Hebrew: Modern

Welsh

2 Kings

21

1בן שתים עשרה שנה מנשה במלכו וחמשים וחמש שנה מלך בירושלם ושם אמו חפצי בה׃
1 Deuddeng mlwydd oed oedd Manasse pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am hanner cant a phump o flynyddoedd yn Jerwsalem. Heffsiba oedd enw ei fam.
2ויעש הרע בעיני יהוה כתועבת הגוים אשר הוריש יהוה מפני בני ישראל׃
2 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn �l ffieidd-dra'r cenhedloedd a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen yr Israeliaid.
3וישב ויבן את הבמות אשר אבד חזקיהו אביו ויקם מזבחת לבעל ויעש אשרה כאשר עשה אחאב מלך ישראל וישתחו לכל צבא השמים ויעבד אתם׃
3 Ailadeiladodd yr uchelfeydd a ddinistriodd ei dad Heseceia, a chododd allorau i Baal a gwneud delw o Asera, fel y gwnaeth Ahab brenin Israel, ac ymgrymodd i holl lu'r nef a'u haddoli.
4ובנה מזבחת בבית יהוה אשר אמר יהוה בירושלם אשים את שמי׃
4 Adeiladodd allorau yn y deml y dywedodd yr ARGLWYDD amdani, "Yn Jerwsalem y gosodaf fy enw."
5ויבן מזבחות לכל צבא השמים בשתי חצרות בית יהוה׃
5 Cododd allorau i holl lu'r nef yn nau gyntedd y deml.
6והעביר את בנו באש ועונן ונחש ועשה אוב וידענים הרבה לעשות הרע בעיני יהוה להכעיס׃
6 Parodd i'w fab fynd trwy d�n, ac arferodd hudoliaeth a swynion, a bu'n ymh�l ag ysbrydion a dewiniaid. Yr oedd yn ymroi i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio.
7וישם את פסל האשרה אשר עשה בבית אשר אמר יהוה אל דוד ואל שלמה בנו בבית הזה ובירושלם אשר בחרתי מכל שבטי ישראל אשים את שמי לעולם׃
7 Gwnaeth ddelw o Asera a'i gosod yn y deml y dywedodd yr ARGLWYDD amdani wrth Ddafydd a'i fab Solomon, "Yn y tu375? hwn ac yn Jerwsalem, y lle a ddewisais allan o holl lwythau Israel, yr wyf am osod fy enw yn dragwyddol.
8ולא אסיף להניד רגל ישראל מן האדמה אשר נתתי לאבותם רק אם ישמרו לעשות ככל אשר צויתים ולכל התורה אשר צוה אתם עבדי משה׃
8 Ni throf Israel allan mwyach o'r tir a roddais i'w hynafiaid, ond iddynt ofalu gwneud fel y gorchmynnais iddynt yn y gyfraith a roes fy ngwas Moses iddynt."
9ולא שמעו ויתעם מנשה לעשות את הרע מן הגוים אשר השמיד יהוה מפני בני ישראל׃
9 Eto ni fynnent wrando, ac arweiniodd Manasse hwy i ddrygioni gwaeth na'r eiddo'r cenhedloedd a ddinistriodd yr ARGLWYDD o flaen yr Israeliaid.
10וידבר יהוה ביד עבדיו הנביאים לאמר׃
10 Yna dywedodd yr ARGLWYDD trwy ei weision y proffwydi,
11יען אשר עשה מנשה מלך יהודה התעבות האלה הרע מכל אשר עשו האמרי אשר לפניו ויחטא גם את יהודה בגלוליו׃
11 "Am i Manasse brenin Jwda wneud y ffieidd-dra hwn, a gweithredu'n waeth na'r Amoriaid oedd o'i flaen, ac arwain Jwda hefyd i bechu gyda'i eilunod,
12לכן כה אמר יהוה אלהי ישראל הנני מביא רעה על ירושלם ויהודה אשר כל שמעיו תצלנה שתי אזניו׃
12 fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: Dygaf y fath ddrwg ar Jerwsalem a Jwda fel y bydd yn merwino clustiau pwy bynnag a glyw.
13ונטיתי על ירושלם את קו שמרון ואת משקלת בית אחאב ומחיתי את ירושלם כאשר ימחה את הצלחת מחה והפך על פניה׃
13 Rhoddaf ar Jerwsalem yr un llinyn ag ar Samaria, a'r un mesur ag ar du375? Ahab. Golchaf Jerwsalem fel y bydd un yn golchi llestr ac yna'n ei droi ar ei wyneb.
14ונטשתי את שארית נחלתי ונתתים ביד איביהם והיו לבז ולמשסה לכל איביהם׃
14 Byddaf yn gwrthod gweddill fy etifeddiaeth, ac yn eu rhoi yn llaw eu holl elynion i fod yn anrhaith ac yn ysbail,
15יען אשר עשו את הרע בעיני ויהיו מכעסים אתי מן היום אשר יצאו אבותם ממצרים ועד היום הזה׃
15 am eu bod wedi gwneud yr hyn sydd ddrwg yn fy ngolwg a'm digio, o'r dydd y daeth eu hynafiaid o'r Aifft hyd heddiw."
16וגם דם נקי שפך מנשה הרבה מאד עד אשר מלא את ירושלם פה לפה לבד מחטאתו אשר החטיא את יהודה לעשות הרע בעיני יהוה׃
16 Tywalltodd Manasse gymaint o waed dieuog nes llenwi Jerwsalem drwyddi, heb s�n am ei bechod yn arwain Jwda i bechu a gwneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
17ויתר דברי מנשה וכל אשר עשה וחטאתו אשר חטא הלא הם כתובים על ספר דברי הימים למלכי יהודה׃
17 Am weddill hanes Manasse, a'i holl waith a'r pechu a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?
18וישכב מנשה עם אבתיו ויקבר בגן ביתו בגן עזא וימלך אמון בנו תחתיו׃
18 A bu farw Manasse, a'i gladdu yng ngardd ei balas, sef yng ngardd Ussa. A daeth ei fab Amon yn frenin yn ei le.
19בן עשרים ושתים שנה אמון במלכו ושתים שנים מלך בירושלם ושם אמו משלמת בת חרוץ מן יטבה׃
19 Dwy ar hugain oed oedd Amon pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am ddwy flynedd yn Jerwsalem. Mesulemeth merch Harus o Iotba oedd enw ei fam.
20ויעש הרע בעיני יהוה כאשר עשה מנשה אביו׃
20 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y gwnaeth ei dad Manasse.
21וילך בכל הדרך אשר הלך אביו ויעבד את הגללים אשר עבד אביו וישתחו להם׃
21 Dilynodd yn �l troed ei dad, a gwasanaethu ac addoli'r un eilunod �'i dad.
22ויעזב את יהוה אלהי אבתיו ולא הלך בדרך יהוה׃
22 Gwrthododd yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid, ac ni rodiodd yn ffordd yr ARGLWYDD.
23ויקשרו עבדי אמון עליו וימיתו את המלך בביתו׃
23 Cynllwynodd gweision Amon yn ei erbyn, a lladd y brenin yn ei du375?;
24ויך עם הארץ את כל הקשרים על המלך אמון וימליכו עם הארץ את יאשיהו בנו תחתיו׃
24 ond lladdwyd yr holl rai a fu'n cynllwyn yn erbyn y Brenin Amon gan bobl y wlad, a gwnaethant ei fab Joseia yn frenin yn ei le.
25ויתר דברי אמון אשר עשה הלא הם כתובים על ספר דברי הימים למלכי יהודה׃
25 Am weddill hanes Amon, a'r hyn a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?
26ויקבר אתו בקברתו בגן עזא וימלך יאשיהו בנו תחתיו׃
26 Claddwyd ef yn ei feddrod yng ngardd Ussa, a daeth ei fab Joseia yn frenin yn ei le.