Hebrew: Modern

Welsh

1 Samuel

10

1ויקח שמואל את פך השמן ויצק על ראשו וישקהו ויאמר הלוא כי משחך יהוה על נחלתו לנגיד׃
1 Cymerodd Samuel ffiol o olew a'i dywallt dros ei ben, a'i gusanu a dweud, "Onid yw'r ARGLWYDD yn d'eneinio'n dywysog ar ei bobl Israel, ac onid ti fydd yn rheoli pobl yr ARGLWYDD, ac yn eu gwaredu o law eu gelynion oddi amgylch? A dyma'r arwydd fod yr ARGLWYDD wedi d'eneinio'n dywysog ar ei etifeddiaeth:
2בלכתך היום מעמדי ומצאת שני אנשים עם קברת רחל בגבול בנימן בצלצח ואמרו אליך נמצאו האתנות אשר הלכת לבקש והנה נטש אביך את דברי האתנות ודאג לכם לאמר מה אעשה לבני׃
2 pan ei oddi wrthyf heddiw, cei ddau ddyn wrth fedd Rachel yn Selsach ar ffin Benjamin, a dywedant wrthyt fod yr asennod yr aethost i'w ceisio wedi eu cael, a bod dy dad wedi rhoi heibio fater yr asennod, ac yn poeni amdanoch chwi ac yn dweud, 'Beth a wnaf am fy mab?'
3וחלפת משם והלאה ובאת עד אלון תבור ומצאוך שם שלשה אנשים עלים אל האלהים בית אל אחד נשא שלשה גדיים ואחד נשא שלשת ככרות לחם ואחד נשא נבל יין׃
3 Wedi iti fynd ymlaen oddi yno, fe ddoi at dderwen Tabor a chael yno dri dyn yn mynd i fyny at Dduw i Fethel, un yn cario tri myn, un arall yn cario tair torth, a'r llall yn cario costrel o win.
4ושאלו לך לשלום ונתנו לך שתי לחם ולקחת מידם׃
4 Wedi iddynt dy gyfarch, rhoddant iti ddwy dorth; cymer dithau hwy ganddynt.
5אחר כן תבוא גבעת האלהים אשר שם נצבי פלשתים ויהי כבאך שם העיר ופגעת חבל נביאים ירדים מהבמה ולפניהם נבל ותף וחליל וכנור והמה מתנבאים׃
5 Wedi hynny doi at Gibea Duw, lle y mae rhaglaw y Philistiaid. Wedi iti gyrraedd y dref, byddi'n taro ar fintai o broffwydi yn dod i lawr o'r uchelfa gyda nabl, tympan, ffliwt a thelyn o'u blaen, a hwythau'n proffwydo.
6וצלחה עליך רוח יהוה והתנבית עמם ונהפכת לאיש אחר׃
6 A bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn disgyn arnat, a byddi dithau'n proffwydo gyda hwy ac yn cael dy droi'n ddyn gwahanol.
7והיה כי תבאינה האתות האלה לך עשה לך אשר תמצא ידך כי האלהים עמך׃
7 Pan ddigwydd yr arwyddion hyn i ti, gwna yn �l dy gyfle, oherwydd y mae Duw gyda thi.
8וירדת לפני הגלגל והנה אנכי ירד אליך להעלות עלות לזבח זבחי שלמים שבעת ימים תוחל עד בואי אליך והודעתי לך את אשר תעשה׃
8 Dos i lawr o'm blaen i Gilgal, a dof finnau atat i offrymu poethoffrymau a heddoffrymau. Aros wythnos amdanaf, ac yna dangosaf iti beth i'w wneud."
9והיה כהפנתו שכמו ללכת מעם שמואל ויהפך לו אלהים לב אחר ויבאו כל האתות האלה ביום ההוא׃
9 Wedi i Saul droi a gadael Samuel, newidiodd Duw ei galon ef, a digwyddodd yr holl arwyddion hyn yr un diwrnod.
10ויבאו שם הגבעתה והנה חבל נבאים לקראתו ותצלח עליו רוח אלהים ויתנבא בתוכם׃
10 Pan ddaethant i Gibea, yr oedd y fintai o broffwydi yno yn dod i'w gyfarfod; disgynnodd ysbryd Duw arno, a dechreuodd broffwydo yn eu plith.
11ויהי כל יודעו מאתמול שלשום ויראו והנה עם נבאים נבא ויאמר העם איש אל רעהו מה זה היה לבן קיש הגם שאול בנביאים׃
11 Pan welodd y bobl oedd yn ei adnabod gynt ei fod yn proffwydo gyda'r proffwydi, dywedasant wrth ei gilydd, "Beth yw hyn sydd wedi digwydd i fab Cis? A yw Saul hefyd ymysg y proffwydi?"
12ויען איש משם ויאמר ומי אביהם על כן היתה למשל הגם שאול בנבאים׃
12 Ac ychwanegodd un oedd yno, "A phwy yw eu tad?" Dyna sut y daeth y ddihareb, "A yw Saul hefyd ymysg y proffwydi?"
13ויכל מהתנבות ויבא הבמה׃
13 Pan orffennodd broffwydo, aeth i'r uchelfa.
14ויאמר דוד שאול אליו ואל נערו אן הלכתם ויאמר לבקש את האתנות ונראה כי אין ונבוא אל שמואל׃
14 Gofynnodd ewythr Saul iddo ef a'i was, "Ymhle y buoch?" Atebodd, "Yn chwilio am yr asennod; ac wedi inni fethu eu gweld, aethom at Samuel."
15ויאמר דוד שאול הגידה נא לי מה אמר לכם שמואל׃
15 Ac meddai ewythr Saul, "Dywed wrthyf, ynteu, beth a ddywedodd Samuel wrthych."
16ויאמר שאול אל דודו הגד הגיד לנו כי נמצאו האתנות ואת דבר המלוכה לא הגיד לו אשר אמר שמואל׃
16 Dywedodd Saul wrth ei ewythr, "Sicrhaodd ni fod yr asennod wedi eu cael." Ond ni soniodd ddim wrtho am yr hyn a ddywedodd Samuel ynglu375?n �'r frenhiniaeth.
17ויצעק שמואל את העם אל יהוה המצפה׃
17 Galwodd Samuel y bobl at yr ARGLWYDD i Mispa,
18ויאמר אל בני ישראל כה אמר יהוה אלהי ישראל אנכי העליתי את ישראל ממצרים ואציל אתכם מיד מצרים ומיד כל הממלכות הלחצים אתכם׃
18 a dywedodd wrth yr Israeliaid, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: 'Myfi a ddaeth ag Israel i fyny o'r Aifft, a'ch achub o law yr Eifftiaid a'r holl deyrnasoedd a fu'n eich gorthrymu.
19ואתם היום מאסתם את אלהיכם אשר הוא מושיע לכם מכל רעותיכם וצרתיכם ותאמרו לו כי מלך תשים עלינו ועתה התיצבו לפני יהוה לשבטיכם ולאלפיכם׃
19 Ond heddiw yr ydych yn gwrthod eich Duw, a fu'n eich gwaredu o'ch holl drueni a'ch cyfyngderau, ac yn dweud wrtho, "Rho inni frenin." Yn awr, felly, safwch yn rhengoedd o flaen yr ARGLWYDD yn �l eich llwythau a'ch tylwythau.'"
20ויקרב שמואל את כל שבטי ישראל וילכד שבט בנימן׃
20 Wedi i Samuel gyflwyno pob un o lwythau Israel gerbron yr ARGLWYDD, dewiswyd llwyth Benjamin.
21ויקרב את שבט בנימן למשפחתו ותלכד משפחת המטרי וילכד שאול בן קיש ויבקשהו ולא נמצא׃
21 Yna cyflwynodd lwyth Benjamin fesul tylwythau, a dewiswyd tylwyth Matri; wedyn dewiswyd Saul fab Cis, ond wedi chwilio amdano, nid oedd i'w gael.
22וישאלו עוד ביהוה הבא עוד הלם איש ויאמר יהוה הנה הוא נחבא אל הכלים׃
22 Gofynasant eto i'r ARGLWYDD, "A ddaeth y gu373?r yma?" A dywedodd yr ARGLWYDD, "Do, y mae'n cuddio ymysg yr offer."
23וירצו ויקחהו משם ויתיצב בתוך העם ויגבה מכל העם משכמו ומעלה׃
23 Wedi iddynt redeg a'i gymryd oddi yno a'i osod i sefyll yng nghanol y bobl, yr oedd yn dalach na phawb, o'i ysgwyddau i fyny.
24ויאמר שמואל אל כל העם הראיתם אשר בחר בו יהוה כי אין כמהו בכל העם וירעו כל העם ויאמרו יחי המלך׃
24 Dywedodd Samuel, "A welwch chwi'r un a ddewisodd yr ARGLWYDD? Yn wir nid oes neb o'r holl bobl yn debyg iddo." Bloeddiodd yr holl bobl a dweud, "Hir oes i'r brenin!"
25וידבר שמואל אל העם את משפט המלכה ויכתב בספר וינח לפני יהוה וישלח שמואל את כל העם איש לביתו׃
25 Yna mynegodd Samuel wrth y bobl ddull y frenhiniaeth, a'i ysgrifennu mewn llyfr a'i osod ynghadw gerbron yr ARGLWYDD; yna gollyngodd yr holl bobl, i bob un fynd adref.
26וגם שאול הלך לביתו גבעתה וילכו עמו החיל אשר נגע אלהים בלבם׃
26 Aeth Saul yntau adref i Gibea, ac aeth gydag ef fyddin o rai y cyffyrddodd Duw �'u calon.
27ובני בליעל אמרו מה ישענו זה ויבזהו ולא הביאו לו מנחה ויהי כמחריש׃
27 Ond meddai'r dihirod, "Sut y gall hwn ein hachub?" Yr oeddent yn ei ddirmygu, ac ni ddaethant ag anrheg iddo.