Hebrew: Modern

Welsh

Deuteronomy

10

1בעת ההוא אמר יהוה אלי פסל לך שני לוחת אבנים כראשנים ועלה אלי ההרה ועשית לך ארון עץ׃
1 Yr adeg honno, dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Nadd ddwy lechen fel y rhai cyntaf, a thyrd i fyny ataf i'r mynydd; gwna hefyd arch bren.
2ואכתב על הלחת את הדברים אשר היו על הלחת הראשנים אשר שברת ושמתם בארון׃
2 Fe ysgrifennaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, a ddrylliaist; yna gosod di hwy yn yr arch."
3ואעש ארון עצי שטים ואפסל שני לחת אבנים כראשנים ואעל ההרה ושני הלחת בידי׃
3 Gwneuthum arch o goed acasia, a naddu dwy lechen fel y rhai cyntaf, a mynd i fyny i'r mynydd gyda'r llechau yn fy nwylo.
4ויכתב על הלחת כמכתב הראשון את עשרת הדברים אשר דבר יהוה אליכם בהר מתוך האש ביום הקהל ויתנם יהוה אלי׃
4 Ac yna, yn union fel y gwnaeth y tro cyntaf, fe ysgrifennodd yr ARGLWYDD ar y llechau y deg gorchymyn a lefarodd wrthych o ganol y t�n ar y mynydd ar ddydd y cynulliad, ac fe'u rhoddodd imi.
5ואפן וארד מן ההר ואשם את הלחת בארון אשר עשיתי ויהיו שם כאשר צוני יהוה׃
5 Wedi hyn deuthum i lawr o'r mynydd, a gosodais y llechau yn yr arch a wneuthum, ac y maent yno, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD imi.
6ובני ישראל נסעו מבארת בני יעקן מוסרה שם מת אהרן ויקבר שם ויכהן אלעזר בנו תחתיו׃
6 Teithiodd yr Israeliaid o ffynhonnau'r Jaacaneaid i Mosera. Bu Aaron farw yno, ac yno y claddwyd ef; a daeth Eleasar ei fab yn offeiriad yn ei le.
7משם נסעו הגדגדה ומן הגדגדה יטבתה ארץ נחלי מים׃
7 Teithiasant oddi yno i Gudgoda, ac o Gudgoda i Jotbatha, gwlad lle'r oedd ffrydiau du373?r.
8בעת ההוא הבדיל יהוה את שבט הלוי לשאת את ארון ברית יהוה לעמד לפני יהוה לשרתו ולברך בשמו עד היום הזה׃
8 Yr adeg honno neilltuodd yr ARGLWYDD lwyth Lefi i gario arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac i sefyll gerbron yr ARGLWYDD i'w wasanaethu, a bendithio yn ei enw, fel y gwn�nt hyd heddiw.
9על כן לא היה ללוי חלק ונחלה עם אחיו יהוה הוא נחלתו כאשר דבר יהוה אלהיך לו׃
9 Dyna pam nad oes gan Lefi ran nac etifeddiaeth gyda'i gymrodyr; yr ARGLWYDD yw ei etifeddiaeth, fel yr addawodd yr ARGLWYDD dy Dduw iddo.
10ואנכי עמדתי בהר כימים הראשנים ארבעים יום וארבעים לילה וישמע יהוה אלי גם בפעם ההוא לא אבה יהוה השחיתך׃
10 Fel y tro cyntaf, arhosais ar y mynydd am ddeugain diwrnod a deugain nos; gwrandawodd yr ARGLWYDD arnaf fel y gwnaeth yr adeg honno, oherwydd nid oedd yr ARGLWYDD yn dymuno eich difa.
11ויאמר יהוה אלי קום לך למסע לפני העם ויבאו וירשו את הארץ אשר נשבעתי לאבתם לתת להם׃
11 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Cod ac arwain y bobl er mwyn iddynt fynd i feddiannu'r wlad y tyngais i'w hynafiaid y byddwn yn ei rhoi iddynt."
12ועתה ישראל מה יהוה אלהיך שאל מעמך כי אם ליראה את יהוה אלהיך ללכת בכל דרכיו ולאהבה אתו ולעבד את יהוה אלהיך בכל לבבך ובכל נפשך׃
12 Yn awr, O Israel, beth y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei ofyn gennyt? Dy fod yn ofni'r ARGLWYDD dy Dduw trwy rodio yn ei ffyrdd a'i garu, a gwasanaethu'r ARGLWYDD dy Dduw �'th holl galon ac �'th holl enaid;
13לשמר את מצות יהוה ואת חקתיו אשר אנכי מצוך היום לטוב לך׃
13 dy fod hefyd yn cadw ei orchmynion a'i ddeddfau yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw, fel y byddo'n dda arnat.
14הן ליהוה אלהיך השמים ושמי השמים הארץ וכל אשר בה׃
14 Edrych, eiddo'r ARGLWYDD dy Dduw yw'r nefoedd a nef y nefoedd, hefyd y ddaear a'r cyfan sydd arni.
15רק באבתיך חשק יהוה לאהבה אותם ויבחר בזרעם אחריהם בכם מכל העמים כיום הזה׃
15 Ond rhoddodd yr ARGLWYDD ei serch ar dy hynafiaid ac fe'u carodd, a dewis eu disgynyddion ar eu h�l; ie, eich dewis chwi o blith yr holl bobloedd, fel y mae'n gwneud heddiw.
16ומלתם את ערלת לבבכם וערפכם לא תקשו עוד׃
16 Yn awr, enwaedwch eich calonnau, a pheidiwch � bod yn ystyfnig eto.
17כי יהוה אלהיכם הוא אלהי האלהים ואדני האדנים האל הגדל הגבר והנורא אשר לא ישא פנים ולא יקח שחד׃
17 Oherwydd yr ARGLWYDD eich Duw yw Duw y duwiau ac Arglwydd yr arglwyddi, Duw mawr, cadarn ac ofnadwy; nid yw'n dangos ffafriaeth nac yn cymryd llwgrwobr.
18עשה משפט יתום ואלמנה ואהב גר לתת לו לחם ושמלה׃
18 Y mae'n gwneud cyfiawnder �'r amddifad a'r weddw, yn caru'r dieithr, ac yn rhoi iddynt fwyd a dillad.
19ואהבתם את הגר כי גרים הייתם בארץ מצרים׃
19 Yr ydych chwithau i garu'r dieithryn, gan ichwi fod yn ddieithriaid yng ngwlad yr Aifft.
20את יהוה אלהיך תירא אתו תעבד ובו תדבק ובשמו תשבע׃
20 Yr wyt i ofni'r ARGLWYDD dy Dduw a'i wasanaethu; yr wyt i lynu wrtho ac i dyngu yn ei enw.
21הוא תהלתך והוא אלהיך אשר עשה אתך את הגדלת ואת הנוראת האלה אשר ראו עיניך׃
21 Ef yw dy fawl, ac ef yw dy Dduw, a wnaeth iti'r pethau mawr ac ofnadwy hyn a welaist �'th lygaid dy hun.
22בשבעים נפש ירדו אבתיך מצרימה ועתה שמך יהוה אלהיך ככוכבי השמים לרב׃
22 Yn ddeg a thrigain o bobl yr aeth dy hynafiaid i lawr i'r Aifft, ond yn awr y mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi dy wneud mor niferus � s�r y nefoedd.