1ויהי אחרי כן ויך דוד את פלשתים ויכניעם ויקח דוד את מתג האמה מיד פלשתים׃
1 Wedi hyn gorchfygodd Dafydd y Philistiaid a'u darostwng, a chipiodd Metheg-amma oddi arnynt.
2ויך את מואב וימדדם בחבל השכב אותם ארצה וימדד שני חבלים להמית ומלא החבל להחיות ותהי מואב לדוד לעבדים נשאי מנחה׃
2 Yna gorchfygodd y Moabiaid, ac wedi gwneud iddynt orwedd ar lawr, fe'u mesurodd � llinyn; mesurodd ddau hyd llinyn i'w lladd, ac un hyd llinyn i'w cadw'n fyw. Felly daeth y Moabiaid yn ddeiliaid i Ddafydd a thalu treth iddo.
3ויך דוד את הדדעזר בן רחב מלך צובה בלכתו להשיב ידו בנהר׃
3 Gorchfygodd Dafydd hefyd Hadadeser fab Rehob, brenin Soba, pan oedd hwnnw ar ei ffordd i ailsefydlu ei awdurdod ar lan afon Ewffrates.
4וילכד דוד ממנו אלף ושבע מאות פרשים ועשרים אלף איש רגלי ויעקר דוד את כל הרכב ויותר ממנו מאה רכב׃
4 Cipiodd Dafydd oddi arno fil a saith gant o farchogion ac ugain mil o wu375?r traed. Cadwodd Dafydd gant o feirch cerbyd, ond torrodd linynnau gar y lleill i gyd.
5ותבא ארם דמשק לעזר להדדעזר מלך צובה ויך דוד בארם עשרים ושנים אלף איש׃
5 Pan ddaeth Syriaid Damascus i helpu Hadadeser brenin Soba, trawodd Dafydd ddwy fil ar hugain ohonynt.
6וישם דוד נצבים בארם דמשק ותהי ארם לדוד לעבדים נושאי מנחה וישע יהוה את דוד בכל אשר הלך׃
6 Yna gosododd Dafydd garsiynau ymhlith Syriaid Damascus, a daeth y Syriaid yn weision i Ddafydd a thalu treth iddo. Yr oedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Ddafydd ple bynnag yr �i.
7ויקח דוד את שלטי הזהב אשר היו אל עבדי הדדעזר ויביאם ירושלם׃
7 Cymerodd Dafydd y tarianau aur oedd gan weision Hadadeser, a dygodd hwy i Jerwsalem.
8ומבטח ומברתי ערי הדדעזר לקח המלך דוד נחשת הרבה מאד׃
8 Hefyd cymerodd y Brenin Dafydd lawer iawn o bres o Beta a Berothai, trefi Hadadeser.
9וישמע תעי מלך חמת כי הכה דוד את כל חיל הדדעזר׃
9 Pan glywodd Toi brenin Hamath fod Dafydd wedi gorchfygu holl fyddin Hadadeser,
10וישלח תעי את יורם בנו אל המלך דוד לשאל לו לשלום ולברכו על אשר נלחם בהדדעזר ויכהו כי איש מלחמות תעי היה הדדעזר ובידו היו כלי כסף וכלי זהב וכלי נחשת׃
10 fe anfonodd ei fab Joram i ddymuno'n dda i'r Brenin Dafydd a'i longyfarch am iddo ymladd yn erbyn Hadadeser a'i orchfygu; oherwydd bu Hadadeser yn rhyfela'n gyson yn erbyn Toi. Dygodd Joram gydag ef lestri o arian ac o aur ac o bres,
11גם אתם הקדיש המלך דוד ליהוה עם הכסף והזהב אשר הקדיש מכל הגוים אשר כבש׃
11 a chysegrodd y Brenin Dafydd hwy i'r ARGLWYDD, yn ogystal �'r arian a'r aur oddi wrth yr holl genhedloedd yr oedd wedi eu goresgyn �
12מארם וממואב ומבני עמון ומפלשתים ומעמלק ומשלל הדדעזר בן רחב מלך צובה׃
12 Syria, Moab, yr Ammoniaid, y Philistiaid a'r Amaleciaid � a hefyd ysbail Hadadeser fab Rehob, brenin Soba.
13ויעש דוד שם בשבו מהכותו את ארם בגיא מלח שמונה עשר אלף׃
13 Enillodd Dafydd fri pan ddych-welodd ar �l gorchfygu deunaw mil o Edomiaid yn Nyffryn yr Halen.
14וישם באדום נצבים בכל אדום שם נצבים ויהי כל אדום עבדים לדוד ויושע יהוה את דוד בכל אשר הלך׃
14 Gosododd garsiynau yn Edom, a daeth holl Edom yn ddeiliaid i Ddafydd. Yr oedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugol-iaeth i Ddafydd ple bynnag yr �i.
15וימלך דוד על כל ישראל ויהי דוד עשה משפט וצדקה לכל עמו׃
15 Yr oedd Dafydd yn teyrnasu dros Israel gyfan, ac yn gweinyddu barn a chyfiawnder i'w holl bobl.
16ויואב בן צרויה על הצבא ויהושפט בן אחילוד מזכיר׃
16 Joab fab Serfia oedd dros y fyddin, a Jehosaffat fab Ahilud yn gofiadur.
17וצדוק בן אחיטוב ואחימלך בן אביתר כהנים ושריה סופר׃
17 Sadoc fab Ahitub, ac Ahimelech fab Abiathar oedd yr offeiriaid, a Seraia yn ysgrifennydd.
18ובניהו בן יהוידע והכרתי והפלתי ובני דוד כהנים היו׃
18 Benaia fab Jehoiada oedd dros y Cerethiaid a'r Pelethiaid, ac yr oedd meibion Dafydd yn offeiriaid.