Hebrew: Modern

Welsh

2 Samuel

5

1ויבאו כל שבטי ישראל אל דוד חברונה ויאמרו לאמר הננו עצמך ובשרך אנחנו׃
1 Daeth holl lwythau Israel at Ddafydd i Hebron a dweud wrtho, "Edrych, dy asgwrn a'th gnawd di ydym ni.
2גם אתמול גם שלשום בהיות שאול מלך עלינו אתה הייתה מוציא והמבי את ישראל ויאמר יהוה לך אתה תרעה את עמי את ישראל ואתה תהיה לנגיד על ישראל׃
2 Gynt, pan oedd Saul yn frenin arnom, ti oedd yn arwain Israel allan i ryfel ac yn �l wedyn; ac fe ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyt, 'Ti sydd i fugeilio fy mhobl Israel; ti sydd i fod yn dywysog Israel'."
3ויבאו כל זקני ישראל אל המלך חברונה ויכרת להם המלך דוד ברית בחברון לפני יהוה וימשחו את דוד למלך על ישראל׃
3 Yna daeth holl henuriaid Israel i Hebron at y brenin, a gwnaeth y Brenin Dafydd gyfamod � hwy yn Hebron gerbron yr ARGLWYDD, ac eneiniwyd Dafydd yn frenin ar Israel.
4בן שלשים שנה דוד במלכו ארבעים שנה מלך׃
4 Deng mlwydd ar hugain oed oedd Dafydd pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am ddeugain mlynedd.
5בחברון מלך על יהודה שבע שנים וששה חדשים ובירושלם מלך שלשים ושלש שנה על כל ישראל ויהודה׃
5 Yn Hebron teyrnasodd dros Jwda am saith mlynedd a chwe mis; yna yn Jerwsalem fe deyrnasodd dros Israel a Jwda gyfan am dair ar ddeg ar hugain o flynyddoedd.
6וילך המלך ואנשיו ירושלם אל היבסי יושב הארץ ויאמר לדוד לאמר לא תבוא הנה כי אם הסירך העורים והפסחים לאמר לא יבוא דוד הנה׃
6 Pan aeth Dafydd a'i ddynion i Jerwsalem yn erbyn y Jebusiaid oedd yn byw yn y wlad, dywedasant wrth Ddafydd, "Ni ddoi i mewn yma; bydd deillion a chloffion yn dy droi di'n �l" � gan dybio nad �i Dafydd i mewn yno.
7וילכד דוד את מצדת ציון היא עיר דוד׃
7 Eto fe enillodd Dafydd gaer Seion, sef Dinas Dafydd.
8ויאמר דוד ביום ההוא כל מכה יבסי ויגע בצנור ואת הפסחים ואת העורים שנאו נפש דוד על כן יאמרו עור ופסח לא יבוא אל הבית׃
8 Y diwrnod hwnnw fe ddywedodd Dafydd, "Pob un sydd am daro'r Jebusiaid, aed i fyny trwy'r siafft ddu373?r at y cloffion a'r deillion sy'n gas gan enaid Dafydd." Dyna pam y dywedir, "Ni chaiff y dall na'r cloff ddod i'r deml."
9וישב דוד במצדה ויקרא לה עיר דוד ויבן דוד סביב מן המלוא וביתה׃
9 Pan ymsefydlodd Dafydd yn y gaer, galwodd hi yn Ddinas Dafydd, ac adeiladodd fur o'i chwmpas, o'r Milo at y deml.
10וילך דוד הלוך וגדול ויהוה אלהי צבאות עמו׃
10 Cynyddodd Dafydd fwyfwy, ac yr oedd ARGLWYDD Dduw y Lluoedd o'i blaid.
11וישלח חירם מלך צר מלאכים אל דוד ועצי ארזים וחרשי עץ וחרשי אבן קיר ויבנו בית לדוד׃
11 Anfonodd Hiram brenin Tyrus negeswyr at Ddafydd, a hefyd goed cedrwydd a seiri coed a seiri maen, ac adeiladodd y rhain du375? ar gyfer Dafydd.
12וידע דוד כי הכינו יהוה למלך על ישראל וכי נשא ממלכתו בעבור עמו ישראל׃
12 Sylweddolodd Dafydd fod yr ARGLWYDD wedi ei gadarnhau yn frenin ar Israel, a'i fod wedi dyrchafu ei frenhiniaeth er mwyn ei bobl Israel.
13ויקח דוד עוד פלגשים ונשים מירושלם אחרי באו מחברון ויולדו עוד לדוד בנים ובנות׃
13 Wedi iddo ddod o Hebron, cymerodd Dafydd ragor o ordderch-wragedd ac o wragedd o Jerwsalem; a ganed rhagor o feibion ac o ferched iddo.
14ואלה שמות הילדים לו בירושלם שמוע ושובב ונתן ושלמה׃
14 Dyma enwau'r rhai a aned iddo yn Jerwsalem: Samua, Sobab, Nathan, Solomon,
15ויבחר ואלישוע ונפג ויפיע׃
15 Ibhar, Elisua, Neffeg, Jaffia,
16ואלישמע ואלידע ואליפלט׃
16 Elisama, Eliada ac Eliffelet.
17וישמעו פלשתים כי משחו את דוד למלך על ישראל ויעלו כל פלשתים לבקש את דוד וישמע דוד וירד אל המצודה׃
17 Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio yn frenin ar Israel, aethant oll i chwilio amdano, ond clywodd ef am hyn ac aeth i lawr i'r gaer.
18ופלשתים באו וינטשו בעמק רפאים׃
18 Wedi i'r Philistiaid ddod ac ymledu dros ddyffryn Reffaim,
19וישאל דוד ביהוה לאמר האעלה אל פלשתים התתנם בידי ויאמר יהוה אל דוד עלה כי נתן אתן את הפלשתים בידך׃
19 ymofynnodd Dafydd �'r ARGLWYDD a dweud, "A af i fyny yn erbyn y Philistiaid? A roi di hwy yn fy llaw?" Atebodd yr ARGLWYDD, "Dos i fyny, oherwydd yn sicr fe roddaf y Philistiaid yn dy law."
20ויבא דוד בבעל פרצים ויכם שם דוד ויאמר פרץ יהוה את איבי לפני כפרץ מים על כן קרא שם המקום ההוא בעל פרצים׃
20 Felly aeth Dafydd i Baal-perasim, a'u taro yno. Ac meddai Dafydd, "Torrodd yr ARGLWYDD drwy fy ngelynion o'm blaen fel toriad dyfroedd." Dyna pam yr enwodd y lle hwnnw, Baal-perasim.
21ויעזבו שם את עצביהם וישאם דוד ואנשיו׃
21 Yr oedd y Philistiaid wedi gadael eu delwau ar �l yno, felly dygodd Dafydd a'i wu375?r hwy i ffwrdd.
22ויספו עוד פלשתים לעלות וינטשו בעמק רפאים׃
22 Ymosododd y Philistiaid unwaith eto, ac ymledu dros ddyffryn Reffaim.
23וישאל דוד ביהוה ויאמר לא תעלה הסב אל אחריהם ובאת להם ממול בכאים׃
23 Ymofynnodd Dafydd �'r ARGLWYDD a chael yr ateb, "Paid � mynd i fyny, dos ar gylch i'r tu cefn iddynt, a thyrd atynt gyferbyn �'r morwydd.
24ויהי בשמעך את קול צעדה בראשי הבכאים אז תחרץ כי אז יצא יהוה לפניך להכות במחנה פלשתים׃
24 Yna, pan glywi su373?n cerdded ym mrig y morwydd, dos yn dy flaen, oherwydd yr adeg honno bydd yr ARGLWYDD yn mynd allan o'th flaen i daro gwersyll y Philistiaid."
25ויעש דוד כן כאשר צוהו יהוה ויך את פלשתים מגבע עד באך גזר׃
25 Gwnaeth Dafydd hynny, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, a tharo'r Philistiaid o Geba hyd gyrion Geser.