1בלילה ההוא נדדה שנת המלך ויאמר להביא את ספר הזכרנות דברי הימים ויהיו נקראים לפני המלך׃
1 Y noson honno yr oedd y brenin yn methu cysgu, a gorchmynnodd iddynt ddod � llyfr y cofiadur, sef y cronicl, ac fe'i darllenwyd iddo.
2וימצא כתוב אשר הגיד מרדכי על בגתנא ותרש שני סריסי המלך משמרי הסף אשר בקשו לשלח יד במלך אחשורוש׃
2 Ynddo cofnodwyd yr hyn a ddywedodd Mordecai am Bigthana a Theres, dau eunuch y brenin oedd yn gofalu am y porth ac oedd wedi cynllwyn i ymosod ar y brenin.
3ויאמר המלך מה נעשה יקר וגדולה למרדכי על זה ויאמרו נערי המלך משרתיו לא נעשה עמו דבר׃
3 Dywedodd y brenin, "Pa glod ac anrhydedd a gafodd Mordecai am hyn?" Atebodd y llanciau oedd yn gweini ar y brenin nad oedd wedi derbyn dim.
4ויאמר המלך מי בחצר והמן בא לחצר בית המלך החיצונה לאמר למלך לתלות את מרדכי על העץ אשר הכין לו׃
4 Gofynnodd y brenin, "Pwy sydd yn y cyntedd?" Yr oedd Haman newydd ddod i gyntedd allanol tu375?'r brenin i ddweud wrtho am grogi Mordecai ar y crocbren yr oedd wedi ei baratoi ar ei gyfer.
5ויאמרו נערי המלך אליו הנה המן עמד בחצר ויאמר המלך יבוא׃
5 Dywedodd gweision y brenin wrtho, "Haman sy'n sefyll yn y cyntedd." a galwodd y brenin ar Haman i ddod i mewn.
6ויבוא המן ויאמר לו המלך מה לעשות באיש אשר המלך חפץ ביקרו ויאמר המן בלבו למי יחפץ המלך לעשות יקר יותר ממני׃
6 Daeth Haman ymlaen, ac meddai'r brenin wrtho, "Beth ddylid ei wneud i'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu?" Ac meddai Haman wrtho'i hun, "Pwy fyddai'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu yn fwy na mi?"
7ויאמר המן אל המלך איש אשר המלך חפץ ביקרו׃
7 Dywedodd wrth y brenin, "I'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu,
8יביאו לבוש מלכות אשר לבש בו המלך וסוס אשר רכב עליו המלך ואשר נתן כתר מלכות בראשו׃
8 dylid dod � gwisg frenhinol a wisgir gan y brenin, a cheffyl y marchoga'r brenin arno, un y mae arfbais y brenin ar ei dalcen.
9ונתון הלבוש והסוס על יד איש משרי המלך הפרתמים והלבישו את האיש אשר המלך חפץ ביקרו והרכיבהו על הסוס ברחוב העיר וקראו לפניו ככה יעשה לאיש אשר המלך חפץ ביקרו׃
9 Rhodder y wisg a'r ceffyl i un o dywysogion pwysicaf y brenin, a gwisged yntau'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu, a'i arwain trwy sgw�r y ddinas ar gefn y ceffyl, a chyhoeddi o'i flaen fel hyn: 'Dyma sy'n digwydd i'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu.'"
10ויאמר המלך להמן מהר קח את הלבוש ואת הסוס כאשר דברת ועשה כן למרדכי היהודי היושב בשער המלך אל תפל דבר מכל אשר דברת׃
10 Yna dywedodd y brenin wrth Haman, "Dos ar frys i gael y wisg a'r ceffyl fel y dywedaist, a gwna hyn i Mordecai yr Iddew, sy'n eistedd ym mhorth y brenin. Gofala wneud popeth a ddywedaist."
11ויקח המן את הלבוש ואת הסוס וילבש את מרדכי וירכיבהו ברחוב העיר ויקרא לפניו ככה יעשה לאיש אשר המלך חפץ ביקרו׃
11 Felly cymerodd Haman y wisg a'r ceffyl; gwisgodd Mordecai a'i arwain ar gefn y ceffyl trwy sgw�r y ddinas, a chyhoeddi o'i flaen: "Dyma sy'n digwydd i'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu."
12וישב מרדכי אל שער המלך והמן נדחף אל ביתו אבל וחפוי ראש׃
12 Yna dychwelodd Mordecai i borth y brenin, ond brysiodd Haman adref yn drist, � gorchudd am ei ben.
13ויספר המן לזרש אשתו ולכל אהביו את כל אשר קרהו ויאמרו לו חכמיו וזרש אשתו אם מזרע היהודים מרדכי אשר החלות לנפל לפניו לא תוכל לו כי נפול תפול לפניו׃
13 Dywedodd wrth ei wraig Seres a'i holl gyfeillion am y cyfan a ddigwyddodd iddo. Ac meddai ei wu375?r doeth a'i wraig Seres wrtho, "Os yw Mordecai, yr wyt yn dechrau cwympo o'i flaen, yn Iddew, ni orchfygi di mohono; ond yr wyt ti'n sicr o gael dy drechu ganddo ef."
14עודם מדברים עמו וסריסי המלך הגיעו ויבהלו להביא את המן אל המשתה אשר עשתה אסתר׃
14 Tra oeddent yn siarad ag ef, daeth eunuchiaid y brenin a mynd � Haman ar frys i'r wledd a barat�dd Esther.