1וילך דוד משם וימלט אל מערת עדלם וישמעו אחיו וכל בית אביו וירדו אליו שמה׃
1 Dihangodd Dafydd oddi yno i ogof Adulam, a phan glywodd ei frodyr a'i deulu, aethant yno ato.
2ויתקבצו אליו כל איש מצוק וכל איש אשר לו נשא וכל איש מר נפש ויהי עליהם לשר ויהיו עמו כארבע מאות איש׃
2 A dyma bawb oedd mewn helbul neu ddyled, neu wedi chwerwi, yn ymgasglu ato. Aeth ef yn ben arnynt, ac yr oedd tua phedwar cant ohonynt gydag ef.
3וילך דוד משם מצפה מואב ויאמר אל מלך מואב יצא נא אבי ואמי אתכם עד אשר אדע מה יעשה לי אלהים׃
3 Oddi yno aeth Dafydd i Mispe yn Moab, a dweud wrth frenin Moab, "Gad i'm tad a'm mam ddod atat, nes y byddaf yn gwybod beth a wna Duw imi."
4וינחם את פני מלך מואב וישבו עמו כל ימי היות דוד במצודה׃
4 Felly gadawodd hwy gyda brenin Moab, a buont yn aros yno cyhyd ag y bu Dafydd yn ei loches.
5ויאמר גד הנביא אל דוד לא תשב במצודה לך ובאת לך ארץ יהודה וילך דוד ויבא יער חרת׃
5 Yna dywedodd y proffwyd Gad wrth Ddafydd, "Paid ag aros yn y lloches, dos yn �l i dir Jwda." Felly aeth Dafydd i Goed Hereth.
6וישמע שאול כי נודע דוד ואנשים אשר אתו ושאול יושב בגבעה תחת האשל ברמה וחניתו בידו וכל עבדיו נצבים עליו׃
6 Clywodd Saul fod Dafydd a'r gwu375?r oedd gydag ef wedi dod i'r golwg, ac yr oedd yntau ar y pryd yn Gibea, yn eistedd dan bren tamarisg ar y bryn �'i waywffon yn ei law, a'i weision yn sefyll o'i gwmpas.
7ויאמר שאול לעבדיו הנצבים עליו שמעו נא בני ימיני גם לכלכם יתן בן ישי שדות וכרמים לכלכם ישים שרי אלפים ושרי מאות׃
7 Ac meddai Saul wrth y gweision o'i gwmpas, "Gwrandewch hyn, dylwyth Benjamin. A fydd mab Jesse yn rhoi i bob un ohonoch chwi feysydd a gwinllannoedd, a'ch gwneud i gyd yn swyddogion ar filoedd a channoedd?
8כי קשרתם כלכם עלי ואין גלה את אזני בכרת בני עם בן ישי ואין חלה מכם עלי וגלה את אזני כי הקים בני את עבדי עלי לארב כיום הזה׃
8 Er hynny yr ydych i gyd yn cynllwyn yn f'erbyn. Nid ynganodd neb air wrthyf pan wnaeth fy mab gyfamod � mab Jesse. Nid oedd neb ohonoch yn poeni amdanaf fi, nac yn yngan gair wrthyf pan barodd fy mab i'm gwas godi cynllwyn yn f'erbyn fel y gwna heddiw."
9ויען דאג האדמי והוא נצב על עבדי שאול ויאמר ראיתי את בן ישי בא נבה אל אחימלך בן אחטוב׃
9 Yna atebodd Doeg yr Edomiad, a oedd yn sefyll gyda gweision Saul, a dweud, "Mi welais i fab Jesse'n dod i Nob at Ahimelech fab Ahitub.
10וישאל לו ביהוה וצידה נתן לו ואת חרב גלית הפלשתי נתן לו׃
10 Ymofynnodd yntau �'r ARGLWYDD drosto, a rhoi bwyd iddo; rhoes iddo hefyd gleddyf Goliath y Philistiad."
11וישלח המלך לקרא את אחימלך בן אחיטוב הכהן ואת כל בית אביו הכהנים אשר בנב ויבאו כלם אל המלך׃
11 Anfonodd y brenin am yr offeiriad Ahimelech fab Ahitub a'i deulu i gyd, a oedd yn offeiriaid yn Nob, a daethant oll at y brenin.
12ויאמר שאול שמע נא בן אחיטוב ויאמר הנני אדני׃
12 Ac meddai Saul, "Gwrando di yn awr, fab Ahitub." Atebodd yntau, "Gwnaf, f'arglwydd."
13ויאמר אלו שאול למה קשרתם עלי אתה ובן ישי בתתך לו לחם וחרב ושאול לו באלהים לקום אלי לארב כיום הזה׃
13 Yna dywedodd Saul wrtho, "Pam yr ydych wedi cynllwyn yn f'erbyn, ti a mab Jesse, a thithau'n rhoi bwyd a chleddyf iddo, yn ymofyn � Duw drosto, ac yn gadael iddo gynllwyn yn f'erbyn, fel y mae'n gwneud heddiw?"
14ויען אחימלך את המלך ויאמר ומי בכל עבדיך כדוד נאמן וחתן המלך וסר אל משמעתך ונכבד בביתך׃
14 Atebodd Ahimelech y brenin a dweud, "Pwy o blith dy holl weision sydd mor deyrngar � Dafydd, yn fab-yng-nghyfraith i'r brenin, ac yn bennaeth dy osgorddlu ac yn uchel ei barch yn dy blas?
15היום החלתי לשאול לו באלהים חלילה לי אל ישם המלך בעבדו דבר בכל בית אבי כי לא ידע עבדך בכל זאת דבר קטן או גדול׃
15 Ai dyna'r tro cyntaf imi ymofyn � Duw drosto? Nage'n wir! Peidied y brenin � chyhuddo ei was, na'r un o'i deulu, oherwydd ni u373?yr dy was ddim am hyn, na bach na mawr."
16ויאמר המלך מות תמות אחימלך אתה וכל בית אביך׃
16 Dywedodd y brenin, "Yr wyt ti, Ahimelech, yn mynd i farw, ie, ti a'th holl deulu."
17ויאמר המלך לרצים הנצבים עליו סבו והמיתו כהני יהוה כי גם ידם עם דוד וכי ידעו כי ברח הוא ולא גלו את אזנו ולא אבו עבדי המלך לשלח את ידם לפגע בכהני יהוה׃
17 Yna dywedodd y brenin wrth y gosgorddlu oedd yn sefyll yn ei ymyl, "Trowch arnynt a lladdwch offeiriaid yr ARGLWYDD, oherwydd y maent hwythau law yn llaw � Dafydd, am eu bod yn gwybod ei fod ar ffo, ond heb yngan gair wrthyf." Ond ni fynnai gweision y brenin estyn llaw i daro offeiriaid yr ARGLWYDD.
18ויאמר המלך לדויג סב אתה ופגע בכהנים ויסב דויג האדמי ויפגע הוא בכהנים וימת ביום ההוא שמנים וחמשה איש נשא אפוד בד׃
18 Yna dywedodd y brenin wrth Doeg, "Tro di a tharo'r offeiriaid." Fe droes Doeg a tharo'r offeiriaid; a'r diwrnod hwnnw fe laddodd bump a phedwar ugain o wu375?r yn gwisgo effod liain.
19ואת נב עיר הכהנים הכה לפי חרב מאיש ועד אשה מעולל ועד יונק ושור וחמור ושה לפי חרב׃
19 Yn Nob hefyd, tref yr offeiriaid, trawodd �'r cleddyf wu375?r a gwragedd, plant a babanod, a hyd yn oed ychen, asynnod a defaid.
20וימלט בן אחד לאחימלך בן אחטוב ושמו אביתר ויברח אחרי דוד׃
20 Ond dihangodd un mab i Ahimelech fab Ahitub, o'r enw Abiathar; a ffodd at Ddafydd,
21ויגד אביתר לדוד כי הרג שאול את כהני יהוה׃
21 a dweud wrtho fod Saul wedi lladd offeiriaid yr ARGLWYDD.
22ויאמר דוד לאביתר ידעתי ביום ההוא כי שם דויג האדמי כי הגד יגיד לשאול אנכי סבתי בכל נפש בית אביך׃
22 Dywedodd Dafydd wrth Abiathar, "Mi wyddwn i y diwrnod hwnnw pan oedd Doeg yr Edomiad yno, y byddai'n sicr o ddweud wrth Saul. Myfi sy'n gyfrifol am farwolaeth dy deulu cyfan.
23שבה אתי אל תירא כי אשר יבקש את נפשי יבקש את נפשך כי משמרת אתה עמדי׃
23 Aros gyda mi, paid ag ofni; oherwydd yr un sy'n ceisio d'einioes di sy'n ceisio f'einioes innau. Byddi'n ddiogel gyda mi."