1ואלישע הנביא קרא לאחד מבני הנביאים ויאמר לו חגר מתניך וקח פך השמן הזה בידך ולך רמת גלעד׃
1 Galwodd y proffwyd Eliseus ar un o'r proffwydi a dweud wrtho, "Clyma dy wisg am dy ganol, cymer y ffiol olew hon yn dy law a dos i Ramoth-gilead.
2ובאת שמה וראה שם יהוא בן יהושפט בן נמשי ובאת והקמתו מתוך אחיו והביאת אתו חדר בחדר׃
2 Wedi iti gyrraedd, edrych yno am Jehu fab Jehosaffat, fab Nimsi;
3ולקחת פך השמן ויצקת על ראשו ואמרת כה אמר יהוה משחתיך למלך אל ישראל ופתחת הדלת ונסתה ולא תחכה׃
3 yna dos a chymer ef allan o blith ei gymrodyr a mynd ag ef i ystafell fewnol, a chymryd y ffiol olew a'i harllwys ar ei ben a dweud, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Rwy'n dy eneinio'n frenin ar Israel.' Yna agor y drws a ffo heb oedi."
4וילך הנער הנער הנביא רמת גלעד׃
4 Aeth y llanc o broffwyd i Ramoth-gilead.
5ויבא והנה שרי החיל ישבים ויאמר דבר לי אליך השר ויאמר יהוא אל מי מכלנו ויאמר אליך השר׃
5 A phan gyrhaeddodd, yr oedd swyddogion y fyddin yn eistedd gyda'i gilydd, a dywedodd, "Y mae gennyf neges i ti, syr." Gofynnodd Jehu, "I ba un ohonom?" "I ti, syr," meddai yntau.
6ויקם ויבא הביתה ויצק השמן אל ראשו ויאמר לו כה אמר יהוה אלהי ישראל משחתיך למלך אל עם יהוה אל ישראל׃
6 Cododd a mynd i mewn; yna tywalltodd y llanc yr olew ar ben Jehu, a dweud wrtho, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: Rwy'n dy eneinio'n frenin ar Israel, pobl yr ARGLWYDD.
7והכיתה את בית אחאב אדניך ונקמתי דמי עבדי הנביאים ודמי כל עבדי יהוה מיד איזבל׃
7 Taro du375? Ahab, dy feistr, fel y caf ddial ar Jesebel am waed fy ngweision y proffwydi, a holl weision yr ARGLWYDD.
8ואבד כל בית אחאב והכרתי לאחאב משתין בקיר ועצור ועזוב בישראל׃
8 Difethir holl du375? Ahab, a distrywiaf bob gwryw sydd gan Ahab yn Israel, caeth neu rydd.
9ונתתי את בית אחאב כבית ירבעם בן נבט וכבית בעשא בן אחיה׃
9 A gwnaf du375? Ahab fel tu375? Jeroboam fab Nebat a thu375? Baasa fab Aheia.
10ואת איזבל יאכלו הכלבים בחלק יזרעאל ואין קבר ויפתח הדלת וינס׃
10 Ac am Jesebel, bydd y cu373?n yn ei bwyta yn rhandir Jesreel, heb neb i'w chladdu." Yna fe agorodd y drws a ffoi.
11ויהוא יצא אל עבדי אדניו ויאמר לו השלום מדוע בא המשגע הזה אליך ויאמר אליהם אתם ידעתם את האיש ואת שיחו׃
11 Pan ddaeth Jehu allan at weision eraill ei feistr, holodd un, "A yw popeth yn iawn? Pam y daeth yr ynfyd yna atat?" Atebodd yntau, "Gwyddoch am y dyn a'i siarad."
12ויאמרו שקר הגד נא לנו ויאמר כזאת וכזאת אמר אלי לאמר כה אמר יהוה משחתיך למלך אל ישראל׃
12 "Paid �'th gelwydd," meddent, "da thi, dywed wrthym." Ac atebodd, "Dyma'r hyn a ddywedodd wrthyf: 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Rwy'n dy eneinio'n frenin ar Israel.'"
13וימהרו ויקחו איש בגדו וישימו תחתיו אל גרם המעלות ויתקעו בשופר ויאמרו מלך יהוא׃
13 Yna cipiodd pob un ddilledyn a'i roi dano ar ben y grisiau, a chwythu utgorn a dweud, "Jehu sydd frenin!"
14ויתקשר יהוא בן יהושפט בן נמשי אל יורם ויורם היה שמר ברמת גלעד הוא וכל ישראל מפני חזאל מלך ארם׃
14 A gwnaeth Jehu fab Jehosaffat, fab Nimsi gynllwyn yn erbyn Joram. Yr oedd Joram a holl Israel ar wyliadwriaeth yn Ramoth-gilead rhag Hasael brenin Syria;
15וישב יהורם המלך להתרפא ביזרעאל מן המכים אשר יכהו ארמים בהלחמו את חזאל מלך ארם ויאמר יהוא אם יש נפשכם אל יצא פליט מן העיר ללכת לגיד ביזרעאל׃
15 ond yr oedd Joram wedi dychwelyd adref i Jesreel i wella o'r clwyfau a gafodd gan y Syriaid wrth ymladd � Hasael brenin Syria. A dywedodd Jehu, "Os dyma'ch teimlad, peidiwch � gadael i neb ddianc o'r ddinas i yngan gair yn Jesreel."
16וירכב יהוא וילך יזרעאלה כי יורם שכב שמה ואחזיה מלך יהודה ירד לראות את יורם׃
16 Aeth Jehu yn ei gerbyd am Jesreel, gan fod Joram yn orweiddiog yno. Ac yr oedd Ahaseia brenin Jwda wedi dod i edrych am Joram.
17והצפה עמד על המגדל ביזרעאל וירא את שפעת יהוא בבאו ויאמר שפעת אני ראה ויאמר יהורם קח רכב ושלח לקראתם ויאמר השלום׃
17 Yr oedd gwyliwr yn sefyll ar du373?r yn Jesreel, a gwelodd fintai Jehu yn dod, a dywedodd, "Rwy'n gweld mintai." Dywedodd Joram, "Dewis farchog, a'i anfon i'w cyfarfod, i ofyn a yw popeth yn iawn."
18וילך רכב הסוס לקראתו ויאמר כה אמר המלך השלום ויאמר יהוא מה לך ולשלום סב אל אחרי ויגד הצפה לאמר בא המלאך עד הם ולא שב׃
18 Yna fe aeth marchog i'w cyfarfod a dweud, "Fel hyn y mae'r brenin yn gofyn; 'A yw popeth yn iawn?'" Ac meddai Jehu, "Pa wahaniaeth i ti a yw popeth yn iawn? Tyrd i'm canlyn." Cyhoeddodd y gwyliwr, "Y mae'r negesydd wedi cyrraedd atynt, ond nid yw'n dod yn �l."
19וישלח רכב סוס שני ויבא אלהם ויאמר כה אמר המלך שלום ויאמר יהוא מה לך ולשלום סב אל אחרי׃
19 Yna anfonwyd ail farchog, a phan gyrhaeddodd atynt, dywedodd, "Fel hyn y dywed y brenin; 'A yw popeth yn iawn?" Atebodd Jehu, "Pa wahaniaeth i ti a yw popeth yn iawn? Tyrd i'm canlyn."
20ויגד הצפה לאמר בא עד אליהם ולא שב והמנהג כמנהג יהוא בן נמשי כי בשגעון ינהג׃
20 A chyhoeddodd y gwyliwr, "Y mae wedi cyrraedd atynt, ond nid yw'n dod yn �l; ac y mae'r gyrru fel gyrru Jehu fab Nimsi, oherwydd y mae'n gyrru'n ynfyd."
21ויאמר יהורם אסר ויאסר רכבו ויצא יהורם מלך ישראל ואחזיהו מלך יהודה איש ברכבו ויצאו לקראת יהוא וימצאהו בחלקת נבות היזרעאלי׃
21 Dywedodd Joram, "Cyplwch fy ngherbyd." Ac wedi iddynt ei gyplu, aeth Joram brenin Israel ac Ahaseia brenin Jwda allan bob un yn ei gerbyd, i gyfarfod Jehu; a chawsant ef yn rhandir Naboth y Jesreeliad.
22ויהי כראות יהורם את יהוא ויאמר השלום יהוא ויאמר מה השלום עד זנוני איזבל אמך וכשפיה הרבים׃
22 Pan welodd Joram Jehu gofynnodd, "A yw popeth yn iawn, Jehu?" Atebodd yntau, "Sut y gall fod yn iawn tra bo cymaint o buteindra a hudoliaeth dy fam Jesebel yn aros?"
23ויהפך יהורם ידיו וינס ויאמר אל אחזיהו מרמה אחזיה׃
23 Yna troes Joram ei gerbyd yn �l a ffoi, a gweiddi ar Ahaseia, "Brad, Ahaseia!"
24ויהוא מלא ידו בקשת ויך את יהורם בין זרעיו ויצא החצי מלבו ויכרע ברכבו׃
24 Cydiodd Jehu yn ei fwa a saethu Joram rhwng ei ysgwyddau nes i'r saeth fynd trwy ei galon, a syrthiodd i'r cerbyd.
25ויאמר אל בדקר שלשה שא השלכהו בחלקת שדה נבות היזרעאלי כי זכר אני ואתה את רכבים צמדים אחרי אחאב אביו ויהוה נשא עליו את המשא הזה׃
25 Dywedodd Jehu wrth Bidcar ei is-gapten, "Gafael ynddo a bwrw ef i randir Naboth y Jesreeliad; oblegid rwyf fi a thithau'n cofio, pan oeddem yn cydyrru cerbyd ar �l ei dad Ahab, fod yr ARGLWYDD wedi cyhoeddi'r oracl hwn yn ei erbyn:
26אם לא את דמי נבות ואת דמי בניו ראיתי אמש נאם יהוה ושלמתי לך בחלקה הזאת נאם יהוה ועתה שא השלכהו בחלקה כדבר יהוה׃
26 'Cyn wired ag y gwelais waed Naboth a'i feibion ddoe, medd yr ARGLWYDD, fe dalaf yn �l i ti yn y rhandir hwn, medd yr ARGLWYDD'; felly, gafael ynddo a bwrw ef allan i'r rhandir, yn �l gair yr ARGLWYDD."
27ואחזיה מלך יהודה ראה וינס דרך בית הגן וירדף אחריו יהוא ויאמר גם אתו הכהו אל המרכבה במעלה גור אשר את יבלעם וינס מגדו וימת שם׃
27 Pan welodd Ahaseia brenin Jwda hyn, ffodd i gyfeiriad Beth-haggan, a Jehu yn erlyn ar ei �l ac yn dweud, "Tarwch yntau hefyd." A thrawsant ef yn ei gerbyd wrth allt Gur ger Ibleam, ond ffodd i Megido a marw yno.
28וירכבו אתו עבדיו ירושלמה ויקברו אתו בקברתו עם אבתיו בעיר דוד׃
28 Yna cludodd ei weision ef i Jerwsalem, a'i gladdu yn ei feddrod gyda'i ragflaenwyr yn Ninas Dafydd.
29ובשנת אחת עשרה שנה ליורם בן אחאב מלך אחזיה על יהודה׃
29 Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Joram fab Ahab y daeth Ahaseia yn frenin ar Jwda.
30ויבוא יהוא יזרעאלה ואיזבל שמעה ותשם בפוך עיניה ותיטב את ראשה ותשקף בעד החלון׃
30 Daeth Jehu i Jesreel. Pan glywodd Jesebel, colurodd ei hwyneb ac addurno ei phen, ac edrychodd allan trwy'r ffenestr.
31ויהוא בא בשער ותאמר השלום זמרי הרג אדניו׃
31 Fel yr oedd Jehu yn cyrraedd y porth, dywedodd wrtho, "A fydd heddwch, Simri, llofrudd ei feistr?"
32וישא פניו אל החלון ויאמר מי אתי מי וישקיפו אליו שנים שלשה סריסים׃
32 Cododd yntau ei olwg at y ffenestr a gofyn, "Pwy sydd o'm plaid? Pwy?" Edrychodd dau neu dri o'r gweision allan, ac meddai Jehu, "Taflwch hi i lawr."
33ויאמר שמטהו וישמטוה ויז מדמה אל הקיר ואל הסוסים וירמסנה׃
33 Taflasant hi i lawr, a thasgodd peth o'i gwaed ar y pared ac ar y meirch, a mathrwyd hithau.
34ויבא ויאכל וישת ויאמר פקדו נא את הארורה הזאת וקברוה כי בת מלך היא׃
34 Wedi iddo fwyta ac yfed, dywedodd, "Gofalwch am gladdu'r ddynes felltigedig yna, oblegid merch i frenin oedd hi."
35וילכו לקברה ולא מצאו בה כי אם הגלגלת והרגלים וכפות הידים׃
35 Ond pan aethant i'w chladdu, ni chawsant ddim ohoni ond y benglog a'r traed a chledrau'r dwylo.
36וישבו ויגידו לו ויאמר דבר יהוה הוא אשר דבר ביד עבדו אליהו התשבי לאמר בחלק יזרעאל יאכלו הכלבים את בשר איזבל׃
36 A phan ddaethant yn �l a dweud wrtho, dywedodd Jehu, "Dyma a fynegodd yr ARGLWYDD drwy ei was Elias y Thesbiad: Yn rhandir Jesreel fe fwyty'r cu373?n gnawd Jesebel,
37והית נבלת איזבל כדמן על פני השדה בחלק יזרעאל אשר לא יאמרו זאת איזבל׃
37 a bydd corff Jesebel fel tail ar wyneb cae yn rhandir Jesreel, fel na ellir dweud, 'Dyma Jesebel.'"