Hebrew: Modern

Welsh

2 Chronicles

17

1וימלך יהושפט בנו תחתיו ויתחזק על ישראל׃
1 Daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn lle Asa, ac fe benderfynodd ef wrthsefyll Israel.
2ויתן חיל בכל ערי יהודה הבצרות ויתן נציבים בארץ יהודה ובערי אפרים אשר לכד אסא אביו׃
2 Rhoddodd filwyr ym mhob un o ddinasoedd caerog Jwda, a gosod garsiynau yng ngwlad Jwda ac yn ninasoedd Effraim, sef y dinasoedd a gymerwyd gan ei dad Asa.
3ויהי יהוה עם יהושפט כי הלך בדרכי דויד אביו הראשנים ולא דרש לבעלים׃
3 A bu'r ARGLWYDD gyda Jehosaffat am iddo ddilyn llwybrau cynnar ei dad Dafydd a gwrthod ymofyn �'r Baalim,
4כי לאלהי אביו דרש ובמצותיו הלך ולא כמעשה ישראל׃
4 a throi yn hytrach at Dduw ei hynafiaid a chadw ei orchmynion, a pheidio � dilyn esiampl Israel.
5ויכן יהוה את הממלכה בידו ויתנו כל יהודה מנחה ליהושפט ויהי לו עשר וכבוד לרב׃
5 Felly, sicrhaodd yr ARGLWYDD y frenhiniaeth yn llaw Jehosaffat, ac fe roddodd holl Jwda anrhegion iddo, nes bod ganddo olud a chyfoeth mawr iawn.
6ויגבה לבו בדרכי יהוה ועוד הסיר את הבמות ואת האשרים מיהודה׃
6 Dilynodd yr ARGLWYDD yn ffyddlon, a hefyd fe dynnodd ymaith o Jwda yr uchelfeydd a'r delwau o Asera.
7ובשנת שלוש למלכו שלח לשריו לבן חיל ולעבדיה ולזכריה ולנתנאל ולמיכיהו ללמד בערי יהודה׃
7 Yn nhrydedd flwyddyn ei deyrnasiad anfonodd ei dywysogion Ben-hail, Obadeia, Sechareia, Nethaneel a Michaia i ddysgu yn ninasoedd Jwda.
8ועמהם הלוים שמעיהו ונתניהו וזבדיהו ועשהאל ושמרימות ויהונתן ואדניהו וטוביהו וטוב אדוניה הלוים ועמהם אלישמע ויהורם הכהנים׃
8 Gyda hwy fe aeth y Lefiaid Semaia, Nethaneia, Sebadeia, Asahel, Semiramoth, Jehonathan, Adoneia, Tobeia a Tob-adoneia, a hefyd yr offeiriaid Elisama a Jehoram.
9וילמדו ביהודה ועמהם ספר תורת יהוה ויסבו בכל ערי יהודה וילמדו בעם׃
9 Aeth y rhain i ddysgu yn Jwda, ac yr oedd llyfr cyfraith yr ARGLWYDD ganddynt; teithiasant trwy holl ddinasoedd Jwda gan hyfforddi'r bobl.
10ויהי פחד יהוה על כל ממלכות הארצות אשר סביבות יהודה ולא נלחמו עם יהושפט׃
10 Daeth ofn yr ARGLWYDD ar holl deyrnasoedd y gwledydd o amgylch Jwda, ac ni ddaethant i ryfela yn erbyn Jehosaffat.
11ומן פלשתים מביאים ליהושפט מנחה וכסף משא גם הערביאים מביאים לו צאן אילים שבעת אלפים ושבע מאות ותישים שבעת אלפים ושבע מאות׃
11 Daeth rhai o'r Philistiaid ag anrhegion ac arian teyrnged i Jehosaffat; a daeth yr Arabiaid � diadelloedd, sef saith mil saith gant o hyrddod a saith mil saith gant o fychod.
12ויהי יהושפט הלך וגדל עד למעלה ויבן ביהודה בירניות וערי מסכנות׃
12 Aeth Jehosaffat o nerth i nerth. Adeiladodd gestyll a dinasoedd st�r yn Jwda, ac yr oedd yn gyfrifol am lawer o waith yn ninasoedd Jwda.
13ומלאכה רבה היה לו בערי יהודה ואנשי מלחמה גבורי חיל בירושלם׃
13 Yr oedd ganddo hefyd filwyr nerthol yn Jerwsalem,
14ואלה פקדתם לבית אבותיהם ליהודה שרי אלפים עדנה השר ועמו גבורי חיל שלש מאות אלף׃
14 wedi eu rhestru yn �l eu tywythau fel hyn. O Jwda, swyddogion ar uned o fil: Adna yn ben, a chydag ef dri chan mil o wroniaid;
15ועל ידו יהוחנן השר ועמו מאתים ושמונים אלף׃
15 y nesaf ato ef, Jehohanan, y capten, gyda dau gant wyth deg o filoedd;
16ועל ידו עמסיה בן זכרי המתנדב ליהוה ועמו מאתים אלף גבור חיל׃
16 yna Amaseia fab Sichri, a oedd yn gwasanaethu'r ARGLWYDD o'i wirfodd, gyda dau gan mil o wroniaid.
17ומן בנימן גבור חיל אלידע ועמו נשקי קשת ומגן מאתים אלף׃
17 O Benjamin: y gwron Eliada, gyda dau gan mil yn cario bwa a tharian;
18ועל ידו יהוזבד ועמו מאה ושמונים אלף חלוצי צבא׃
18 yna Jehosabad, gyda chant wyth deg o filoedd yn barod i ryfel.
19אלה המשרתים את המלך מלבד אשר נתן המלך בערי המבצר בכל יהודה׃
19 Dyma'r rhai oedd yn gwasanaethu'r brenin, ar wah�n i'r rhai a osododd ef yn y dinasoedd caerog trwy holl Jwda.