1ויהי כאשר זקן שמואל וישם את בניו שפטים לישראל׃
1 Wedi i Samuel heneiddio, penododd ei feibion yn farnwyr ar yr Israeliaid.
2ויהי שם בנו הבכור יואל ושם משנהו אביה שפטים בבאר שבע׃
2 Joel oedd ei fab hynaf, ac Abeia ei ail fab; ac yr oeddent yn barnu yn Beerseba.
3ולא הלכו בניו בדרכו ויטו אחרי הבצע ויקחו שחד ויטו משפט׃
3 Eto nid oedd y meibion yn cerdded yn llwybrau eu tad, ond yn ceisio elw, yn derbyn cil-dwrn ac yn gwyro barn.
4ויתקבצו כל זקני ישראל ויבאו אל שמואל הרמתה׃
4 Felly cyfarfu holl henuriaid Israel, a mynd at Samuel i Rama,
5ויאמרו אליו הנה אתה זקנת ובניך לא הלכו בדרכיך עתה שימה לנו מלך לשפטנו ככל הגוים׃
5 a dweud wrtho, "Yr wyt ti wedi mynd yn hen, ac nid yw dy feibion yn cerdded yn dy lwybrau di; rho inni'n awr frenin i'n barnu, yr un fath �'r holl genhedloedd."
6וירע הדבר בעיני שמואל כאשר אמרו תנה לנו מלך לשפטנו ויתפלל שמואל אל יהוה׃
6 Gofidiodd Samuel eu bod yn dweud, "Rho inni frenin i'n barnu", a gwedd�odd Samuel ar yr ARGLWYDD.
7ויאמר יהוה אל שמואל שמע בקול העם לכל אשר יאמרו אליך כי לא אתך מאסו כי אתי מאסו ממלך עליהם׃
7 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, "Gwrando ar y bobl ym mhopeth y maent yn ei ddweud wrthyt, oherwydd nid ti ond myfi y maent yn ei wrthod rhag bod yn frenin arnynt.
8ככל המעשים אשר עשו מיום העלתי אתם ממצרים ועד היום הזה ויעזבני ויעבדו אלהים אחרים כן המה עשים גם לך׃
8 Yn union fel y gwnaethant � mi o'r dydd y dygais hwy i fyny o'r Aifft hyd heddiw, sef fy ngadael a gwasanaethu duwiau eraill, felly hefyd y gwn�nt � thithau.
9ועתה שמע בקולם אך כי העד תעיד בהם והגדת להם משפט המלך אשר ימלך עליהם׃
9 Gwrando'n awr ar eu cais, ond gofala hefyd dy fod yn eu rhybuddio'n ddifrifol ac yn dangos iddynt ddull y brenin a fydd yn teyrnasu arnynt."
10ויאמר שמואל את כל דברי יהוה אל העם השאלים מאתו מלך׃
10 Mynegodd Samuel holl eiriau'r ARGLWYDD wrth y bobl oedd yn gofyn am frenin ganddo,
11ויאמר זה יהיה משפט המלך אשר ימלך עליכם את בניכם יקח ושם לו במרכבתו ובפרשיו ורצו לפני מרכבתו׃
11 a dweud, "Dyma ddull y brenin a fydd yn teyrnasu arnoch: fe gymer eich meibion a'u gwneud yn gerbydwyr ac yn farchogion i fynd o flaen ei gerbyd.
12ולשום לו שרי אלפים ושרי חמשים ולחרש חרישו ולקצר קצירו ולעשות כלי מלחמתו וכלי רכבו׃
12 Gwna rai ohonynt yn gapteiniaid mil a chapteiniaid hanner cant, eraill i aredig ei dir ac i fedi ei gynhaeaf, ac eraill i wneud ei arfau rhyfel ac offer ei gerbydau.
13ואת בנותיכם יקח לרקחות ולטבחות ולאפות׃
13 Fe gymer eich merched yn bersawresau, yn gogyddesau ac yn bobyddesau;
14ואת שדותיכם ואת כרמיכם וזיתיכם הטובים יקח ונתן לעבדיו׃
14 cymer hefyd eich meysydd, eich gwinllannoedd a'ch gerddi olewydd gorau a'u rhoi i'w weision;
15וזרעיכם וכרמיכם יעשר ונתן לסריסיו ולעבדיו׃
15 bydd yn degymu'ch u375?d a'ch gwinllannoedd ac yn ei rannu i'w swyddogion a'i weision;
16ואת עבדיכם ואת שפחותיכם ואת בחוריכם הטובים ואת חמוריכם יקח ועשה למלאכתו׃
16 ac yn cymryd eich llafurwyr a'ch morynion, eich bustych gorau a'ch asynnod, ar gyfer ei waith ei hun.
17צאנכם יעשר ואתם תהיו לו לעבדים׃
17 Fe ddegyma'ch defaid, a byddwch chwithau'n gaethweision iddo.
18וזעקתם ביום ההוא מלפני מלככם אשר בחרתם לכם ולא יענה יהוה אתכם ביום ההוא׃
18 A'r dydd hwnnw byddwch yn protestio oherwydd y brenin y byddwch wedi ei ddewis; ond ni fydd yr ARGLWYDD yn eich ateb y diwrnod hwnnw."
19וימאנו העם לשמע בקול שמואל ויאמרו לא כי אם מלך יהיה עלינו׃
19 Gwrthododd y bobl wrando ar Samuel. "Na," meddent, "y mae'n rhaid inni gael brenin,
20והיינו גם אנחנו ככל הגוים ושפטנו מלכנו ויצא לפנינו ונלחם את מלחמתנו׃
20 i ni fod yr un fath �'r holl genhedloedd, gyda brenin i'n barnu a'n harwain i ryfel ac ymladd ein brwydrau."
21וישמע שמואל את כל דברי העם וידברם באזני יהוה׃
21 Gwrandawodd Samuel ar y cwbl a ddywedodd y bobl, a'i adrodd wrth yr ARGLWYDD.
22ויאמר יהוה אל שמואל שמע בקולם והמלכת להם מלך ויאמר שמואל אל אנשי ישראל לכו איש לעירו׃
22 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, "Gwrando ar eu cais, a rho frenin iddynt." A dywedodd Samuel wrth yr Israeliaid, "Ewch adref bob un."