1ונפן ונעל דרך הבשן ויצא עוג מלך הבשן לקראתנו הוא וכל עמו למלחמה אדרעי׃
1 Yna troesom a mynd i gyfeiriad Basan. Daeth Og brenin Basan gyda'i holl fyddin i ymladd yn ein herbyn yn Edrei.
2ויאמר יהוה אלי אל תירא אתו כי בידך נתתי אתו ואת כל עמו ואת ארצו ועשית לו כאשר עשית לסיחן מלך האמרי אשר יושב בחשבון׃
2 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Paid �'i ofni, oherwydd yr wyf yn ei roi ef a'i holl bobl a'i dir yn dy law. Gwna iddo fel y gwnaethost i Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn byw yn Hesbon."
3ויתן יהוה אלהינו בידנו גם את עוג מלך הבשן ואת כל עמו ונכהו עד בלתי השאיר לו שריד׃
3 Rhoddodd yr ARGLWYDD ein Duw Og brenin Basan a'i holl fyddin yn ein dwylo, a lladdasom hwy, heb adael un yn weddill.
4ונלכד את כל עריו בעת ההוא לא היתה קריה אשר לא לקחנו מאתם ששים עיר כל חבל ארגב ממלכת עוג בבשן׃
4 Yr adeg honno cymerasom ei ddinasoedd i gyd heb adael yr un ar �l, sef trigain ohonynt, y cyfan o diriogaeth Argob, teyrnas Og yn Basan.
5כל אלה ערים בצרות חומה גבהה דלתים ובריח לבד מערי הפרזי הרבה מאד׃
5 Yr oedd y rhain i gyd yn ddinasoedd caerog, gyda muriau uchel a dorau a barrau; yr oedd hefyd lawer iawn o bentrefi heb furiau.
6ונחרם אותם כאשר עשינו לסיחן מלך חשבון החרם כל עיר מתם הנשים והטף׃
6 Lladdasom bawb ym mhob dinas, yn ddynion, gwragedd a phlant, fel y gwnaethom i Sihon brenin Hesbon.
7וכל הבהמה ושלל הערים בזונו לנו׃
7 Cymerasom y gwartheg i gyd yn ysbail i ni ein hunain, ac anrhaith y dinasoedd.
8ונקח בעת ההוא את הארץ מיד שני מלכי האמרי אשר בעבר הירדן מנחל ארנן עד הר חרמון׃
8 Yr adeg honno cymerasom oddi ar ddau frenin yr Amoriaid y wlad y tu hwnt i'r Iorddonen, o nant Arnon hyd fynydd-dir Hermon.
9צידנים יקראו לחרמון שרין והאמרי יקראו לו שניר׃
9 Enw'r Sidoniaid ar Hermon oedd Sirion, ond yr oedd yr Amoriaid yn ei alw'n Senir.
10כל ערי המישר וכל הגלעד וכל הבשן עד סלכה ואדרעי ערי ממלכת עוג בבשן׃
10 Cymerasom holl ddinasoedd y gwastadedd, a'r cyfan o Gilead a Basan hyd at Salcha ac Edrei, oedd yn perthyn i deyrnas Og yn Basan.
11כי רק עוג מלך הבשן נשאר מיתר הרפאים הנה ערשו ערש ברזל הלה הוא ברבת בני עמון תשע אמות ארכה וארבע אמות רחבה באמת איש׃
11 Og brenin Basan oedd yr unig un ar �l o weddill y Reffaim. Yr oedd ganddo wely haearn naw cufydd o hyd a phedwar cufydd o led, yn �l y cufydd cyffredin; ac onid yw yn Rabba, dinas yr Ammoniaid?
12ואת הארץ הזאת ירשנו בעת ההוא מערער אשר על נחל ארנן וחצי הר הגלעד ועריו נתתי לראובני ולגדי׃
12 O'r wlad a gymerasom yn feddiant yr adeg honno, rhoddais i Reuben a Gad y tir oedd yn ymestyn o Aroer ar hyd glan nant Arnon, a hanner mynydd-dir Gilead, gyda'i ddinasoedd.
13ויתר הגלעד וכל הבשן ממלכת עוג נתתי לחצי שבט המנשה כל חבל הארגב לכל הבשן ההוא יקרא ארץ רפאים׃
13 Rhoddais i hanner llwyth Manasse y gweddill o Gilead, a'r cyfan o deyrnas Og yn Basan, tiriogaeth Argob i gyd. Gwlad y Reffaim oedd yr enw ar y cyfan o Basan.
14יאיר בן מנשה לקח את כל חבל ארגב עד גבול הגשורי והמעכתי ויקרא אתם על שמו את הבשן חות יאיר עד היום הזה׃
14 Cymerodd Jair fab Manasse y cyfan o diriogaeth Argob hyd at derfyn y Gesuriaid a'r Maachathiaid, a hyd heddiw gelwir Basan yn Hafoth-jair ar ei �l ef.
15ולמכיר נתתי את הגלעד׃
15 Rhoddais Gilead i Machir;
16ולראובני ולגדי נתתי מן הגלעד ועד נחל ארנן תוך הנחל וגבל ועד יבק הנחל גבול בני עמון׃
16 ac i Reuben a Gad rhoddais y tir sy'n ymestyn o Gilead hyd at nant Arnon, a chanol y nant yn derfyn iddo, a hyd at nant Jabboc, ar derfyn yr Ammoniaid,
17והערבה והירדן וגבל מכנרת ועד ים הערבה ים המלח תחת אשדת הפסגה מזרחה׃
17 a hefyd yr Araba, a'r Iorddonen yn derfyn iddo, o Cinnereth hyd at f�r yr Araba, sef y M�r Marw, islaw llethrau Pisga i'r dwyrain.
18ואצו אתכם בעת ההוא לאמר יהוה אלהיכם נתן לכם את הארץ הזאת לרשתה חלוצים תעברו לפני אחיכם בני ישראל כל בני חיל׃
18 Yr adeg honno gorchmynnais i chwi, a dweud, "Y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn rhoi ichwi'r wlad hon i'w meddiannu; yr ydych chwi'r holl ddynion arfog a chryf i groesi o flaen eich pobl, yr Israeliaid.
19רק נשיכם וטפכם ומקנכם ידעתי כי מקנה רב לכם ישבו בעריכם אשר נתתי לכם׃
19 Ond y mae eich gwragedd a'ch plant a'ch anifeiliaid � a gwn fod gennych lawer o anifeiliaid � i aros yn y trefi a roddais i chwi
20עד אשר יניח יהוה לאחיכם ככם וירשו גם הם את הארץ אשר יהוה אלהיכם נתן להם בעבר הירדן ושבתם איש לירשתו אשר נתתי לכם׃
20 nes y bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi diogelwch i'ch perthnasau, fel y rhoddodd i chwi; yna byddant hwythau yn meddiannu'r wlad a roddodd yr ARGLWYDD eich Duw iddynt y tu hwnt i'r Iorddonen. Yna caiff pob un ohonoch fynd yn �l i'r diriogaeth a roddais i chwi."
21ואת יהושוע צויתי בעת ההוא לאמר עיניך הראת את כל אשר עשה יהוה אלהיכם לשני המלכים האלה כן יעשה יהוה לכל הממלכות אשר אתה עבר שמה׃
21 Yr adeg honno hefyd gorchmynnais i Josua a dweud, "Yr wyt wedi gweld �'th lygaid dy hun yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i'r ddau frenin hyn; bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yr un fath i'r holl deyrnasoedd yr wyt ti yn mynd i'w herbyn.
22לא תיראום כי יהוה אלהיכם הוא הנלחם לכם׃
22 Paid �'u hofni, oherwydd bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ymladd trosoch."
23ואתחנן אל יהוה בעת ההוא לאמר׃
23 Yr adeg honno ymbiliais �'r ARGLWYDD, a dweud,
24אדני יהוה אתה החלות להראות את עבדך את גדלך ואת ידך החזקה אשר מי אל בשמים ובארץ אשר יעשה כמעשיך וכגבורתך׃
24 "O Arglwydd DDUW, yr wyt wedi dechrau dangos i'th was dy fawredd a'th law gref, oherwydd pa dduw yn y nefoedd neu ar y ddaear sy'n cyflawni gweithredoedd a gorchestion fel dy rai di?
25אעברה נא ואראה את הארץ הטובה אשר בעבר הירדן ההר הטוב הזה והלבנון׃
25 Gad imi groesi a gweld y wlad dda y tu hwnt i'r Iorddonen, y mynydd-dir da hwn, a Lebanon."
26ויתעבר יהוה בי למענכם ולא שמע אלי ויאמר יהוה אלי רב לך אל תוסף דבר אלי עוד בדבר הזה׃
26 Ond yr oedd yr ARGLWYDD yn ddig wrthyf o'ch achos chwi, ac ni wrandawodd arnaf. A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Dyna ddigon; paid � siarad wrthyf eto am hyn.
27עלה ראש הפסגה ושא עיניך ימה וצפנה ותימנה ומזרחה וראה בעיניך כי לא תעבר את הירדן הזה׃
27 Dos i ben Pisga, ac edrych i'r gorllewin, y gogledd, y de a'r dwyrain, a sylwa'n fanwl, oherwydd ni chei di groesi'r Iorddonen hon.
28וצו את יהושע וחזקהו ואמצהו כי הוא יעבר לפני העם הזה והוא ינחיל אותם את הארץ אשר תראה׃
28 Cyfarwydda Josua, a'i nerthu a'i gefnogi, oherwydd ef fydd yn croesi o flaen y bobl hyn, ac ef fydd yn eu harwain i feddiannu'r wlad yr wyt ti yn ei gweld."
29ונשב בגיא מול בית פעור׃
29 Felly bu inni aros yn y dyffryn gyferbyn � Beth-peor.