1ויקבצו פלשתים את כל מחניהם אפקה וישראל חנים בעין אשר ביזרעאל׃
1 Casglodd y Philistiaid eu holl fyddin i Affec, ac yr oedd Israel yn gwersyllu ger ffynnon yn Jesreel.
2וסרני פלשתים עברים למאות ולאלפים ודוד ואנשיו עברים באחרנה עם אכיש׃
2 Yr oedd tywysogion y Philistiaid yn gorymdeithio fesul cannoedd a miloedd, a Dafydd a'i filwyr yn gorymdeithio yn olaf, gydag Achis.
3ויאמרו שרי פלשתים מה העברים האלה ויאמר אכיש אל שרי פלשתים הלוא זה דוד עבד שאול מלך ישראל אשר היה אתי זה ימים או זה שנים ולא מצאתי בו מאומה מיום נפלו עד היום הזה׃
3 Ac meddai capteiniaid y Philistiaid, "Pwy yw'r Hebreaid hyn?" Atebodd Achis hwy: "Dafydd, wrth gwrs, gwas Saul brenin Israel; y mae wedi bod gyda mi am flwyddyn, os nad dwy, ac nid wyf wedi cael dim o'i le ynddo o'r diwrnod y cyrhaeddodd hyd heddiw."
4ויקצפו עליו שרי פלשתים ויאמרו לו שרי פלשתים השב את האיש וישב אל מקומו אשר הפקדתו שם ולא ירד עמנו במלחמה ולא יהיה לנו לשטן במלחמה ובמה יתרצה זה אל אדניו הלוא בראשי האנשים ההם׃
4 Ond aeth capteiniaid y Philistiaid yn ddig wrtho a dweud, "Anfon y dyn i ffwrdd; aed yn �l i'r lle a ddarperaist iddo. Ni chaiff ddod i lawr gyda ni i'r frwydr, rhag iddo droi'n wrthwynebydd i ni yn ystod y frwydr. Sut y gallai hwn ennill ffafr ei arglwydd yn well nag � phennau'r milwyr hyn?
5הלוא זה דוד אשר יענו לו במחלות לאמר הכה שאול באלפו ודוד ברבבתו׃
5 Onid hwn yw Dafydd, yr oeddent yn canu amdano yn y dawnsfeydd: 'Lladdodd Saul ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiynau'?"
6ויקרא אכיש אל דוד ויאמר אליו חי יהוה כי ישר אתה וטוב בעיני צאתך ובאך אתי במחנה כי לא מצאתי בך רעה מיום באך אלי עד היום הזה ובעיני הסרנים לא טוב אתה׃
6 Galwodd Achis ar Ddafydd a dweud, "Cyn wired � bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr wyt yn ddyn cywir ac wedi ymddwyn yn foddhaol yn fy ngolwg tra buost gyda mi yn y gwersyll; nid wyf wedi cael dim o'i le ynot ti o'r dydd y daethost ataf hyd heddiw; ond nid wyt yn dderbyniol yng ngolwg tywysogion y Philistiaid.
7ועתה שוב ולך בשלום ולא תעשה רע בעיני סרני פלשתים׃
7 Felly'n awr, dychwel, a dos mewn heddwch, rhag iti dramgwyddo tywysogion y Philistiaid."
8ויאמר דוד אל אכיש כי מה עשיתי ומה מצאת בעבדך מיום אשר הייתי לפניך עד היום הזה כי לא אבוא ונלחמתי באיבי אדני המלך׃
8 Dywedodd Dafydd wrth Achis, "Ond beth a wneuthum? Pa fai a gefaist ti yn dy was, o'r dydd y deuthum atat hyd heddiw, fel na chaf ddod i ryfela yn erbyn gelynion f'arglwydd frenin?"
9ויען אכיש ויאמר אל דוד ידעתי כי טוב אתה בעיני כמלאך אלהים אך שרי פלשתים אמרו לא יעלה עמנו במלחמה׃
9 Atebodd Achis a dweud wrth Ddafydd, "Gwn dy fod cystal ag angel yn fy ngolwg i, ond y mae tywysogion y Philistiaid wedi dweud na chei di ddod gyda ni i'r frwydr.
10ועתה השכם בבקר ועבדי אדניך אשר באו אתך והשכמתם בבקר ואור לכם ולכו׃
10 Felly, yn gynnar bore yfory, bydd di, a gweision eraill dy arglwydd a ddaeth gyda thi, yn barod; byddwch yn barod i gychwyn cyn gynted ag y bydd yn olau."
11וישכם דוד הוא ואנשיו ללכת בבקר לשוב אל ארץ פלשתים ופלשתים עלו יזרעאל׃
11 Cododd Dafydd a'i filwyr yn gynnar drannoeth i fynd yn �l i Philistia, ac aeth y Philistiaid ymlaen i Jesreel.