Hebrew: Modern

Welsh

2 Chronicles

15

1ועזריהו בן עודד היתה עליו רוח אלהים׃
1 Daeth ysbryd Duw ar Asareia fab Oded,
2ויצא לפני אסא ויאמר לו שמעוני אסא וכל יהודה ובנימן יהוה עמכם בהיותכם עמו ואם תדרשהו ימצא לכם ואם תעזבהו יעזב אתכם׃
2 ac fe aeth allan i gyfarfod Asa, a dweud wrtho, "O Asa, a holl Jwda a Benjamin, gwrandewch arnaf fi. Bydd yr ARGLWYDD gyda chwi os byddwch chwi gydag ef. Os ceisiwch ef, fe'i cewch; ond os cefnwch arno, bydd yntau yn cefnu arnoch chwithau.
3וימים רבים לישראל ללא אלהי אמת וללא כהן מורה וללא תורה׃
3 Am amser maith bu Israel heb y gwir Dduw, heb offeiriad i'w dysgu a heb gyfraith.
4וישב בצר לו על יהוה אלהי ישראל ויבקשהו וימצא להם׃
4 Yn eu trybini dychwelsant at ARGLWYDD Dduw Israel, a'i geisio, ac amlygodd yntau ei hun iddynt.
5ובעתים ההם אין שלום ליוצא ולבא כי מהומת רבות על כל יושבי הארצות׃
5 Yn y cyfnod hwnnw nid oedd heddwch i neb yn ei fywyd beunyddiol, am fod trigolion y gwledydd mewn ymrafael parhaus;
6וכתתו גוי בגוי ועיר בעיר כי אלהים הממם בכל צרה׃
6 dinistrid cenedl gan genedl, a dinas gan ddinas, am fod Duw yn eu poeni � phob aflwydd.
7ואתם חזקו ואל ירפו ידיכם כי יש שכר לפעלתכם׃
7 Ond byddwch chwi'n wrol! Peidiwch � llaesu dwylo, oherwydd fe gewch wobr am eich gwaith."
8וכשמע אסא הדברים האלה והנבואה עדד הנביא התחזק ויעבר השקוצים מכל ארץ יהודה ובנימן ומן הערים אשר לכד מהר אפרים ויחדש את מזבח יהוה אשר לפני אולם יהוה׃
8 Pan glywodd Asa y geiriau hyn, sef y broffwydoliaeth gan Asareia fab Oded y proffwyd, fe ymwrolodd. Ysgubodd ymaith y pethau ffiaidd o holl wlad Jwda a Benjamin, ac o'r dinasoedd a enillodd ym mynydd-dir Effraim, ac ad-newyddodd allor yr ARGLWYDD a safai o flaen porth teml yr ARGLWYDD.
9ויקבץ את כל יהודה ובנימן והגרים עמהם מאפרים ומנשה ומשמעון כי נפלו עליו מישראל לרב בראתם כי יהוה אלהיו עמו׃
9 Casglodd ynghyd holl Jwda a Benjamin, a phob dieithryn o Effraim, Manasse a Simeon oedd yn byw gyda hwy, oherwydd yr oedd llawer iawn o Israeliaid wedi dod i lawr at Asa pan welsant fod yr ARGLWYDD ei Dduw gydag ef.
10ויקבצו ירושלם בחדש השלישי לשנת חמש עשרה למלכות אסא׃
10 Daethant ynghyd i Jerwsalem yn y trydydd mis o'r bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad Asa.
11ויזבחו ליהוה ביום ההוא מן השלל הביאו בקר שבע מאות וצאן שבעת אלפים׃
11 Y diwrnod hwnnw aberthasant i'r ARGLWYDD saith gant o wartheg a saith mil o ddefaid o'r anrhaith a ddygasant.
12ויבאו בברית לדרוש את יהוה אלהי אבותיהם בכל לבבם ובכל נפשם׃
12 Gwnaethant gyfamod i geisio ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid �'u holl galon ac �'u holl enaid.
13וכל אשר לא ידרש ליהוה אלהי ישראל יומת למן קטן ועד גדול למאיש ועד אשה׃
13 Yr oedd pwy bynnag a wrthodai geisio ARGLWYDD Dduw Israel i'w roi i farwolaeth, boed fach neu fawr, gu373?r neu wraig.
14וישבעו ליהוה בקול גדול ובתרועה ובחצצרות ובשופרות׃
14 Tyngasant i'r ARGLWYDD � llais uchel a bloedd, a thrwmpedau ac utgyrn.
15וישמחו כל יהודה על השבועה כי בכל לבבם נשבעו ובכל רצונם בקשהו וימצא להם וינח יהוה להם מסביב׃
15 Gorfoleddodd holl Jwda o achos y llw, am iddynt ei dyngu �'u holl galon; ceisiasant yr ARGLWYDD o'u gwirfodd, a datguddiodd yntau ei hun iddynt. Felly rhoes yr ARGLWYDD lonydd iddynt oddi amgylch.
16וגם מעכה אם אסא המלך הסירה מגבירה אשר עשתה לאשרה מפלצת ויכרת אסא את מפלצתה וידק וישרף בנחל קדרון׃
16 Yna fe ddiswyddodd y Brenin Asa ei fam Maacha o fod yn fam frenhines, am iddi lunio ffieiddbeth ar gyfer Asera. Drylliodd Asa ei delw yn ddarnau, a'i llosgi yn nant Cidron.
17והבמות לא סרו מישראל רק לבב אסא היה שלם כל ימיו׃
17 Ni symudwyd yr uchelfeydd o Israel; eto yr oedd calon Asa yn berffaith gywir ar hyd ei oes.
18ויבא את קדשי אביו וקדשיו בית האלהים כסף וזהב וכלים׃
18 Dygodd i du375?'r ARGLWYDD yr addunedau o arian, aur a llestri a addawodd ei dad ac yntau.
19ומלחמה לא היתה עד שנת שלשים וחמש למלכות אסא׃
19 Ac ni bu rhyfel hyd y bymthegfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad Asa.