1ועשית את המזבח עצי שטים חמש אמות ארך וחמש אמות רחב רבוע יהיה המזבח ושלש אמות קמתו׃
1 "Gwna allor sgw�r o goed acasia, pum cufydd o hyd a phum cufydd o led a thri chufydd o uchder.
2ועשית קרנתיו על ארבע פנתיו ממנו תהיין קרנתיו וצפית אתו נחשת׃
2 Gwna gyrn yn rhan o'r allor yn ei phedair congl, a rho haen o bres drosti.
3ועשית סירתיו לדשנו ויעיו ומזרקתיו ומזלגתיו ומחתתיו לכל כליו תעשה נחשת׃
3 Gwna ar ei chyfer lestri i dderbyn y lludw, a rhawiau, cawgiau, ffyrch a phedyll t�n, pob un ohonynt o bres.
4ועשית לו מכבר מעשה רשת נחשת ועשית על הרשת ארבע טבעת נחשת על ארבע קצותיו׃
4 Gwna hefyd ar ei chyfer rwyll o rwydwaith pres, a phedwar bach pres ar bedair congl y rhwydwaith.
5ונתתה אתה תחת כרכב המזבח מלמטה והיתה הרשת עד חצי המזבח׃
5 Gosod hi dan ymyl yr allor fel bod y rhwydwaith yn ymestyn at hanner yr allor.
6ועשית בדים למזבח בדי עצי שטים וצפית אתם נחשת׃
6 Gwna hefyd ar gyfer yr allor bolion o goed acasia, a rho haen o bres drostynt.
7והובא את בדיו בטבעת והיו הבדים על שתי צלעת המזבח בשאת אתו׃
7 Rhoir y polion drwy'r bachau ar ochrau'r allor i'w chludo.
8נבוב לחת תעשה אתו כאשר הראה אתך בהר כן יעשו׃
8 Gwna'r allor ag astellau, yn wag oddi mewn. Gwna hi fel y dangoswyd iti ar y mynydd.
9ועשית את חצר המשכן לפאת נגב תימנה קלעים לחצר שש משזר מאה באמה ארך לפאה האחת׃
9 "Gwna gyntedd ar gyfer y tabernacl. Ar un ochr, yr ochr ddeheuol i'r cyntedd, bydd llenni o liain main wedi ei nyddu, can cufydd o hyd;
10ועמדיו עשרים ואדניהם עשרים נחשת ווי העמדים וחשקיהם כסף׃
10 bydd ugain colofn ac ugain troed o bres, ond bydd bachau a chylchau'r colofnau o arian.
11וכן לפאת צפון בארך קלעים מאה ארך ועמדו עשרים ואדניהם עשרים נחשת ווי העמדים וחשקיהם כסף׃
11 Yr un modd, bydd ar yr ochr ogleddol lenni can cufydd o hyd, ag ugain colofn ac ugain troed o bres, ond bydd bachau a chylchau'r colofnau o arian.
12ורחב החצר לפאת ים קלעים חמשים אמה עמדיהם עשרה ואדניהם עשרה׃
12 Ar draws y cyntedd, ar yr ochr orllewinol, bydd llenni hanner can cufydd o hyd, � deg colofn a deg troed.
13ורחב החצר לפאת קדמה מזרחה חמשים אמה׃
13 Ar yr ochr ddwyreiniol, tua chodiad haul, bydd lled y cyntedd yn hanner can cufydd.
14וחמש עשרה אמה קלעים לכתף עמדיהם שלשה ואדניהם שלשה׃
14 Bydd y llenni ar y naill ochr i'r porth yn bymtheg cufydd, � thair colofn a thri throed,
15ולכתף השנית חמש עשרה קלעים עמדיהם שלשה ואדניהם שלשה׃
15 a'r llenni ar yr ochr arall hefyd yn bymtheg cufydd, � thair colofn a thri throed.
16ולשער החצר מסך עשרים אמה תכלת וארגמן ותולעת שני ושש משזר מעשה רקם עמדיהם ארבעה ואדניהם ארבעה׃
16 Ym mhorth y cyntedd bydd llen ugain cufydd o hyd, o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu a'i frodio; bydd iddi bedair colofn a phedwar troed.
17כל עמודי החצר סביב מחשקים כסף וויהם כסף ואדניהם נחשת׃
17 Bydd cylchau arian ar yr holl golofnau o amgylch y cyntedd, a bydd eu bachau o aur a'u traed o bres.
18ארך החצר מאה באמה ורחב חמשים בחמשים וקמה חמש אמות שש משזר ואדניהם נחשת׃
18 Bydd y cyntedd yn gan cufydd o hyd a hanner can cufydd o led a phum cufydd o uchder, � llenni o liain main wedi ei nyddu, a thraed o bres.
19לכל כלי המשכן בכל עבדתו וכל יתדתיו וכל יתדת החצר נחשת׃
19 Pres hefyd fydd pob un o'r llestri ar gyfer holl wasanaeth y tabernacl, a phob un o'r hoelion a fydd yn y tabernacl a'r cyntedd.
20ואתה תצוה את בני ישראל ויקחו אליך שמן זית זך כתית למאור להעלת נר תמיד׃
20 "Gorchymyn i bobl Israel ddod ag olew pur wedi ei wasgu o'r olifiau ar gyfer y lamp, er mwyn iddi losgi'n ddi-baid.
21באהל מועד מחוץ לפרכת אשר על העדת יערך אתו אהרן ובניו מערב עד בקר לפני יהוה חקת עולם לדרתם מאת בני ישראל׃
21 Bydd Aaron a'i feibion yn cadw golwg ar y lamp o'r hwyr hyd y bore gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y cyfarfod y tu allan i'r gorchudd sydd o flaen y dystiolaeth. Bydd yn ddeddf i'w chadw am byth gan bobl Israel dros y cenedlaethau.