Hebrew: Modern

Welsh

2 Samuel

14

1וידע יואב בן צריה כי לב המלך על אבשלום׃
1 Yr oedd Joab fab Serfia yn gwybod fod calon Dafydd yn troi at Absalom.
2וישלח יואב תקועה ויקח משם אשה חכמה ויאמר אליה התאבלי נא ולבשי נא בגדי אבל ואל תסוכי שמן והיית כאשה זה ימים רבים מתאבלת על מת׃
2 Felly anfonodd Joab i Tecoa a chymryd oddi yno wraig ddoeth, a dywedodd wrthi, "Cymer arnat alaru a gwisg ddillad galar, a phaid �'th eneinio dy hun; bydd fel gwraig sydd ers amser maith yn galaru am y marw.
3ובאת אל המלך ודברת אליו כדבר הזה וישם יואב את הדברים בפיה׃
3 A dos at y brenin, a dywed fel hyn wrtho" � a gosododd Joab y geiriau yn ei genau.
4ותאמר האשה התקעית אל המלך ותפל על אפיה ארצה ותשתחו ותאמר הושעה המלך׃
4 Aeth y wraig o Tecoa at y brenin, a syrthiodd ar ei hwyneb i'r llawr a moesymgrymu; yna dywedodd, "Rho help, O frenin."
5ויאמר לה המלך מה לך ותאמר אבל אשה אלמנה אני וימת אישי׃
5 Gofynnodd y brenin iddi, "Beth sy'n dy boeni?" Dywedodd hithau, "Gwraig weddw wyf fi a'm gu373?r wedi marw.
6ולשפחתך שני בנים וינצו שניהם בשדה ואין מציל ביניהם ויכו האחד את האחד וימת אתו׃
6 Yr oedd gan dy lawforwyn ddau fab, ond cwerylodd y ddau allan yn y wlad, heb neb i'w gwahanu; a thrawodd un ohonynt y llall, a'i ladd.
7והנה קמה כל המשפחה על שפחתך ויאמרו תני את מכה אחיו ונמתהו בנפש אחיו אשר הרג ונשמידה גם את היורש וכבו את גחלתי אשר נשארה לבלתי שום לאישי שם ושארית על פני האדמה׃
7 Ac yn awr y mae'r holl dylwyth wedi codi yn erbyn dy lawforwyn, a dweud, 'Rho inni'r hwn a laddodd ei frawd, er mwyn inni ei ladd am fywyd y brawd a lofruddiodd; a difethwn yr etifedd hefyd.' Felly byddant yn diffodd y marworyn sydd ar �l gennyf, fel na adewir i'm gu373?r nac enw nac epil ar wyneb daear."
8ויאמר המלך אל האשה לכי לביתך ואני אצוה עליך׃
8 Dywedodd y brenin wrth y wraig, "Dos di adref, ac fe roddaf orchymyn yn dy gylch."
9ותאמר האשה התקועית אל המלך עלי אדני המלך העון ועל בית אבי והמלך וכסאו נקי׃
9 Atebodd hithau, "Bydded yr euogrwydd arnaf fi, f'arglwydd frenin, ac ar fy nheulu i; a bydded y brenin a'i orsedd yn ddieuog."
10ויאמר המלך המדבר אליך והבאתו אלי ולא יסיף עוד לגעת בך׃
10 Dywedodd y brenin, "Pwy bynnag fydd yn yngan gair wrthyt, tyrd ag ef ataf fi, ac ni fydd yn dy boeni di byth mwy."
11ותאמר יזכר נא המלך את יהוה אלהיך מהרבית גאל הדם לשחת ולא ישמידו את בני ויאמר חי יהוה אם יפל משערת בנך ארצה׃
11 Atebodd hithau, "Bydded i'r brenin ddwyn hyn i sylw'r ARGLWYDD dy Dduw, rhag i'r dialwr gwaed ddistrywio eto, a rhag iddynt ddifetha fy mab." A dywedodd y brenin, "Cyn wired � bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni chaiff blewyn o wallt pen dy fab syrthio i'r llawr."
12ותאמר האשה תדבר נא שפחתך אל אדני המלך דבר ויאמר דברי׃
12 Yna dywedodd y wraig, "Gad i'th lawforwyn ddweud un gair eto wrth f'arglwydd frenin." Dywedodd yntau, "Dywed."
13ותאמר האשה ולמה חשבתה כזאת על עם אלהים ומדבר המלך הדבר הזה כאשם לבלתי השיב המלך את נדחו׃
13 Ac meddai'r wraig, "Pam yr wyt wedi cynllunio fel hyn yn erbyn pobl Dduw? Wrth wneud y dyfarniad hwn y mae'r brenin fel un sy'n euog ei hun, am nad yw'n galw'n �l yr un a alltudiodd.
14כי מות נמות וכמים הנגרים ארצה אשר לא יאספו ולא ישא אלהים נפש וחשב מחשבות לבלתי ידח ממנו נדח׃
14 Rhaid inni oll farw; yr ydym fel du373?r a dywelltir ar lawr ac ni ellir ei gasglu eto. Nid yw Duw yn adfer bywyd, ond y mae'n cynllunio ffordd rhag i'r alltud barhau'n alltud.
15ועתה אשר באתי לדבר אל המלך אדני את הדבר הזה כי יראני העם ותאמר שפחתך אדברה נא אל המלך אולי יעשה המלך את דבר אמתו׃
15 Yn awr, y rheswm y deuthum i ddweud y neges hon wrth f'arglwydd frenin oedd fod y bobl wedi codi ofn arnaf; a phenderfynodd dy lawforwyn, 'Fe siaradaf �'r brenin; efallai y bydd yn gwneud dymuniad ei forwyn.
16כי ישמע המלך להציל את אמתו מכף האיש להשמיד אתי ואת בני יחד מנחלת אלהים׃
16 Y mae'n siu373?r y gwrendy'r brenin, ac y bydd yn achub ei lawforwyn o law'r sawl sydd am fy nistrywio i a'm mab hefyd o etifeddiaeth Dduw.'
17ותאמר שפחתך יהיה נא דבר אדני המלך למנוחה כי כמלאך האלהים כן אדני המלך לשמע הטוב והרע ויהוה אלהיך יהי עמך׃
17 Meddyliodd dy lawforwyn hefyd y byddai gair f'arglwydd frenin yn gysur, oherwydd y mae f'arglwydd frenin fel angel Duw, yn medru dirnad rhwng da a drwg. Bydded yr ARGLWYDD dy Dduw gyda thi."
18ויען המלך ויאמר אל האשה אל נא תכחדי ממני דבר אשר אנכי שאל אתך ותאמר האשה ידבר נא אדני המלך׃
18 Dywedodd y brenin wrth y wraig, "Paid � chelu oddi wrthyf un peth yr wyf am ei ofyn iti." Atebodd hithau, "Gofyn di, f'arglwydd frenin."
19ויאמר המלך היד יואב אתך בכל זאת ותען האשה ותאמר חי נפשך אדני המלך אם אש להמין ולהשמיל מכל אשר דבר אדני המלך כי עבדך יואב הוא צוני והוא שם בפי שפחתך את כל הדברים האלה׃
19 Yna gofynnodd y brenin, "A yw llaw Joab gyda thi yn hyn i gyd?" Atebodd y wraig, "Cyn wired � bod f'arglwydd frenin yn fyw, nid oes modd osgoi yr hyn a ddywedodd f'arglwydd frenin, ie, dy was Joab a roddodd orchymyn imi, ac ef a osododd y geiriau hyn i gyd yng ngenau dy lawforwyn.
20לבעבור סבב את פני הדבר עשה עבדך יואב את הדבר הזה ואדני חכם כחכמת מלאך האלהים לדעת את כל אשר בארץ׃
20 Er mwyn rhoi agwedd wahanol ar y peth y gwnaeth dy was Joab hyn, ond y mae f'arglwydd cyn galled ag angel Duw i ddeall popeth ar wyneb daear."
21ויאמר המלך אל יואב הנה נא עשיתי את הדבר הזה ולך השב את הנער את אבשלום׃
21 Dywedodd y brenin wrth Joab, "Edrych, yr wyf am wneud hyn; felly, dos a thyrd �'r llanc Absalom yn �l."
22ויפל יואב אל פניו ארצה וישתחו ויברך את המלך ויאמר יואב היום ידע עבדך כי מצאתי חן בעיניך אדני המלך אשר עשה המלך את דבר עבדו׃
22 Syrthiodd Joab ar ei wyneb i'r llawr, a moesymgrymodd a bendithio'r brenin, a dweud, "Fe u373?yr dy was heddiw imi ennill ffafr yn dy olwg, f'arglwydd frenin, am iti wneud dymuniad dy was."
23ויקם יואב וילך גשורה ויבא את אבשלום ירושלם׃
23 Aeth Joab ar unwaith i Gesur, a dod ag Absalom yn �l i Jerwsalem.
24ויאמר המלך יסב אל ביתו ופני לא יראה ויסב אבשלום אל ביתו ופני המלך לא ראה׃
24 Ond dywedodd y brenin, "Aed i'w du375? ei hun; ni chaiff weld fy wyneb i." Felly aeth Absalom i'w du375? ac ni welodd wyneb y brenin.
25וכאבשלום לא היה איש יפה בכל ישראל להלל מאד מכף רגלו ועד קדקדו לא היה בו מום׃
25 Trwy Israel gyfan nid oedd neb y gellid ei ganmol am ei harddwch fel Absalom; nid oedd mefl arno o wadn ei droed hyd ei gorun.
26ובגלחו את ראשו והיה מקץ ימים לימים אשר יגלח כי כבד עליו וגלחו ושקל את שער ראשו מאתים שקלים באבן המלך׃
26 Byddai'n eillio'i ben ar ddiwedd pob blwyddyn am fod ei wallt mor drwm, a phan bwysai'r gwallt oedd wedi ei eillio oddi ar ei ben, pwysai ddau can sicl yn �l safon y brenin.
27ויולדו לאבשלום שלושה בנים ובת אחת ושמה תמר היא היתה אשה יפת מראה׃
27 Ganwyd i Absalom dri mab, ac un ferch, o'r enw Tamar; yr oedd honno'n ferch brydferth.
28וישב אבשלום בירושלם שנתים ימים ופני המלך לא ראה׃
28 Arhosodd Absalom yn Jerwsalem am ddwy flynedd gyfan heb weld wyneb y brenin.
29וישלח אבשלום אל יואב לשלח אתו אל המלך ולא אבה לבוא אליו וישלח עוד שנית ולא אבה לבוא׃
29 Yna anfonodd am Joab, er mwyn iddo'i anfon at y brenin, ond nid oedd yn fodlon dod. Anfonodd eilwaith, ond yr oedd yn gwrthod dod.
30ויאמר אל עבדיו ראו חלקת יואב אל ידי ולו שם שערים לכו והוצתיה באש ויצתו עבדי אבשלום את החלקה באש׃
30 Yna dywedodd wrth ei weision, "Edrychwch, y mae llain Joab yn ffinio ar f'un i, ac y mae haidd ganddo yno; ewch a rhowch hi ar d�n." A dyna weision Absalom yn rhoi'r llain ar d�n.
31ויקם יואב ויבא אל אבשלום הביתה ויאמר אליו למה הציתו עבדך את החלקה אשר לי באש׃
31 Aeth Joab ar unwaith at Absalom i'w du375?, a gofyn iddo, "Pam y mae dy weision wedi rhoi fy llain i ar d�n?"
32ויאמר אבשלום אל יואב הנה שלחתי אליך לאמר בא הנה ואשלחה אתך אל המלך לאמר למה באתי מגשור טוב לי עד אני שם ועתה אראה פני המלך ואם יש בי עון והמתני׃
32 Ac meddai Absalom wrth Joab, "Edrych, fe anfonais atat a dweud, 'Tyrd yma imi dy anfon di at y brenin i ofyn pam y deuthum yn �l o Gesur; byddai'n well arnaf pe bawn wedi aros yno.' Yn awr yr wyf am weld wyneb y brenin, ac os oes camwedd ynof, lladded fi."
33ויבא יואב אל המלך ויגד לו ויקרא אל אבשלום ויבא אל המלך וישתחו לו על אפיו ארצה לפני המלך וישק המלך לאבשלום׃
33 Yna daeth Joab at y brenin ac adrodd yr hanes wrtho, a galwodd yntau Absalom ato; ac wedi iddo ddod at y brenin, moesymgrymodd iddo �'i wyneb i'r llawr o flaen y brenin, a rhoddodd y brenin gusan i Absalom.