1ויתחזק שלמה בן דויד על מלכותו ויהוה אלהיו עמו ויגדלהו למעלה׃
1 Sicrhaodd Solomon fab Dafydd ei afael ar ei deyrnas, ac yr oedd yr ARGLWYDD ei Dduw gydag ef, yn ei ddyrchafu'n uchel iawn.
2ויאמר שלמה לכל ישראל לשרי האלפים והמאות ולשפטים ולכל נשיא לכל ישראל ראשי האבות׃
2 Cyfarchodd Solomon holl Israel, capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, y barnwyr a phob tywysog a phenteulu trwy Israel gyfan.
3וילכו שלמה וכל הקהל עמו לבמה אשר בגבעון כי שם היה אהל מועד האלהים אשר עשה משה עבד יהוה במדבר׃
3 Yna fe aeth ef a'r gynulleidfa i gyd i'r uchelfa yn Gibeon, oherwydd yno yr oedd pabell cyfarfod Duw, a wnaeth Moses gwas yr ARGLWYDD yn yr anialwch.
4אבל ארון האלהים העלה דויד מקרית יערים בהכין לו דויד כי נטה לו אהל בירושלם׃
4 Ond yr oedd arch Duw wedi ei chludo gan Ddafydd o Ciriath-jearim i'r lle a ddarparodd ar ei chyfer, sef y babell a gododd yn Jerwsalem.
5ומזבח הנחשת אשר עשה בצלאל בן אורי בן חור שם לפני משכן יהוה וידרשהו שלמה והקהל׃
5 Yno, o flaen tabernacl yr ARGLWYDD, yr oedd yr allor bres a wnaeth Besalel fab Uri, fab Hur; ac fe nesaodd Solomon a'r gynulleidfa ati.
6ויעל שלמה שם על מזבח הנחשת לפני יהוה אשר לאהל מועד ויעל עליו עלות אלף׃
6 Aeth Solomon i fyny at yr allor bres gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y cyfarfod, ac offrymodd arni fil o boethoffrymau.
7בלילה ההוא נראה אלהים לשלמה ויאמר לו שאל מה אתן לך׃
7 Y noson honno ymddangosodd Duw i Solomon a dweud wrtho, "Gofyn beth bynnag a fynni gennyf."
8ויאמר שלמה לאלהים אתה עשית עם דויד אבי חסד גדול והמלכתני תחתיו׃
8 Dywedodd Solomon wrth Dduw, "Buost yn ffyddlon iawn i'm tad Dafydd, a gwnaethost fi yn frenin yn ei le.
9עתה יהוה אלהים יאמן דברך עם דויד אבי כי אתה המלכתני על עם רב כעפר הארץ׃
9 Yn awr, ARGLWYDD Dduw, cyflawner dy addewid i'm tad Dafydd, oherwydd gwnaethost fi'n frenin ar bobl mor aneirif � llwch y ddaear.
10עתה חכמה ומדע תן לי ואצאה לפני העם הזה ואבואה כי מי ישפט את עמך הזה הגדול׃
10 Yn awr, rho i mi ddoethineb a deall i arwain y bobl hyn, oherwydd pwy a all farnu dy bobl, sydd mor niferus?"
11ויאמר אלהים לשלמה יען אשר היתה זאת עם לבבך ולא שאלת עשר נכסים וכבוד ואת נפש שנאיך וגם ימים רבים לא שאלת ותשאל לך חכמה ומדע אשר תשפוט את עמי אשר המלכתיך עליו׃
11 Meddai Duw wrth Solomon, "Gan mai dyma dy ddymuniad, ac na ofynnaist am gyfoeth na golud nac anrhydedd, nac einioes dy elynion, na hir oes i ti dy hun, ond yn hytrach am ddoethineb a deall i farnu fy mhobl y gwneuthum di'n frenin arnynt,
12החכמה והמדע נתון לך ועשר ונכסים וכבוד אתן לך אשר לא היה כן למלכים אשר לפניך ואחריך לא יהיה כן׃
12 fe roddir doethineb a deall iti. Rhoddaf iti hefyd gyfoeth, golud ac anrhydedd na fu eu tebyg gan y brenhinoedd o'th flaen, ac na fydd gan y rhai ar dy �l."
13ויבא שלמה לבמה אשר בגבעון ירושלם מלפני אהל מועד וימלך על ישראל׃
13 Yna dychwelodd Solomon o babell y cyfarfod yn yr uchelfa yn Gibeon, a daeth i Jerwsalem, lle y teyrnasodd ar Israel.
14ויאסף שלמה רכב ופרשים ויהי לו אלף וארבע מאות רכב ושנים עשר אלף פרשים ויניחם בערי הרכב ועם המלך בירושלם׃
14 Casglodd Solomon gerbydau a meirch; ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau a deuddeng mil o feirch a gedwid yn y dinasoedd cerbyd a chyda'r brenin yn Jerwsalem.
15ויתן המלך את הכסף ואת הזהב בירושלם כאבנים ואת הארזים נתן כשקמים אשר בשפלה לרב׃
15 Parodd y brenin i arian ac aur fod mor aml yn Jerwsalem � cherrig, a chedrwydd mor gyffredin � sycamorwydd y Seffela.
16ומוצא הסוסים אשר לשלמה ממצרים ומקוא סחרי המלך מקוא יקחו במחיר׃
16 o'r Aifft a Cu373?e y d�i ceffylau Solomon, a byddai porthmyn y brenin yn eu cyrchu o Cu373?e am bris penodedig.
17ויעלו ויוציאו ממצרים מרכבה בשש מאות כסף וסוס בחמשים ומאה וכן לכל מלכי החתים ומלכי ארם בידם יוציאו׃
17 Byddent yn mewnforio cerbyd o'r Aifft am chwe chant o siclau arian, a cheffyl am gant a hanner, ac yn eu hallforio i holl frenhinoedd yr Hethiaid a'r Syriaid.