1ותהי המלחמה ארכה בין בית שאול ובין בית דוד ודוד הלך וחזק ובית שאול הלכים ודלים׃
1 Parhaodd y rhyfel rhwng teulu Saul a theulu Dafydd yn hir, gyda Dafydd yn mynd yn gryfach, a theulu Saul yn mynd yn wannach.
2וילדו לדוד בנים בחברון ויהי בכורו אמנון לאחינעם היזרעאלת׃
2 Ganwyd meibion i Ddafydd yn Hebron. Ei gyntafanedig oedd Amnon, plentyn Ahinoam o Jesreel.
3ומשנהו כלאב לאביגל אשת נבל הכרמלי והשלשי אבשלום בן מעכה בת תלמי מלך גשור׃
3 Yr ail oedd Chileab, plentyn Abigail, gwraig Nabal, o Garmel; y trydydd oedd Absalom, mab Maacha merch Talmai brenin Gesur.
4והרביעי אדניה בן חגית והחמישי שפטיה בן אביטל׃
4 Y pedwerydd oedd Adoneia mab Haggith; y pumed oedd Seffatia mab Abital;
5והששי יתרעם לעגלה אשת דוד אלה ילדו לדוד בחברון׃
5 a'r chweched, Ithream, plentyn Egla gwraig Dafydd. Dyma'r rhai a anwyd i Ddafydd yn Hebron.
6ויהי בהיות המלחמה בין בית שאול ובין בית דוד ואבנר היה מתחזק בבית שאול׃
6 Tra oedd rhyfel rhwng teulu Saul a theulu Dafydd, yr oedd Abner yn ennill mwy a mwy o ddylanwad gyda theulu Saul.
7ולשאול פלגש ושמה רצפה בת איה ויאמר אל אבנר מדוע באתה אל פילגש אבי׃
7 Bu gan Saul ordderch o'r enw Rispa ferch Aia; a phan ddywedodd Isboseth wrth Abner, "Pam yr aethost i mewn at ordderch fy nhad?"
8ויחר לאבנר מאד על דברי איש בשת ויאמר הראש כלב אנכי אשר ליהודה היום אעשה חסד עם בית שאול אביך אל אחיו ואל מרעהו ולא המציתך ביד דוד ותפקד עלי עון האשה היום׃
8 fe lidiodd Abner yn fawr oherwydd geiriau Isboseth, ac atebodd, "Ai penci ar ochr Jwda wyf fi? Hyd yma b�m yn deyrngar i deulu dy dad Saul, ac i'w berthnasau a'i gyfeillion; ac ni adewais i ti syrthio i ddwylo Dafydd, a dyma ti heddiw yn edliw imi drosedd gyda benyw.
9כה יעשה אלהים לאבנר וכה יסיף לו כי כאשר נשבע יהוה לדוד כי כן אעשה לו׃
9 Gwnaed Duw fel hyn i mi, Abner, a rhagor hefyd, os na wnaf dros Ddafydd yr hyn a addawodd yr ARGLWYDD iddo,
10להעביר הממלכה מבית שאול ולהקים את כסא דוד על ישראל ועל יהודה מדן ועד באר שבע׃
10 a thynnu'r frenhiniaeth oddi ar deulu Saul a sefydlu Dafydd ar orsedd Israel a Jwda, o Dan hyd Beerseba."
11ולא יכל עוד להשיב את אבנר דבר מיראתו אתו׃
11 Ni fedrai Isboseth yngan yr un gair wrth Abner wedi hyn, oherwydd bod arno ei ofn.
12וישלח אבנר מלאכים אל דוד תחתו לאמר למי ארץ לאמר כרתה בריתך אתי והנה ידי עמך להסב אליך את כל ישראל׃
12 Anfonodd Abner negeswyr ar ei ran at Ddafydd i ddweud, "Pwy biau'r wlad? Gwna di gyfamod � mi, ac yna bydd fy llaw o'th blaid i droi Israel gyfan atat."
13ויאמר טוב אני אכרת אתך ברית אך דבר אחד אנכי שאל מאתך לאמר לא תראה את פני כי אם לפני הביאך את מיכל בת שאול בבאך לראות את פני׃
13 Atebodd yntau, "Ardderchog! Fe wnaf fi gyfamod � thi; ond yr wyf am hawlio un peth gennyt: ni chei weld fy wyneb, heb iti ddod � Michal ferch Saul gyda thi, pan ddoi i'm gweld."
14וישלח דוד מלאכים אל איש בשת בן שאול לאמר תנה את אשתי את מיכל אשר ארשתי לי במאה ערלות פלשתים׃
14 Yna anfonodd Dafydd negeswyr at Isboseth fab Saul, a dweud, "Rho imi fy ngwraig Michal, a ddywedd�ais imi am gant o flaengrwyn Philistiaid."
15וישלח איש בשת ויקחה מעם איש מעם פלטיאל בן לוש׃
15 Anfonodd Isboseth a'i chymryd oddi wrth ei gu373?r Paltiel fab Lais.
16וילך אתה אישה הלוך ובכה אחריה עד בחרים ויאמר אליו אבנר לך שוב וישב׃
16 Dilynodd ei gu373?r yn wylofus ar ei h�l hyd Bahurim, ond wedi i Abner ddweud wrtho, "Dos yn d'�l", fe ddychwelodd adref.
17ודבר אבנר היה עם זקני ישראל לאמר גם תמול גם שלשם הייתם מבקשים את דוד למלך עליכם׃
17 Anfonodd Abner air at henuriaid Israel a dweud, "Ers tro byd buoch yn ceisio cael Dafydd yn frenin arnoch.
18ועתה עשו כי יהוה אמר אל דוד לאמר ביד דוד עבדי הושיע את עמי ישראל מיד פלשתים ומיד כל איביהם׃
18 Yn awr, gweithredwch; oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dweud am Ddafydd, 'Trwy law fy ngwas Dafydd y gwaredaf fy mhobl Israel oddi wrth y Philistiaid a'u gelynion i gyd.'"
19וידבר גם אבנר באזני בנימין וילך גם אבנר לדבר באזני דוד בחברון את כל אשר טוב בעיני ישראל ובעיני כל בית בנימן׃
19 Siaradodd Abner hefyd � llwyth Benjamin. Yna aeth Abner i Hebron i ddweud wrth Ddafydd y cwbl yr oedd Israel a llwyth Benjamin wedi cytuno arno.
20ויבא אבנר אל דוד חברון ואתו עשרים אנשים ויעש דוד לאבנר ולאנשים אשר אתו משתה׃
20 Daeth Abner at Ddafydd i Hebron gydag ugain o ddynion, a gwnaeth Dafydd wledd i Abner a'i ddynion.
21ויאמר אבנר אל דוד אקומה ואלכה ואקבצה אל אדני המלך את כל ישראל ויכרתו אתך ברית ומלכת בכל אשר תאוה נפשך וישלח דוד את אבנר וילך בשלום׃
21 Yna dywedodd Abner wrth Ddafydd, "Yr wyf am fynd yn awr i gasglu Israel gyfan ynghyd at f'arglwydd frenin, er mwyn iddynt wneud cyfamod � thi; yna byddi'n frenin ar y cyfan yr wyt yn ei chwenychu." Gadawodd Dafydd i Abner fynd ymaith, ac aeth yntau mewn heddwch.
22והנה עבדי דוד ויואב בא מהגדוד ושלל רב עמם הביאו ואבנר איננו עם דוד בחברון כי שלחו וילך בשלום׃
22 Ar hynny, cyrhaeddodd dilynwyr Dafydd gyda Joab; yr oeddent wedi bod ar gyrch, ac yn dwyn llawer o ysbail gyda hwy. Nid oedd Abner gyda Dafydd yn Hebron, oherwydd bod Dafydd wedi gadael iddo fynd mewn heddwch.
23ויואב וכל הצבא אשר אתו באו ויגדו ליואב לאמר בא אבנר בן נר אל המלך וישלחהו וילך בשלום׃
23 Pan gyrhaeddodd Joab a'r holl lu oedd gydag ef, clywodd fod Abner fab Ner wedi bod gyda'r brenin, a'i fod yntau wedi gadael iddo fynd mewn heddwch.
24ויבא יואב אל המלך ויאמר מה עשיתה הנה בא אבנר אליך למה זה שלחתו וילך הלוך׃
24 Aeth Joab at y brenin a dweud, "Beth wyt ti wedi ei wneud? Fe ddaeth Abner yma atat; pam y gadewaist iddo fynd ymaith?
25ידעת את אבנר בן נר כי לפתתך בא ולדעת את מוצאך ואת מבואך ולדעת את כל אשר אתה עשה׃
25 Yr wyt yn adnabod Abner fab Ner; i'th dwyllo di y daeth, ac i gael gwybod dy holl symudiadau a phopeth yr wyt yn ei wneud."
26ויצא יואב מעם דוד וישלח מלאכים אחרי אבנר וישבו אתו מבור הסרה ודוד לא ידע׃
26 Pan aeth Joab allan oddi wrth Ddafydd, anfonodd negeswyr ar �l Abner, a daethant ag ef yn �l o ffynnon Sira heb yn wybod i Ddafydd.
27וישב אבנר חברון ויטהו יואב אל תוך השער לדבר אתו בשלי ויכהו שם החמש וימת בדם עשה אל אחיו׃
27 Pan ddychwelodd Abner i Hebron, cymerodd Joab ef o'r neilltu yng nghanol y porth, fel pe bai am siarad yn gyfrinachol ag ef. Ond trawodd ef yn ei fol o achos gwaed ei frawd Asahel, a bu farw yno.
28וישמע דוד מאחרי כן ויאמר נקי אנכי וממלכתי מעם יהוה עד עולם מדמי אבנר בן נר׃
28 Wedi i'r peth ddigwydd y clywodd Dafydd, a dywedodd, "Dieuog wyf fi a'm teyrnas am byth gerbron yr ARGLWYDD ynglu375?n � gwaed Abner fab Ner;
29יחלו על ראש יואב ואל כל בית אביו ואל יכרת מבית יואב זב ומצרע ומחזיק בפלך ונפל בחרב וחסר לחם׃
29 bydded ei waed ar Joab a'i holl deulu! Na fydded teulu Joab heb aelod diferllyd, neu wahanglwyfus, neu ar ei faglau, neu glwyfedig gan gleddyf, neu brin o fwyd!"
30ויואב ואבישי אחיו הרגו לאבנר על אשר המית את עשהאל אחיהם בגבעון במלחמה׃
30 Yr oedd Joab a'i frawd Abisai wedi llofruddio Abner oherwydd iddo ef ladd eu brawd Asahel yn y frwydr yn Gibeon.
31ויאמר דוד אל יואב ואל כל העם אשר אתו קרעו בגדיכם וחגרו שקים וספדו לפני אבנר והמלך דוד הלך אחרי המטה׃
31 Dywedodd Dafydd wrth Joab a'r holl bobl oedd gydag ef, "Rhwygwch eich dillad a gwisgwch sachliain a gwnewch alar o flaen Abner." Cerddodd y Brenin Dafydd ar �l yr elor,
32ויקברו את אבנר בחברון וישא המלך את קולו ויבך אל קבר אבנר ויבכו כל העם׃
32 a chladdwyd Abner yn Hebron. Wylodd y brenin yn uchel uwchben bedd Abner ac yr oedd yr holl bobl yn wylo hefyd.
33ויקנן המלך אל אבנר ויאמר הכמות נבל ימות אבנר׃
33 Yna canodd y brenin yr alarnad hon am Abner:
34ידך לא אסרות ורגליך לא לנחשתים הגשו כנפול לפני בני עולה נפלת ויספו כל העם לבכות עליו׃
34 "A oedd raid i Abner farw fel ynfytyn? Nid oedd dy ddwylo wedi eu rhwymo, na'th draed ynghlwm mewn cyffion. Syrthiaist fel un yn syrthio o flaen rhai twyllodrus." Ac yr oedd yr holl bobl yn parhau i wylo drosto.
35ויבא כל העם להברות את דוד לחם בעוד היום וישבע דוד לאמר כה יעשה לי אלהים וכה יסיף כי אם לפני בוא השמש אטעם לחם או כל מאומה׃
35 Daeth y bobl i gyd i gymell Dafydd i fwyta tra oedd yn olau dydd; ond aeth Dafydd ar ei lw, "Fel hyn y gwnelo Duw i mi, a rhagor, os cyffyrddaf � bara neu ddim oll cyn machlud haul."
36וכל העם הכירו וייטב בעיניהם ככל אשר עשה המלך בעיני כל העם טוב׃
36 Cymerodd pawb sylw o hyn, ac yr oedd yn dda ganddynt, fel yr oedd y cwbl a wn�i'r brenin yn dda yng ngolwg yr holl bobl.
37וידעו כל העם וכל ישראל ביום ההוא כי לא היתה מהמלך להמית את אבנר בן נר׃
37 Yr oedd yr holl bobl ac Israel gyfan yn sylweddoli y diwrnod hwnnw nad oedd a wnelo'r brenin ddim � lladd Abner fab Ner.
38ויאמר המלך אל עבדיו הלוא תדעו כי שר וגדול נפל היום הזה בישראל׃
38 Dywedodd y brenin wrth ei ddilynwyr, "Onid ydych yn sylweddoli fod pendefig a gu373?r mawr wedi syrthio heddiw yn Israel?
39ואנכי היום רך ומשוח מלך והאנשים האלה בני צרויה קשים ממני ישלם יהוה לעשה הרעה כרעתו׃
39 Er imi gael f'eneinio'n frenin, yr wyf heddiw yn wan, ac y mae'r dynion hyn, meibion Serfia, yn rhy arw i mi; bydded i'r ARGLWYDD dalu i'r sawl sy'n gwneud drwg, yn �l ei ddrygioni."