1כי יכרית יהוה אלהיך את הגוים אשר יהוה אלהיך נתן לך את ארצם וירשתם וישבת בעריהם ובבתיהם׃
1 Pan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi difa'r cenhedloedd y mae'n rhoi eu tir iti, a thithau'n ei feddiannu ac yn byw yn eu trefi a'u tai,
2שלוש ערים תבדיל לך בתוך ארצך אשר יהוה אלהיך נתן לך לרשתה׃
2 yr wyt i neilltuo ar dy gyfer dair dinas yn y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti i'w meddiannu.
3תכין לך הדרך ושלשת את גבול ארצך אשר ינחילך יהוה אלהיך והיה לנוס שמה כל רצח׃
3 Paratoa ffordd atynt, a rhannu'n dair y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti i'w hetifeddu, fel y caiff pob lleiddiad le i ddianc.
4וזה דבר הרצח אשר ינוס שמה וחי אשר יכה את רעהו בבלי דעת והוא לא שנא לו מתמל שלשם׃
4 Dyma'r math o leiddiad a gaiff ffoi yno ac arbed ei fywyd: yr un fydd yn lladd arall yn ddifwriad, heb fod yn ei gas�u o'r blaen;
5ואשר יבא את רעהו ביער לחטב עצים ונדחה ידו בגרזן לכרת העץ ונשל הברזל מן העץ ומצא את רעהו ומת הוא ינוס אל אחת הערים האלה וחי׃
5 er enghraifft, rhywun fydd yn mynd gyda'i gymydog i'r goedwig i dorri coed, ac wrth iddo estyn ei law gyda'r fwyell i dorri coeden, y mae pen y fwyell yn neidio oddi ar y pren ac yn rhoi ergyd farwol i'w gymydog. Caiff hwn ffoi i un o'r dinasoedd hyn ac arbed ei fywyd,
6פן ירדף גאל הדם אחרי הרצח כי יחם לבבו והשיגו כי ירבה הדרך והכהו נפש ולו אין משפט מות כי לא שנא הוא לו מתמול שלשום׃
6 rhag i'r dialydd gwaed yn ei gynddaredd ddilyn y lleiddiad a'i ddal oherwydd meithder y daith, a'i daro'n farw, er nad oedd yn haeddu marw, am nad oedd yn cas�u ei gymydog o'r blaen.
7על כן אנכי מצוך לאמר שלש ערים תבדיל לך׃
7 Dyna pam yr wyf yn gorchymyn iti neilltuo tair dinas.
8ואם ירחיב יהוה אלהיך את גבלך כאשר נשבע לאבתיך ונתן לך את כל הארץ אשר דבר לתת לאבתיך׃
8 Os bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn estyn dy derfynau, fel y tyngodd i'th hynafiaid y gwn�i, ac yn rhoi iti'r holl wlad a addawodd i'th hynafiaid,
9כי תשמר את כל המצוה הזאת לעשתה אשר אנכי מצוך היום לאהבה את יהוה אלהיך וללכת בדרכיו כל הימים ויספת לך עוד שלש ערים על השלש האלה׃
9 oherwydd iti ofalu cadw'r cwbl o'r gorchymyn hwn yr wyf yn ei roi iti heddiw, i garu'r ARGLWYDD dy Dduw a cherdded yn ei ffyrdd bob amser, yna rwyt i ychwanegu tair dinas arall at y tair cyntaf.
10ולא ישפך דם נקי בקרב ארצך אשר יהוה אלהיך נתן לך נחלה והיה עליך דמים׃
10 Nid yw gwaed y dieuog i'w dywallt o fewn y tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti'n etifeddiaeth, rhag iti fod yn euog o dywallt gwaed.
11וכי יהיה איש שנא לרעהו וארב לו וקם עליו והכהו נפש ומת ונס אל אחת הערים האל׃
11 Os bydd rhywun yn cas�u ei gymydog ac yn ymosod yn llechwraidd arno a'i anafu mor ddifrifol nes ei fod yn marw, ac yna yn dianc i un o'r dinasoedd hyn,
12ושלחו זקני עירו ולקחו אתו משם ונתנו אתו ביד גאל הדם ומת׃
12 y mae henuriaid ei dref i anfon rhai i'w gyrchu oddi yno a'i drosglwyddo i'r dialydd gwaed; a bydd farw.
13לא תחוס עינך עליו ובערת דם הנקי מישראל וטוב לך׃
13 Nid wyt i dosturio wrtho, ond i ddileu o Israel euogrwydd am dywallt gwaed y dieuog, er mwyn iddi fod yn dda arnat.
14לא תסיג גבול רעך אשר גבלו ראשנים בנחלתך אשר תנחל בארץ אשר יהוה אלהיך נתן לך לרשתה׃
14 Paid � symud terfyn dy gymydog, a osodwyd o'r dechrau yn yr etifeddiaeth a gefaist yn y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti i'w meddiannu.
15לא יקום עד אחד באיש לכל עון ולכל חטאת בכל חטא אשר יחטא על פי שני עדים או על פי שלשה עדים יקום דבר׃
15 Nid yw un tyst yn ddigon yn erbyn neb mewn unrhyw achos o drosedd neu fai, beth bynnag fo'r bai a gyflawnwyd; ond fe saif tystiolaeth dau neu dri.
16כי יקום עד חמס באיש לענות בו סרה׃
16 Os bydd tyst maleisus yn codi yn erbyn rhywun i'w gyhuddo o gamwri,
17ועמדו שני האנשים אשר להם הריב לפני יהוה לפני הכהנים והשפטים אשר יהיו בימים ההם׃
17 safed y ddau sy'n ymrafael yng ngu373?ydd yr ARGLWYDD, gerbron yr offeiriaid a'r barnwyr ar y pryd.
18ודרשו השפטים היטב והנה עד שקר העד שקר ענה באחיו׃
18 Holed y barnwyr yn ddyfal, ac os ceir mai gau dyst ydyw a'i fod wedi dwyn gau dystiolaeth yn erbyn ei gymydog,
19ועשיתם לו כאשר זמם לעשות לאחיו ובערת הרע מקרבך׃
19 gwneler iddo yr hyn y bwriadodd ef ei wneud i'w gymydog; felly y byddi'n dileu'r drwg o'ch mysg.
20והנשארים ישמעו ויראו ולא יספו לעשות עוד כדבר הרע הזה בקרבך׃
20 Pan glyw y lleill, bydd arnynt ofn a pheidiant � gwneud y fath ddrwg mwyach.
21ולא תחוס עינך נפש בנפש עין בעין שן בשן יד ביד רגל ברגל׃
21 Nid wyt i ddangos tosturi; bywyd am fywyd, llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed.