגדול הזה בידך וידעתם כי אני יהוה׃
28 A daeth gu373?r Duw at frenin Israel a dweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Am fod y Syriaid wedi dweud mai Duw mynydd-dir yw'r ARGLWYDD, ac nad yw'n Dduw gwastatir, yr wyf am roi'r holl dyrfa fawr hon yn dy law; a chewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.'"
29ויחנו אלה נכח אלה שבעת ימים ויהי ביום השביעי ותקרב המלחמה ויכו בני ישראל את ארם מאה אלף רגלי ביום אחד׃
29 Bu'r naill yn gwersyllu gyferbyn �'r llall am wythnos; yna ar y seithfed dydd dechreuodd y frwydr, a thrawodd yr Israeliaid gan mil o wu375?r traed y Syriaid mewn un dydd.
30וינסו הנותרים אפקה אל העיר ותפל החומה על עשרים ושבעה אלף איש הנותרים ובן הדד נס ויבא אל העיר חדר בחדר׃
30 Ffodd y gweddill i ddinas Affec, a chwympodd y mur ar y saith mil ar hugain ohonynt.
31ויאמרו אליו עבדיו הנה נא שמענו כי מלכי בית ישראל כי מלכי חסד הם נשימה נא שקים במתנינו וחבלים בראשנו ונצא אל מלך ישראל אולי יחיה את נפשך׃
31 Ffodd Ben-hadad hefyd i'r ddinas, a chyrraedd y gaer nesaf i mewn. Ac meddai ei weision wrtho, "Gwrando'n awr, clywsom fod brenhinoedd Israel yn frenhinoedd tirion. Gad inni wisgo sachliain a rhoi rhaffau am ein gyddfau, a mynd allan at frenin Israel; efallai yr arbed dy einioes."
32ויחגרו שקים במתניהם וחבלים בראשיהם ויבאו אל מלך ישראל ויאמרו עבדך בן הדד אמר תחי נא נפשי ויאמר העודנו חי אחי הוא׃
32 A rhoesant sachliain am eu llwynau a rhaffau am eu gyddfau, a mynd at frenin Israel a dweud wrtho, "Mae dy was Ben-hadad yn dweud, 'Arbed fy mywyd.'" Meddai yntau, "A yw'n fyw o hyd? Fy mrawd ydyw."
33והאנשים ינחשו וימהרו ויחלטו הממנו ויאמרו אחיך בן הדד ויאמר באו קחהו ויצא אליו בן הדד ויעלהו על המרכבה׃
33 Yr oedd y dynion yn gwylio am arwydd, a buont yn gyflym i ddal ar ei eiriau, a dweud, "Ie, dy frawd Ben-hadad." A dywedodd, "Ewch i'w n�l." Pan ddaeth Ben-hadad allan ato, derbyniodd ef i'w gerbyd,
34ויאמר אליו הערים אשר לקח אבי מאת אביך אשיב וחוצות תשים לך בדמשק כאשר שם אבי בשמרון ואני בברית אשלחך ויכרת לו ברית וישלחהו׃
34 a dywedodd Ben-hadad wrtho, "Dychwelaf y trefi a ddygodd fy nhad oddi ar dy dad; a chei osod marchnadau i ti dy hun yn Namascus, fel y gwnaeth fy nhad yn Samaria; rhyddha fi ar yr amod hwn." A gwnaeth Ahab gytundeb ag ef a'i ollwng yn rhydd.
35ואיש אחד מבני הנביאים אמר אל רעהו בדבר יהוה הכיני נא וימאן האיש להכתו׃
35 Yna dywedodd un o urdd y proffwydi wrth gyfaill iddo trwy air yr ARGLWYDD, "Taro fi'n awr." Ond gwrthododd ei gyfaill ei daro.
36ויאמר לו יען אשר לא שמעת בקול יהוה הנך הולך מאתי והכך האריה וילך מאצלו וימצאהו האריה ויכהו׃
36 A dywedodd yntau wrtho, "Am iti wrthod ufuddhau i lais yr ARGLWYDD, bydd llew yn ymosod arnat pan ei oddi wrthyf." Ac wedi iddo fynd oddi wrtho, cyfarfu llew ag ef ac ymosod arno.
37וימצא איש אחר ויאמר הכיני נא ויכהו האיש הכה ופצע׃
37 Yna cafodd y proffwyd u373?r arall a dweud, "Taro fi'n awr." A thrawodd y gu373?r hwnnw ef a'i glwyfo.
38וילך הנביא ויעמד למלך על הדרך ויתחפש באפר על עיניו׃
38 Wedyn aeth y proffwyd a disgwyl am y brenin ar y ffordd, a chadach dros ei lygaid rhag iddo'i adnabod.
39ויהי המלך עבר והוא צעק אל המלך ויאמר עבדך יצא בקרב המלחמה והנה איש סר ויבא אלי איש ויאמר שמר את האיש הזה אם הפקד יפקד והיתה נפשך תחת נפשו או ככר כסף תשקול׃
39 Pan ddaeth y brenin heibio, llefodd arno a dweud, "Aeth dy was i ganol y frwydr, a dyna rywun yn dod ac yn trosglwyddo dyn imi ac yn dweud, 'Edrych ar �l y dyn yma; os bydd yn dianc, rhaid i ti gymryd ei le neu dalu talent o arian.'
40ויהי עבדך עשה הנה והנה והוא איננו ויאמר אליו מלך ישראל כן משפטך אתה חרצת׃
40 Ond tra oedd dy was yn brysur hwnt ac yma, diflannodd y dyn." Yna meddai brenin Israel wrtho, "Felly boed dy ddedfryd; tydi dy hun sydd wedi ei phennu."
41וימהר ויסר את האפר מעל עיניו ויכר אתו מלך ישראל כי מהנבאים הוא׃
41 Heb oedi dim, tynnodd yntau'r cadach oddi ar ei lygaid, a gwelodd brenin Israel mai un o'r proffwydi oedd.
42ויאמר אליו כה אמר יהוה יען שלחת את איש חרמי מיד והיתה נפשך תחת נפשו ועמך תחת עמו׃
42 Dywedodd wrtho, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Am iti ollwng yn rhydd y gu373?r oedd i'w ddifodi, rhaid i ti gymryd ei le, a'th bobl di le ei bobl ef.'"
43וילך מלך ישראל על ביתו סר וזעף ויבא שמרונה׃
43 Dychwelodd brenin Israel adref i Samaria yn ddigalon a dig.