1לא תזבח ליהוה אלהיך שור ושה אשר יהיה בו מום כל דבר רע כי תועבת יהוה אלהיך הוא׃
1 Paid ag aberthu i'r ARGLWYDD dy Dduw nac ych na dafad ag unrhyw nam na dim difrifol arno, oherwydd y mae hynny'n ffiaidd gan yr ARGLWYDD dy Dduw.
2כי ימצא בקרבך באחד שעריך אשר יהוה אלהיך נתן לך איש או אשה אשר יעשה את הרע בעיני יהוה אלהיך לעבר בריתו׃
2 Os ceir yn un o'r trefi y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu rhoi iti ddyn neu ddynes yn eich mysg sy'n gwneud yr hyn sy'n ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD dy Dduw trwy droseddu yn erbyn ei gyfamod,
3וילך ויעבד אלהים אחרים וישתחו להם ולשמש או לירח או לכל צבא השמים אשר לא צויתי׃
3 a'i fod, yn groes i'm gorchymyn, yn gwasanaethu ac yn addoli duwiau estron, prun ai'r haul neu'r lloer neu holl lu'r nef,
4והגד לך ושמעת ודרשת היטב והנה אמת נכון הדבר נעשתה התועבה הזאת בישראל׃
4 yna os clywi si am hyn, yr wyt i chwilio'n ddyfal; ac os yw'n wir ac yn sicr fod y ffieidd-dra hwn wedi ei gyflawni yn Israel,
5והוצאת את האיש ההוא או את האשה ההוא אשר עשו את הדבר הרע הזה אל שעריך את האיש או את האשה וסקלתם באבנים ומתו׃
5 yna tyrd �'r dyn neu'r ddynes sydd wedi gwneud y peth drygionus hwn allan i'r porth, a'i labyddio'n gelain � cherrig.
6על פי שנים עדים או שלשה עדים יומת המת לא יומת על פי עד אחד׃
6 Ar dystiolaeth dau dyst neu dri y rhoir i farwolaeth; ni roir i farwolaeth ar dystiolaeth un tyst.
7יד העדים תהיה בו בראשנה להמיתו ויד כל העם באחרנה ובערת הרע מקרבך׃
7 Dwylo'r tystion sydd i daflu'r garreg gyntaf i'w ddienyddio, a dwylo'r holl boblogaeth wedyn; felly y byddi'n dileu'r drwg o'ch mysg.
8כי יפלא ממך דבר למשפט בין דם לדם בין דין לדין ובין נגע לנגע דברי ריבת בשעריך וקמת ועלית אל המקום אשר יבחר יהוה אלהיך בו׃
8 Os cei yn dy dref achos llys sy'n rhy ddyrys iti, megis dyfarnu rhwng dwy blaid mewn achos o ddial gwaed, neu hawl, neu ymosod, yna dos yn ddi-oed i'r man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis,
9ובאת אל הכהנים הלוים ואל השפט אשר יהיה בימים ההם ודרשת והגידו לך את דבר המשפט׃
9 a gofyn yno i'r offeiriaid o Lefiaid, ac i'r barnwr a fydd yn y dyddiau hynny, roi'r ddedfryd iti.
10ועשית על פי הדבר אשר יגידו לך מן המקום ההוא אשר יבחר יהוה ושמרת לעשות ככל אשר יורוך׃
10 Gwna fel y byddant hwy yn dweud wrthyt yn y man y bydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis, a gofala wneud popeth yn �l y cyfarwyddyd a roddant iti.
11על פי התורה אשר יורוך ועל המשפט אשר יאמרו לך תעשה לא תסור מן הדבר אשר יגידו לך ימין ושמאל׃
11 Yr wyt i weithredu yn �l y cyfarwyddyd a gei ganddynt a'r dyfarniad a roddant, heb wyro i'r dde nac i'r chwith oddi wrth yr hyn a ddywedant wrthyt.
12והאיש אשר יעשה בזדון לבלתי שמע אל הכהן העמד לשרת שם את יהוה אלהיך או אל השפט ומת האיש ההוא ובערת הרע מישראל׃
12 Pwy bynnag sy'n ddigon rhyfygus i beidio � gwrando ar yr offeiriad sy'n gweinyddu yno dros yr ARGLWYDD dy Dduw, neu ar y barnwr, bydded farw; felly y byddi'n dileu'r drwg o Israel.
13וכל העם ישמעו ויראו ולא יזידון עוד׃
13 Bydd y bobl i gyd yn clywed, a daw ofn arnynt, ac ni ryfygant mwyach.
14כי תבא אל הארץ אשר יהוה אלהיך נתן לך וירשתה וישבתה בה ואמרת אשימה עלי מלך ככל הגוים אשר סביבתי׃
14 Pan ddoi i'r wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti, a'i meddiannu a byw ynddi, ac yna dweud, "Yr wyf am gymryd brenin, fel yr holl genhedloedd o'm hamgylch",
15שום תשים עליך מלך אשר יבחר יהוה אלהיך בו מקרב אחיך תשים עליך מלך לא תוכל לתת עליך איש נכרי אשר לא אחיך הוא׃
15 yna'n wir cei gymryd y brenin y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis; ond un o blith dy frodyr yr wyt i'w gymryd yn frenin; ni elli ddewis dyn estron nad yw o blith dy frodyr.
16רק לא ירבה לו סוסים ולא ישיב את העם מצרימה למען הרבות סוס ויהוה אמר לכם לא תספון לשוב בדרך הזה עוד׃
16 Nid yw'r brenin i amlhau meirch iddo'i hun, nac i yrru ei bobl yn �l i'r Aifft er mwyn hynny, gan fod yr ARGLWYDD wedi eich gwahardd rhag dychwelyd ar hyd y ffordd honno.
17ולא ירבה לו נשים ולא יסור לבבו וכסף וזהב לא ירבה לו מאד׃
17 Ac nid yw i luosogi gwragedd, rhag i'w galon fynd ar gyfeiliorn, nac i amlhau arian ac aur yn ormodol.
18והיה כשבתו על כסא ממלכתו וכתב לו את משנה התורה הזאת על ספר מלפני הכהנים הלוים׃
18 Pan ddaw i eistedd ar orsedd ei deyrnas, y mae i arwyddo copi iddo'i hun o'r gyfraith hon mewn llyfr yng ngu373?ydd yr offeiriaid o Lefiaid.
19והיתה עמו וקרא בו כל ימי חייו למען ילמד ליראה את יהוה אלהיו לשמר את כל דברי התורה הזאת ואת החקים האלה לעשתם׃
19 A bydd hwnnw ganddo i'w ddarllen holl ddyddiau ei fywyd, er mwyn iddo ddysgu ofni'r ARGLWYDD ei Dduw a chadw holl eiriau'r gyfraith hon, a gwneud yn �l y rheolau hyn,
20לבלתי רום לבבו מאחיו ולבלתי סור מן המצוה ימין ושמאול למען יאריך ימים על ממלכתו הוא ובניו בקרב ישראל׃
20 rhag iddo ei ystyried ei hun yn uwch na'i gymrodyr, neu rhag iddo wyro i'r dde nac i'r chwith oddi wrth y gorchymyn, ac er mwyn iddo estyn dyddiau ei frenhiniaeth yn Israel iddo'i hun a'i ddisgynyddion.