1וילך רחבעם שכמה כי שכם באו כל ישראל להמליך אתו׃
1 Aeth Rehoboam i Sichem, gan mai i Sichem y daethai holl Israel i'w urddo'n frenin.
2ויהי כשמע ירבעם בן נבט והוא במצרים אשר ברח מפני שלמה המלך וישב ירבעם ממצרים׃
2 Pan glywodd Jeroboam fab Nebat, ac yntau yn yr Aifft, lle'r oedd wedi ffoi rhag y Brenin Solomon, dychwelodd oddi yno.
3וישלחו ויקראו לו ויבא ירבעם וכל ישראל וידברו אל רחבעם לאמר׃
3 Galwyd arno, ac fe ddaeth yntau a holl Israel a dweud wrth Rehoboam,
4אביך הקשה את עלנו ועתה הקל מעבדת אביך הקשה ומעלו הכבד אשר נתן עלינו ונעבדך׃
4 "Trymhaodd dy dad ein hiau; os gwnei di'n awr ysgafnhau peth ar gaethiwed caled dy dad, a'r iau drom a osododd arnom, yna fe'th wasanaethwn."
5ויאמר אלהם עוד שלשת ימים ושובו אלי וילך העם׃
5 Dywedodd yntau wrthynt, "Ewch i ffwrdd am dridiau, ac yna dewch yn �l ataf." Aeth y bobl.
6ויועץ המלך רחבעם את הזקנים אשר היו עמדים לפני שלמה אביו בהיתו חי לאמר איך אתם נועצים להשיב לעם הזה דבר׃
6 Ymgynghorodd Rehoboam �'r henuriaid oedd yn llys ei dad Solomon pan oedd yn fyw, a gofynnodd, "Sut y byddech chwi'n fy nghynghori i ateb y bobl hyn?"
7וידברו אליו לאמר אם תהיה לטוב להעם הזה ורציתם ודברת אלהם דברים טובים והיו לך עבדים כל הימים׃
7 Eu hateb oedd, "Os byddi'n gl�n wrthynt, a'u bodloni a'u hateb � geiriau teg, byddant yn weision iti am byth."
8ויעזב את עצת הזקנים אשר יעצהו ויועץ את הילדים אשר גדלו אתו העמדים לפניו׃
8 Ond gwrthododd y cyngor a roes yr henuriaid, a cheisiodd gyngor y llanciau oedd yn gyfoedion iddo ac yn aelodau o'i lys.
9ויאמר אלהם מה אתם נועצים ונשיב דבר את העם הזה אשר דברו אלי לאמר הקל מן העל אשר נתן אביך עלינו׃
9 Gofynnodd iddynt hwy, "Beth ydych chwi'n fy nghynghori i ateb y bobl hyn sy'n dweud wrthyf, 'Ysgafnha rywfaint ar yr iau a osododd dy dad arnom'?"
10וידברו אתו הילדים אשר גדלו אתו לאמר כה תאמר לעם אשר דברו אליך לאמר אביך הכביד את עלנו ואתה הקל מעלינו כה תאמר אלהם קטני עבה ממתני אבי׃
10 Atebodd y llanciau oedd yn gyfoed ag ef, "Fel hyn y dywedi wrth y bobl hyn sy'n dweud wrthyt, 'Gwnaeth dy dad ein hiau yn drwm; ysgafnha dithau arnom'. Ie, dyma a ddywedi wrthynt: 'Y mae fy mys bach i yn braffach na llwynau fy nhad!
11ועתה אבי העמיס עליכם על כבד ואני אסיף על עלכם אבי יסר אתכם בשוטים ואני בעקרבים׃
11 Y mae'n wir i'm tad osod iau drom arnoch, ond fe'i gwnaf fi hi'n drymach. Cystwyodd fy nhad chwi � chwip, ond fe'ch cystwyaf fi chwi � ffrewyll!'"
12ויבא ירבעם וכל העם אל רחבעם ביום השלשי כאשר דבר המלך לאמר שובו אלי ביום השלשי׃
12 Pan ddaeth Jeroboam a'r holl bobl at Rehoboam ar y trydydd dydd, yn �l gorchymyn y brenin, "Dewch yn �l ataf ymhen tridiau",
13ויענם המלך קשה ויעזב המלך רחבעם את עצת הזקנים׃
13 atebodd y brenin hwy'n chwyrn. Diystyrodd Rehoboam gyngor yr henuriaid, a derbyn cyngor y llanciau.
14וידבר אלהם כעצת הילדים לאמר אכביד את עלכם ואני אסיף עליו אבי יסר אתכם בשוטים ואני בעקרבים׃
14 Dywedodd wrthynt, "Trymhaodd fy nhad eich iau, ond fe'i gwnaf fi hi'n drymach; cystwyodd fy nhad chwi � chwip, ond fe'ch cystwyaf fi chwi � ffrewyll!"
15ולא שמע המלך אל העם כי היתה נסבה מעם האלהים למען הקים יהוה את דברו אשר דבר ביד אחיהו השלוני אל ירבעם בן נבט׃
15 Felly ni wrandawodd y brenin ar y bobl, oherwydd fel hyn y tynghedwyd gan Dduw, er mwyn i'r ARGLWYDD gyflawni'r gair a lefarwyd drwy Aheia o Seilo wrth Jeroboam fab Nebat.
16וכל ישראל כי לא שמע המלך להם וישיבו העם את המלך לאמר מה לנו חלק בדויד ולא נחלה בבן ישי איש לאהליך ישראל עתה ראה ביתך דויד וילך כל ישראל לאהליו׃
16 A phan welodd holl Israel nad oedd y brenin am wrando arnynt, daeth ateb oddi wrth y bobl at y brenin: "Pa ran sydd i ni yn Nafydd? Nid oes gyfran inni ym mab Jesse. Adref i'th bebyll, Israel! Edrych at dy du375? dy hun, Ddafydd!"
17ובני ישראל הישבים בערי יהודה וימלך עליהם רחבעם׃
17 Yna aeth Israel adref. Ond yr oedd rhai Israeliaid yn byw yn nhrefi Jwda, a Rehoboam yn frenin arnynt.
18וישלח המלך רחבעם את הדרם אשר על המס וירגמו בו בני ישראל אבן וימת והמלך רחבעם התאמץ לעלות במרכבה לנוס ירושלם׃
18 Pan anfonodd y brenin atynt Adoram, goruchwyliwr y llafur gorfod, llabyddiodd yr Israeliaid ef a'i ladd; ond llwyddodd y Brenin Rehoboam i gyrraedd ei gerbyd a ffoi i Jerwsalem.
19ויפשעו ישראל בבית דויד עד היום הזה׃
19 Ac y mae Israel mewn gwrthryfel yn erbyn llinach Dafydd hyd heddiw.