1וישבו שלש שנים אין מלחמה בין ארם ובין ישראל׃
1 Bu Syria ac Israel am dair blynedd heb ryfela �'i gilydd.
2ויהי בשנה השלישית וירד יהושפט מלך יהודה אל מלך ישראל׃
2 Ond yn y drydedd flwyddyn, tra oedd Jehosaffat brenin Jwda draw yn ymweld � brenin Israel,
3ויאמר מלך ישראל אל עבדיו הידעתם כי לנו רמת גלעד ואנחנו מחשים מקחת אתה מיד מלך ארם׃
3 dywedodd brenin Israel wrth ei weision, "A wyddoch chwi mai ni piau Ramoth-gilead? A dyma ni'n dawel ddigon, yn lle ei chipio o law brenin Syria."
4ויאמר אל יהושפט התלך אתי למלחמה רמת גלעד ויאמר יהושפט אל מלך ישראל כמוני כמוך כעמי כעמך כסוסי כסוסיך׃
4 A gofynnodd brenin Israel i Jehosaffat, "A ddoi di gyda mi i ryfel i Ramoth-gilead?" Dywedodd Jehosaffat wrth frenin Israel, "Yr wyf fi fel tydi, fy mhobl i fel dy bobl di, fy meirch i fel dy feirch di."
5ויאמר יהושפט אל מלך ישראל דרש נא כיום את דבר יהוה׃
5 Ond meddai Jehosaffat hefyd wrth frenin Israel, "Cais yn gyntaf hefyd air yr ARGLWYDD."
6ויקבץ מלך ישראל את הנביאים כארבע מאות איש ויאמר אלהם האלך על רמת גלעד למלחמה אם אחדל ויאמרו עלה ויתן אדני ביד המלך׃
6 Yna casglodd brenin Israel y proffwydi, tua phedwar cant ohonynt, a dweud wrthynt, "A ddylwn fynd i fyny i ryfel yn erbyn Ramoth-gilead, ai peidio?" Dywedasant hwythau, "Dos i fyny, ac fe rydd yr ARGLWYDD hi yn llaw'r brenin."
7ויאמר יהושפט האין פה נביא ליהוה עוד ונדרשה מאותו׃
7 Ond holodd Jehosaffat, "Onid oes yma broffwyd arall i'r ARGLWYDD, i ni ymgynghori ag ef?"
8ויאמר מלך ישראל אל יהושפט עוד איש אחד לדרש את יהוה מאתו ואני שנאתיו כי לא יתנבא עלי טוב כי אם רע מיכיהו בן ימלה ויאמר יהושפט אל יאמר המלך כן׃
8 Ac meddai brenin Israel wrth Jehosaffat, "Oes, y mae un gu373?r eto i geisio'r ARGLWYDD drwyddo, Michea fab Imla; ond y mae'n atgas gennyf, am nad yw'n proffwydo lles i mi, dim ond drwg." Dywedodd Jehosaffat, "Peidied y brenin � dweud fel yna."
9ויקרא מלך ישראל אל סריס אחד ויאמר מהרה מיכיהו בן ימלה׃
9 Felly galwodd brenin Israel ar swyddog a dweud, "Tyrd � Michea fab Imla yma ar frys."
10ומלך ישראל ויהושפט מלך יהודה ישבים איש על כסאו מלבשים בגדים בגרן פתח שער שמרון וכל הנביאים מתנבאים לפניהם׃
10 Yr oedd brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda yn eu gwisgoedd brenhinol yn eistedd ar eu gorseddau ar y llawr dyrnu wrth borth Samaria, gyda'r holl broffwydi'n proffwydo o'u blaen.
11ויעש לו צדקיה בן כנענה קרני ברזל ויאמר כה אמר יהוה באלה תנגח את ארם עד כלתם׃
11 Gwnaeth Sedeceia fab Cenaana gyrn haearn, a dweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: '�'r rhain byddi'n cornio'r Syriaid nes iti eu difa.'"
12וכל הנבאים נבאים כן לאמר עלה רמת גלעד והצלח ונתן יהוה ביד המלך׃
12 Ac yr oedd yr holl broffwydi'n proffwydo felly ac yn dweud, "Dos i fyny i Ramoth-gilead a llwydda; bydd yr ARGLWYDD yn ei rhoi yn llaw'r brenin."
13והמלאך אשר הלך לקרא מיכיהו דבר אליו לאמר הנה נא דברי הנביאים פה אחד טוב אל המלך יהי נא דבריך כדבר אחד מהם ודברת טוב׃
13 Dywedodd y negesydd a aeth i'w alw wrth Michea, "Edrych yn awr, y mae'r proffwydi'n unfrydol yn proffwydo llwyddiant i'r brenin. Bydded dy air dithau fel gair un ohonynt hwy, a phroffwyda lwyddiant."
14ויאמר מיכיהו חי יהוה כי את אשר יאמר יהוה אלי אתו אדבר׃
14 Atebodd Michea, "Cyn wired � bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr hyn a ddywed yr ARGLWYDD wrthyf a lefaraf."
15ויבוא אל המלך ויאמר המלך אליו מיכיהו הנלך אל רמת גלעד למלחמה אם נחדל ויאמר אליו עלה והצלח ונתן יהוה ביד המלך׃
15 Daeth at y brenin, a dywedodd y brenin wrtho, "Michea, a awn ni i Ramoth-gilead i ryfel, ai peidio?" A dywedodd yntau wrtho, "Dos i fyny a llwydda, ac fe rydd yr ARGLWYDD hi yn llaw'r brenin."
16ויאמר אליו המלך עד כמה פעמים אני משבעך אשר לא תדבר אלי רק אמת בשם יהוה׃
16 Ond dywedodd y brenin wrtho, "Pa sawl gwaith yr wyf wedi dy dynghedu i beidio � dweud dim ond y gwir wrthyf yn enw'r ARGLWYDD?"
17ויאמר ראיתי את כל ישראל נפצים אל ההרים כצאן אשר אין להם רעה ויאמר יהוה לא אדנים לאלה ישובו איש לביתו בשלום׃
17 Yna dywedodd Michea: "Gwelais Israel oll wedi eu gwasgaru ar y bryniau fel defaid heb fugail ganddynt. A dywedodd yr ARGLWYDD, 'Nid oes feistr ar y rhain; felly bydded iddynt ddychwelyd adref mewn heddwch.'"
18ויאמר מלך ישראל אל יהושפט הלוא אמרתי אליך לוא יתנבא עלי טוב כי אם רע׃
18 Dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat, "Oni ddywedais wrthyt na fyddai'n proffwydo da i mi, ond yn hytrach drwg?"
19ויאמר לכן שמע דבר יהוה ראיתי את יהוה ישב על כסאו וכל צבא השמים עמד עליו מימינו ומשמאלו׃
19 A dywedodd Michea, "Am hynny, gwrando air yr ARGLWYDD; gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orsedd, gyda holl lu'r nef yn sefyll ar y dde ac ar y chwith iddo.
20ויאמר יהוה מי יפתה את אחאב ויעל ויפל ברמת גלעד ויאמר זה בכה וזה אמר בכה׃
20 A dywedodd yr ARGLWYDD, 'Pwy a fedr hudo Ahab i frwydro a chwympo yn Ramoth-gilead?' Ac yr oedd un yn dweud fel hyn a'r llall fel arall;
21ויצא הרוח ויעמד לפני יהוה ויאמר אני אפתנו ויאמר יהוה אליו במה׃
21 ond dyma un ysbryd yn sefyll allan o flaen yr ARGLWYDD ac yn dweud, 'Fe'i hudaf fi ef.' Ac meddai'r ARGLWYDD, 'Sut?'
22ויאמר אצא והייתי רוח שקר בפי כל נביאיו ויאמר תפתה וגם תוכל צא ועשה כן׃
22 Dywedodd yntau, 'Af allan a bod yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei broffwydi i gyd.' Yna dywedodd wrtho, 'Fe lwyddi di i'w hudo; dos a gwna hyn.'
23ועתה הנה נתן יהוה רוח שקר בפי כל נביאיך אלה ויהוה דבר עליך רעה׃
23 Yn awr, y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi ysbryd celwyddog yng ngenau dy holl broffwydi hyn; y mae'r ARGLWYDD wedi llunio drwg ar dy gyfer."
24ויגש צדקיהו בן כנענה ויכה את מיכיהו על הלחי ויאמר אי זה עבר רוח יהוה מאתי לדבר אותך׃
24 Nesaodd Sedeceia fab Cenaana a rhoi cernod i Michea, a dweud, "Sut yr aeth ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrthyf fi i lefaru wrthyt ti?"
25ויאמר מיכיהו הנך ראה ביום ההוא אשר תבא חדר בחדר להחבה׃
25 Dywedodd Michea, "Cei weld ar y dydd hwnnw pan fyddi'n ceisio ymguddio yn yr ystafell nesaf i mewn."
26ויאמר מלך ישראל קח את מיכיהו והשיבהו אל אמן שר העיר ואל יואש בן המלך׃
26 A dywedodd brenin Israel, "Dos � Michea a'i roi yng ngofal Amon, rheolwr y dref, a Joas mab y brenin, a dywed wrthynt,
27ואמרת כה אמר המלך שימו את זה בית הכלא והאכילהו לחם לחץ ומים לחץ עד באי בשלום׃
27 'Fel hyn y dywed y brenin: "Rhowch hwn yng ngharchar, a bwydwch ef �'r dogn prinnaf o fara a du373?r nes imi ddod yn �l yn llwyddiannus".'"
28ויאמר מיכיהו אם שוב תשוב בשלום לא דבר יהוה בי ויאמר שמעו עמים כלם׃
28 Ac meddai Michea, "Os llwyddi i ddod yn �l, ni lefarodd yr ARGLWYDD drwof; gwrandewch chwi bobl i gyd."
29ויעל מלך ישראל ויהושפט מלך יהודה רמת גלעד׃
29 Aeth brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda i fyny i Ramoth-gilead.
30ויאמר מלך ישראל אל יהושפט התחפש ובא במלחמה ואתה לבש בגדיך ויתחפש מלך ישראל ויבוא במלחמה׃
30 A dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat, "Yr wyf fi am newid fy nillad cyn mynd i'r frwydr, ond gwisg di dy ddillad brenhinol." Newidiodd brenin Israel ei wisg a mynd i'r frwydr.
31ומלך ארם צוה את שרי הרכב אשר לו שלשים ושנים לאמר לא תלחמו את קטן ואת גדול כי אם את מלך ישראל לבדו׃
31 Yr oedd brenin Syria wedi gorchymyn i'r deuddeg capten ar hugain oedd ganddo ar y cerbydau, "Peidiwch ag ymladd � neb, bach na mawr, ond � brenin Israel yn unig."
32ויהי כראות שרי הרכב את יהושפט והמה אמרו אך מלך ישראל הוא ויסרו עליו להלחם ויזעק יהושפט׃
32 A phan welodd capteiniaid y cerbydau Jehosaffat, dywedasant, "Hwn yn sicr yw brenin Israel." Yna troesant i ymladd ag ef; ond rhoddodd Jehosaffat waedd,
33ויהי כראות שרי הרכב כי לא מלך ישראל הוא וישובו מאחריו׃
33 a phan welodd capteiniaid y cerbydau nad brenin Israel oedd, gadawsant lonydd iddo.
34ואיש משך בקשת לתמו ויכה את מלך ישראל בין הדבקים ובין השרין ויאמר לרכבו הפך ידך והוציאני מן המחנה כי החליתי׃
34 A thynnodd rhyw ddyn ei fwa ar antur, a tharo brenin Israel rhwng y darnau cyswllt a'r llurig. A dywedodd yntau wrth yrrwr ei gerbyd, "Tro'n �l, a dwg fi allan o'r rhengoedd, oherwydd rwyf wedi fy nghlwyfo."
35ותעלה המלחמה ביום ההוא והמלך היה מעמד במרכבה נכח ארם וימת בערב ויצק דם המכה אל חיק הרכב׃
35 Ond ffyrnigodd y frwydr y diwrnod hwnnw, a bu raid i'r brenin aros yn ei gerbyd yn wynebu'r Syriaid hyd yr hwyr, pan fu farw; a llifodd gwaed yr archoll i waelod y cerbyd.
36ויעבר הרנה במחנה כבא השמש לאמר איש אל עירו ואיש אל ארצו׃
36 A phan fachludodd yr haul aeth y gri drwy'r gwersyll, "Adref, bawb i'w dref a'i fro; bu farw'r brenin!"
37וימת המלך ויבוא שמרון ויקברו את המלך בשמרון׃
37 Aethant �'r brenin i Samaria a'i gladdu yno;
38וישטף את הרכב על ברכת שמרון וילקו הכלבים את דמו והזנות רחצו כדבר יהוה אשר דבר׃
38 a phan olchwyd y cerbyd wrth lyn Samaria, lleibiodd y cu373?n ei waed ac ymolchodd y puteiniaid ynddo, yn �l y gair a lefarodd yr ARGLWYDD.
39ויתר דברי אחאב וכל אשר עשה ובית השן אשר בנה וכל הערים אשר בנה הלוא הם כתובים על ספר דברי הימים למלכי ישראל׃
39 Onid yw gweddill hanes Ahab, a'r cwbl a wnaeth, a hanes y palas ifori a gododd, a'r holl drefi a adeiladodd, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
40וישכב אחאב עם אבתיו וימלך אחזיהו בנו תחתיו׃
40 A bu farw Ahab, a daeth ei fab Ahaseia i'r orsedd yn ei le.
41ויהושפט בן אסא מלך על יהודה בשנת ארבע לאחאב מלך ישראל׃
41 Yn y bedwaredd flwyddyn i Ahab brenin Israel daeth Jehosaffat fab Asa yn frenin ar Jwda.
42יהושפט בן שלשים וחמש שנה במלכו ועשרים וחמש שנה מלך בירושלם ושם אמו עזובה בת שלחי׃
42 Pymtheg ar hugain oedd ei oed pan ddaeth i'r orsedd, a theyrnasodd am bum mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Asuba merch Silhi oedd enw ei fam.
43וילך בכל דרך אסא אביו לא סר ממנו לעשות הישר בעיני יהוה אך הבמות לא סרו עוד העם מזבחים ומקטרים בבמות׃
43 Dilynodd lwybr ei dad Asa yn hollol ddiwyro, a gwneud yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Er hynny, ni symudwyd yr uchelfeydd, ac yr oedd y bobl yn parhau i aberthu ac arogldarthu ynddynt.
44וישלם יהושפט עם מלך ישראל׃
44 Gwnaeth Jehosaffat heddwch � brenin Israel.
45ויתר דברי יהושפט וגבורתו אשר עשה ואשר נלחם הלא הם כתובים על ספר דברי הימים למלכי יהודה׃
45 Ac onid yw gweddill hanes Jehosaffat, ei hynt a'i wrhydri a'i ryfela, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?
46ויתר הקדש אשר נשאר בימי אסא אביו בער מן הארץ׃
46 Hefyd fe ddileodd o'r tir yr olaf o buteinwyr y cysegr a adawyd o ddyddiau ei dad Asa.
47ומלך אין באדום נצב מלך׃
47 Nid oedd brenin yn Edom. Fe wnaeth rhaglaw'r brenin Jehosaffat
48יהושפט עשר אניות תרשיש ללכת אופירה לזהב ולא הלך כי נשברה אניות בעציון גבר׃
48 long Tarsis i fynd i Offir am aur. Ond nid aeth, oherwydd drylliwyd y llong yn Esion-geber.
49אז אמר אחזיהו בן אחאב אל יהושפט ילכו עבדי עם עבדיך באניות ולא אבה יהושפט׃
49 Yna dywedodd Ahaseia fab Ahab wrth Jehosaffat, "Fe � fy ngweision i gyda'th weision di mewn llongau." Ond nid oedd Jehosaffat yn fodlon.
50וישכב יהושפט עם אבתיו ויקבר עם אבתיו בעיר דוד אביו וימלך יהורם בנו תחתיו׃
50 Bu farw Jehosaffat, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn ninas ei dad Dafydd, a daeth ei fab Jehoram yn frenin yn ei le.
51אחזיהו בן אחאב מלך על ישראל בשמרון בשנת שבע עשרה ליהושפט מלך יהודה וימלך על ישראל שנתים׃
51 Daeth Ahaseia fab Ahab yn frenin ar Israel yn Samaria yn yr ail flwyddyn ar bymtheg i Jehosaffat brenin Jwda. Teyrnasodd ar Israel am ddwy flynedd.
52ויעש הרע בעיני יהוה וילך בדרך אביו ובדרך אמו ובדרך ירבעם בן נבט אשר החטיא את ישראל׃
52 Gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a dilynodd lwybr ei dad a'i fam, a llwybr Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu.
53ויעבד את הבעל וישתחוה לו ויכעס את יהוה אלהי ישראל ככל אשר עשה אביו׃
53 Gwasanaethodd ac addolodd Baal, a digio'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn hollol fel y gwnaeth ei dad.