1כל המצוה אשר אנכי מצוך היום תשמרון לעשות למען תחיון ורביתם ובאתם וירשתם את הארץ אשר נשבע יהוה לאבתיכם׃
1 Gofalwch gadw'r holl orchmynion yr wyf yn eu rhoi ichwi heddiw, er mwyn ichwi fyw a chynyddu a mynd i feddiannu'r wlad y tyngodd yr ARGLWYDD y byddai'n ei rhoi i'ch hynafiaid.
2וזכרת את כל הדרך אשר הליכך יהוה אלהיך זה ארבעים שנה במדבר למען ענתך לנסתך לדעת את אשר בלבבך התשמר מצותו אם לא׃
2 Cofiwch yr holl ffordd yr arweiniodd yr ARGLWYDD eich Duw chwi yn ystod y deugain mlynedd hyn yn yr anialwch, gan eich darostwng a'ch profi er mwyn gwybod a oeddech yn bwriadu cadw ei orchmynion ai peidio.
3ויענך וירעבך ויאכלך את המן אשר לא ידעת ולא ידעון אבתיך למען הודעך כי לא על הלחם לבדו יחיה האדם כי על כל מוצא פי יהוה יחיה האדם׃
3 Darostyngodd chwi a dwyn newyn arnoch; yna fe'ch porthodd � manna, nad oeddech chwi na'ch hynafiaid yn gwybod beth oedd, er mwyn eich dysgu nad ar fara yn unig y bydd rhywun fyw, ond ar bopeth sy'n dod o enau'r ARGLWYDD.
4שמלתך לא בלתה מעליך ורגלך לא בצקה זה ארבעים שנה׃
4 Ni threuliodd y dillad oedd amdanoch, ac ni chwyddodd eich traed yn ystod y deugain mlynedd hyn.
5וידעת עם לבבך כי כאשר ייסר איש את בנו יהוה אלהיך מיסרך׃
5 Ystyriwch fod yr ARGLWYDD eich Duw yn eich disgyblu fel y mae tad yn disgyblu ei fab.
6ושמרת את מצות יהוה אלהיך ללכת בדרכיו וליראה אתו׃
6 Cadwch orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw trwy rodio yn ei ffyrdd a'i barchu;
7כי יהוה אלהיך מביאך אל ארץ טובה ארץ נחלי מים עינת ותהמת יצאים בבקעה ובהר׃
7 oherwydd y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn dod � chwi i wlad dda, gwlad ac ynddi ffrydiau du373?r, ffynhonnau, a chronfeydd yn tarddu yn y dyffrynnoedd ac ar y mynyddoedd;
8ארץ חטה ושערה וגפן ותאנה ורמון ארץ זית שמן ודבש׃
8 gwlad lle mae gwenith a haidd, gwinwydd, ffigys a phomgranadau, olewydd a m�l;
9ארץ אשר לא במסכנת תאכל בה לחם לא תחסר כל בה ארץ אשר אבניה ברזל ומהרריה תחצב נחשת׃
9 gwlad lle cewch fwyta heb brinder, a lle ni bydd arnoch angen am ddim; gwlad y mae ei cherrig yn haearn a lle y byddwch yn cloddio copr o'i mynyddoedd.
10ואכלת ושבעת וברכת את יהוה אלהיך על הארץ הטבה אשר נתן לך׃
10 Wedi ichwi fwyta a chael digon, byddwch yn bendithio'r ARGLWYDD eich Duw am y wlad dda y mae'n ei rhoi ichwi.
11השמר לך פן תשכח את יהוה אלהיך לבלתי שמר מצותיו ומשפטיו וחקתיו אשר אנכי מצוך היום׃
11 Gofalwch na fyddwch yn anghofio'r ARGLWYDD eich Duw nac yn gwrthod cadw ei orchmynion, ei gyfreithiau a'i ddeddfau, yr wyf yn eu gorchymyn ichwi heddiw.
12פן תאכל ושבעת ובתים טובים תבנה וישבת׃
12 Pan fyddwch wedi bwyta a chael digon, ac adeiladu tai braf i fyw ynddynt,
13ובקרך וצאנך ירבין וכסף וזהב ירבה לך וכל אשר לך ירבה׃
13 a phan fydd eich gwartheg a'ch defaid yn cynyddu, a digon o arian ac aur gennych, a'ch holl eiddo yn cynyddu,
14ורם לבבך ושכחת את יהוה אלהיך המוציאך מארץ מצרים מבית עבדים׃
14 yna peidiwch ag ymffrostio ac anghofio'r ARGLWYDD eich Duw, a ddaeth � chwi allan o wlad yr Aifft, o du375? caethiwed.
15המוליכך במדבר הגדל והנורא נחש שרף ועקרב וצמאון אשר אין מים המוציא לך מים מצור החלמיש׃
15 Ef oedd yn eich arwain trwy'r anialwch mawr a dychrynllyd, lle'r oedd seirff gwenwynig a sgorp-ionau, a thrwy dir sych heb ddim du373?r, lle y gwnaeth i ddu373?r darddu allan i chwi o'r graig galed.
16המאכלך מן במדבר אשר לא ידעון אבתיך למען ענתך ולמען נסתך להיטבך באחריתך׃
16 Porthodd chwi hefyd yn yr anialwch � manna, nad oedd eich hynafiaid yn gwybod beth oedd, a hynny er mwyn eich darostwng a'ch profi, fel y byddai'n dda arnoch yn y diwedd.
17ואמרת בלבבך כחי ועצם ידי עשה לי את החיל הזה׃
17 Os dywedwch, "Ein nerth ein hunain a chryfder ein dwylo a ddaeth �'r cyfoeth hwn inni",
18וזכרת את יהוה אלהיך כי הוא הנתן לך כח לעשות חיל למען הקים את בריתו אשר נשבע לאבתיך כיום הזה׃
18 yna cofiwch yr ARGLWYDD eich Duw, oherwydd ef sy'n rhoi nerth ichwi i ennill cyfoeth, er mwyn cadarnhau'r cyfamod a dyngodd i'ch hynafiaid, fel y mae heddiw.
19והיה אם שכח תשכח את יהוה אלהיך והלכת אחרי אלהים אחרים ועבדתם והשתחוית להם העדתי בכם היום כי אבד תאבדון׃
19 Os byddwch yn anghofio'r ARGLWYDD eich Duw ac yn mynd ar �l duwiau eraill ac yn eu gwasanaethu ac yn ymgrymu iddynt, yna yr wyf yn eich rhybuddio heddiw y byddwch yn cael eich dinistrio'n llwyr.
20כגוים אשר יהוה מאביד מפניכם כן תאבדון עקב לא תשמעון בקול יהוה אלהיכם׃
20 Fel y cenhedloedd a ddinistriodd yr ARGLWYDD o'ch blaenau y dinistrir chwithau, am ichwi wrthod gwrando ar lais yr ARGLWYDD eich Duw.