1בשנת עשרים ושלש שנה ליואש בן אחזיהו מלך יהודה מלך יהואחז בן יהוא על ישראל בשמרון שבע עשרה שנה׃
1 Yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Jehoas fab Ahaseia brenin Jwda daeth Jehoahas fab Jehu yn frenin ar Israel yn Samaria am ddwy flynedd ar bymtheg.
2ויעש הרע בעיני יהוה וילך אחר חטאת ירבעם בן נבט אשר החטיא את ישראל לא סר ממנה׃
2 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a dilyn pechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu; ni throdd oddi wrthynt.
3ויחר אף יהוה בישראל ויתנם ביד חזאל מלך ארם וביד בן הדד בן חזאל כל הימים׃
3 Llidiodd yr ARGLWYDD wrth Israel, a rhoddodd hwy yn llaw Hasael brenin Syria a Ben-hadad fab Hasael am gyfnod.
4ויחל יהואחז את פני יהוה וישמע אליו יהוה כי ראה את לחץ ישראל כי לחץ אתם מלך ארם׃
4 Ond erfyniodd Jehoahas ar yr ARGLWYDD, a gwrandawodd yntau arno wrth weld fel y dioddefai Israel dan orthrwm brenin Syria.
5ויתן יהוה לישראל מושיע ויצאו מתחת יד ארם וישבו בני ישראל באהליהם כתמול שלשום׃
5 Rhoddodd yr ARGLWYDD waredydd i Israel a'u rhyddhau o afael Syria, a chafodd yr Israeliaid fyw yn eu cartrefi fel o'r blaen.
6אך לא סרו מחטאות בית ירבעם אשר החטי את ישראל בה הלך וגם האשרה עמדה בשמרון׃
6 Eto ni throesant oddi wrth bechodau tylwyth Jeroboam, a barodd i Israel bechu, ond parhau ynddynt, ac yr oedd hyd yn oed y pren Asera'n aros yn Samaria.
7כי לא השאיר ליהואחז עם כי אם חמשים פרשים ועשרה רכב ועשרת אלפים רגלי כי אבדם מלך ארם וישמם כעפר לדש׃
7 Ni adawodd Hasael i Jehoahas fwy na hanner cant o farchogion, a deg o gerbydau, a deng mil o wu375?r traed, gan fod brenin Syria wedi eu dinistrio a'u gwneud fel llwch dyrnwr.
8ויתר דברי יהואחז וכל אשר עשה וגבורתו הלוא הם כתובים על ספר דברי הימים למלכי ישראל׃
8 Am weddill hanes Jehoahas, a'i weithredoedd a'i wrhydri, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
9וישכב יהואחז עם אבתיו ויקברהו בשמרון וימלך יואש בנו תחתיו׃
9 Bu farw Jehoahas, a'i gladdu yn Samaria, a daeth ei fab Joas yn frenin yn ei le.
10בשנת שלשים ושבע שנה ליואש מלך יהודה מלך יהואש בן יהואחז על ישראל בשמרון שש עשרה שנה׃
10 Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Jehoas brenin Jwda y daeth Joas fab Jehoahas yn frenin ar Israel yn Samaria am un mlynedd ar bymtheg.
11ויעשה הרע בעיני יהוה לא סר מכל חטאות ירבעם בן נבט אשר החטיא את ישראל בה הלך׃
11 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac ni throdd oddi wrth holl bechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu, ond parhaodd ynddynt.
12ויתר דברי יואש וכל אשר עשה וגבורתו אשר נלחם עם אמציה מלך יהודה הלוא הם כתובים על ספר דברי הימים למלכי ישראל׃
12 Am weddill hanes Joas a'r cwbl a wnaeth, a'i wrhydri wrth frwydro yn erbyn Amaseia brenin Jwda, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
13וישכב יואש עם אבתיו וירבעם ישב על כסאו ויקבר יואש בשמרון עם מלכי ישראל׃
13 Bu farw Joas, a chladdwyd ef yn Samaria gyda brenhinoedd Israel; yna daeth Jeroboam i'w orsedd.
14ואלישע חלה את חליו אשר ימות בו וירד אליו יואש מלך ישראל ויבך על פניו ויאמר אבי אבי רכב ישראל ופרשיו׃
14 Pan oedd Eliseus yn glaf o'i glefyd olaf, daeth Joas brenin Israel i ymweld ag ef, ac wylo yn ei u373?ydd a dweud, "Fy nhad, fy nhad, cerbydau a marchogion Israel."
15ויאמר לו אלישע קח קשת וחצים ויקח אליו קשת וחצים׃
15 Dywedodd Eliseus wrtho, "Cymer fwa a saethau," a gwnaeth yntau hynny.
16ויאמר למלך ישראל הרכב ידך על הקשת וירכב ידו וישם אלישע ידיו על ידי המלך׃
16 Yna meddai wrth frenin Israel, "Cydia yn y bwa"; gwnaeth yntau, a gosododd Eliseus ei ddwylo ar ddwylo'r brenin.
17ויאמר פתח החלון קדמה ויפתח ויאמר אלישע ירה ויור ויאמר חץ תשועה ליהוה וחץ תשועה בארם והכית את ארם באפק עד כלה׃
17 Yna dywedodd, "Agor y ffenestr tua'r dwyrain." Agorodd hi, a dywed-u373?odd Eliseus, "Saetha." A phan oedd yn saethu, dywedodd, "Saeth buddugoliaeth i'r ARGLWYDD, saeth buddugoliaeth dros Syria! Byddi'n taro'r Syriaid yn Affec ac yn eu difa."
18ויאמר קח החצים ויקח ויאמר למלך ישראל הך ארצה ויך שלש פעמים ויעמד׃
18 Dywedodd wedyn, "Cymer y saethau," a chymerodd yntau hwy. Yna dywedodd Eliseus wrth frenin Israel, "Taro hwy ar y ddaear." Trawodd yntau deirgwaith ac yna peidio.
19ויקצף עליו איש האלהים ויאמר להכות חמש או שש פעמים אז הכית את ארם עד כלה ועתה שלש פעמים תכה את ארם׃
19 Digiodd gu373?r Duw wrtho a dweud, "Pe bait wedi taro pump neu chwech o weithiau, yna byddit yn taro Syria yn Affec nes ei difa; ond yn awr, teirgwaith yn unig y byddi'n taro Syria."
20וימת אלישע ויקברהו וגדודי מואב יבאו בארץ בא שנה׃
20 Wedi hyn bu Eliseus farw, a chladdwyd ef. Bob blwyddyn byddai minteioedd o Moab yn arfer dod ar draws y wlad.
21ויהי הם קברים איש והנה ראו את הגדוד וישליכו את האיש בקבר אלישע וילך ויגע האיש בעצמות אלישע ויחי ויקם על רגליו׃
21 Un tro, yn ystod angladd rhyw ddyn, gwelwyd mintai'n dod, a bwriwyd y dyn i fedd Eliseus; ond cyn gynted ag y cyffyrddodd ag esgyrn Eliseus, daeth yn fyw a chodi ar ei draed.
22וחזאל מלך ארם לחץ את ישראל כל ימי יהואחז׃
22 Bu Hasael brenin Syria yn gorthrymu Israel holl ddyddiau Jehoahas,
23ויחן יהוה אתם וירחמם ויפן אליהם למען בריתו את אברהם יצחק ויעקב ולא אבה השחיתם ולא השליכם מעל פניו עד עתה׃
23 nes i'r ARGLWYDD dosturio a dangos trugaredd a ffafr tuag atynt er mwyn ei gyfamod ag Abraham, Isaac a Jacob, am nad oedd yn ewyllysio'u dinistrio ac nad oedd hyd yn hyn wedi eu bwrw allan o'i olwg.
24וימת חזאל מלך ארם וימלך בן הדד בנו תחתיו׃
24 Pan fu farw Hasael brenin Syria, daeth ei fab Ben-hadad yn frenin yn ei le;
25וישב יהואש בן יהואחז ויקח את הערים מיד בן הדד בן חזאל אשר לקח מיד יהואחז אביו במלחמה שלש פעמים הכהו יואש וישב את ערי ישראל׃
25 ac enillodd Jehoas fab Jehoahas o law Ben-hadad fab Hasael y trefi yr oedd Hasael wedi eu dwyn o law ei dad Jehoahas trwy ryfel. Gorchfygodd Joas ef dair gwaith, ac ennill yn �l drefi Israel.