1זבובי מות יבאיש יביע שמן רוקח יקר מחכמה מכבוד סכלות מעט׃
1 Fel y mae pryfed meirw yn gwneud i ennaint y peraroglydd ddrewi, felly y mae ychydig ffolineb yn tynnu oddi wrth ddoethineb ac anrhydedd.
2לב חכם לימינו ולב כסיל לשמאלו׃
2 Y mae calon y doeth yn ei arwain i'r dde, ond calon y ff�l yn ei droi i'r chwith.
3וגם בדרך כשהסכל הלך לבו חסר ואמר לכל סכל הוא׃
3 Pan yw'r ff�l yn cerdded ar y ffordd, nid oes synnwyr ganddo, ac y mae'n dweud wrth bawb ei fod yn ynfyd.
4אם רוח המושל תעלה עליך מקומך אל תנח כי מרפא יניח חטאים גדולים׃
4 Os enynnir llid y llywodraethwr yn dy erbyn, paid ag ymddiswyddo; y mae pwyll yn tymheru troseddau mawr.
5יש רעה ראיתי תחת השמש כשגגה שיצא מלפני השליט׃
5 Gwelais beth drwg dan yr haul, sef camgymeriad yn deillio oddi wrth y llywodraethwr:
6נתן הסכל במרומים רבים ועשירים בשפל ישבו׃
6 ffu373?l wedi ei osod mewn safleoedd pwysig, a'r cyfoethog wedi eu gosod yn israddol.
7ראיתי עבדים על סוסים ושרים הלכים כעבדים על הארץ׃
7 Gwelais weision ar geffylau, a thywysogion yn cerdded fel gweision.
8חפר גומץ בו יפול ופרץ גדר ישכנו נחש׃
8 Y mae'r un sy'n cloddio pwll yn syrthio iddo, a'r sawl sy'n chwalu clawdd yn cael ei frathu gan neidr.
9מסיע אבנים יעצב בהם בוקע עצים יסכן בם׃
9 Y mae'r un sy'n symud cerrig yn cael niwed ganddynt, a'r sawl sy'n hollti coed yn cael dolur ganddynt.
10אם קהה הברזל והוא לא פנים קלקל וחילים יגבר ויתרון הכשיר חכמה׃
10 Os yw bwyell yn ddi-fin, a heb ei hogi, yna rhaid defnyddio mwy o nerth; ond y mae medr yn dod � llwyddiant.
11אם ישך הנחש בלוא לחש ואין יתרון לבעל הלשון׃
11 Os na swynir neidr cyn iddi frathu, nid oes mantais o gael swynwr.
12דברי פי חכם חן ושפתות כסיל תבלענו׃
12 Y mae geiriau'r doeth yn ennill ffafr, ond geiriau'r ff�l yn ei ddinistrio.
13תחלת דברי פיהו סכלות ואחרית פיהו הוללות רעה׃
13 Y mae ei eiriau'n dechrau yn ff�l, ac yn diweddu mewn ynfydrwydd llwyr,
14והסכל ירבה דברים לא ידע האדם מה שיהיה ואשר יהיה מאחריו מי יגיד לו׃
14 a'r ffu373?l yn amlhau geiriau. Nid oes neb yn gwybod beth a ddaw, a phwy a all ddweud wrth neb beth fydd ar ei �l?
15עמל הכסילים תיגענו אשר לא ידע ללכת אל עיר׃
15 Y mae llafur y ff�l yn ei wneud yn lluddedig, ac ni u373?yr sut i fynd i'r ddinas.
16אי לך ארץ שמלכך נער ושריך בבקר יאכלו׃
16 Gwae di, wlad, pan fydd gwas yn frenin arnat, a'th dywysogion yn gwledda yn y bore!
17אשריך ארץ שמלכך בן חורים ושריך בעת יאכלו בגבורה ולא בשתי׃
17 Gwyn dy fyd, wlad, pan fydd dy frenin yn fab pendefig, a'th dywysogion yn gwledda ar yr amser priodol, a hynny i gryfhau ac nid i feddwi!
18בעצלתים ימך המקרה ובשפלות ידים ידלף הבית׃
18 Y mae'r trawstiau'n dadfeilio o ganlyniad i ddiogi, a'r tu375?'n gollwng o achos llaesu dwylo.
19לשחוק עשים לחם ויין ישמח חיים והכסף יענה את הכל׃
19 I gael llawenydd y paratoir gwledd, ac y mae gwin yn llonni bywyd, ac arian yn ateb i bopeth.
20גם במדעך מלך אל תקלל ובחדרי משכבך אל תקלל עשיר כי עוף השמים יוליך את הקול ובעל הכנפים יגיד דבר׃
20 Paid � melltithio'r brenin yn dy feddwl, na'r cyfoethog yn dy ystafell wely, oherwydd gall adar yr awyr gario dy lais, a pherchen adain fynegi'r hyn a ddywedi.