1ויהי בהעלות יהוה את אליהו בסערה השמים וילך אליהו ואלישע מן הגלגל׃
1 Pan oedd yr ARGLWYDD ar fedr cymryd Elias i'r nefoedd mewn corwynt, aeth Elias ac Eliseus allan o Gilgal.
2ויאמר אליהו אל אלישע שב נא פה כי יהוה שלחני עד בית אל ויאמר אלישע חי יהוה וחי נפשך אם אעזבך וירדו בית אל׃
2 A dywedodd Elias wrth Eliseus, "Aros di yma, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn f'anfon i Fethel." Dywedodd Eliseus, "Cyn wired � bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau, ni'th adawaf." Felly aethant i Fethel.
3ויצאו בני הנביאים אשר בית אל אל אלישע ויאמרו אליו הידעת כי היום יהוה לקח את אדניך מעל ראשך ויאמר גם אני ידעתי החשו׃
3 Daeth y proffwydi oedd ym Methel at Eliseus a dweud wrtho, "A wyddost ti fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat heddiw?" "Gwn yn iawn," meddai yntau, "peidiwch � dweud."
4ויאמר לו אליהו אלישע שב נא פה כי יהוה שלחני יריחו ויאמר חי יהוה וחי נפשך אם אעזבך ויבאו יריחו׃
4 Dywedodd Elias wrtho, "Eliseus, aros di yma, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn f'anfon i Jericho." Dywedodd yntau, "Cyn wired � bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau, ni'th adawaf." Felly aethant i Jericho.
5ויגשו בני הנביאים אשר ביריחו אל אלישע ויאמרו אליו הידעת כי היום יהוה לקח את אדניך מעל ראשך ויאמר גם אני ידעתי החשו׃
5 Daeth y proffwydi oedd yn Jericho at Eliseus a dweud wrtho, "A wyddost ti fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat heddiw?" "Gwn yn iawn," meddai yntau, "peidiwch � dweud."
6ויאמר לו אליהו שב נא פה כי יהוה שלחני הירדנה ויאמר חי יהוה וחי נפשך אם אעזבך וילכו שניהם׃
6 Dywedodd Elias wrtho, "Aros di yma oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn f'anfon at yr Iorddonen." Dywedodd yntau, "Cyn wired � bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau, ni'th adawaf." Felly aethant ill dau.
7וחמשים איש מבני הנביאים הלכו ויעמדו מנגד מרחוק ושניהם עמדו על הירדן׃
7 Ac yr oedd hanner cant o broffwydi wedi dod ac aros gyferbyn � hwy o hirbell tra oeddent hwy ill dau yn sefyll ar lan yr Iorddonen.
8ויקח אליהו את אדרתו ויגלם ויכה את המים ויחצו הנה והנה ויעברו שניהם בחרבה׃
8 Cymerodd Elias ei fantell a'i rholio a tharo'r du373?r. Ymrannodd y du373?r i'r ddeutu, a chroesodd y ddau ar dir sych.
9ויהי כעברם ואליהו אמר אל אלישע שאל מה אעשה לך בטרם אלקח מעמך ויאמר אלישע ויהי נא פי שנים ברוחך אלי׃
9 Wedi iddynt groesi, dywedodd Elias wrth Eliseus, "Gofyn! Beth a wnaf iti cyn fy nghymryd oddi wrthyt?" Atebodd Eliseus, "Rhodder imi gyfran ddwbl o'th ysbryd."
10ויאמר הקשית לשאול אם תראה אתי לקח מאתך יהי לך כן ואם אין לא יהיה׃
10 Dywedodd Elias, "Gwnaethost gais anodd. Os gweli fi yn cael fy nghymryd oddi wrthyt, fe gei hyn; ond os na weli, ni chei."
11ויהי המה הלכים הלוך ודבר והנה רכב אש וסוסי אש ויפרדו בין שניהם ויעל אליהו בסערה השמים׃
11 Ac fel yr oeddent yn mynd, dan siarad, dyma gerbyd tanllyd a meirch tanllyd yn eu gwahanu ill dau, ac Elias yn esgyn mewn corwynt i'r nef.
12ואלישע ראה והוא מצעק אבי אבי רכב ישראל ופרשיו ולא ראהו עוד ויחזק בבגדיו ויקרעם לשנים קרעים׃
12 Ac yr oedd Eliseus yn syllu ac yn gweiddi, "Fy nhad, fy nhad; cerbyd a marchogion Israel!" Ni welodd ef wedyn, a chydiodd yn ei wisg a'i rhwygo'n ddau.
13וירם את אדרת אליהו אשר נפלה מעליו וישב ויעמד על שפת הירדן׃
13 Yna cododd fantell Elias a oedd wedi syrthio oddi arno, a dychwelodd a sefyll ar lan yr Iorddonen.
14ויקח את אדרת אליהו אשר נפלה מעליו ויכה את המים ויאמר איה יהוה אלהי אליהו אף הוא ויכה את המים ויחצו הנה והנה ויעבר אלישע׃
14 Cymerodd y fantell a syrthiodd oddi ar Elias, a tharo'r du373?r a dweud, "Ple y mae'r ARGLWYDD, Duw Elias?" Trawodd yntau'r du373?r, ac fe ymrannodd i'r ddeutu, a chroesodd Eliseus.
15ויראהו בני הנביאים אשר ביריחו מנגד ויאמרו נחה רוח אליהו על אלישע ויבאו לקראתו וישתחוו לו ארצה׃
15 Pan welodd y proffwydi oedd yr ochr draw, yn Jericho, dywedasant, "Disgynnodd ysbryd Elias ar Eliseus."
16ויאמרו אליו הנה נא יש את עבדיך חמשים אנשים בני חיל ילכו נא ויבקשו את אדניך פן נשאו רוח יהוה וישלכהו באחד ההרים או באחת הגיאות ויאמר לא תשלחו׃
16 Ac aethant i'w gyfarfod ac ymgrymu hyd lawr iddo, a dweud, "Y mae gan dy weision hanner cant o ddynion cryfion; gad iddynt fynd i chwilio am dy feistr rhag ofn bod ysbryd yr ARGLWYDD, ar �l ei gipio i fyny, wedi ei fwrw ar un o'r mynyddoedd, neu i ryw gwm." Dywedodd, "Peidiwch ag anfon."
17ויפצרו בו עד בש ויאמר שלחו וישלחו חמשים איש ויבקשו שלשה ימים ולא מצאהו׃
17 Ond buont yn daer nes bod cywilydd arno, a dywedodd, "Anfonwch." Wedi iddynt anfon hanner cant o ddynion, buont yn chwilio am dridiau, ond heb ei gael.
18וישבו אליו והוא ישב ביריחו ויאמר אלהם הלוא אמרתי אליכם אל תלכו׃
18 Arhosodd Eliseus yn Jericho nes iddynt ddychwelyd; yna dywedodd wrthynt, "Oni ddywedais wrthych am beidio � mynd?"
19ויאמרו אנשי העיר אל אלישע הנה נא מושב העיר טוב כאשר אדני ראה והמים רעים והארץ משכלת׃
19 Dywedodd trigolion y dref wrth Eliseus, "Edrych, y mae safle'r dref yn ddymunol, fel y sylwi, O feistr, ond y mae'r du373?r yn wenwynig a'r tir yn ddiffrwyth."
20ויאמר קחו לי צלחית חדשה ושימו שם מלח ויקחו אליו׃
20 Dywedodd yntau, "Dewch � llestr newydd crai imi, a rhowch halen ynddo."
21ויצא אל מוצא המים וישלך שם מלח ויאמר כה אמר יהוה רפאתי למים האלה לא יהיה משם עוד מות ומשכלת׃
21 Wedi iddynt ddod ag ef ato, aeth at lygad y ffynnon a thaflu'r halen iddi a dweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Purais y dyfroedd hyn; ni ddaw angau na diffrwythdra oddi yno mwy."
22וירפו המים עד היום הזה כדבר אלישע אשר דבר׃
22 Ac y mae'r du373?r yn bur hyd heddiw, yn union fel y dywedodd Eliseus.
23ויעל משם בית אל והוא עלה בדרך ונערים קטנים יצאו מן העיר ויתקלסו בו ויאמרו לו עלה קרח עלה קרח׃
23 Aeth i fyny oddi yno i Fethel, ac fel yr oedd yn mynd, daeth bechgyn bach allan o ryw dref a'i wawdio a dweud wrtho, "Dos i fyny, foelyn! Dos i fyny, foelyn!"
24ויפן אחריו ויראם ויקללם בשם יהוה ותצאנה שתים דבים מן היער ותבקענה מהם ארבעים ושני ילדים׃
24 Troes yntau i edrych arnynt, a'u melltithio yn enw'r ARGLWYDD. Yna daeth dwy arth allan o'r goedwig a llarpio dau a deugain o'r plant.
25וילך משם אל הר הכרמל ומשם שב שמרון׃
25 Oddi yno aeth i Fynydd Carmel, ac yna dychwelyd i Samaria.