1ויהי בשנת שלש להושע בן אלה מלך ישראל מלך חזקיה בן אחז מלך יהודה׃
1 Yn y drydedd flwyddyn i Hosea fab Ela brenin Israel, daeth Heseceia fab Ahas brenin Jwda i'r orsedd.
2בן עשרים וחמש שנה היה במלכו ועשרים ותשע שנה מלך בירושלם ושם אמו אבי בת זכריה׃
2 Yr oedd yn bump ar hugain oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am naw mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Abi merch Sechareia oedd enw ei fam.
3ויעש הישר בעיני יהוה ככל אשר עשה דוד אביו׃
3 Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn hollol fel y gwnaeth ei dad Dafydd.
4הוא הסיר את הבמות ושבר את המצבת וכרת את האשרה וכתת נחש הנחשת אשר עשה משה כי עד הימים ההמה היו בני ישראל מקטרים לו ויקרא לו נחשתן׃
4 Tynnodd ymaith yr uchelfeydd a dryllio'r colofnau a thorri'r pyst Asera, a malu'r sarff bres a wnaeth Moses; oherwydd hyd y dyddiau hynny bu'r Israeliaid yn arogldarthu iddi ac yn ei galw'n Nehustan.
5ביהוה אלהי ישראל בטח ואחריו לא היה כמהו בכל מלכי יהודה ואשר היו לפניו׃
5 Ymddiriedai Heseceia yn yr ARGLWYDD, Duw Israel, ac ni fu neb tebyg iddo ymhlith holl frenhinoedd Jwda, ar ei �l nac o'i flaen.
6וידבק ביהוה לא סר מאחריו וישמר מצותיו אשר צוה יהוה את משה׃
6 Glynodd yn ddiwyro wrth yr ARGLWYDD, a chadw'r gorchmynion a roddodd ef i Moses.
7והיה יהוה עמו בכל אשר יצא ישכיל וימרד במלך אשור ולא עבדו׃
7 Yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef, a llwyddai ym mhopeth a wn�i; gwrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria a gwrthod ei wasanaethu.
8הוא הכה את פלשתים עד עזה ואת גבוליה ממגדל נוצרים עד עיר מבצר׃
8 Trawodd y Philistiaid, yn du373?r gwylwyr ac yn ddinas gaerog, hyd at Gasa a'i therfynau.
9ויהי בשנה הרביעית למלך חזקיהו היא השנה השביעית להושע בן אלה מלך ישראל עלה שלמנאסר מלך אשור על שמרון ויצר עליה׃
9 Yn y bedwaredd flwyddyn i'r Brenin Heseceia (y seithfed flwyddyn i Hosea fab Ela brenin Israel) ymosododd Salmaneser brenin Asyria ar Samaria a gwarchae arni.
10וילכדה מקצה שלש שנים בשנת שש לחזקיה היא שנת תשע להושע מלך ישראל נלכדה שמרון׃
10 Wedi tair blynedd enillodd hi; yn y chweched flwyddyn i Heseceia, sef y nawfed flwyddyn i Hosea brenin Israel, yr enillwyd Samaria.
11ויגל מלך אשור את ישראל אשורה וינחם בחלח ובחבור נהר גוזן וערי מדי׃
11 Caethgludodd brenin Asyria yr Israeliaid i Asyria, a'u rhoi yn Hala ac ar lannau afon Habor yn Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid.
12על אשר לא שמעו בקול יהוה אלהיהם ויעברו את בריתו את כל אשר צוה משה עבד יהוה ולא שמעו ולא עשו׃
12 Bu hyn am nad oeddent wedi gwrando ar lais yr ARGLWYDD eu Duw, ond troseddu yn erbyn ei gyfamod a'r cwbl a orch-mynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD; nid oeddent yn gwrando nac yn gwneud.
13ובארבע עשרה שנה למלך חזקיה עלה סנחריב מלך אשור על כל ערי יהודה הבצרות ויתפשם׃
13 Yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i'r Brenin Heseceia, ymosododd Senacherib brenin Asyria ar holl ddinasoedd caerog Jwda a'u goresgyn.
14וישלח חזקיה מלך יהודה אל מלך אשור לכישה לאמר חטאתי שוב מעלי את אשר תתן עלי אשא וישם מלך אשור על חזקיה מלך יהודה שלש מאות ככר כסף ושלשים ככר זהב׃
14 Yna anfonodd Heseceia brenin Jwda at frenin Asyria i Lachis a dweud, "Rwyf ar fai. Dychwel oddi wrthyf, a thalaf iti beth bynnag a godi arnaf." Rhoddodd brenin Asyria ddirwy o dri chan talent o arian a deg talent ar hugain o aur ar Heseceia brenin Jwda.
15ויתן חזקיה את כל הכסף הנמצא בית יהוה ובאצרות בית המלך׃
15 Talodd Heseceia yr holl arian oedd yn nhu375?'r ARGLWYDD ac yng nghoffrau'r palas;
16בעת ההיא קצץ חזקיה את דלתות היכל יהוה ואת האמנות אשר צפה חזקיה מלך יהודה ויתנם למלך אשור׃
16 a'r un pryd tynnodd yr aur oddi ar ddrysau a cholofnau teml yr ARGLWYDD, y rhai yr oedd ef ei hun wedi eu goreuro, ac fe'i rhoddodd i frenin Asyria.
17וישלח מלך אשור את תרתן ואת רב סריס ואת רב שקה מן לכיש אל המלך חזקיהו בחיל כבד ירושלם ויעלו ויבאו ירושלם ויעלו ויבאו ויעמדו בתעלת הברכה העליונה אשר במסלת שדה כובס׃
17 Anfonodd brenin Asyria y cad-lywydd, y cadfridog a'r prif swyddog gyda byddin gref o Lachis i Jerwsalem at y Brenin Heseceia. Wedi iddynt ddringo i fyny i Jerwsalem, safasant wrth bistyll y llyn uchaf sydd gerllaw priffordd Maes y Pannwr, a galw am y brenin.
18ויקראו אל המלך ויצא אלהם אליקים בן חלקיהו אשר על הבית ושבנה הספר ויואח בן אסף המזכיר׃
18 Daeth Eliacim fab Hilceia arolygwr y palas, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa fab Asaff y cofiadur, allan atynt;
19ויאמר אלהם רב שקה אמרו נא אל חזקיהו כה אמר המלך הגדול מלך אשור מה הבטחון הזה אשר בטחת׃
19 a dywedodd y prif swyddog wrthynt, "Dywedwch wrth Heseceia mai dyma neges yr ymerawdwr, brenin Asyria; 'Beth yw sail yr hyder hwn sydd gennyt?
20אמרת אך דבר שפתים עצה וגבורה למלחמה עתה על מי בטחת כי מרדת בי׃
20 A wyt ti'n meddwl bod geiriau yn gwneud y tro ar gyfer rhyfel, yn lle cynllun a nerth? Ar bwy, ynteu, yr wyt yn dibynnu wrth godi gwrthryfel yn f'erbyn?
21עתה הנה בטחת לך על משענת הקנה הרצוץ הזה על מצרים אשר יסמך איש עליו ובא בכפו ונקבה כן פרעה מלך מצרים לכל הבטחים עליו׃
21 Ai yr Aifft � ffon o gorsen wedi ei hysigo, sy'n rhwygo ac yn agor llaw dyn os pwysa arni? Un felly yw Pharo brenin yr Aifft i bwy bynnag sy'n dibynnu arno.
22וכי תאמרון אלי אל יהוה אלהינו בטחנו הלוא הוא אשר הסיר חזקיהו את במתיו ואת מזבחתיו ויאמר ליהודה ולירושלם לפני המזבח הזה תשתחוו בירושלם׃
22 Neu os dywedi wrthyf, "Yr ydym yn dibynnu ar yr ARGLWYDD ein Duw", onid ef yw'r un y tynnodd Heseceia ei uchelfeydd a'i allorau, a dweud wrth Jwda a Jerwsalem, "O flaen yr allor hon yn Jerwsalem yr addolwch?"'
23ועתה התערב נא את אדני את מלך אשור ואתנה לך אלפים סוסים אם תוכל לתת לך רכבים עליהם׃
23 Yn awr, ynteu, beth am daro bargen �'m meistr, brenin Asyria? Rhoddaf ddwy fil o feirch iti, os gelli di gael marchogion iddynt.
24ואיך תשיב את פני פחת אחד עבדי אדני הקטנים ותבטח לך על מצרים לרכב ולפרשים׃
24 Sut, ynteu, y gelli wrthsefyll un capten o blith gweision lleiaf fy meistr, a dibynnu ar yr Aifft am gerbydau a marchogion?
25עתה המבלעדי יהוה עליתי על המקום הזה להשחתו יהוה אמר אלי עלה על הארץ הזאת והשחיתה׃
25 Heblaw hyn, ai heb yr ARGLWYDD y deuthum i fyny yn erbyn y lle hwn i'w ddinistrio? Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, 'Dos i fyny yn erbyn y wlad hon a dinistria hi.'"
26ויאמר אליקים בן חלקיהו ושבנה ויואח אל רב שקה דבר נא אל עבדיך ארמית כי שמעים אנחנו ואל תדבר עמנו יהודית באזני העם אשר על החמה׃
26 Atebwyd y prif swyddog gan Eliacim fab Hilceia a Sebna a Joa, "Gwell gennym iti siarad � ni yn Aramaeg, oherwydd yr ydym yn ei deall, a pheidio � siarad yn Hebraeg yng nghlyw'r bobl sydd ar y mur."
27ויאמר אליהם רב שקה העל אדניך ואליך שלחני אדני לדבר את הדברים האלה הלא על האנשים הישבים על החמה לאכל את חריהם ולשתות את שיניהם עמכם׃
27 Ond dywedodd y prif swyddog wrthynt, "Ai at eich meistr a chwi yma yr anfonodd fy meistr fi i ddweud fy neges, yn hytrach nag at y bobl? Onid hefyd at y dynion sydd ar y mur, ac a fydd, fel chwithau, yn bwyta eu tom ac yn yfed eu du373?r eu hunain?"
28ויעמד רב שקה ויקרא בקול גדול יהודית וידבר ויאמר שמעו דבר המלך הגדול מלך אשור׃
28 Yna fe safodd y prif swyddog a gweiddi'n uchel mewn Hebraeg, "Clywch eiriau'r ymerawdwr, brenin Asyria.
29כה אמר המלך אל ישיא לכם חזקיהו כי לא יוכל להציל אתכם מידו׃
29 Dyma y mae'n ei ddweud, 'Peidiwch � gadael i Heseceia eich twyllo; ni all ef eich gwaredu o'm llaw.
30ואל יבטח אתכם חזקיהו אל יהוה לאמר הצל יצילנו יהוה ולא תנתן את העיר הזאת ביד מלך אשור׃
30 Peidiwch � chymryd eich perswadio ganddo i ddibynnu ar yr ARGLWYDD pan yw'n dweud, Bydd yr ARGLWYDD yn siu373?r o'n gwaredu ni, ac ni roir y ddinas hon i afael brenin Asyria.'
31אל תשמעו אל חזקיהו כי כה אמר מלך אשור עשו אתי ברכה וצאו אלי ואכלו איש גפנו ואיש תאנתו ושתו איש מי בורו׃
31 Peidiwch � gwrando ar Heseceia. Dyma eiriau brenin Asyria: 'Gwnewch delerau heddwch � mi, dewch allan ataf, ac yna caiff pob un fwyta o'i winwydden ac o'i ffigysbren, ac yfed o ddu373?r ei ffynnon ei hun,
32עד באי ולקחתי אתכם אל ארץ כארצכם ארץ דגן ותירוש ארץ לחם וכרמים ארץ זית יצהר ודבש וחיו ולא תמתו ואל תשמעו אל חזקיהו כי יסית אתכם לאמר יהוה יצילנו׃
32 nes imi ddyfod i'ch dwyn i wlad debyg i'ch gwlad eich hun, gwlad u375?d a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd, gwlad olewydd, olew a m�l; a chewch fyw ac nid marw.' Peidiwch � gwrando ar Heseceia yn eich hudo trwy ddweud, 'Bydd yr ARGLWYDD yn ein gwaredu.'
33ההצל הצילו אלהי הגוים איש את ארצו מיד מלך אשור׃
33 A yw duw unrhyw un o'r cenhedloedd wedi gwaredu ei wlad o afael brenin Asyria?
34איה אלהי חמת וארפד איה אלהי ספרוים הנע ועוה כי הצילו את שמרון מידי׃
34 Ple mae duwiau Hamath ac Arpad? Ple mae duwiau Seffarfaim, Hena ac Ifa? A wnaethant hwy waredu Samaria o'm gafael?
35מי בכל אלהי הארצות אשר הצילו את ארצם מידי כי יציל יהוה את ירושלם מידי׃
35 Prun o holl dduwiau'r gwledydd hyn sydd wedi gwaredu ei wlad o'm gafael? Sut felly y bydd i'r ARGLWYDD waredu Jerwsalem o'm gafael?"
36והחרישו העם ולא ענו אתו דבר כי מצות המלך היא לאמר לא תענהו׃
36 Cadw'n ddistaw a wnaeth y bobl, heb ateb gair, oherwydd yr oedd y brenin wedi rhoi gorchymyn nad oeddent i'w ateb.
37ויבא אליקים בן חלקיה אשר על הבית ושבנא הספר ויואח בן אסף המזכיר אל חזקיהו קרועי בגדים ויגדו לו דברי רב שקה׃
37 Yna daeth Eliacim fab Hilceia, arolygwr y palas, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa fab Asaff, y cofiadur, at Heseceia, a'u dillad wedi eu rhwygo, ac adrodd wrtho eiriau'r prif swyddog.