1בשנת עשרים ושבע שנה לירבעם מלך ישראל מלך עזריה בן אמציה מלך יהודה׃
1 Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Jeroboam brenin Israel, daeth Asareia fab Amaseia brenin Jwda yn frenin.
2בן שש עשרה שנה היה במלכו וחמשים ושתים שנה מלך בירושלם ושם אמו יכליהו מירושלם׃
2 Un ar bymtheg oedd ei oed pan ddaeth i'r orsedd, a theyrnasodd am hanner cant a dwy o flynyddoedd yn Jerwsalem. Jecholeia o Jerwsalem oedd enw ei fam.
3ויעש הישר בעיני יהוה ככל אשר עשה אמציהו אביו׃
3 Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn hollol fel y gwnaeth ei dad Amaseia;
4רק הבמות לא סרו עוד העם מזבחים ומקטרים בבמות׃
4 er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; yr oedd y bobl yn parhau i aberthu ac arogldarthu ynddynt.
5וינגע יהוה את המלך ויהי מצרע עד יום מתו וישב בבית החפשית ויותם בן המלך על הבית שפט את עם הארץ׃
5 Trawodd yr ARGLWYDD y brenin, a bu'n wahanglwyfus hyd ddydd ei farw, yn byw o'r neilltu yn ei du375?, a Jotham mab y brenin yn oruchwyliwr y palas ac yn rheoli pobl y wlad.
6ויתר דברי עזריהו וכל אשר עשה הלא הם כתובים על ספר דברי הימים למלכי יהודה׃
6 Am weddill hanes Asareia a'r cwbl a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?
7וישכב עזריה עם אבתיו ויקברו אתו עם אבתיו בעיר דוד וימלך יותם בנו תחתיו׃
7 Bu farw Asareia, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn Ninas Dafydd, a daeth ei fab Jotham yn frenin yn ei le.
8בשנת שלשים ושמנה שנה לעזריהו מלך יהודה מלך זכריהו בן ירבעם על ישראל בשמרון ששה חדשים׃
8 Yn y ddeunawfed flwyddyn ar hugain i Asareia brenin Jwda, daeth Sechareia fab Jeroboam yn frenin ar Israel yn Samaria am chwe mis.
9ויעש הרע בעיני יהוה כאשר עשו אבתיו לא סר מחטאות ירבעם בן נבט אשר החטיא את ישראל׃
9 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y gwnaeth ei ragflaenwyr, heb droi oddi wrth bechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu.
10ויקשר עליו שלם בן יבש ויכהו קבל עם וימיתהו וימלך תחתיו׃
10 Gwnaeth Salum fab Jabes gynllwyn yn ei erbyn ac ymosod arno yn Ibleam a'i ladd, a theyrnasu yn ei le.
11ויתר דברי זכריה הנם כתובים על ספר דברי הימים למלכי ישראל׃
11 Am weddill hanes Sechareia, y mae wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel.
12הוא דבר יהוה אשר דבר אל יהוא לאמר בני רביעים ישבו לך על כסא ישראל ויהי כן׃
12 Dyma addewid yr ARGLWYDD i Jehu: "Bydd plant i ti yn eistedd ar orsedd Israel hyd y bedwaredd genhedlaeth." Ac felly y bu.
13שלום בן יביש מלך בשנת שלשים ותשע שנה לעזיה מלך יהודה וימלך ירח ימים בשמרון׃
13 Yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Usseia brenin Jwda, daeth Salum fab Jabes i'r orsedd, a theyrnasu yn Samaria am fis.
14ויעל מנחם בן גדי מתרצה ויבא שמרון ויך את שלום בן יביש בשמרון וימיתהו וימלך תחתיו׃
14 Daeth Menahem fab Gadi o Tirsa i Samaria ac ymosod yno ar Salum fab Jabes a'i ladd, a theyrnasu yn ei le.
15ויתר דברי שלום וקשרו אשר קשר הנם כתבים על ספר דברי הימים למלכי ישראל׃
15 Am weddill hanes Salum a'i gynllwyn, y mae wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel.
16אז יכה מנחם את תפסח ואת כל אשר בה ואת גבוליה מתרצה כי לא פתח ויך את כל ההרותיה בקע׃
16 Dyna'r pryd yr ymosododd Menahem o Tirsa ar Tiffsa a'i thrigolion a'i thiriogaeth, am nad ildiodd iddo; rheibiodd hi a rhwygo ei holl wragedd beichiog.
17בשנת שלשים ותשע שנה לעזריה מלך יהודה מלך מנחם בן גדי על ישראל עשר שנים בשמרון׃
17 Yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asareia brenin Jwda, daeth Menahem fab Gadi yn frenin ar Israel yn Samaria am ddeng mlynedd.
18ויעש הרע בעיני יהוה לא סר מעל חטאות ירבעם בן נבט אשר החטיא את ישראל כל ימיו׃
18 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, heb droi oddi wrth bechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu.
19בא פול מלך אשור על הארץ ויתן מנחם לפול אלף ככר כסף להיות ידיו אתו להחזיק הממלכה בידו׃
19 Yn ei ddyddiau ef daeth Pul brenin Asyria yn erbyn y wlad, a rhoddodd Menahem i Pul fil o dalentau arian i ennill ei gefnogaeth a sicrhau'r frenhiniaeth iddo'i hun.
20ויצא מנחם את הכסף על ישראל על כל גבורי החיל לתת למלך אשור חמשים שקלים כסף לאיש אחד וישב מלך אשור ולא עמד שם בארץ׃
20 Cododd Menahem yr arian oddi ar fonedd Israel er mwyn rhoi i frenin Asyria yn �l hanner can sicl y pen.
21ויתר דברי מנחם וכל אשר עשה הלוא הם כתובים על ספר דברי הימים למלכי ישראל׃
21 Yna dychwelodd brenin Asyria heb aros rhagor yn y wlad. Am weddill hanes Menahem, a'r cwbl a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
22וישכב מנחם עם אבתיו וימלך פקחיה בנו תחתיו׃
22 Bu farw Menahem, a theyrnasodd ei fab Pecaheia yn ei le.
23בשנת חמשים שנה לעזריה מלך יהודה מלך פקחיה בן מנחם על ישראל בשמרון שנתים׃
23 Yn y ddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda, daeth Pecaheia fab Menahem yn frenin ar Israel yn Samaria am ddwy flynedd.
24ויעש הרע בעיני יהוה לא סר מחטאות ירבעם בן נבט אשר החטיא את ישראל׃
24 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, heb droi oddi wrth bechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu.
25ויקשר עליו פקח בן רמליהו שלישו ויכהו בשמרון בארמון בית מלך את ארגב ואת האריה ועמו חמשים איש מבני גלעדים וימיתהו וימלך תחתיו׃
25 Cynllwyniodd ei is-gapten Pecach fab Remaleia yn ei erbyn, a chyda hanner cant o wu375?r o Gilead ymosododd arno yn Samaria, yng nghaer y palas. Lladdodd ef, a theyrnasu yn ei le.
26ויתר דברי פקחיה וכל אשר עשה הנם כתובים על ספר דברי הימים למלכי ישראל׃
26 Am weddill hanes Pecaheia, a'r cwbl a wnaeth, y mae wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel.
27בשנת חמשים ושתים שנה לעזריה מלך יהודה מלך פקח בן רמליהו על ישראל בשמרון עשרים שנה׃
27 Yn y ddeuddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda, daeth Pecach fab Remaleia yn frenin ar Israel yn Samaria am ugain mlynedd.
28ויעש הרע בעיני יהוה לא סר מן חטאות ירבעם בן נבט אשר החטיא את ישראל׃
28 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, heb droi oddi wrth bechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu.
29בימי פקח מלך ישראל בא תגלת פלאסר מלך אשור ויקח את עיון ואת אבל בית מעכה ואת ינוח ואת קדש ואת חצור ואת הגלעד ואת הגלילה כל ארץ נפתלי ויגלם אשורה׃
29 Yn nyddiau Pecach brenin Israel daeth Tiglath-pileser brenin Asyria a goresgyn Ijon, Abel-beth-maacha, Janoah, Cedes a Hasor, a hefyd Gilead, Galilea a holl diriogaeth Nafftali; a chaethgludodd hwy i Asyria.
30ויקשר קשר הושע בן אלה על פקח בן רמליהו ויכהו וימיתהו וימלך תחתיו בשנת עשרים ליותם בן עזיה׃
30 Gwnaeth Hosea fab Ela gynllwyn yn erbyn Pecach fab Remaleia, ac ymosod arno a'i ladd, a dod yn frenin yn ei le yn yr ugeinfed flwyddyn i Jotham fab Usseia.
31ויתר דברי פקח וכל אשר עשה הנם כתובים על ספר דברי הימים למלכי ישראל׃
31 Am weddill hanes Pecach, a'r cwbl a wnaeth, y mae wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel.
32בשנת שתים לפקח בן רמליהו מלך ישראל מלך יותם בן עזיהו מלך יהודה׃
32 Yn yr ail flwyddyn i Pecach fab Remaleia brenin Israel, daeth Jotham fab Usseia brenin Jwda i'r orsedd.
33בן עשרים וחמש שנה היה במלכו ושש עשרה שנה מלך בירושלם ושם אמו ירושא בת צדוק׃
33 Pump ar hugain oedd ei oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar bymtheg yn Jerwsalem. Jerusa merch Sadoc oedd enw ei fam.
34ויעש הישר בעיני יהוה ככל אשר עשה עזיהו אביו עשה׃
34 Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a gweithredu yn hollol fel y gwnaeth ei dad Usseia;
35רק הבמות לא סרו עוד העם מזבחים ומקטרים בבמות הוא בנה את שער בית יהוה העליון׃
35 er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; yr oedd y bobl yn parhau i aberthu ac arogldarthu ynddynt. Ef a adeiladodd borth uchaf tu375?'r ARGLWYDD.
36ויתר דברי יותם אשר עשה הלא הם כתובים על ספר דברי הימים למלכי יהודה׃
36 Am weddill hanes Jotham, a'r hyn a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?
37בימים ההם החל יהוה להשליח ביהודה רצין מלך ארם ואת פקח בן רמליהו׃
37 Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr ARGLWYDD anfon Resin brenin Syria a Pecach fab Remaleia i ymosod ar Jwda.
38וישכב יותם עם אבתיו ויקבר עם אבתיו בעיר דוד אביו וימלך אחז בנו תחתיו׃
38 Bu farw Jotham, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn ninas ei dad Dafydd, a theyrnasodd ei fab Ahas yn ei le.