Hebrew: Modern

Welsh

Exodus

6

1ויאמר יהוה אל משה עתה תראה אשר אעשה לפרעה כי ביד חזקה ישלחם וביד חזקה יגרשם מארצו׃
1 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Cei weld yn awr beth a wnaf i Pharo; � llaw nerthol bydd yn gollwng y bobl yn rhydd, a'u gyrru ymaith o'i wlad."
2וידבר אלהים אל משה ויאמר אליו אני יהוה׃
2 Dywedodd Duw hefyd wrth Moses, "Myfi yw'r ARGLWYDD.
3וארא אל אברהם אל יצחק ואל יעקב באל שדי ושמי יהוה לא נודעתי להם׃
3 Ymddangosais i Abraham, Isaac a Jacob fel Duw Hollalluog, ac nid oeddent yn fy adnabod wrth fy enw, ARGLWYDD.
4וגם הקמתי את בריתי אתם לתת להם את ארץ כנען את ארץ מגריהם אשר גרו בה׃
4 Hefyd, gwneuthum gyfamod � hwy i roi iddynt wlad Canaan, lle buont yn byw fel estroniaid;
5וגם אני שמעתי את נאקת בני ישראל אשר מצרים מעבדים אתם ואזכר את בריתי׃
5 a phan glywais riddfan yr Israeliaid oedd dan orthrwm yr Eifftiaid, cofiais fy nghyfamod.
6לכן אמר לבני ישראל אני יהוה והוצאתי אתכם מתחת סבלת מצרים והצלתי אתכם מעבדתם וגאלתי אתכם בזרוע נטויה ובשפטים גדלים׃
6 Felly, dywed wrth yr Israeliaid, 'Myfi yw'r ARGLWYDD, ac fe'ch rhyddhaf o orthrwm yr Eifftiaid a'ch gwaredu o'ch caethiwed, a'ch achub � braich estynedig ac � gweithredoedd nerthol o farn.
7ולקחתי אתכם לי לעם והייתי לכם לאלהים וידעתם כי אני יהוה אלהיכם המוציא אתכם מתחת סבלות מצרים׃
7 Fe'ch cymeraf yn bobl i mi, a byddaf finnau yn Dduw i chwi; a chewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a'ch rhyddhaodd o orthrwm yr Eifftiaid.
8והבאתי אתכם אל הארץ אשר נשאתי את ידי לתת אתה לאברהם ליצחק וליעקב ונתתי אתה לכם מורשה אני יהוה׃
8 Fe'ch dygaf i'r wlad yr addewais ei rhoi i Abraham, Isaac a Jacob, ac fe'i rhoddaf yn eiddo i chwi. Myfi yw'r ARGLWYDD.'"
9וידבר משה כן אל בני ישראל ולא שמעו אל משה מקצר רוח ומעבדה קשה׃
9 Mynegodd Moses hyn wrth bobl Israel, ond nid oeddent hwy'n barod i wrando arno oherwydd eu digalondid a'u caethiwed caled.
10וידבר יהוה אל משה לאמר׃
10 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
11בא דבר אל פרעה מלך מצרים וישלח את בני ישראל מארצו׃
11 "Dos i ddweud wrth Pharo brenin yr Aifft am ryddhau'r Israeliaid o'i wlad."
12וידבר משה לפני יהוה לאמר הן בני ישראל לא שמעו אלי ואיך ישמעני פרעה ואני ערל שפתים׃
12 Ond dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, "Nid yw pobl Israel wedi gwrando arnaf; sut, felly, y bydd Pharo yn gwrando arnaf, a minnau � nam ar fy lleferydd?"
13וידבר יהוה אל משה ואל אהרן ויצום אל בני ישראל ואל פרעה מלך מצרים להוציא את בני ישראל מארץ מצרים׃
13 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, a rhoi gorchymyn iddynt ynglu375?n � phobl Israel a Pharo brenin yr Aifft, er mwyn rhyddhau'r Israeliaid o wlad yr Aifft.
14אלה ראשי בית אבתם בני ראובן בכר ישראל חנוך ופלוא חצרון וכרמי אלה משפחת ראובן׃
14 Y rhain oedd y pennau-teuluoedd yn nhylwythau eu tadau. Meibion Reuben, cyntafanedig Israel: Hanoch, Palu, Hesron a Charmi; dyna deuluoedd Reuben.
15ובני שמעון ימואל וימין ואהד ויכין וצחר ושאול בן הכנענית אלה משפחת שמעון׃
15 Meibion Simeon: Jemwel, Jamin, Ohad, Jachin, Sohar a Saul, mab i wraig o Ganaan; dyna deuluoedd Simeon.
16ואלה שמות בני לוי לתלדתם גרשון וקהת ומררי ושני חיי לוי שבע ושלשים ומאת שנה׃
16 Dyma enwau meibion Lefi yn �l eu cenedlaethau: Gerson, Cohath a Merari; bu Lefi fyw am gant tri deg a saith o flynyddoedd.
17בני גרשון לבני ושמעי למשפחתם׃
17 Meibion Gerson: Libni a Simei, yn �l eu teuluoedd.
18ובני קהת עמרם ויצהר וחברון ועזיאל ושני חיי קהת שלש ושלשים ומאת שנה׃
18 Meibion Cohath: Amram, Ishar, Hebron ac Ussiel; bu Cohath fyw am gant tri deg a thair o flynyddoedd.
19ובני מררי מחלי ומושי אלה משפחת הלוי לתלדתם׃
19 Meibion Merari: Mahli a Musi; dyna deuluoedd Lefi yn �l eu cenedlaethau.
20ויקח עמרם את יוכבד דדתו לו לאשה ותלד לו את אהרן ואת משה ושני חיי עמרם שבע ושלשים ומאת שנה׃
20 Priododd Amram � Jochebed, chwaer ei dad, ac esgorodd hi ar Aaron a Moses; bu Amram fyw am gant tri deg a saith o flynyddoedd.
21ובני יצהר קרח ונפג וזכרי׃
21 Meibion Ishar: Cora, Neffeg a Sicri.
22ובני עזיאל מישאל ואלצפן וסתרי׃
22 Meibion Ussiel: Misael, Elsaffan a Sithri.
23ויקח אהרן את אלישבע בת עמינדב אחות נחשון לו לאשה ותלד לו את נדב ואת אביהוא את אלעזר ואת איתמר׃
23 Priododd Aaron ag Eliseba, merch i Aminadab a chwaer i Nahason; esgorodd hi ar Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar.
24ובני קרח אסיר ואלקנה ואביאסף אלה משפחת הקרחי׃
24 Meibion Cora: Assir, Elcana, ac Abiasaff; dyna deuluoedd y Corahiaid.
25ואלעזר בן אהרן לקח לו מבנות פוטיאל לו לאשה ותלד לו את פינחס אלה ראשי אבות הלוים למשפחתם׃
25 Priododd Eleasar, mab Aaron, ag un o ferched Putiel, ac esgorodd hi ar Phineas. Y rhain oedd y pennau-teuluoedd yn nhylwyth y Lefiaid, yn �l eu teuluoedd.
26הוא אהרן ומשה אשר אמר יהוה להם הוציאו את בני ישראל מארץ מצרים על צבאתם׃
26 Dyma'r Aaron a'r Moses y dywedodd yr ARGLWYDD wrthynt, "Dygwch yr Israeliaid allan o wlad yr Aifft, yn �l eu lluoedd."
27הם המדברים אל פרעה מלך מצרים להוציא את בני ישראל ממצרים הוא משה ואהרן׃
27 Dyma hefyd y Moses a'r Aaron a ddywedodd wrth Pharo brenin yr Aifft am ryddhau'r Israeliaid o'r Aifft.
28ויהי ביום דבר יהוה אל משה בארץ מצרים׃
28 Pan lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses yng ngwlad yr Aifft,
29וידבר יהוה אל משה לאמר אני יהוה דבר אל פרעה מלך מצרים את כל אשר אני דבר אליך׃
29 dywedodd wrtho, "Myfi yw'r ARGLWYDD; dywed wrth Pharo brenin yr Aifft y cyfan yr wyf yn ei ddweud wrthyt."
30ויאמר משה לפני יהוה הן אני ערל שפתים ואיך ישמע אלי פרעה׃
30 Ond dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, "Y mae nam ar fy lleferydd; sut, felly, y bydd Pharo yn gwrando arnaf?"