1ויצו משה וזקני ישראל את העם לאמר שמר את כל המצוה אשר אנכי מצוה אתכם היום׃
1 Rhoddodd Moses a henuriaid Israel orchymyn i'r bobl a dweud: "Cadwch y cwbl yr wyf yn ei orchymyn ichwi heddiw.
2והיה ביום אשר תעברו את הירדן אל הארץ אשר יהוה אלהיך נתן לך והקמת לך אבנים גדלות ושדת אתם בשיד׃
2 Y diwrnod y byddwch yn croesi'r Iorddonen ac yn dod i'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi ichwi, codwch feini mawrion a'u plastro � chalch.
3וכתבת עליהן את כל דברי התורה הזאת בעברך למען אשר תבא אל הארץ אשר יהוה אלהיך נתן לך ארץ זבת חלב ודבש כאשר דבר יהוה אלהי אבתיך לך׃
3 Yna ysgrifennwch arnynt holl eiriau'r gyfraith hon, pan fyddwch wedi croesi drosodd i'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi ichwi, gwlad yn llifeirio o laeth a m�l, fel yr addawodd ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid wrthych.
4והיה בעברכם את הירדן תקימו את האבנים האלה אשר אנכי מצוה אתכם היום בהר עיבל ושדת אותם בשיד׃
4 Wedi ichwi groesi'r Iorddonen, yr ydych i godi'r meini hyn ym Mynydd Ebal a'u plastro � chalch, fel y gorchmynnais ichwi heddiw.
5ובנית שם מזבח ליהוה אלהיך מזבח אבנים לא תניף עליהם ברזל׃
5 Ac yno byddwch yn adeiladu allor i'r ARGLWYDD eich Duw, allor o gerrig heb eu trin ag arf haearn.
6אבנים שלמות תבנה את מזבח יהוה אלהיך והעלית עליו עולת ליהוה אלהיך׃
6 � cherrig cyfain y byddwch yn adeiladu'r allor i'r ARGLWYDD eich Duw, i offrymu arni boethoffrymau.
7וזבחת שלמים ואכלת שם ושמחת לפני יהוה אלהיך׃
7 Yno hefyd yr aberthwch heddoffrymau a'u bwyta'n llawen gerbron yr ARGLWYDD eich Duw.
8וכתבת על האבנים את כל דברי התורה הזאת באר היטב׃
8 Ysgrifennwch yn hollol eglur ar y meini holl eiriau'r gyfraith hon."
9וידבר משה והכהנים הלוים אל כל ישראל לאמר הסכת ושמע ישראל היום הזה נהיית לעם ליהוה אלהיך׃
9 Dywedodd Moses a'r offeiriaid o Lefiaid wrth Israel gyfan, "Gwrando a chlyw, O Israel: y dydd hwn daethost yn bobl i'r ARGLWYDD dy Dduw;
10ושמעת בקול יהוה אלהיך ועשית את מצותו ואת חקיו אשר אנכי מצוך היום׃
10 yr wyt i wrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw a chadw ei orchmynion a'i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw."
11ויצו משה את העם ביום ההוא לאמר׃
11 Rhoddodd Moses orchymyn i'r bobl y dydd hwnnw a dweud:
12אלה יעמדו לברך את העם על הר גרזים בעברכם את הירדן שמעון ולוי ויהודה ויששכר ויוסף ובנימן׃
12 "Pan fyddwch wedi croesi'r Iorddonen, dyma'r rhai sydd i sefyll ar Fynydd Garisim i fendithio'r bobl: Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, Joseff a Benjamin.
13ואלה יעמדו על הקללה בהר עיבל ראובן גד ואשר וזבולן דן ונפתלי׃
13 A dyma'r rhai sydd i sefyll ar Fynydd Ebal i felltithio: Reuben, Gad, Aser, Sabulon, Dan a Nafftali."
14וענו הלוים ואמרו אל כל איש ישראל קול רם׃
14 Bydd y Lefiaid yn cyhoeddi wrth holl bobl Israel � llais uchel:
15ארור האיש אשר יעשה פסל ומסכה תועבת יהוה מעשה ידי חרש ושם בסתר וענו כל העם ואמרו אמן׃
15 "Melltith ar y sawl a wna ddelw gerfiedig neu eilun tawdd, a gosod i fyny'n ddirgel bethau o waith dwylo crefftwr, pethau sy'n ffiaidd gan yr ARGLWYDD." Y mae'r holl bobl i ateb, "Amen."
16ארור מקלה אביו ואמו ואמר כל העם אמן׃
16 "Melltith ar y sawl sy'n dirmygu ei dad neu ei fam." Y mae'r holl bobl i ddweud, "Amen."
17ארור מסיג גבול רעהו ואמר כל העם אמן׃
17 "Melltith ar y sawl sy'n symud terfyn ei gymydog." Y mae'r holl bobl i ddweud, "Amen."
18ארור משגה עור בדרך ואמר כל העם אמן׃
18 "Melltith ar y sawl sy'n camarwain y dall." Y mae'r holl bobl i ddweud, "Amen."
19ארור מטה משפט גר יתום ואלמנה ואמר כל העם אמן׃
19 "Melltith ar y sawl sy'n gwyro barn yn erbyn estron, amddifad neu weddw." Y mae'r holl bobl i ddweud, "Amen."
20ארור שכב עם אשת אביו כי גלה כנף אביו ואמר כל העם אמן׃
20 "Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gyda gwraig i'w dad, oherwydd y mae'n dwyn gwarth ar ei dad." Y mae'r holl bobl i ddweud, "Amen."
21ארור שכב עם כל בהמה ואמר כל העם אמן׃
21 "Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gydag unrhyw anifail." Y mae'r holl bobl i ddweud, "Amen."
22ארור שכב עם אחתו בת אביו או בת אמו ואמר כל העם אמן׃
22 "Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gyda'i chwaer, prun ai merch i'w dad neu ferch i'w fam yw hi." Y mae'r holl bobl i ddweud, "Amen."
23ארור שכב עם חתנתו ואמר כל העם אמן׃
23 "Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gyda'i fam-yng-nghyfraith." Y mae'r holl bobl i ddweud, "Amen."
24ארור מכה רעהו בסתר ואמר כל העם אמן׃
24 "Melltith ar y sawl sy'n ymosod ar rywun arall yn y dirgel." Y mae'r holl bobl i ddweud, "Amen."
25ארור לקח שחד להכות נפש דם נקי ואמר כל העם אמן׃
25 "Melltith ar y sawl sy'n derbyn t�l am ladd dyn dieuog." Y mae'r holl bobl i ddweud, "Amen."
26ארור אשר לא יקים את דברי התורה הזאת לעשות אותם ואמר כל העם אמן׃
26 "Melltith ar unrhyw un nad yw'n ategu holl eiriau'r gyfraith hon trwy eu cadw." Y mae'r holl bobl i ddweud, "Amen."