Hebrew: Modern

Welsh

Deuteronomy

25

1כי יהיה ריב בין אנשים ונגשו אל המשפט ושפטום והצדיקו את הצדיק והרשיעו את הרשע׃
1 Os bydd ymrafael rhwng dau, y maent i ddod �'r achos i lys barn, ac y mae'r barnwr i ddedfrydu, gan ddyfarnu o blaid y cyfiawn a chondemnio'r euog.
2והיה אם בן הכות הרשע והפילו השפט והכהו לפניו כדי רשעתו במספר׃
2 Ac os yw'r euog yn haeddu ei fflangellu, y mae'r barnwr i beri iddo orwedd a derbyn yn ei u373?ydd y nifer o lachau sy'n briodol i'r trosedd.
3ארבעים יכנו לא יסיף פן יסיף להכתו על אלה מכה רבה ונקלה אחיך לעיניך׃
3 Nid ydynt i'w guro � mwy na deugain llach rhag iddo, o'i fflangellu lawer mwy na hyn, fynd yn wrthrych dirmyg yn d'olwg.
4לא תחסם שור בדישו׃
4 Nid wyt i roi genfa am safn ych tra byddo'n dyrnu.
5כי ישבו אחים יחדו ומת אחד מהם ובן אין לו לא תהיה אשת המת החוצה לאיש זר יבמה יבא עליה ולקחה לו לאשה ויבמה׃
5 Os bydd brodyr yn byw gyda'i gilydd ac un ohonynt yn marw'n ddi-blant, nid yw'r weddw i briodi estron o'r tu allan; y mae ei brawd-yng-nghyfraith i fynd i mewn ati a'i chymryd hi'n wraig iddo, a chyflawni dyletswydd.
6והיה הבכור אשר תלד יקום על שם אחיו המת ולא ימחה שמו מישראל׃
6 Bydd y mab cyntaf a enir iddi yn cymryd enw'r brawd a fu farw, rhag dileu ei enw o Israel.
7ואם לא יחפץ האיש לקחת את יבמתו ועלתה יבמתו השערה אל הזקנים ואמרה מאן יבמי להקים לאחיו שם בישראל לא אבה יבמי׃
7 Ac os na bydd y dyn hwnnw'n dymuno priodi ei chwaer-yng-nghyfraith, aed honno i fyny i'r porth at yr henuriaid a dweud, "Y mae fy mrawd-yng-nghyfraith yn gwrthod sicrhau bod enw ei frawd yn parhau yn Israel; nid yw'n fodlon cyflawni dyletswydd brawd-yng-nghyfraith � mi."
8וקראו לו זקני עירו ודברו אליו ועמד ואמר לא חפצתי לקחתה׃
8 Yna y mae henuriaid ei dref i'w alw atynt a siarad ag ef; ac os yw'n para i ddweud, "Nid wyf yn dymuno ei phriodi",
9ונגשה יבמתו אליו לעיני הזקנים וחלצה נעלו מעל רגלו וירקה בפניו וענתה ואמרה ככה יעשה לאיש אשר לא יבנה את בית אחיו׃
9 bydd ei chwaer-yng-nghyfraith yn dod ato yng ngu373?ydd yr henuriaid, yn tynnu ei sandal oddi ar ei droed, yn poeri yn ei wyneb ac yn cyhoeddi, "Dyma a wneir i'r dyn nad yw am adeiladu tu375? ei frawd."
10ונקרא שמו בישראל בית חלוץ הנעל׃
10 A bydd ei deulu'n cael ei adnabod drwy Israel fel teulu'r dyn y tynnwyd ei sandal.
11כי ינצו אנשים יחדו איש ואחיו וקרבה אשת האחד להציל את אישה מיד מכהו ושלחה ידה והחזיקה במבשיו׃
11 Os bydd dau gymydog yn ymladd �'i gilydd, a gwraig y naill yn dod i achub ei gu373?r rhag yr un sy'n ei daro, ac yn estyn ei llaw a chydio yng nghwd y llall,
12וקצתה את כפה לא תחוס עינך׃
12 torrer ei llaw i ffwrdd; nid wyt i dosturio wrthi.
13לא יהיה לך בכיסך אבן ואבן גדולה וקטנה׃
13 Nid wyt i feddu pwysau anghyfartal yn dy god, un yn drwm a'r llall yn ysgafn.
14לא יהיה לך בביתך איפה ואיפה גדולה וקטנה׃
14 Nid wyt i feddu yn dy du375? fesurau anghyfartal, un yn fawr a'r llall yn fach.
15אבן שלמה וצדק יהיה לך איפה שלמה וצדק יהיה לך למען יאריכו ימיך על האדמה אשר יהוה אלהיך נתן לך׃
15 Y mae dy bwysau a'th fesurau i fod yn gyfain ac yn safonol, fel yr estynner dy ddyddiau yn y tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti.
16כי תועבת יהוה אלהיך כל עשה אלה כל עשה עול׃
16 Oherwydd y mae pob un sy'n gwneud fel arall, ac yn gweithredu'n anonest, yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD dy Dduw.
17זכור את אשר עשה לך עמלק בדרך בצאתכם ממצרים׃
17 Cofia'r hyn a wnaeth Amalec iti ar dy ffordd allan o'r Aifft;
18אשר קרך בדרך ויזנב בך כל הנחשלים אחריך ואתה עיף ויגע ולא ירא אלהים׃
18 heb ofni Duw, daeth allan ac ymosod o'r tu cefn ar bawb oedd yn llusgo'n araf ar dy �l, pan oeddit yn lluddedig a diffygiol.
19והיה בהניח יהוה אלהיך לך מכל איביך מסביב בארץ אשר יהוה אלהיך נתן לך נחלה לרשתה תמחה את זכר עמלק מתחת השמים לא תשכח׃
19 Pan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi rhoi iti lonydd oddi wrth dy holl elynion o'th amgylch yn y wlad y mae'n ei rhoi iti i'w meddiannu'n etifeddiaeth, yr wyt i ddileu coffadwriaeth Amalec oddi tan y nef. Paid ag anghofio.