Hebrew: Modern

Welsh

Exodus

8

1ויאמר יהוה אל משה בא אל פרעה ואמרת אליו כה אמר יהוה שלח את עמי ויעבדני׃
1 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses: "Dos at Pharo a dywed wrtho, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gollwng fy mhobl yn rhydd er mwyn iddynt fy addoli;
2ואם מאן אתה לשלח הנה אנכי נגף את כל גבולך בצפרדעים׃
2 os gwrthodi eu rhyddhau, byddaf yn taro dy holl dir � phla o lyffaint.
3ושרץ היאר צפרדעים ועלו ובאו בביתך ובחדר משכבך ועל מטתך ובבית עבדיך ובעמך ובתנוריך ובמשארותיך׃
3 Bydd y Neil yn heigio o lyffaint, a byddant yn dringo i fyny i'th du375? ac i'th ystafell wely; byddant yn dringo ar dy wely ac i gartrefi dy weision a'th bobl, i'th boptai ac i'th gafnau tylino.
4ובכה ובעמך ובכל עבדיך יעלו הצפרדעים׃
4 Bydd y llyffaint yn dringo drosot ti a thros dy bobl a'th weision i gyd.'"
5ויאמר יהוה אל משה אמר אל אהרן נטה את ידך במטך על הנהרת על היארים ועל האגמים והעל את הצפרדעים על ארץ מצרים׃
5 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Dywed wrth Aaron, 'Estyn dy law a'th wialen dros y ffrydiau, yr afonydd a'r llynnoedd, a gwna i lyffaint ddringo i fyny dros dir yr Aifft.'"
6ויט אהרן את ידו על מימי מצרים ותעל הצפרדע ותכס את ארץ מצרים׃
6 Felly estynnodd Aaron ei law dros ddyfroedd yr Aifft, a dringodd y llyffaint i fyny nes gorchuddio'r tir.
7ויעשו כן החרטמים בלטיהם ויעלו את הצפרדעים על ארץ מצרים׃
7 Ond trwy eu gallu cyfrin yr oedd y swynwyr hefyd yn medru gwneud i lyffaint ddringo i fyny dros dir yr Aifft.
8ויקרא פרעה למשה ולאהרן ויאמר העתירו אל יהוה ויסר הצפרדעים ממני ומעמי ואשלחה את העם ויזבחו ליהוה׃
8 Yna galwodd Pharo am Moses ac Aaron, a dweud, "Gwedd�wch ar i'r ARGLWYDD gymryd y llyffaint ymaith oddi wrthyf fi a'm pobl, ac fe ryddhaf finnau eich pobl er mwyn iddynt aberthu i'r ARGLWYDD."
9ויאמר משה לפרעה התפאר עלי למתי אעתיר לך ולעבדיך ולעמך להכרית הצפרדעים ממך ומבתיך רק ביאר תשארנה׃
9 Dywedodd Moses wrth Pharo, "Gad imi wybod pryd yr wyf i wedd�o drosot ti a'th weision a'th bobl er mwyn symud y llyffaint oddi wrthyt ti ac o'th dai, a'u gadael yn y Neil yn unig." Meddai yntau, "Yfory."
10ויאמר למחר ויאמר כדברך למען תדע כי אין כיהוה אלהינו׃
10 Dywedodd Moses, "Fel y mynni di; cei wybod wedyn nad oes neb fel yr ARGLWYDD ein Duw ni.
11וסרו הצפרדעים ממך ומבתיך ומעבדיך ומעמך רק ביאר תשארנה׃
11 Bydd y llyffaint yn ymadael � thi a'th dai, ac �'th weision a'th bobl, ac ni cheir hwy yn unman ond yn y Neil."
12ויצא משה ואהרן מעם פרעה ויצעק משה אל יהוה על דבר הצפרדעים אשר שם לפרעה׃
12 Yna aeth Moses ac Aaron allan oddi wrth Pharo, a galwodd Moses ar yr ARGLWYDD ynglu375?n �'r llyffaint a ddygodd ar Pharo.
13ויעש יהוה כדבר משה וימתו הצפרדעים מן הבתים מן החצרת ומן השדת׃
13 Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn yr oedd Moses yn ei ddymuno, a bu farw'r llyffaint yn y tai a'r ffermydd a'r meysydd.
14ויצברו אתם חמרם חמרם ותבאש הארץ׃
14 Yna casglwyd hwy ynghyd yn bentyrrau, nes bod y wlad yn drewi.
15וירא פרעה כי היתה הרוחה והכבד את לבו ולא שמע אלהם כאשר דבר יהוה׃
15 Pan welodd Pharo ei fod wedi cael ymwared ohonynt, caledodd ei galon a gwrthododd wrando ar Moses ac Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
16ויאמר יהוה אל משה אמר אל אהרן נטה את מטך והך את עפר הארץ והיה לכנם בכל ארץ מצרים׃
16 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Dywed wrth Aaron, 'Estyn dy wialen a tharo llwch y ddaear, ac fe dry'n llau trwy holl wlad yr Aifft.'"
17ויעשו כן ויט אהרן את ידו במטהו ויך את עפר הארץ ותהי הכנם באדם ובבהמה כל עפר הארץ היה כנים בכל ארץ מצרים׃
17 Gwnaethant hynny; estynnodd Aaron ei law allan, a tharo llwch y ddaear �'i wialen, a throes y llwch yn llau ar ddyn ac anifail; trodd holl lwch y ddaear yn llau trwy wlad yr Aifft i gyd.
18ויעשו כן החרטמים בלטיהם להוציא את הכנים ולא יכלו ותהי הכנם באדם ובבהמה׃
18 Ceisiodd y swynwyr hefyd ddwyn llau allan trwy eu gallu cyfrin, ond nid oeddent yn medru. Yr oedd y llau ar ddyn ac anifail.
19ויאמרו החרטמים אל פרעה אצבע אלהים הוא ויחזק לב פרעה ולא שמע אלהם כאשר דבר יהוה׃
19 Dywedodd y swynwyr wrth Pharo, "Trwy fys Duw y digwyddodd hyn." Ond yr oedd calon Pharo wedi caledu, ac nid oedd am wrando ar Moses ac Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
20ויאמר יהוה אל משה השכם בבקר והתיצב לפני פרעה הנה יוצא המימה ואמרת אליו כה אמר יהוה שלח עמי ויעבדני׃
20 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Cod yn gynnar yn y bore i gyfarfod � Pharo wrth iddo fynd tua'r afon, a dywed wrtho, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli;
21כי אם אינך משלח את עמי הנני משליח בך ובעבדיך ובעמך ובבתיך את הערב ומלאו בתי מצרים את הערב וגם האדמה אשר הם עליה׃
21 oherwydd, os gwrthodi eu rhyddhau, byddaf yn anfon haid o bryfed arnat ti, dy weision, dy bobl a'th dai. Bydd tai'r Eifftiaid a'r tir danynt yn orlawn o bryfed.
22והפליתי ביום ההוא את ארץ גשן אשר עמי עמד עליה לבלתי היות שם ערב למען תדע כי אני יהוה בקרב הארץ׃
22 Ond ar y dydd hwnnw byddaf yn neilltuo gwlad Gosen, lle mae fy mhobl yn byw, ac ni fydd haid o bryfed yno; felly, byddi'n gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD, yma yn y wlad.
23ושמתי פדת בין עמי ובין עמך למחר יהיה האת הזה׃
23 Gan hynny, byddaf yn gwahaniaethu rhwng fy mhobl i a'th bobl di. Bydd yr arwydd hwn yn ymddangos yfory.'"
24ויעש יהוה כן ויבא ערב כבד ביתה פרעה ובית עבדיו ובכל ארץ מצרים תשחת הארץ מפני הערב׃
24 Gwnaeth yr ARGLWYDD hynny; daeth haid enfawr o bryfed i du375? Pharo ac i dai ei weision, a difethwyd holl dir gwlad yr Aifft gan y pryfed.
25ויקרא פרעה אל משה ולאהרן ויאמר לכו זבחו לאלהיכם בארץ׃
25 Yna galwodd Pharo am Moses ac Aaron a dweud, "Ewch i aberthu i'ch Duw yma yn y wlad."
26ויאמר משה לא נכון לעשות כן כי תועבת מצרים נזבח ליהוה אלהינו הן נזבח את תועבת מצרים לעיניהם ולא יסקלנו׃
26 Ond dywedodd Moses, "Ni fyddai'n briodol inni wneud hynny, oherwydd byddwn yn aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw bethau sy'n ffiaidd i'r Eifftiaid; ac os aberthwn yn eu gu373?ydd bethau sy'n ffiaidd i'r Eifftiaid, oni fyddant yn ein llabyddio?
27דרך שלשת ימים נלך במדבר וזבחנו ליהוה אלהינו כאשר יאמר אלינו׃
27 Rhaid inni fynd daith dridiau i'r anialwch i aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw, fel y mae ef yn gorchymyn inni."
28ויאמר פרעה אנכי אשלח אתכם וזבחתם ליהוה אלהיכם במדבר רק הרחק לא תרחיקו ללכת העתירו בעדי׃
28 Atebodd Pharo, "Fe adawaf i chwi fynd i aberthu i'r ARGLWYDD eich Duw yn yr anialwch, ond peidiwch � mynd yn rhy bell. Yn awr, gwedd�wch drosof."
29ויאמר משה הנה אנכי יוצא מעמך והעתרתי אל יהוה וסר הערב מפרעה מעבדיו ומעמו מחר רק אל יסף פרעה התל לבלתי שלח את העם לזבח ליהוה׃
29 Yna dywedodd Moses, "Fe af allan oddi wrthyt a gwedd�o ar yr ARGLWYDD i'r haid o bryfed symud yfory oddi wrth Pharo a'i weision a'i bobl; ond peidied Pharo � cheisio twyllo eto trwy wrthod rhyddhau'r bobl i aberthu i'r ARGLWYDD."
30ויצא משה מעם פרעה ויעתר אל יהוה׃
30 Felly aeth Moses ymaith o u373?ydd Pharo i wedd�o ar yr ARGLWYDD.
31ויעש יהוה כדבר משה ויסר הערב מפרעה מעבדיו ומעמו לא נשאר אחד׃
31 Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn yr oedd Moses yn ei ddymuno, a symudodd yr haid o bryfed oddi wrth Pharo ac oddi wrth ei weision a'i bobl; ni adawyd yr un ar �l.
32ויכבד פרעה את לבו גם בפעם הזאת ולא שלח את העם׃
32 Ond caledodd Pharo ei galon y tro hwn eto, ac ni ollyngodd y bobl yn rhydd.