1אלה החקים והמשפטים אשר תשמרון לעשות בארץ אשר נתן יהוה אלהי אבתיך לך לרשתה כל הימים אשר אתם חיים על האדמה׃
1 Dyma'r deddfau a'r cyfreithiau yr ydych i ofalu eu cadw yn y wlad y mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi ei rhoi ichwi i'w meddiannu tra byddwch byw yn y tir.
2אבד תאבדון את כל המקמות אשר עבדו שם הגוים אשר אתם ירשים אתם את אלהיהם על ההרים הרמים ועל הגבעות ותחת כל עץ רענן׃
2 Yr ydych i lwyr ddinistrio'r holl fannau ar y mynyddoedd uchel a'r bryniau, a than bob pren gwyrddlas, lle mae'r cenhedloedd yr ydych yn eu disodli yn addoli eu duwiau.
3ונתצתם את מזבחתם ושברתם את מצבתם ואשריהם תשרפון באש ופסילי אלהיהם תגדעון ואבדתם את שמם מן המקום ההוא׃
3 Yr ydych i dynnu i lawr eu hallorau, dryllio'u colofnau, llosgi eu pyst Asera yn y t�n, torri i lawr ddelwau eu duwiau, a dinistrio'u henwau o'r mannau hynny.
4לא תעשון כן ליהוה אלהיכם׃
4 Nid yn �l eu dull hwy y gwnewch i'r ARGLWYDD eich Duw.
5כי אם אל המקום אשר יבחר יהוה אלהיכם מכל שבטיכם לשום את שמו שם לשכנו תדרשו ובאת שמה׃
5 Yn hytrach ceisiwch y man y bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ei ddewis o'ch holl lwythau yn drigfan i'w enw; yno y dewch,
6והבאתם שמה עלתיכם וזבחיכם ואת מעשרתיכם ואת תרומת ידכם ונדריכם ונדבתיכם ובכרת בקרכם וצאנכם׃
6 a chyflwyno eich poethoffrymau a'ch aberthau, eich degymau a'ch cyfraniadau, eich addunedau a'ch offrymau gwirfodd, a chyntafanedig eich gwartheg a'ch defaid.
7ואכלתם שם לפני יהוה אלהיכם ושמחתם בכל משלח ידכם אתם ובתיכם אשר ברכך יהוה אלהיך׃
7 Yno gerbron yr ARGLWYDD eich Duw y byddwch chwi a'ch teuluoedd yn bwyta ac yn llawenhau ym mhopeth a wnewch, oherwydd i'r ARGLWYDD eich Duw eich bendithio.
8לא תעשון ככל אשר אנחנו עשים פה היום איש כל הישר בעיניו׃
8 Nid ydych i wneud yn union fel y gwnawn yma heddiw, lle y mae pawb yn gwneud fel y myn,
9כי לא באתם עד עתה אל המנוחה ואל הנחלה אשר יהוה אלהיך נתן לך׃
9 oherwydd nid ydych eto wedi cyrraedd yr orffwysfa a'r etifeddiaeth y mae'r ARGLWYDD eich Duw am eu rhoi ichwi.
10ועברתם את הירדן וישבתם בארץ אשר יהוה אלהיכם מנחיל אתכם והניח לכם מכל איביכם מסביב וישבתם בטח׃
10 Unwaith y byddwch dros yr Iorddonen ac yn byw yn y wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi'n etifeddiaeth ichwi, cewch lonydd oddi wrth y gelynion o'ch cwmpas, a byddwch yn byw mewn diogelwch.
11והיה המקום אשר יבחר יהוה אלהיכם בו לשכן שמו שם שמה תביאו את כל אשר אנכי מצוה אתכם עולתיכם וזבחיכם מעשרתיכם ותרמת ידכם וכל מבחר נדריכם אשר תדרו ליהוה׃
11 Yna fe ddygwch i'r man y bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ei ddewis yn drigfan i'w enw, y cwbl yr wyf yn ei orchymyn ichwi, eich poethoffrymau a'ch aberthau, eich degymau a'ch cyfraniadau, a'ch rhoddion dethol, y rhai yr ydych wedi eu haddunedu i'r ARGLWYDD.
12ושמחתם לפני יהוה אלהיכם אתם ובניכם ובנתיכם ועבדיכם ואמהתיכם והלוי אשר בשעריכם כי אין לו חלק ונחלה אתכם׃
12 A byddwch yn llawenhau gerbron yr ARGLWYDD eich Duw, chwi a'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion hefyd, a'r Lefiaid yn eich trefi, am nad oes ganddynt gyfran nac etifeddiaeth gyda chwi.
13השמר לך פן תעלה עלתיך בכל מקום אשר תראה׃
13 Gwylia rhag aberthu dy boeth-offrymau ym mhobman a weli,
14כי אם במקום אשר יבחר יהוה באחד שבטיך שם תעלה עלתיך ושם תעשה כל אשר אנכי מצוך׃
14 ond abertha hwy yn y man y bydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis o fewn un o'th lwythau; yno y gwnei bopeth yr wyf yn ei orchymyn iti.
15רק בכל אות נפשך תזבח ואכלת בשר כברכת יהוה אלהיך אשר נתן לך בכל שעריך הטמא והטהור יאכלנו כצבי וכאיל׃
15 Er hynny, cei ladd a bwyta faint a fynni o gig yn dy drefi, yn �l yr hyn a gei drwy fendith yr ARGLWYDD dy Dduw, fel petai'n gig gafrewig neu garw; caiff yr aflan a'r gl�n ei fwyta.
16רק הדם לא תאכלו על הארץ תשפכנו כמים׃
16 Er hynny, nid ydych i fwyta'r gwaed, ond ei dywallt fel du373?r ar y ddaear.
17לא תוכל לאכל בשעריך מעשר דגנך ותירשך ויצהרך ובכרת בקרך וצאנך וכל נדריך אשר תדר ונדבתיך ותרומת ידך׃
17 Ni chei fwyta yn dy drefi dy ddegwm o u375?d, nac o win newydd nac o olew, na chyntafanedig dy wartheg a'th ddefaid, na dim sydd wedi ei addunedu gennyt, na'th offrymau gwirfodd, na'th gyfraniadau.
18כי אם לפני יהוה אלהיך תאכלנו במקום אשר יבחר יהוה אלהיך בו אתה ובנך ובתך ועבדך ואמתך והלוי אשר בשעריך ושמחת לפני יהוה אלהיך בכל משלח ידך׃
18 Rhaid iti fwyta'r rheini gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, yn y man y bydd ef yn ei ddewis; dyna a wnei di, dy fab, dy ferch, dy was, dy forwyn, a'r Lefiaid sydd yn dy drefi, a llawenhau gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw ym mhopeth a wnei.
19השמר לך פן תעזב את הלוי כל ימיך על אדמתך׃
19 Gwylia rhag esgeuluso'r Lefiaid tra byddi byw yn dy dir.
20כי ירחיב יהוה אלהיך את גבולך כאשר דבר לך ואמרת אכלה בשר כי תאוה נפשך לאכל בשר בכל אות נפשך תאכל בשר׃
20 Pan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn helaethu dy derfynau yn �l ei addewid iti, a chwant bwyd yn dod arnat a thithau'n dweud, "Yr wyf am fwyta cig", cei fwyta faint a fynni.
21כי ירחק ממך המקום אשר יבחר יהוה אלהיך לשום שמו שם וזבחת מבקרך ומצאנך אשר נתן יהוה לך כאשר צויתך ואכלת בשעריך בכל אות נפשך׃
21 Os bydd y man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis i osod ei enw yno yn bell oddi wrthyt, cei ladd un o'th wartheg neu o'th ddefaid a roes yr ARGLWYDD iti, fel y gorchmynnais iti, a bwyta yn dy drefi gymaint ag a fynni.
22אך כאשר יאכל את הצבי ואת האיל כן תאכלנו הטמא והטהור יחדו יאכלנו׃
22 Cei fwyta ohono fel petai'n gig gafrewig neu garw; caiff yr aflan a'r gl�n fel ei gilydd ei fwyta.
23רק חזק לבלתי אכל הדם כי הדם הוא הנפש ולא תאכל הנפש עם הבשר׃
23 Ond gofalwch beidio � bwyta'r gwaed, oherwydd y gwaed yw'r bywyd, ac nid wyt i fwyta'r bywyd gyda'r cig.
24לא תאכלנו על הארץ תשפכנו כמים׃
24 Ni chei ei fwyta; yr wyt i'w dywallt fel du373?r ar y ddaear.
25לא תאכלנו למען ייטב לך ולבניך אחריך כי תעשה הישר בעיני יהוה׃
25 Paid �'i fwyta, fel y byddo'n dda arnat ti a'th blant ar dy �l, am iti wneud yr hyn sy'n iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
26רק קדשיך אשר יהיו לך ונדריך תשא ובאת אל המקום אשר יבחר יהוה׃
26 Ond am y pethau sydd gennyt i'w cysegru, a'th addunedau, cymer hwy a dos i'r man y bydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis,
27ועשית עלתיך הבשר והדם על מזבח יהוה אלהיך ודם זבחיך ישפך על מזבח יהוה אלהיך והבשר תאכל׃
27 ac abertha dy boethoffrymau, y cig a'r gwaed, ar allor yr ARGLWYDD dy Dduw; y mae gwaed dy ebyrth i'w dywallt ar allor yr ARGLWYDD dy Dduw, ond cei fwyta'r cig.
28שמר ושמעת את כל הדברים האלה אשר אנכי מצוך למען ייטב לך ולבניך אחריך עד עולם כי תעשה הטוב והישר בעיני יהוה אלהיך׃
28 Gofala wrando ar yr holl eiriau hyn yr wyf yn eu gorchymyn iti, fel y byddo'n dda arnat ti a'th blant ar dy �l hyd byth, am iti wneud yr hyn sy'n dda ac yn iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD dy Dduw.
29כי יכרית יהוה אלהיך את הגוים אשר אתה בא שמה לרשת אותם מפניך וירשת אתם וישבת בארצם׃
29 Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn distrywio o'th flaen y cenhedloedd yr wyt yn mynd i'w disodli. Pan fyddant wedi eu disodli a'u difa o'th flaen, a thithau'n byw yn eu gwlad,
30השמר לך פן תנקש אחריהם אחרי השמדם מפניך ופן תדרש לאלהיהם לאמר איכה יעבדו הגוים האלה את אלהיהם ואעשה כן גם אני׃
30 gwylia rhag iti gael dy rwydo i'w canlyn, a holi am eu duwiau: "Sut yr oedd y cenhedloedd hyn yn addoli eu duwiau, er mwyn i minnau wneud yr un fath?"
31לא תעשה כן ליהוה אלהיך כי כל תועבת יהוה אשר שנא עשו לאלהיהם כי גם את בניהם ואת בנתיהם ישרפו באש לאלהיהם׃
31 Nid yn �l eu dull hwy y gwnei i'r ARGLWYDD dy Dduw, oherwydd yr oedd y cwbl a wnaent hwy i'w duwiau yn ffieidd-dra atgas gan yr ARGLWYDD; yr oeddent hyd yn oed yn llosgi eu meibion a'u merched yn y t�n i'w duwiau.
32את כל הדבר אשר אנכי מצוה אתכם אתו תשמרו לעשות לא תסף עליו ולא תגרע ממנו׃
32 Gofala wneud popeth yr wyf fi yn ei orchymyn iti, heb ychwanegu ato na thynnu oddi wrtho.