Hebrew: Modern

Welsh

Exodus

1

1ואלה שמות בני ישראל הבאים מצרימה את יעקב איש וביתו באו׃
1 Dyma enwau meibion Israel a aeth i'r Aifft gyda Jacob, pob un gyda'i deulu:
2ראובן שמעון לוי ויהודה׃
2 Reuben, Simeon, Lefi a Jwda,
3יששכר זבולן ובנימן׃
3 Issachar, Sabulon a Benjamin,
4דן ונפתלי גד ואשר׃
4 Dan a Nafftali, Gad ac Aser.
5ויהי כל נפש יצאי ירך יעקב שבעים נפש ויוסף היה במצרים׃
5 Yr oedd gan Jacob ddeg a thrigain o ddisgynyddion; yr oedd Joseff eisoes yn yr Aifft.
6וימת יוסף וכל אחיו וכל הדור ההוא׃
6 Yna bu farw Joseff a phob un o'i frodyr a'r holl genhedlaeth honno.
7ובני ישראל פרו וישרצו וירבו ויעצמו במאד מאד ותמלא הארץ אתם׃
7 Ond yr oedd plant Israel yn ffrwythlon ac yn amlhau'n ddirfawr, ac aethant mor gryf a niferus nes bod y wlad yn llawn ohonynt.
8ויקם מלך חדש על מצרים אשר לא ידע את יוסף׃
8 Yna daeth brenin newydd i deyrnasu ar yr Aifft, un nad oedd yn gwybod am Joseff.
9ויאמר אל עמו הנה עם בני ישראל רב ועצום ממנו׃
9 Dywedodd ef wrth ei bobl, "Edrychwch, y mae pobl Israel yn fwy niferus ac yn gryfach na ni.
10הבה נתחכמה לו פן ירבה והיה כי תקראנה מלחמה ונוסף גם הוא על שנאינו ונלחם בנו ועלה מן הארץ׃
10 Rhaid inni fod yn ddoeth wrth eu trin, rhag iddynt gynyddu, a phe deuai rhyfel, iddynt ymuno �'n gelynion i ymladd yn ein herbyn, a dianc o'r wlad."
11וישימו עליו שרי מסים למען ענתו בסבלתם ויבן ערי מסכנות לפרעה את פתם ואת רעמסס׃
11 Felly, gosodwyd meistri gwaith i oruchwylio'r bobl ac i'w llethu � beichiau trymion. Hwy fu'n adeiladu Pithom a Rameses, dinasoedd ar gyfer ystordai Pharo.
12וכאשר יענו אתו כן ירבה וכן יפרץ ויקצו מפני בני ישראל׃
12 Ond po fwyaf y caent eu gorthrymu, mwyaf yn y byd yr oeddent yn amlhau ac yn cynyddu; a daeth yr Eifftiaid i'w hofni.
13ויעבדו מצרים את בני ישראל בפרך׃
13 Am hynny, gorfodwyd i'r Israeliaid weithio dan ormes,
14וימררו את חייהם בעבדה קשה בחמר ובלבנים ובכל עבדה בשדה את כל עבדתם אשר עבדו בהם בפרך׃
14 a gwnaeth yr Eifftiaid eu bywyd yn chwerw trwy eu gosod i lafurio'n galed � chlai a phriddfeini, a gwneud pob math o waith yn y meysydd. Yr oedd y cwbl yn cael ei wneud dan ormes.
15ויאמר מלך מצרים למילדת העברית אשר שם האחת שפרה ושם השנית פועה׃
15 Yna dywedodd brenin yr Aifft wrth Siffra a Pua, dwy fydwraig yr Hebreaid,
16ויאמר בילדכן את העבריות וראיתן על האבנים אם בן הוא והמתן אתו ואם בת היא וחיה׃
16 "Pan fyddwch yn gweini ar wragedd yr Hebreaid, sylwch ar y plentyn a enir: os mab fydd, lladdwch ef; os merch, gadewch iddi fyw."
17ותיראן המילדת את האלהים ולא עשו כאשר דבר אליהן מלך מצרים ותחיין את הילדים׃
17 Ond yr oedd y bydwragedd yn parchu Duw; ac ni wnaethant yr hyn a orchmynnodd brenin yr Aifft, ond gadawsant i'r bechgyn fyw.
18ויקרא מלך מצרים למילדת ויאמר להן מדוע עשיתן הדבר הזה ותחיין את הילדים׃
18 Galwodd brenin yr Aifft y bydwragedd ato a gofyn, "Pam y gwnaethoch hyn, a gadael i'r bechgyn fyw?"
19ותאמרן המילדת אל פרעה כי לא כנשים המצרית העברית כי חיות הנה בטרם תבוא אלהן המילדת וילדו׃
19 Dywedasant hwythau wrth Pharo, "Nid yw gwragedd yr Hebreaid yn debyg i wragedd yr Eifftiaid, oherwydd y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn i'r fydwraig gyrraedd."
20וייטב אלהים למילדת וירב העם ויעצמו מאד׃
20 Am hynny bu Duw yn dda wrth y bydwragedd; a chynyddodd y bobl a dod yn rymus iawn.
21ויהי כי יראו המילדת את האלהים ויעש להם בתים׃
21 Am fod y bydwragedd yn parchu Duw, cawsant hwy eu hunain deuluoedd.
22ויצו פרעה לכל עמו לאמר כל הבן הילוד היארה תשליכהו וכל הבת תחיון׃
22 Yna rhoddodd Pharo orchymyn i'r holl bobl a dweud, "Taflwch i'r Neil bob mab a enir i'r Hebreaid, ond gadewch i bob merch gael byw."