Hebrew: Modern

Welsh

Deuteronomy

1

1אלה הדברים אשר דבר משה אל כל ישראל בעבר הירדן במדבר בערבה מול סוף בין פארן ובין תפל ולבן וחצרת ודי זהב׃
1 Dyma'r geiriau a lefarodd Moses wrth Israel gyfan y tu hwnt i'r Iorddonen yn anialwch yr Araba gyferbyn � Suff, rhwng Paran a Toffel a Laban, Haseroth a Disahab.
2אחד עשר יום מחרב דרך הר שעיר עד קדש ברנע׃
2 Y mae taith un diwrnod ar ddeg o Horeb trwy fynydd-dir Seir hyd at Cades-barnea.
3ויהי בארבעים שנה בעשתי עשר חדש באחד לחדש דבר משה אל בני ישראל ככל אשר צוה יהוה אתו אלהם׃
3 Ar y dydd cyntaf o'r unfed mis ar ddeg, yn y ddeugeinfed flwyddyn, llefarodd Moses wrth yr Israeliaid y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo.
4אחרי הכתו את סיחן מלך האמרי אשר יושב בחשבון ואת עוג מלך הבשן אשר יושב בעשתרת באדרעי׃
4 Yr oedd hyn wedi iddo orchfygu Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn byw yn Hesbon, ac wedi iddo hefyd orchfygu Og brenin Basan, a oedd yn byw yn Astaroth ac yn Edrei.
5בעבר הירדן בארץ מואב הואיל משה באר את התורה הזאת לאמר׃
5 Y tu hwnt i'r Iorddonen yng ngwlad Moab y dechreuodd Moses egluro'r gyfraith hon, a dywedodd wrthynt,
6יהוה אלהינו דבר אלינו בחרב לאמר רב לכם שבת בהר הזה׃
6 Llefarodd yr ARGLWYDD ein Duw wrthym yn Horeb: "Yr ydych wedi aros digon yn ymyl y mynydd hwn.
7פנו וסעו לכם ובאו הר האמרי ואל כל שכניו בערבה בהר ובשפלה ובנגב ובחוף הים ארץ הכנעני והלבנון עד הנהר הגדל נהר פרת׃
7 Paratowch i fynd ar eich taith, ac ewch i fynydd-dir yr Amoriaid, ac at eu cymdogion yn yr Araba, yn y mynydd-dir, y Seffela a'r Negef ac ar lan y m�r, gwlad y Canaaneaid, a hefyd i Lebanon hyd at yr afon fawr, afon Ewffrates.
8ראה נתתי לפניכם את הארץ באו ורשו את הארץ אשר נשבע יהוה לאבתיכם לאברהם ליצחק וליעקב לתת להם ולזרעם אחריהם׃
8 Edrychwch, yr wyf yn rhoi'r wlad i chwi; ewch i mewn a meddiannwch y wlad y tyngodd yr ARGLWYDD i'ch tadau, Abraham, Isaac a Jacob, y byddai'n ei rhoi iddynt hwy ac i'w plant ar eu h�l."
9ואמר אלכם בעת ההוא לאמר לא אוכל לבדי שאת אתכם׃
9 Yr adeg honno fe ddywedais wrthych, "Ni allaf eich cynnal fy hunan.
10יהוה אלהיכם הרבה אתכם והנכם היום ככוכבי השמים לרב׃
10 Y mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi'ch gwneud yn lluosog, a dyma chwi heddiw mor niferus � s�r y nefoedd.
11יהוה אלהי אבותכם יסף עליכם ככם אלף פעמים ויברך אתכם כאשר דבר לכם׃
11 Bydded i'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, eich lluosogi filwaith eto, a'ch bendithio fel yr addawodd i chwi.
12איכה אשא לבדי טרחכם ומשאכם וריבכם׃
12 Sut y gallaf gymryd arnaf fy hun eich poenau a'ch beichiau a'ch ymryson?
13הבו לכם אנשים חכמים ונבנים וידעים לשבטיכם ואשימם בראשיכם׃
13 Dewiswch o blith eich llwythau ddynion doeth, deallus a phrofiadol, a gosodaf hwy yn benaethiaid arnoch."
14ותענו אתי ותאמרו טוב הדבר אשר דברת לעשות׃
14 Eich ymateb i mi oedd dweud, "Y mae'r hyn a ddywedaist wrthym am ei wneud yn awgrym da."
15ואקח את ראשי שבטיכם אנשים חכמים וידעים ואתן אתם ראשים עליכם שרי אלפים ושרי מאות ושרי חמשים ושרי עשרת ושטרים לשבטיכם׃
15 Yna cymerais benaethiaid eich llwythau, dynion doeth a phrofiadol, a gosodais hwy yn benaethiaid arnoch, yn swyddogion ar unedau o fil, o gant, o hanner cant, ac o ddeg, a hwy oedd llywodraethwyr eich llwythau.
16ואצוה את שפטיכם בעת ההוא לאמר שמע בין אחיכם ושפטתם צדק בין איש ובין אחיו ובין גרו׃
16 Yr adeg honno rhoddais orchymyn i'ch barnwyr, a dweud wrthynt, "Yr ydych i wrando ar achosion eich pobl, ac i farnu'n gyfiawn rhyngoch chwi a'ch gilydd, a hefyd rhyngoch chwi a'r dieithriaid sy'n byw yn eich plith.
17לא תכירו פנים במשפט כקטן כגדל תשמעון לא תגורו מפני איש כי המשפט לאלהים הוא והדבר אשר יקשה מכם תקרבון אלי ושמעתיו׃
17 Byddwch yn ddiduedd mewn barn, a gwrandewch ar y distadl yn ogystal �'r pwysig. Peidiwch ag ofni unrhyw un, oherwydd eiddo Duw yw barn. Os bydd achos yn rhy anodd i chwi, dygwch ef ataf fi, a gwrandawaf fi arno."
18ואצוה אתכם בעת ההוא את כל הדברים אשר תעשון׃
18 Yr adeg honno hefyd fe orchmynnais i chwi yr holl bethau yr oeddech i'w gwneud.
19ונסע מחרב ונלך את כל המדבר הגדול והנורא ההוא אשר ראיתם דרך הר האמרי כאשר צוה יהוה אלהינו אתנו ונבא עד קדש ברנע׃
19 Fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD ein Duw inni, gadawsom Horeb, a mynd i gyfeiriad mynydd-dir yr Amoriaid, gan deithio trwy'r cyfan o'r anialwch mawr ac ofnadwy hwnnw a welsoch chwi, a daethom i Cades-barnea.
20ואמר אלכם באתם עד הר האמרי אשר יהוה אלהינו נתן לנו׃
20 A dywedais wrthych, "Yr ydych wedi dod i fynydd-dir yr Amoriaid, y mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei roi inni.
21ראה נתן יהוה אלהיך לפניך את הארץ עלה רש כאשר דבר יהוה אלהי אבתיך לך אל תירא ואל תחת׃
21 Edrych, y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn rhoi'r wlad iti; dos i fyny, a meddianna hi fel y dywedodd yr ARGLWYDD, Duw dy hynafiaid, wrthyt. Paid ag ofni nac arswydo."
22ותקרבון אלי כלכם ותאמרו נשלחה אנשים לפנינו ויחפרו לנו את הארץ וישבו אתנו דבר את הדרך אשר נעלה בה ואת הערים אשר נבא אליהן׃
22 Ond fe ddaethoch chwi i gyd ataf a dweud, "Gad inni anfon dynion o'n blaen i chwilio'r wlad, a dod ag adroddiad inni am y ffordd yr awn i fyny iddi, a hefyd am y dinasoedd yr awn iddynt."
23וייטב בעיני הדבר ואקח מכם שנים עשר אנשים איש אחד לשבט׃
23 Yr oedd hyn yn dderbyniol yn fy ngolwg, a dewisais ddeuddeg o ddynion o'ch plith, un o bob llwyth.
24ויפנו ויעלו ההרה ויבאו עד נחל אשכל וירגלו אתה׃
24 Fe aethant hwy a theithio i fyny i'r mynydd-dir, a mynd hyd at ddyffryn Escol, a'i chwilio.
25ויקחו בידם מפרי הארץ ויורדו אלינו וישבו אתנו דבר ויאמרו טובה הארץ אשר יהוה אלהינו נתן לנו׃
25 Casglasant beth o ffrwythau'r tir, a dod � hwy atom, ac adrodd mai gwlad dda oedd yr un yr oedd yr ARGLWYDD ein Duw yn ei rhoi inni.
26ולא אביתם לעלת ותמרו את פי יהוה אלהיכם׃
26 Ond nid oeddech chwi'n fodlon mynd i fyny, a gwrthryfelasoch yn erbyn gorchymyn yr ARGLWYDD eich Duw.
27ותרגנו באהליכם ותאמרו בשנאת יהוה אתנו הוציאנו מארץ מצרים לתת אתנו ביד האמרי להשמידנו׃
27 Yr oeddech yn grwgnach yn eich pebyll, ac yn dweud, "Am fod yr ARGLWYDD yn ein cas�u y daeth � ni allan o wlad yr Aifft a'n rhoi yn nwylo'r Amoriaid i'n difa.
28אנה אנחנו עלים אחינו המסו את לבבנו לאמר עם גדול ורם ממנו ערים גדלת ובצורת בשמים וגם בני ענקים ראינו שם׃
28 Sut yr awn ni i fyny yno? Y mae ein brodyr wedi ein digalonni trwy ddweud fod y bobl yn fwy ac yn dalach na ni, a bod y dinasoedd yn fawr gyda chaerau cyn uched �'r nefoedd, ac iddynt weld disgynyddion yr Anacim yno."
29ואמר אלכם לא תערצון ולא תיראון מהם׃
29 Yna dywedais wrthych, "Peidiwch ag arswydo nac ofni o'u hachos.
30יהוה אלהיכם ההלך לפניכם הוא ילחם לכם ככל אשר עשה אתכם במצרים לעיניכם׃
30 Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn mynd o'ch blaen, ac ef fydd yn ymladd trosoch, fel y gwnaeth yn eich gu373?ydd yn yr Aifft,
31ובמדבר אשר ראית אשר נשאך יהוה אלהיך כאשר ישא איש את בנו בכל הדרך אשר הלכתם עד באכם עד המקום הזה׃
31 a hefyd yn yr anialwch lle gwelsoch fod yr ARGLWYDD eich Duw yn eich cario, fel y bydd dyn yn cario ei fab ei hun, bob cam o'r ffordd yr oeddech yn ei theithio nes dod i'r lle hwn."
32ובדבר הזה אינכם מאמינם ביהוה אלהיכם׃
32 Ond er hyn, nid oeddech chwi yn ymddiried yn yr ARGLWYDD eich Duw,
33ההלך לפניכם בדרך לתור לכם מקום לחנתכם באש לילה לראתכם בדרך אשר תלכו בה ובענן יומם׃
33 a oedd yn mynd o'ch blaen ar y ffordd, mewn t�n yn y nos i chwilio am le ichwi wersyllu, ac mewn cwmwl yn y dydd i ddangos ichwi'r ffordd i'w dilyn.
34וישמע יהוה את קול דבריכם ויקצף וישבע לאמר׃
34 Pan glywodd yr ARGLWYDD eich geiriau, digiodd, a thyngodd:
35אם יראה איש באנשים האלה הדור הרע הזה את הארץ הטובה אשר נשבעתי לתת לאבתיכם׃
35 "Ni chaiff yr un o'r genhedlaeth ddrwg hon weld y wlad dda y tyngais y byddwn yn ei rhoi i'ch hynafiaid.
36זולתי כלב בן יפנה הוא יראנה ולו אתן את הארץ אשר דרך בה ולבניו יען אשר מלא אחרי יהוה׃
36 Caleb fab Jeffunne yn unig a gaiff ei gweld, ac iddo ef a'i ddisgynyddion y rhoddaf y wlad y troediodd ef arni, am iddo ef lwyr ddilyn yr ARGLWYDD."
37גם בי התאנף יהוה בגללכם לאמר גם אתה לא תבא שם׃
37 O'ch achos chwi yr oedd yr ARGLWYDD yn ddig wrthyf finnau hefyd, a dywedodd, "Ni chei dithau fynd yno,
38יהושע בן נון העמד לפניך הוא יבא שמה אתו חזק כי הוא ינחלנה את ישראל׃
38 ond fe fydd Josua fab Nun, sydd yn dy wasanaeth, yn mynd yno; annog ef, oherwydd bydd ef yn ei rhoi yn feddiant i Israel.
39וטפכם אשר אמרתם לבז יהיה ובניכם אשר לא ידעו היום טוב ורע המה יבאו שמה ולהם אתננה והם יירשוה׃
39 Ond bydd eich rhai bach, y dywedasoch y byddent yn ysbail, a'ch plant, nad ydynt heddiw yn gwybod na da na drwg, yn mynd i'r wlad; a rhoddaf hi iddynt hwy, a byddant yn ei meddiannu.
40ואתם פנו לכם וסעו המדברה דרך ים סוף׃
40 Ond trowch chwi, a theithiwch i'r anialwch i gyfeiriad y M�r Coch."
41ותענו ותאמרו אלי חטאנו ליהוה אנחנו נעלה ונלחמנו ככל אשר צונו יהוה אלהינו ותחגרו איש את כלי מלחמתו ותהינו לעלת ההרה׃
41 Yna atebasoch fi a dweud, "Yr ydym wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD; fe awn i fyny ac ymladd fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD ein Duw." Ac fe wisgodd pob un ohonoch ei arfau, gan gredu mai hawdd fyddai mynd i fyny i'r mynydd-dir.
42ויאמר יהוה אלי אמר להם לא תעלו ולא תלחמו כי אינני בקרבכם ולא תנגפו לפני איביכם׃
42 Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf am ddweud wrthych, "Peidiwch � mynd i fyny i ymladd, rhag ichwi gael eich gorchfygu gan eich gelynion, oherwydd ni fyddaf fi gyda chwi."
43ואדבר אליכם ולא שמעתם ותמרו את פי יהוה ותזדו ותעלו ההרה׃
43 Er imi ddweud hyn wrthych, ni wrandawsoch ond gwrthryfela yn erbyn gorchymyn yr ARGLWYDD, a beiddio mynd i fyny i'r mynydd-dir.
44ויצא האמרי הישב בהר ההוא לקראתכם וירדפו אתכם כאשר תעשינה הדברים ויכתו אתכם בשעיר עד חרמה׃
44 A daeth yr Amoriaid, a oedd yn byw yn y mynydd-dir hwnnw, allan yn eich erbyn a'ch ymlid fel gwenyn, a'ch trechu yn Seir gerllaw Horma.
45ותשבו ותבכו לפני יהוה ולא שמע יהוה בקלכם ולא האזין אליכם׃
45 Yna troesoch yn �l ac wylo gerbron yr ARGLWYDD; ond ni wrandawodd yr ARGLWYDD arnoch, ac yr oedd yn glustfyddar i'ch cri.
46ותשבו בקדש ימים רבים כימים אשר ישבתם׃
46 Yna bu i chwi aros yn Cades, lle y buoch am ddyddiau lawer.